Cyflwyniad i'n canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid
Nod y canllawiau hyn yw rhoi cyngor ymarferol i unrhyw un sydd am sefyll fel ymgeisydd neu fod yn asiant mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn Lloegr (ac eithrio ardaloedd yn Lloegr lle mae maer awdurdod [sir] cyfun yn ymgymryd â swyddogaethau heddlu a throseddu) a Chymru. Gall y broses o sefyll etholiad fod yn gymhleth, ond gobeithio y bydd y canllawiau hyn yn ei gwneud mor syml â phosibl.
Mewn rhai ardaloedd heddlu mae rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu hefyd yn cynnwys cyfrifoldeb am wasanaethau tân ac achub yn yr ardal.
Rhaid i ymgeiswyr a'u hasiantiaid ddilyn rheolau penodol a nodir mewn deddfwriaeth. Mae ein canllawiau yn nodi’r camau y mae angen i chi eu cymryd wrth sefyll mewn etholiad CHTh. Nid oes rhaid i chi ddilyn y canllawiau hyn, ond os gwnewch hynny, byddwch fel arfer yn gwneud digon i gydymffurfio â'r gyfraith.
Mae'n cynnwys ffeithiau perthnasol yn ogystal â dolenni i ffynonellau gwybodaeth eraill. Mae pob adran yn cynnwys nifer o ffurflenni ac adnoddau, y gellir cael gafael arnynt yn uniongyrchol drwy ddolenni yn y testun.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn Sut i ddefnyddio ein canllawiau.
Amserlen yr etholiad
Ar gyfer etholiadau a drefnwyd, byddwn yn cyhoeddi amserlen benodol a fydd ar gael ar ein gwefan.
Os bydd is-etholiad wedi cael ei alw, byddwch yn gallu cael copi o'r amserlen benodol ar gyfer yr etholiad hwnnw gan y Swyddog Canlyniadau.
Diogelu data
Nodwch fod deddfwriaeth diogelu data yn gymwys i brosesu pob math o ddata personol. Cysylltwch â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i gael rhagor o wybodaeth am y ffordd y mae'r ddeddfwriaeth diogelu data bresennol yn effeithio arnoch chi.
Rydym yma i helpu, felly cysylltwch â ni os bydd gennych unrhyw gwestiynau. Ceir manylion cyswllt yn Cysylltu â ni.
Termau ac ymadroddion a ddefnyddiwn
Rydym yn defnyddio ‘rhaid’ wrth gyfeirio at ofyniad penodol. Rydym yn defnyddio ‘dylai’ ar gyfer eitemau sy'n arferion da sylfaenol yn ein barn ni, ond nad ydynt yn ofynion cyfreithiol na rheoleiddiol.
Rydym yn defnyddio ‘chi’ i gynnwys yr ymgeisydd a'r asiant yn y canllawiau hyn. Pan fyddwn yn sôn am roddion, rydym yn defnyddio ‘chi’ i gyfeirio at y person sy'n gyfrifol am ymdrin â rhoddion ar y pryd.
Sut i ddefnyddio ein canllawiau
Mae ein canllawiau wedi'u rhannu'n adrannau, gyda phob un yn delio â rhan wahanol o'r broses y byddwch yn rhan ohoni fel ymgeisydd neu asiant mewn Etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
Pan fyddwch yn clicio ar ddolen yn y rhestr gwelywio ar y dde, bydd yn datgelu'r dolenni i'r canllawiau gwahanol ar gyfer pob adran. Pan fyddwch yn cyrraedd diwedd tudalen, gallwch ddefnyddio'r ddolen ar waelod y dudalen ar y dde i symud i'r dudalen canllawiau nesaf.
Bydd pob adran yn cynnwys dolenni i ffurflenni perthnasol ac i adnoddau gwybodaeth, a fydd wedi'u hymgorffori yn y testun. Mae'r rhain hefyd ar gael drwy ddilyn y ddolen ‘Adnoddau’ ar ddiwedd pob adran ar y goeden gwelywio.
Os hoffech argraffu'r holl ganllawiau, gallwch wneud hynny gan ddefnyddio'r ddolen ar frig y dudalen.
