Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Diwrnod pleidleisio

Y diwrnod pleidleisio yw'r diwrnod pan fydd gorsafoedd pleidleisio ar agor a bydd etholwyr yn ymweld â nhw i fwrw eu pleidlais yn bersonol. Hefyd, dyma'r diwrnod olaf y gall Swyddogion Canlyniadau Lleol dderbyn pleidleisiau post a ddychwelwyd. Weithiau, gelwir y diwrnod pleidleisio yn “ddiwrnod etholiad”. 

Mae'r canllawiau yn ymdrin â'r canlynol:

  • lleoliadau gorsafoedd pleidleisio a'r broses bleidleisio
  • pwy all eich cefnogi ar y diwrnod pleidleisio (gan gynnwys asiantiaid pleidleisio a rhifwyr)
  • yr hyn y dylech ac na ddylech chi a'ch ymgyrchwyr ei wneud ar y diwrnod pleidleisio
  • beth sy'n digwydd ar ôl i'r gorsafoedd gau
     
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Ebrill 2024