Mae'r adrannau canlynol yn rhoi canllawiau ar sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r canllawiau yn ymdrin â'r canlynol:
Y broses enwebu, gan gynnwys pa ffurflenni y mae angen i chi eu cwblhau
Pryd a sut y bydd angen i chi gyflwyno eich papurau enwebu
Beth sy'n digwydd ar ôl i chi gyflwyno eich papurau enwebu
Mae rheolau penodol y mae angen i ymgeiswyr eu dilyn, yn dibynnu a ydynt yn sefyll fel ymgeisydd plaid wleidyddol neu'n sefyll fel ymgeisydd annibynnol. Caiff y gwahaniaethau hyn eu nodi'n amlwg yn y canllawiau.
Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu
Mewn rhai ardaloedd heddlu mae rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu hefyd yn cynnwys cyfrifoldeb am wasanaethau tân ac achub yn yr ardal. Yn yr ardaloedd hyn, mae'r ffurflenni enwebu yn cyfeirio at ethol Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu.
Gallwch weld ein canllawiau ar gyfer etholiadau eraill ar ein gwefan.