Mae ein canllawiau yn cynnwys y camau y bydd angen i ymgeiswyr ac asiantiaid eu dilyn os byddant yn sefyll etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Y meysydd a gwmpesir yw:
Adran | Yr hyn y mae'n ymdrin ag ef: |
---|---|
Beth sydd angen i chi ei wybod cyn sefyll fel ymgeisydd |
|
Gwariant ymgeiswyr |
|
Rhoddion ymgeiswyr |
|
Yr ymgyrch |
|
Enwebiadau |
|
Pleidleisiau post |
|
Diwrnod Pleidleisio |
|
Dilysu a chyfrif |
|
Ar ôl datgan y canlyniad |
|
Cysylltu â ni
Os ydych yn ymgeisydd neu'n asiant yn Lloegr
Os yw eich cwestiwn yn ymwneud â gwariant neu roddion, cysylltwch â ni yn:
E-bost: [email protected]
Ffôn: 0333 103 1928
Ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â ni yn:
E-bost: [email protected]
Ffôn: 0333 103 1928
Os ydych yn ymgeisydd neu'n asiant yng Nghymru
Cysylltwch â ni ar gyfer pob ymholiad yn:
E-bost: [email protected]
Ffôn: 0333 103 1929
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod cyn i chi sefyll fel ymgeisydd
Cyn dechrau ar y broses o sefyll etholiad, mae angen i ddarpar ymgeiswyr fod yn hyderus eu bod yn bodloni'r holl ofynion. Mae angen iddynt hefyd fod yn ymwybodol o'r rheolau sy'n berthnasol i ymgeiswyr mewn perthynas â gwariant a rhoddion.
Mae’r canllaw hwn yn nodi manylion am:
- Pryd fyddwch chi'n dod yn ymgeisydd yn swyddogol?
- Pwy sy'n gyfrifol am wariant a rhoddion ymgeiswyr?
- Cymwysterau a gwaharddiadau ar gyfer sefyll etholiad
- Penodi eich asiant etholiad ac asiantiaid eraill
Pwy sy'n gwneud beth mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a sut gallwch gysylltu â nhw
Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu
Mae gan bob ardal yr heddlu Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am ethol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn yr ardal honno. Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yw'r Swyddog Canlyniadau Dros Dro ar gyfer etholaeth Seneddol benodedig yn y DU sy'n syrthio'n gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ardal yr heddlu. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ei fod yn uwch-swyddog un o'r awdurdodau lleol yn ardal yr heddlu fel arfer ac yn annibynnol ar yr awdurdod mewn perthynas â'i swyddogaethau etholiadol.
Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu sy'n gyfrifol am y broses enwebu ac am gyfrifo a datgan canlyniad yr etholiad. Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn cysylltu â Swyddogion Canlyniadau Lleol ac yn cyd-drefnu eu gwaith yn eu hardal heddlu nhw, ac mae ganddo'r pŵer hefyd i roi cyfarwyddiadau i Swyddogion Canlyniadau Lleol o ran cyflawni eu swyddogaethau yn yr etholiad.
Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn cynnig briffiadau cyn yr etholiad ac rydym yn eich annog chi neu eich asiant i'w mynychu, hyd yn oed os ydych wedi bod yn asiant neu wedi sefyll etholiad o'r blaen.
Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu fydd y Swyddog Canlyniadau Lleol hefyd ar gyfer yr ardal awdurdod lleol unigol y mae'n ei chynrychioli.
Gallwch gysylltu â ni i ddysgu pwy yw Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ar gyfer pob ardal. Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu hefyd yn gallu rhoi manylion cyswllt ar gyfer Swyddogion Canlyniadau Lleol.
Y Swyddog Canlyniadau Lleol
Y Swyddog Canlyniadau Lleol
Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gyfrifol am redeg etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar lefel leol. Maent yn gyfrifol am weinyddu'r modd y cynhelir yr etholiad, cyhoeddi ac agor papurau pleidleisio drwy'r post a chyfrif y pleidleisiau ar gyfer eu hardal bleidleisio nhw.
Y Swyddog Canlyniadau Lleol mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yw'r unigolyn sy'n gweithredu fel Swyddog Canlyniadau mewn etholiadau lleol yn yr ardal honno ac fel arfer mae'n uwch-swyddog yn yr awdurdod lleol ac yn annibynnol ar yr awdurdod o ran ei swyddogaethau etholiadol.
Gall rhai Swyddogion Canlyniadau Lleol gynnig briffiadau hefyd ar drefniadau lleol ar gyfer y bleidlais.
