Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Sut i ddefnyddio ein canllawiau

Mae ein canllawiau wedi'u rhannu'n adrannau, gyda phob un yn delio â rhan wahanol o'r broses y byddwch yn rhan ohoni fel ymgeisydd neu asiant mewn Etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.

Pan fyddwch yn clicio ar ddolen yn y rhestr gwelywio ar y dde, bydd yn datgelu'r dolenni i'r canllawiau gwahanol ar gyfer pob adran. Pan fyddwch yn cyrraedd diwedd tudalen, gallwch ddefnyddio'r ddolen ar waelod y dudalen ar y dde i symud i'r dudalen canllawiau nesaf.

Bydd pob adran yn cynnwys dolenni i ffurflenni perthnasol ac i adnoddau gwybodaeth, a fydd wedi'u hymgorffori yn y testun. Mae'r rhain hefyd ar gael drwy ddilyn y ddolen ‘Adnoddau’ ar ddiwedd pob adran ar y goeden gwelywio.

Os hoffech argraffu'r holl ganllawiau, gallwch wneud hynny gan ddefnyddio'r ddolen ar frig y dudalen.

Mae ein canllawiau yn cynnwys y camau y bydd angen i ymgeiswyr ac asiantiaid eu dilyn os byddant yn sefyll etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Y meysydd a gwmpesir yw:
 

AdranYr hyn y mae'n ymdrin ag ef:
Beth sydd angen i chi ei wybod cyn sefyll fel ymgeisydd
  • Amodau cymhwyso ac anghymhwyso i sefyll fel ymgeisydd
  • Pryd fyddwch chi'n dod yn ymgeisydd yn swyddogol
Gwariant ymgeiswyr
  • y rheolau ynghylch faint y gall ymgeiswyr ei wario ar eu hymgyrchoedd
  • Rhoi gwybod am wariant ar ymgyrchu ar ôl yr etholiad
Rhoddion ymgeiswyr
  • y rheolau ynghylch rhoddion y gall ymgeiswyr eu derbyn
  • Rhoi gwybod am roddion ar ôl yr etholiad
Yr ymgyrch
  • y rheolau ar gyhoeddi ac arddangos llenyddiaeth ymgyrchu 
  • y rheolau ynghylch ymgyrchu
  • egwyddorion cyffredinol ar gyfer ymgyrchu
Enwebiadau
  • y broses enwebu a pha ffurflenni y bydd angen i chi eu cwblhau
  • Cyflwyno papurau enwebu
  • Beth sy'n digwydd ar ôl i chi gyflwyno eich papurau enwebu
Pleidleisiau post
  • Y prosesau ar gyfer anfon ac agor pleidleisiau post
  • Bod yn bresennol mewn sesiynau agor amlenni pleidleisiau post
Diwrnod Pleidleisio
  • Prosesau diwrnod pleidleisio
  • Mynd i orsafoedd pleidleisio
  • Yr hyn y dylid ac na ddylid ei wneud ar y diwrnod pleidleisio
Dilysu a chyfrif
  • Yr hyn sy'n digwydd yn y prosesau dilysu a chyfrif
  • Bod yn bresennol mewn prosesau dilysu a chyfrif
Ar ôl datgan y canlyniad
  • Cyflwyno ffurflenni gwariant
  • Mynediad i ddogfennaeth etholiad, gan gynnwys cofrestrau wedi'u marcio
  • Pob gweithgarwch ôl-etholiad arall
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Ebrill 2024