Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
A all dinesydd o’r Tiriogaethau Tramor Prydeinig gofrestru i bleidleisio?
A all dinesydd o’r Tiriogaethau Tramor Prydeinig gofrestru i bleidleisio?
Mae gan Ddinasyddion Tiriogaethau Prydeinig Tramor yr un statws â dinasyddion y Gymanwlad ac mae ganddynt hawl i gofrestru fel etholwyr o ran pob etholiad, cyn belled â’u bod yn bodoli’r gofynion oed a phreswyl ar gyfer cofrestriad o’r fath ac nad ydynt yn destun unrhyw anallu cyfreithiol arall
| Tiriogaethau Prydeinig Tramor | |
|---|---|
| Anguilla | Montserrat |
| Ynysoedd Bermwda | Ynys Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno |
| Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig | St Helena, y Dyrchafael a Tristan da Cunha |
| Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor yr India | De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De |
| Ynysoedd y Caiman | Ardaloedd Gorsafoedd Sofran Akrotiri a Dhekelia ar Cyprus |
| Ynysoedd Falkland | Ynysoedd Turks a Caicos |
| Gibraltar | Ynysoedd yr Wyryf |
Nid yw dinasyddion Tiriogaethau Prydeinig Tramor yn gymwys i gofrestru fel etholwyr tramor, oni bai eu bod hefyd gyda dinasyddiaeth Brydeinig, ac yn yr achos hwnnw byddent yn gymwys ar yr amod eu bod hefyd yn bodloni'r amodau cymhwysedd perthnasol.
Sut ydych chi’n prosesu cais gan ddinesydd o Hong Kong?
Ar ôl trosglwyddo i sofraniaeth Tsieina ar 1 Gorffennaf 1997, tynnwyd Hong Kong oddi ar y rhestr o Diriogaethau Prydeinig Tramor. O ganlyniad, nid yw cyn-drigolion Hong Kong yn awtomatig yn gymwys fel dinesydd cymwys y Gymanwlad.
Mae gan rai unigolion o Hong Kong genedligrwydd sy'n gysylltiedig â Phrydain. Yr un mwyaf cyffredin o'r rhain yw Gwladolyn Prydeinig Tramor (BNO). Mae'r cenedligrwyddau eraill sy'n gysylltiedig â Phrydain wedi'u nodi yn y tabl isod. Mae'r unigolion hyn wedi'u dosbarthu fel dinasyddion y Gymanwlad ac yn bodloni'r gofynion cenedligrwydd ar gyfer pob etholiad yn y DU.
Nid oes gan y rhai sydd wedi symud i'r DU fel dibynyddion BNO ac sydd â fisa BNO genedligrwydd sy'n gysylltiedig â Phrydain. Ni allant gofrestru i bleidleisio ar gyfer etholiadau a gedwir yn ôl yn y DU ond gallant fod yn gymwys i gofrestru fel dinesydd tramor cymwys a phleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau’r Senedd.
Yn ogystal â dibynyddion BNO, gall unrhyw breswylydd blaenorol o Hong Kong nad oes ganddo genedligrwydd BNO ac sydd â phasbort Rhanbarth Gweinyddol Arbennig Tsieina yn unig fod yn gymwys i gofrestru fel dinesydd tramor cymwys.
Mae'r tabl canlynol yn nodi'r cymhwysedd ar gyfer gwahanol genhedloedd sy'n gysylltiedig â Hong Kong yng Nghymru:
| Unigolyn o Hong Kong | Cymhwysedd |
|---|---|
Unigolyn o Hong Kong sydd ag un o'r cenedligrwyddau canlynol sy'n gysylltiedig â Phrydain:
| Yn gymwys i gofrestru i bleidleisio ym mhob etholiad yn y DU |
| Dibynnydd BNO heb genedligrwydd sy'n gysylltiedig â Phrydain | Yn gymwys i gofrestru fel dinesydd tramor cymwys yng Nghymru |
| Unigolyn o Hong Kong heb genedligrwydd sy'n gysylltiedig â Phrydain | Yn gymwys i gofrestru fel dinesydd tramor cymwys yng Nghymru |
Os ydych chi'n ansicr a oes gan rywun genedligrwydd sy'n gysylltiedig â Phrydain, dylech chi ddefnyddio'ch pwerau i ofyn am dystiolaeth gan yr etholwr. Mae tystiolaeth dderbyniol i wirio cenedligrwydd rhywun o Hong Kong yn cynnwys:
| Math o dystiolaeth | Beth i chwilio amdano |
|---|---|
| Fisa | Dyma'r ffordd a argymhellir o wirio cenedligrwydd rhywun o Hong Kong. Gallwch ofyn am eu cod rhannu i wirio'r manylion ar eu e-fisa. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan gov.uk. Os yw cod y dinesydd ar y fisa yn cynnwys GBN, mae hyn yn dynodi bod y deiliad yn ddinesydd y Gymanwlad o dan gyfraith y DU, ac felly, yn gymwys i gael hawliau pleidleisio llawn. Os yw'r cod dinesydd yn cynnwys CHN, mae hyn yn dangos nad yw'r unigolyn gyda cenedligrwydd sy'n gysylltiedig â Phrydain a'i fod ond yn gymwys i gofrestru fel dinesydd tramor cymwys. Mae hyn yn cynnwys dibynyddion BNO. |
| Pasbort BNO | Ni fydd gan bob dinesydd BNO basbort BNO, a dyna pam mai fisâu yw'r dogfennau a argymhellir i wirio pob cenedligrwydd sy'n gysylltiedig â Hong Kong. Fodd bynnag, lle mae pasbort BNO ar gael, gellir ei ddefnyddio. Mae'r genedligrwydd wedi'i restru yn y wybodaeth ar gefn y pasbort. Nodir cenedligrwydd BNO fel: Gwladolyn Prydeinig (Tramor) (British National (Overseas)). Efallai y bydd pasbortau BNO sydd wedi dod i ben yn cael eu derbyn hefyd. Wrth ddefnyddio pasbort i wirio cenedligrwydd rhywun, dylech fod yn fodlon bod y genedligrwydd a nodir ar y ddogfen yn cyfateb i genedligrwydd cymwys uchaf yr unigolyn. |