Byddwch yn gallu cysylltu â'r Swyddog Canlyniadau Lleol dros unrhyw ardal awdurdod lleol drwy gysylltu â swyddfa etholiadau'r awdurdod lleol perthnasol. Ceir cyfeiriadau a rhifau ffôn pob swyddfa etholiad ar ein gwefan www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr
Y Swyddog Cofrestru Etholiadol
Y Swyddog Cofrestru Etholiadol
Y Swyddog Cofrestru Etholiadol sy'n gyfrifol am gynnal y gofrestr etholwyr a rhestrau pleidleiswyr absennol ar gyfer ei ardal awdurdod lleol. Y Swyddog Cofrestru Etholiadol yw un o'r uwch swyddogion yn yr awdurdod lleol fel arfer a gall hefyd gyflawni rôl y Swyddog Canlyniadau. Ceir manylion cyswllt yr holl Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr
Y Comisiwn Etholiadol
Y Comisiwn Etholiadol
Rydym yn gorff statudol annibynnol a sefydlwyd ym mis Tachwedd 2000 gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Cawn ein harwain ar hyn o bryd gan ddeg Comisiynydd, gan gynnwys Cadeirydd. Rydym yn uniongyrchol atebol i Senedd y DU drwy bwyllgor a gadeirir gan Lefarydd Tŷ'r Cyffredin.
Rydym yn gyfrifol am gofrestru pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, monitro a chyhoeddi rhoddion sylweddol i bleidiau gwleidyddol cofrestredig a rheoleiddio gwariant ymgyrchwyr plaid a rhai nad ydynt yn bleidiau mewn etholiadau penodol. Mae gennym rôl i'w chwarae hefyd wrth hyrwyddo ymwybyddiaeth ymhlith pleidleiswyr. Mae'n ofynnol i ni adrodd ar weinyddiaeth rhai digwyddiadau etholiadol penodol, gan gynnwys etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, arolygu materion etholiadol yn rheolaidd ac, os gofynnir am hynny, adolygu ac adrodd ar unrhyw fater etholiadol. Rydym hefyd yn achredu arsylwyr i fod yn bresennol yn ystod gweithrediadau etholiadau.
Nid ydym yn cynnal etholiadau ond rydym yn gyfrifol am roi cyngor a chymorth ar faterion etholiadol i bawb sy'n gysylltiedig ag etholiadau, gan gynnwys Swyddogion Canlyniadau Ardal yr Heddlu, Swyddogion Canlyniadau Lleol, Swyddogion Cofrestru Etholiadol, pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr.
Rydym yma i helpu, felly cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau
Y system etholiadol
Caiff Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ei ethol o dan y system etholiadol 'y cyntaf i'r felin', lle caiff yr ymgeisydd sydd â'r nifer mwyaf o bleidleisiau ei ethol.
Ceir 35 o ardaloedd heddlu yng Nghymru a Lloegr ac mewn rhai ardaloedd mae rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu hefyd yn cynnwys cyfrifoldeb am wasanaethau tân ac achub.
Yng Nghymru, mae pedair ardal yr heddlu, ac mae pob un ohonynt yn ethol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Mae pob ardal yr heddlu yn cynnwys nifer o ardaloedd awdurdod lleol. Ceir rhagor o wybodaeth am ardaloedd yr heddlu ar wefan Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Pryd y bydd rhywun yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol?
Y dyddiad cynharaf y gallwch ddod yn ymgeisydd yn swyddogol yw'r diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad etholiad sef 25 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.
Byddwch yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol ar y diwrnod hwn os byddwch eisoes wedi datgan eich bod yn ymgeisydd yn yr etholiad (neu os bydd rhywun arall wedi datgan eich bod yn ymgeisydd) ar neu cyn y dyddiad hwn.
Os byddwch chi neu eraill yn datgan y byddwch yn ymgeisydd yn yr etholiad ar ôl y dyddiad hwn, byddwch yn dod yn ymgeisydd ar y dyddiad y gwneir y cyfryw ddatganiad, neu ar y dyddiad y cyflwynwch eich papurau enwebu, p'un bynnag fydd gyntaf.
Y diwrnod ar ôl i chi ddod yn ymgeisydd yn swyddogol, bydd rheolau ynghylch gwariant a rhoddion yn dod yn gymwys.
Pan fyddwch wedi dod yn ymgeisydd yn swyddogol, cewch gopi o'r gofrestr etholiadol.
Cewch hefyd gopi o'r rhestrau o bleidleiswyr absennol ar gyfer ardal gyfan yr heddlu.
Hefyd, gallwch ddefnyddio ystafelloedd a ariennir gan gyllid cyhoeddus ac ysgolion ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus.
Gallwch ddechrau ymgyrchu cyn i chi ddod yn ymgeisydd yn swyddogol. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar ymgyrchu.
Pwy sy'n gyfrifol am wariant ymgeisydd a rhoddion?
Rhaid i ymgeiswyr a'u hasiantiaid mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddul ddilyn rheolau penodol ynghylch faint y gallant ei wario, gan bwy y gallant dderbyn rhoddion a beth y mae'n rhaid iddynt roi gwybod amdano ar ôl yr etholiad.
