You are in the Cartref section Cartref … Bwletin Gweinyddiaeth Etholiadol: 415 Yn y rhifyn hwnRhannwch eich barn ar dudalennau canllawiau cyfredol a rhai'r dyfodolFfurflenni cofrestru a llythyrau ar gyfer canfas blynyddol 2026 Rhannwch eich barn ar dudalennau canllawiau cyfredol a rhai'r dyfodol Fel rhan o’n hymrwymiad i wella defnyddioldeb ein cynnwys canllawiau, byddwn yn cynnal sesiynau adborth a phrofi byr gyda rhai o’n defnyddwyr. Bydd y sesiynau hyn yn canolbwyntio ar osodiad y tudalennau canllawiau a sut i’w lywio. Bydd y sesiynau yn ein helpu i wneud y canlynol:deall profiadau ein defnyddwyr ac unrhyw heriau y maent yn eu hwynebu wrth gael mynediad at ganllawiau ac ymgynghori â nhwprofi rhai modelau cychwynnol o dudalennau canllawiau sydd wedi cael eu hail ddylunioCynhelir y sesiynau adborth rhwng dydd Iau 9 Gorffennaf a dydd Mawrth 21 Gorffennaf 2026 (gan gynnwys y dyddiau hynny).Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal yn ystod oriau gwaith arferol.I gael gwybod rhagor ac i wirfoddoli, ewch i'n ffurflen gofrestru. Ffurflenni cofrestru a llythyrau ar gyfer canfas blynyddol 2026 I gefnogi’r broses o roi’r canfas blynyddol ar waith rydym wedi cynhyrchu ffurflenni a llythyrau i chi eu defnyddio.Noder nad oes unrhyw newidiadau i'r adnoddau hyn ar gyfer canfas blynyddol 2026. Oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol? Ydw roedd yr erthygl yn ddefnyddiol Na nid oedd yr erthygl yn ddefnyddiol