Bwletin Gweinyddiaeth Etholiadol: 408
Ar ôl i'r enwebiadau gau
Pan fydd enwebiadau ar gyfer yr etholiadau ar 7 Mai 2026 yn cau ar 9 Ebrill, a phan fyddwch yn gwybod manylion yr ymgeiswyr sy’n sefyll yn yr etholiad yn eich ardal, dylech ail-edrych ar eich cofrestr risg ac adolygu eich cynlluniau yn unol â hynny, gan gynnwys unrhyw drefniadau rydych wedi’u gwneud ynghylch diogelwch ymgeiswyr.
Fel y crybwyllwyd ym Mwletin 400, dylech wneud trefniadau i roi manylion cyswllt pob ymgeisydd sy’n sefyll yn yr etholiad i’r heddlu. Bydd hyn yn ei alluogi i ddarparu gwybodaeth gyfredol a chyngor ynghylch diogelwch yn uniongyrchol i ymgeiswyr.
Gyda chyhoeddi'r Datganiad o'r Pleidiau a'r Personau a Enwebwyd ar gyfer etholiadau mis Mai, dylech hefyd adolygu a dileu unrhyw hysbysiadau etholiad hanesyddol sydd ar gael o hyd ar eich gwefan, er mwyn atal unrhyw ddryswch a helpu i sicrhau nad yw manylion personol unrhyw ymgeiswyr blaenorol ar gael o hyd.
Fel yr arfer, os oes gennych unrhyw broblemau neu os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â’r tîm ar gyfer Cymru drwy [email protected]
Trefn ar y papur pleidleisio
Ymhellach i Fwletin 405, rydym wedi derbyn ymholiadau pellach ynghylch trefnu pleidiau ar y datganiad o bleidiau a phersonau sydd wedi’u henwebu a’r papur pleidleisio. Rydym wedi adolygu hyn gyda Llywodraeth Cymru sydd wedi cadarnhau'r canlynol:
- Fel y nodwyd yn ein canllawiau gall plaid ddefnyddio’r fersiwn Saesneg, y fersiwn Gymraeg, neu’r ddwy fersiwn o enw’r blaid neu’r disgrifiad ar y ffurflen enwebu, cyhyd â bod y rhain wedi’u cofrestru â’r Comisiwn.
- Dylid trefnu enw/disgrifiad y blaid gofrestredig yn nhrefn yr wyddor yn seiliedig ar beth bynnag y mae'r blaid wedi dewis ei ddefnyddio ar eu ffurflen enwebu (y mae'n rhaid iddi adlewyrchu naill ai enw'r blaid neu'r disgrifiad a ddewiswyd fel y'i cofrestrwyd gyda'r Comisiwn).
- Lle defnyddir y fersiynau cofrestredig Saesneg a Chymraeg, bydd y drefn yn ôl yr wyddor yn seiliedig ar ba un bynnag y mae'r blaid wedi dewis ei ddefnyddio yn gyntaf.
- Gallai'r datganiad terfynol o'r pleidiau a phersonau a enwebwyd a'r papur pleidleisio gynnwys cymysgedd o enwau/disgrifiadau pleidiau cofrestredig Cymraeg a Saesneg yn cael eu cyflwyno yn gyntaf.
- Dylai Swyddogion Canlyniadau wirio’r gofrestr o bleidiau gwleidyddol am union fanylion y blaid fel y’i cofrestrwyd gyda’r Comisiwn.
Rydym wedi anfon e-bost at bob Swyddog Canlyniadau a phlaid wleidyddol sydd wedi cofrestru yng Nghymru gyda chyngor manwl ar y mater hefyd. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen cymorth pellach arnoch cysylltwch â’r tîm ar gyfer Cymru drwy [email protected]
Diweddariad ar Ganllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol: Sut dylid prosesu cais gan ddinesydd o Hong Kong?
Rydym wedi diweddaru ein canllawiau yn dilyn cyngor gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ynghylch unigolion o Hong Kong a'u hawliau pleidleisio.
Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru yn nodi'r cymhwysedd ar gyfer gwahanol genhedloedd sy'n gysylltiedig â Hong Kong yng Nghymru, a'r ffordd a argymhellir i wirio cenedligrwydd rhywun o Hong Kong.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, cysylltwch â’r tîm ar gyfer Cymru drwy [email protected] (Yn agor mewn ffenestr newydd).
Gwahoddiad i gymorthfeydd cyngor i ymgeiswyr ac asiantau
Rydym yn gwerthfawrogi ei bod yn gyfnod prysur ar gyfer gweinyddwyr, pleidiau, ymgeiswyr ac asiantiaid ac rydym yma i’ch cefnogi o ran deall a chymhwyso'r gyfraith yn ymarferol. Yn y cyfnod cyn etholiadau'r Senedd ar 7 Mai, mae'r Comisiwn Etholiadol yn cynnal cyfres o gymorthfeydd cyngor ar gyfer ymgeiswyr ac asiantau a hoffai gyngor pwrpasol ynghylch ymholiad neu fater penodol. Mae'r sesiynau rhithiol 20 munud hyn yn gyfle i ofyn cwestiynau i'n harbenigwyr ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys gwariant ymgeiswyr a rhoddion, y drefn argraffnodau a chyngor ar sut i baratoi'r ffurflen gwariant ymgeiswyr.
Bydd y cymorthfeydd yn cael eu cynnal ddydd Mawrth 21 Ebrill 10:00-16:00. Os allech chi rannu'r gwahoddiad hwn gydag ymgeiswyr ac asiantau, mae croeso iddynt gofrestru trwy lenwi’r ffurflen hon.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â [email protected].