Yr asiant etholiad sy'n bennaf cyfrifol am gydymffurfio â'r rheolau hyn, hyd yn oed os yw'n penodi is-asiant i'ch helpu gyda'ch treuliau.
Fodd bynnag, ar ôl yr etholiad, rhaid i'r ymgeisydd a'r asiant lofnodi datganiadau yn dweud bod eu ffurflen gwariant a rhoddion yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eu gwybodaeth.
Mae hyn yn golygu bod angen hefyd i ymgeiswyr fod yn gwbl ymwybodol o'r rheolau a sicrhau bod eu hasiant yn eu dilyn.
Gwariant
Mae'r rheolau yn gymwys i wariant ar weithgareddau i hyrwyddo'ch ymgeisyddiaeth, neu feirniadu ymgeiswyr eraill, yn ystod cyfnod penodol cyn yr etholiad. Gelwir y cyfnod hwn yn ‘gyfnod a reoleiddir’. Pan ddefnyddiwn y term ‘cyfnod a reoleiddir’ rydym yn golygu'r adeg pan fydd terfynau gwariant a rheolau yn gymwys.
Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybodaeth lawn a chywir am wariant ymgeisydd. Dylech sicrhau eich bod yn deall y rheolau a bod pob gwariant wedi'i awdurdodi a'i gofnodi ac y rhoddir gwybod amdano'n gywir.
Mae gwariant ymgeiswyr yn cynnwys unrhyw dreuliau yr eir iddynt, p'un a yw hynny ar nwyddau, gwasanaethau, eiddo neu gyfleusterau, at ddibenion etholiad yr ymgeisydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Ystyr ‘mynd i wariant’ neu ‘fynd i gostau’ yw gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario arian, fel cadarnhau archeb.
Mae hyn yn cynnwys:
- eitemau neu wasanaethau a brynwyd cyn i'r cyfnod a reoleiddir ddechrau, ond a ddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod hwnnw
- gwerth eitemau neu wasanaethau a roddwyd i chi am ddim neu am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%, sef ‘gwariant tybiannol’
Ceir rheolau sy'n cwmpasu:
- pwy all awdurdodi gwariant a thalu am eitemau a gwasanaethau
- faint y gallwch ei wario
- pa weithgareddau sy'n cyfrif tuag at eich terfyn gwariant
- terfynau amser ar gyfer derbyn a thalu anfonebau
- pa gofnodion y mae'n rhaid i chi eu cadw
- sut a phryd rydych yn rhoi gwybod am eich gwariant
Gelwir gwariant ymgeiswyr yn ‘dreuliau’ yn aml. Weithiau, mae pobl yn meddwl bod hyn yn golygu y gall gwariant gael ei ad-dalu gan y cyngor lleol, neu gennym ni, y Comisiwn Etholiadol. Nid felly y mae. Nid oes gennych hawl i adennill unrhyw wariant o arian cyhoeddus.
Ceir rhagor o wybodaeth am roi gwybod am wariant ymgeisydd ar ôl yr etholiad yn Gwariant ymgeiswyr
Rhoddion
Dim ond rhoddion o arian, eitemau neu wasanaethau tuag at eu gwariant ar ymgyrch gan ffynonellau penodol a leolir yn y DU yn bennaf y gall ymgeiswyr eu derbyn, a rhaid iddynt roi gwybod amdanynt i'r swyddog canlyniadau lleol ar ôl yr etholiad.
Mae hyn yn cynnwys rhoddion gan eich plaid leol.
Os penodir asiant etholiad, rhaid i roddion gael eu trosglwyddo iddo mor gyflym â phosibl. Yna rhaid i'r asiant gadarnhau a ellir derbyn y rhodd ai peidio.
Rhaid i'r ymgeisydd a'r asiant lofnodi datganiad ar eu ffurflen treuliau yn dweud bod y ffurflen rhoddion yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eu gwybodaeth. Felly mae angen i'r ymgeisydd sicrhau bod ei asiant yn dilyn y rheolau.
Os na phenodwyd asiant, yr ymgeisydd sy'n gyfrifol am drafod a gwirio rhoddion.
