Cyflwyniad i'n canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid
Nod y canllawiau hyn yw rhoi cyngor ymarferol i unrhyw un sydd am sefyll fel ymgeisydd neu fod yn asiant mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn Lloegr (ac eithrio ardaloedd yn Lloegr lle mae maer awdurdod [sir] cyfun yn ymgymryd â swyddogaethau heddlu a throseddu) a Chymru. Gall y broses o sefyll etholiad fod yn gymhleth, ond gobeithio y bydd y canllawiau hyn yn ei gwneud mor syml â phosibl.
Mewn rhai ardaloedd heddlu mae rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu hefyd yn cynnwys cyfrifoldeb am wasanaethau tân ac achub yn yr ardal.
Rhaid i ymgeiswyr a'u hasiantiaid ddilyn rheolau penodol a nodir mewn deddfwriaeth. Mae ein canllawiau yn nodi’r camau y mae angen i chi eu cymryd wrth sefyll mewn etholiad CHTh. Nid oes rhaid i chi ddilyn y canllawiau hyn, ond os gwnewch hynny, byddwch fel arfer yn gwneud digon i gydymffurfio â'r gyfraith.
Mae'n cynnwys ffeithiau perthnasol yn ogystal â dolenni i ffynonellau gwybodaeth eraill. Mae pob adran yn cynnwys nifer o ffurflenni ac adnoddau, y gellir cael gafael arnynt yn uniongyrchol drwy ddolenni yn y testun.
Ar gyfer etholiadau a drefnwyd, byddwn yn cyhoeddi amserlen benodol a fydd ar gael ar ein gwefan.
Os bydd is-etholiad wedi cael ei alw, byddwch yn gallu cael copi o'r amserlen benodol ar gyfer yr etholiad hwnnw gan y Swyddog Canlyniadau.
Diogelu data
Nodwch fod deddfwriaeth diogelu data yn gymwys i brosesu pob math o ddata personol. Cysylltwch â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i gael rhagor o wybodaeth am y ffordd y mae'r ddeddfwriaeth diogelu data bresennol yn effeithio arnoch chi.
Rydym yma i helpu, felly cysylltwch â ni os bydd gennych unrhyw gwestiynau. Ceir manylion cyswllt yn Cysylltu â ni.
Termau ac ymadroddion a ddefnyddiwn
Rydym yn defnyddio ‘rhaid’ wrth gyfeirio at ofyniad penodol. Rydym yn defnyddio ‘dylai’ ar gyfer eitemau sy'n arferion da sylfaenol yn ein barn ni, ond nad ydynt yn ofynion cyfreithiol na rheoleiddiol.
Rydym yn defnyddio ‘chi’ i gynnwys yr ymgeisydd a'r asiant yn y canllawiau hyn. Pan fyddwn yn sôn am roddion, rydym yn defnyddio ‘chi’ i gyfeirio at y person sy'n gyfrifol am ymdrin â rhoddion ar y pryd.