Bwletin Gweinyddiaeth Etholiadol: 407
Cofrestr o bleidiau gwleidyddol: penderfyniadau rhwng 20 a 31 Mawrth 2026
Fel y nodwyd yn bwletin 406 Cymru, y dyddiad olaf i ychwanegu pleidiau newydd, neu enwau, disgrifiadau neu arwyddluniau newydd at y gofrestr yw 07 Ebrill 2026. Fodd bynnag, gallwn nawr gadarnhau bod yr holl newidiadau i'r gofrestr o bleidiau gwleidyddol cyn cau'r enwebiadau ar gyfer yr etholiadau ar 7 Mai bellach wedi'u prosesu a'u diweddaru ar y gofrestr.
Rydym wedi llunio crynodeb o’r diweddariadau neu'r newidiadau i enwau, disgrifiadau ac arwyddluniau pleidiau a wnaed ers 20 Mawrth 2026 isod:
Diweddariadau a gofrestrwyd ym Mhrydain Fawr i gyd
| Plaid | Math y cais |
|---|---|
| Rhwydwaith Annibynnol | Disgrifiadau newydd |
| Y Blaid Ryddfrydol | Arwyddluniau newydd |
Ffeil sip arwyddluniau plaid
Gellir lawrlwytho'r fersiwn fwyaf diweddar o'r ffeil sip sy'n cynnwys ffeiliau llun o'r holl arwyddluniau plaid sydd ar y gofrestr ar hyn o bryd drwy'r ddolen ar y dudalen we hon. Diweddarwyd hon ddiwethaf ar 30 Mawrth 2026.
Ymgyrch Dy Bleidlais Di a Neb Arall: adnoddau sydd ar gael
Cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026, rydym yn cynnal ein hymgyrch ‘Dy Bleidlais Di a Neb Arall’ mewn partneriaeth â Crimestoppers i godi ymwybyddiaeth o dwyll etholiadol, a helpu i’w atal.
Rydym wedi creu cyfres o adnoddau sydd ar gael yn Gymraeg, Saesneg, Bengaleg, Pwnjabeg, ac Wrdw, sy’n taflu goleuni ar yr hyn sy’n cael ei ystyried fel twyll etholiadol ac yn ceisio grymuso pobl i ddiogelu eu pleidlais ac adrodd unrhyw bryderon i Crimestoppers. Gallwch helpu i atal twyll etholiadol a chodi ymwybyddiaeth drwy rannu ein hadnoddau sydd ar gael i’w lawrlwytho o’n gwefan.
Mae’r adnoddau hyn yn rhoi gwybodaeth am bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio a thrwy’r post, ac maent ar gael yn y fformatau canlynol:
- fideos
- posteri
- taflenni
- baneri ar-lein
- templedi delweddau a phostiadau cyfryngau cymdeithasol
Eich Canllaw i etholiad y Senedd
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi llyfryn o'r enw Eich canllaw i bleidleisio yn etholiad y Senedd, sy’n darparu gwybodaeth allweddol i bleidleiswyr cyn yr etholiad sydd ar ddod ym mis Mai. Bydd cryn dipyn o newidiadau i’r system bleidleisio a’r ffordd y mae’r Senedd yn gweithio.
Mae’r canllaw ar gael ar ein gwefan yn Gymraeg, Saesneg, Pwyleg ac Arabeg. Mae hefyd ar gael mewn ystod o fformatau hygyrch, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain, Hawdd Ei Ddeall, Print Bras, Braille a sain. Dechreuwyd anfon copïau caled dwyieithog hefyd i bob cartref yng Nghymru o ddydd Llun 23ain Mawrth.
Mae’r canllaw yn cynnwys gwybodaeth am:
- Y Senedd a’i swyddogaethau
- Yr etholaethau newydd
- Pwy sy’n gymwys i bleidleisio
- Cofrestru i bleidleisio
- Pleidleisio yn bersonol, drwy’r post a thrwy ddirprwy
- Sut i lenwi’r papur pleidleisio
- Sut mae’r system bleidleisio newydd yn gweithio
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr ymgyrch neu’r canllaw, anfonwch e-bost i [email protected].
Adolygiad Rycroft
Efallai eich bod yn ymwybodol bod llywodraeth y DU, ar 25 Mawrth, wedi cyhoeddi canfyddiadau'r Adolygiad Rycroft, yr adolygiad annibynnol i wrthbwyso dylanwad ac ymyrraeth ariannol o dramor yng ngwleidyddiaeth y DU.
Rhoddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ddatganiad gweinidogol yn y Tŷ Cyffredin, ar gyhoeddi'r adroddiad. Roedd datganiad gweinidogol ysgrifenedig yn ogystal.
Nododd hyn fwriad y Llywodraeth i weithredu dau argymhelliad ar unwaith, gyda deddfwriaeth i ddilyn:
- cyfyngiad blynyddol o £100,000 ar gyfanswm rhoddion gwleidyddol a thrafodion rheoledig a wneir gan bob etholwr dramor, a
- gohiriad ar roddion gwleidyddol a wneir yn defnyddio cryptoasedau, o unrhyw swm.
Y bwriad yw i'r mesurau hyn fod yn ôl-berthnasol i unrhyw roddion a dderbynnir o 25 Mawrth 2026 ymlaen. Mae hyn yn cynnwys ymgeiswyr yn etholiadau mis Mai.
Rydym yn gweithio ar frys i ddeall goblygiadau'r newid hwn er mwyn rhoi cyngor a chymorth i chi, yn ogystal â'r pleidiau a'r ymgyrchwyr, cyn gynted â phosibl.
Etholiadau Mai 2026: casglu data
Fel y gwyddoch, ym mhob cyfres o etholiadau, mae'r Comisiwn yn casglu data gweinyddol allweddol gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau. Mae'r data hwn yn darparu tystiolaeth bwysig i gefnogi ein gwaith wrth adrodd ar etholiadau ledled y DU.
Byddwn yn casglu'r data drwy ddefnyddio ein porth data arferol. O ddydd Gwener 8 Mai bydd modd i chi fewngofnodi ar y porth data i lenwi data. Byddwch yn cael e-bost i'ch cyfeiriad e-bost gwasanaethau etholiadol gyda manylion ar sut i fewngofnodi ar/ailosod eich cyfrinair ar 8 Mai.
Y dyddiad cau ar gyfer cwblau'r data hwn fydd dydd Gwener 5 Mehefin.
Ar gyfer awdurdodau lleol sydd eisiau dychwelyd data ID pleidleiswyr, byddwn yn casglu hwn drwy'r un porth data (bydd hwn yn cael ei osod ar gyfer yr un data VIDEF ag a gasglwyd gennym yn y blynyddoedd blaenorol). Mae cwblhau'r data hwn yn gwbl ddewisol. Os ydych yn dewis casglu a dychwelyd y data ID atom, mae'r dyddiad cau hefyd ar ddydd Gwener 5 Mehefin.
Am fanylion llawn ar y data rydym yn ei gasglu, gweler y rhestr gyflawn. Mae tabiau ar wahân ar gyfer y data gweinyddol craidd a'r data ID pleidleiswyr dewisol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch casglu data, cysylltwch â [email protected].
Casglu adborth
Arolwg staff y gorsafoedd pleidleisio
Rydym yn cynnal arolwg o staff gorsafoedd pleidleisio i gasglu adborth am eu profiadau o'r diwrnod pleidleisio. Byddem yn gwerthfawrogi eich cymorth gyda thynnu sylw eich staff gorsaf bleidleisio at yr arolwg.
Bydd dwy ffordd i staff gyrchu'r arolwg:
- Mae'r llawlyfr gorsaf bleidleisio (copi caled a digidol) yn cynnwys cod QR y gall staff ddefnyddio ffôn clyfar i sganio er mwyn cael mynediad at yr arolwg.
- Byddwn yn darparu dolen i'r arolwg ar-lein yn nes at y diwrnod pleidleisio y gallwch ei rhannu ymhlith eich staff gorsaf bleidleisio. Yn y ddau achos, bydd y ddolen i'r arolwg yn mynd yn fyw ar brynhawn y diwrnod pleidleisio. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch yr arolwg, cysylltwch â [email protected].
Adborth gan weinyddwyr etholiadol
Byddem hefyd yn hoffi cael adborth gan weinyddwyr a Swyddogion Canlyniadau sy'n gyfrifol am gynnal y bleidlais . Nid yn unig mae hyn yn llywio ein gwaith adrodd ar ôl yr etholiad ond bydd hefyd o gymorth i ni wella sut rydym yn eich cefnogi chi i gynnal etholiadau'n dda yn y dyfodol. Fel yr arfer, byddwn yn darparu dolen i'r arolwg yn nes at y diwrnod pleidleisio. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch yr adborth, cysylltwch â [email protected].