Ceir rhagor o wybodaeth am roi gwybod am roddion ar ôl yr etholiad yn Rhoddion ymgeiswyr
Cymwysterau ac anghymwysterau ar gyfer sefyll etholiad
Er mwyn sefyll fel ymgeisydd rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni'r cymwysterau angenrheidiol ac nad ydych wedi'ch gwahardd. Mae’r adran hon yn nodi’r cymwysterau a’r anghymwysterau ar gyfer sefyll etholiad.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn gymwys i sefyll a’ch bod ddim yn destun unrhyw anghymwysiadau. Ni all y Swyddog Canlyniadau na’r Comisiwn Etholiadol gadarnhau hyn i chi. Os oes gennych unrhyw amheuon am eich cymhwystra dylech geisio cyngor cyfreithiol.
Cymwysterau
Er mwyn gallu sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr (ac eithrio ardaloedd yn Lloegr lle mae maer awdurdod [sir] cyfun yn ymgymryd â swyddogaethau heddlu a throseddu) a Chymru, rhaid i chi fod:1
- yn 18 oed o leiaf ar ddiwrnod eich enwebiad
- yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd cymwys o'r Gymanwlad, dinesydd cymwys yr UE cymwys, yn ddinesydd yr UE sydd â hawliau a gedwir3
- wedi eich cofrestru fel etholwr llywodraeth leol mewn ardal cyngor lleol sydd o fewn ardal yr heddlu lle rydych am sefyll fel ymgeisydd, ar adeg eich enwebiad ac ar y diwrnod pleidleisio.
Ystyr dinesydd cymwys o'r Gymanwlad
Mae dinesydd cymwys o’r Gymanwlad yn ddinesydd o’r Gymanwlad sydd naill ai:
- ddim angen caniatâd arno i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros yno, neu
- sydd â chaniatâd penagored i aros yn y Deyrnas Unedig
Ystyr dinasyddion cymwys yr UE
Mae dinesydd cymwys yr UE yn ddinesydd gwlad:
- sydd â chytundeb Hawliau Pleidleisio ac Ymgeisyddiaeth (VCR) gyda'r DU
- sydd yn preswylio yn y DU
- sydd ag unrhyw fath o ganiatâd i aros, neu nad oes angen caniatâd o’r fath arno.
Ar hyn o bryd mae gan y DU gytundebau dwyochrog â’r gwledydd canlynol:
Denmarc |
Lwcsembwrg |
Gwlad Pwyl |
Portiwgal |
Sbaen |
Ystyr dinasyddion yr UE sydd â hawliau a gedwir
Mae gan ddinesydd yr UE hawliau a gedwir os:
- yw’n ddinesydd gwlad nad oes ganddi gytundeb Hawliau Pleidleisio ac Ymgeisyddiaeth (VCR) â'r DU
- ac mae wedi bod yn preswylio’n gyfreithiol yn y DU ers cyn i’r DU adael yr UE ar 31/12/2020 (Dyddiad Cwblhau’r Cyfnod Gweithredu – IPCD)
Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd nad oes ganddynt gytundeb Hawliau Pleidleisio ac Ymgeisyddiaeth dwyochrog â’r DU ar hyn o bryd ac nad ydynt yn wledydd y Gymanwlad yw:
Yr Almaen | Yr Iseldiroedd |
Awstria | Hwngari |
Gwlad Belg | Latfia |
Bwlgaria | Lithwania |
Croatia | Rwmania |
Yr Eidal | Slofacia |
Estonia | Slofenia |
Y Ffindir | Sweden |
Ffrainc | Gweriniaeth Tsiec |
Gwlad Groeg |
- 1. Adran 70 Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (PR&SR 2011) ↩ Back to content at footnote 1
- 3. a.68 PR&SR 2011 ↩ Back to content at footnote 3
Anghymwysiadau
Ar wahân i fodloni'r amodau cymhwyso ar gyfer sefyll etholiad, rhaid i chi sicrhau hefyd nad ydych wedi eich anghymhwyso.
Mae'r ystod lawn o anghymwysiadau yn gymhleth ac os oes unrhyw amheuaeth gennych ynghylch p'un a ydych wedi eich anghymhwyso, rhaid i chi wneud popeth o fewn eich gallu i gadarnhau nad ydych wedi eich anghymhwyso cyn cyflwyno eich papurau enwebu.
Rhaid i chi sicrhau nad ydych wedi eich anghymhwyso oherwydd gofynnir i chi lofnodi un o'r papurau enwebu sy'n ofynnol er mwyn cadarnhau nad ydych wedi eich anghymhwyso.
Mae'n drosedd gwneud datganiad ffug ar eich papurau enwebu o'ch cymhwyster ar gyfer cael eich ethol, felly os oes unrhyw amheuaeth gennych, dylech gysylltu â'ch cyflogwr, ymgynghori â'r ddeddfwrfa neu, os oes angen, ceisio eich cyngor cyfreithiol annibynnol eich hun.
