Bwletin Gweinyddiaeth Etholiadol: 416
Yn y rhifyn hwn
- Canllawiau wedi'u Diweddaru ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol – Ceisiadau Pleidleisio Absennol Ar-lein
- Adnoddau’r canfas blynyddol
- Diweddariad canllawiau – trin cwynion diogelu data
- Gwerthusiad cynlluniau peilot pleidleisio hyblyg
Canllawiau wedi'u Diweddaru ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol – Ceisiadau Pleidleisio Absennol Ar-lein
Canllawiau wedi'u Diweddaru ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol – Ceisiadau Pleidleisio Absennol Ar-lein
Rydym wedi cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol (EROs) sy'n nodi'r camau trosiannol sy'n ofynnol i weithredu'r newidiadau a gyflwynwyd gan Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidleisio Absennol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026.
Mae'r canllawiau yn egluro’r isod:
- yr anghysondebau yn y trefniadau pleidleisio absennol presennol y mae'n rhaid eu dileu
- y camau gweithredu priodol i'w cymryd i alluogi cofnodion i gael eu cywiro, eu dileu neu eu halinio erbyn y diwrnod perthnasol
- y camau gweithredu priodol i'w cymryd cyn gynted ag y bo modd ar ôl y diwrnod perthnasol i ddiweddaru cofnodion a hysbysu pleidleiswyr
Rydym hefyd wedi darparu hysbysiadau anghysondeb templed y gellir eu defnyddio wrth gyflawni'r camau trosiannol gofynnol.
Yn ogystal â hynny, rydym wedi diweddaru ein canllawiau ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol presennol i gynnwys prosesu ceisiadau pleidleisio absennol cyn ac ar ôl 3 Tachwedd 2026.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â thîm Cymru drwy anfon neges e-bost i [email protected] (Yn agor mewn ffenestr newydd).
Adnoddau’r canfas blynyddol
Adnoddau’r canfas blynyddol
Er mwyn cefnogi’ch gwaith wrth gyflawni’r canfas blynyddol, mae gennym gyfres o adnoddau i’ch helpu i hyrwyddo’r canfas yn eich ardal ac annog trigolion i gwblhau’r camau gofynnol.
Mae adnoddau sydd ar gael yn cynnwys:
- Graffeg cyfryngau cymdeithasol
- Templedi negeseuon cyfryngau cymdeithasol
- Templed datganiad i'r wasg
Mae’r graffiau cyfryngau cymdeithasol wedi’u cynllunio i fod yn syml ac yn addasadwy, gydag eiconau syml yn cynrychioli camau allweddol y canfas. Ategir y graffiau gan negeseuon cyfryngau cymdeithasol sy’n barod i’w defnyddio, sy’n eich galluogi i ddewis beth fydd yn gweithio orau i chi a’ch trigolion.
Eleni rydym wedi ychwanegu dwy neges newydd at ein set sef:
- Bod modd diweddaru eich manylion heb aros. Atgoffwch drigolion i ddweud wrth eu cyngor lleol am unrhyw newidiadau i'w manylion cyn gynted â phosibl, yn hytrach nag aros am etholiad neu'r ganfas flynyddol.
- Nid yw treth gyngor yn cofrestru pleidleiswyr. Nid yw cofrestru ar gyfer treth gyngor mewn cyfeiriad newydd yn eich cofrestru chi, nac unrhyw un arall yn eich cartref, i bleidleisio yno yn awtomatig
Gobeithiwn fod yr adnoddau hyn yn ei gwneud hi hyd yn oed yn haws cyfathrebu negeseuon allweddol y ganfas flynyddol a helpu trigolion i gadw eu cofrestriad etholiadol yn gyfredol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr adnoddau hyn, e-bostiwch [email protected]
Diweddariad canllawiau – trin cwynion diogelu data
Diweddariad canllawiau – trin cwynion diogelu data
Yn dilyn Bwletin 414, daeth y darpariaethau sy'n nodi sut i drin cwynion diogelu data i rym ar y 19eg o Fehefin 2026. Mae'r rheolau newydd hyn yn berthnasol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau yn eu rôl fel rheolwyr data.
Rydym wedi diweddaru ein Canllawiau diogelu data ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau i adlewyrchu'r gofynion newydd hyn. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â thîm Cymru drwy anfon neges e-bost i [email protected] (Yn agor mewn ffenestr newydd).
Gwerthusiad cynlluniau peilot pleidleisio hyblyg
Gwerthusiad cynlluniau peilot pleidleisio hyblyg
Rydym wedi cyhoeddi ein gwerthusiad annibynnol o gynlluniau peilot pleidleisio hyblyg llywodraeth y DU yn etholiadau lleol mis Mai 2026 yn Lloegr.
Gwerthusiad o gynlluniau peilot pleidleisio hyblyg 2026 | Comisiwn Etholiadol
Profodd y peilotiaid hyn bleidleisio cynnar yng Nghaergrawnt, Gogledd Swydd Hertford a Tunbridge Wells, a chanolfan bleidleisio ganolog ym Milton Keynes. Canfu gwerthusiad y Comisiwn fod y peilotiaid wedi cael eu cyflwyno'n llwyddiannus, gydag ychydig o faterion gweinyddol wedi'u hadrodd gan Swyddogion Canlyniadau. Er bod y nifer a ddefnyddiodd y gwasanaethau yn isel, roedd pleidleiswyr a ddefnyddiodd yr opsiynau pleidleisio hyblyg yn bositif wrth sôn am eu profiad ac yn croesawu'r hyblygrwydd, y cyfleustra a'r hygyrchedd a gynigiwyd.
Rydym wedi gwneud argymhellion i Lywodraeth y DU mewn perthynas ag unrhyw gynlluniau peilot neu asesu pellach ar bleidleisio hyblyg. Mae'r rhain yn tynnu sylw at opsiynau eraill ar gyfer cyflwyno mwy o hyblygrwydd i bleidleiswyr ac, os cynigir rhagor o beilotiaid - yr angen i'w dylunio mewn ffordd sy'n creu sylfaen dystiolaeth gynhwysfawr a chymharol, yn hytrach na dim ond ailadrodd y corff tystiolaeth presennol.