Ni fydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn gallu cadarnhau a ydych wedi eich anghymhwyso ai peidio.
Bydd y rhan fwyaf o anghymwysiadau yn gymwys ar y diwrnod y cewch eich enwebu ac ar y diwrnod pleidleisio, ond bydd rhai ond yn gymwys pan fyddwch yn ymgymryd â'r swydd.
Anghymwysiadau sy'n gymwys ar y diwrnod y cewch eich enwebu ac ar y diwrnod pleidleisio
Ni allwch sefyll etholiad os bydd un o'r canlynol yn gymwys ar y diwrnod y cewch eich enwebu:
- Rydych wedi cael eich enwebu fel ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a gaiff ei gynnal ar yr un diwrnod ar gyfer ardal heddlu wahanol. 1
- Rydych wedi cael eich enwebu fel ymgeisydd mewn etholiad maerol awdurdod cyfun (neu sir gyfun) ar yr un diwrnod lle byddai'r maer hefyd yn arfer swyddogaethau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu mewn perthynas â'r ardal honno.2
- Rydych wedi cael eich collfarnu am drosedd garcharadwy yn y gorffennol. Mae'r anghymhwysiad hwn yn gymwys hyd yn oed os na chawsoch eich carcharu mewn gwirionedd am y drosedd honno, neu os yw'r gollfarn wedi darfod. 3
- Rydych yn swyddog yr heddlu neu wedi eich cyflogi yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan yr heddlu. 4 Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ‘Gweithio i'r heddlu’.
- Chi yw Comisiynydd Tân Llundain neu rydych yn aelod o staff Comisiynydd Tân Llundain.
- Rydych wedi eich cyflogi, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, gan awdurdod tân ac achub ac rydych am sefyll etholiad mewn ardal lle mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu hefyd yn gyfrifol am swyddogaeth yr awdurdod tân ac achub.5 Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ‘Gweithio i awdurdod tân ac achub yn ardal yr heddlu’.
- Cewch eich anghymhwyso o dan ddarpariaethau penodol Deddf Anghymwyso Tŷ'r Cyffredin 1975, (fel y'i diwygiwyd), os ydych yn was sifil, yn aelod o'r lluoedd arfog neu'n dal unrhyw swydd farnwrol a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Anghymhwyso Tŷ'r Cyffredin 1975 (fel y'i diwygiwyd). 6
- Rydych yn aelod o ddeddfwrfa unrhyw wlad neu diriogaeth y tu allan i'r DU. 7
- Rydych yn aelod o staff cyngor lleol sy'n syrthio'n gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ardal yr heddlu yr ydych am sefyll fel ymgeisydd ynddi, neu wedi eich cyflogi mewn sefydliad sydd o dan reolaeth cyngor lleol yn ardal yr heddlu yr ydych am sefyll fel ymgeisydd ynddi. 8
- Noder y gallwch fod wedi eich cyflogi gan sefydliad sydd o dan reolaeth cyngor lleol, er enghraifft, os ydych yn gweithio i wasanaethau tân neu wasanaeth iechyd penodol. Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysfawr. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau Gweithio i gyngor lleol yn ardal yr heddlu
- Mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ni chewch eich trin fel un sydd wedi ei gyflogi gan gyngor lleol os ydych yn gweithio mewn ysgol (naill ai fel athro neu fel rhywun nad yw'n aelod o'r staff addysgu) a gynhelir neu a gynorthwyir gan gyngor lleol. 9
- Ni chaiff aelodau etholedig cynghorau eu hanghymhwyso rhag cael eu hethol mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
At y dibenion hyn, cyngor lleol yw:
- cyngor sir
- cyngor bwrdeistref sirol
- cyngor dosbarth
- cyngor plwyf
- cyngor cymuned
- Cyngor Ynysoedd Scilly
- Fodd bynnag, gallwch fod wedi eich cyflogi gan sefydliad sydd o dan reolaeth cyngor plwyf neu gymuned.
- Rydych yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim. 10 Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau Gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim
- Rydych wedi eich anghymwyso (fel y'i diwygiwyd)11 os cawsoch eich collfarnu neu eich cael yn euog o arfer etholiadol llwgr neu anghyfreithlon neu o drosedd yn ymwneud â rhoddion, o dan Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1988. Mae anghymhwyso rhywun am arfer anghyfreithlon yn dechrau o'r dyddiad y cafwyd rhywun yn euog gan lys etholiadol neu o'r dyddiad y cafodd ei gollfarnu, ac mae'n para am dair blynedd. Mae anghymhwyso rhywun am arfer lwgr yn dechrau o'r dyddiad y cafwyd rhywun yn euog gan lys etholiadol neu o'r dyddiad y cafodd ei gollfarnu ac mae'n para am bum mlynedd.
- Rydych wedi cael eich euogfarnu o drosedd fygythiol a ysgogwyd gan ymddygiad gelyniaethus tuag at ymgeisydd, darpar ymgeisydd neu ymgyrchydd neu ddeiliad swydd etholedig berthnasol. Effaith gorchymyn anghymhwyso yw y caiff y person ei anghymhwyso rhag sefyll ar gyfer swydd etholiadol berthnasol, dal na chael ei ethol i swydd o'r fath am bum mlynedd.
- 1. Adran 64(3), Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 64(3A), Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 66(3)(c) a (4), Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 65, Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 66(10)(11) a (12), Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Adran 66(2)(a), Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Adran 66(2)(b), Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Adran 66(5)(6) a (7), Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Adran 66(9), Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Adran 66(3)(a) a (b), Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Adran 66(3)(d), Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 ↩ Back to content at footnote 11
Anghymwysiadau sy'n gymwys pan gewch eich ethol
Anghymwysiadau sy'n gymwys pan gewch eich ethol1
Gall aelodau o Dŷ'r Cyffredin, Senedd yr Alban, Senedd Cymru, Cynulliad Gogledd Iwerddon neu Senedd Ewrop sefyll etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Fodd bynnag, os cânt eu hethol rhaid iddynt roi'r gorau i'w sedd cyn ymgymryd â swydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
Os daw Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn aelod o Dŷ'r Cyffredin, Senedd yr Alban, Senedd Cymru, Cynulliad Gogledd Iwerddon neu Senedd Ewrop, cânt eu hanghymhwyso'n awtomatig rhag dal swydd fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Ni chaiff aelodau o Dŷ'r Arglwyddi eu hanghymhwyso rhag bod yn Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
- 1. Adran 67, Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 ↩ Back to content at footnote 1
Gweithio i'r heddlu
Gweithio i'r heddlu1
Rydych wedi eich anghymhwyso rhag sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu os ydych yn swyddog yr heddlu neu fel arall wedi eich cyflogi gan yr heddlu.
Mae'r anghymhwysiad hwn yn gymwys i'r canlynol:
- aelodau o'r heddlu (gan gynnwys cwnstabliaid rhan amser) yn y DU, gan gynnwys yr heddlu Metropolitanaidd a heddlu Dinas Llundain
- aelodau o Heddlu Trafnidiaeth Prydain (gan gynnwys cwnstabliaid rhan amser)
- aelodau o'r Heddlu Niwclear Sifil
Rydych wedi eich anghymhwyso hefyd rhag sefyll os ydych yn un o'r canlynol:
- aelod o staff Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (heblaw am ddirprwy CHTh)2
- aelod o staff Swyddfa Maer Llundain ar gyfer Plismona a Throseddu
- Maer Llundain
- aelod o Gyngor Cyffredin Dinas Llundain neu aelod o staff y Cyngor hwnnw yn ei rinwedd fel awdurdod yr heddlu
Rydych wedi eich anghymhwyso hefyd rhag sefyll mewn unrhyw etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu os ydych yn aelod o sefydliad sydd o dan reolaeth y canlynol, neu'n aelod o staff y sefydliad hwnnw neu'n dal unrhyw swydd yn y sefydliad hwnnw:
- Awdurdod Heddlu Trafnidiaeth Prydain
- Awdurdod yr Heddlu Niwclear Sifil
- Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu
- yr Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol
Rydych wedi eich anghymhwyso hefyd os ydych wedi eich cyflogi gan sefydliad sydd o dan reolaeth corff plismona lleol, prif swyddog yr heddlu ar gyfer heddlu mewn unrhyw ardal yr heddlu neu Ddinas Llundain, prif swyddog yr heddlu ar gyfer Heddlu Trafnidiaeth Prydain neu'r Gwnstabliaeth Niwclear Sifil.
Mae'r anghymhwysiad gweithio i'r heddlu yn gymwys ar y diwrnod y cewch eich enwebu ac ar y diwrnod pleidleisio. Pe baech yn gyflogedig gan yr heddlu, byddai'n rhaid eich bod wedi ymddiswyddo a bod unrhyw gyfnod o rybudd wedi mynd heibio cyn y dyddiad enwebu er mwyn osgoi cael contract cyflogaeth â'r heddlu ar yr adeg honno.
- 1. Adran 65, Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. 1. Adran 65 (1A), Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 ↩ Back to content at footnote 2
Gweithio i awdurdod tân ac achub yn ardal yr heddlu
Gweithio i awdurdod tân ac achub yn ardal yr heddlu1
Os ydych wedi eich cyflogi gan yr awdurdod tân ac achub, rydych wedi eich anghymhwyso rhag sefyll fel ymgeisydd yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu, Tân, a Throseddu mewn ardal lle mae'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu hefyd yn ymgymryd â'r swyddogaethau tân.1
Hefyd, rydych wedi eich anghymwyso rhag cael eich ethol neu fod yn Gomisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu os ydych naill ai'n:
- Gomisiynydd Tân Llundain
- neu'n aelod o staff Comisiynydd Tân Llundain
- 1. Adran 66(10)(11) a (12), Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011↩ Back to content at footnote 1 a b
Gweithio i gyngor lleol yn ardal yr heddlu
Rydych wedi eich anghymhwyso rhag sefyll etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu os ydych:
- yn aelod o staff neu wedi eich cyflogi'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan gyngor lleol sy'n syrthio'n gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ardal yr heddlu yr ydych yn sefyll fel ymgeisydd ynddi.
- yn aelod o staff neu'n gweithio i sefydliad sydd o dan reolaeth cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor dosbarth neu Gyngor Ynysoedd Scilly, rydych wedi eich anghymhwyso rhag cael eich ethol yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Mae gan gynghorau lleol bwyllgorau ac is-bwyllgorau fel arfer. Mae unrhyw un a gyflogir o dan gyfarwyddyd pwyllgorau neu is-bwyllgorau o'r fath wedi ei anghymhwyso rhag sefyll fel ymgeisydd mewn unrhyw ardal yr heddlu sy'n cynnwys ardal gyfan y cyngor lleol neu ran ohoni.
Fel rheol, os ydych yn gweithio yn y sector cyhoeddus lleol, dylech ofyn i adran AD eich cyflogwr eich helpu i gadarnhau a fyddai'r anghymhwysiad yn gymwys i chi. Weithiau, gall cydberthnasau cyflogaeth fod yn gymhleth ac os felly, rydym yn argymell eich bod yn ceisio eich cyngor cyfreithiol eich hun.
Os ydych yn athro neu'n aelod o staff nad yw'n aelod o'r staff addysgu mewn ysgol neu sefydliad addysgol arall neu a gynorthwyir gan gyngor lleol, gallwch sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar yr amod eich bod yn bodloni'r amodau ac nad ydych wedi eich anghymhwyso fel arall.
Mae'r anghymhwysiad gweithio i'r cyngor lleol yn gymwys ar y dyddiad enwebu ac ar y diwrnod pleidleisio. Pe baech yn gyflogedig gan y cyngor lleol, byddai'n rhaid eich bod wedi ymddiswyddo a bod unrhyw gyfnod o rybudd wedi mynd heibio cyn y dyddiad enwebu er mwyn osgoi cael contract cyflogaeth â'r cyngor lleol ar yr adeg honno.
Mae cyngor lleol at y dibenion hyn yn un o'r canlynol:
- cyngor sir
- cyngor bwrdeistref sirol
- cyngor dosbarth
- cyngor plwyf
- cyngor cymuned
- Cyngor Ynysoedd Scilly
heblaw y gallwch fod wedi'ch cyflogi gan sefydliad sydd o dan reolaeth plwyf neu gymuned
Gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim
Gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim 1
Nid yw methdaliad ynddo'i hun yn anghymhwysiad. Os ydych wedi eich dyfarnu'n fethdalwr gan lys yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, neu os ydych yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad interim, nid ydych wedi eich anghymhwyso ar y sail honno, ar yr amod nad ydych hefyd yn destun unrhyw anghymwysiadau methdaliad penodol a restrir isod ar hyn o bryd:
- rydych yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad ar hyn o bryd neu orchymyn cyfyngu rhyddhad ar ddyledion a wnaed gan lys yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, neu
- mae eich ystâd wedi cael ei secwestru gan lys yn yr Alban ac nid ydych wedi cael eich rhyddhau
- 1. Adran 66(3), Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 ↩ Back to content at footnote 1
Penodi eich asiant etholiad ac asiantiaid eraill
Yr asiant etholiad yw'r person sy'n gyfrifol am reoli eich ymgyrch etholiadol yn briodol ac, yn arbennig, am ei rheolaeth ariannol. Rhaid i chi benodi asiant etholiad. Os na fyddwch yn gwneud hynny, chi fydd yn cyflawni'r rôl honno.1
Yn dilyn y penodiad, dim ond gan neu drwy'r asiant etholiad y gellir talu treuliau etholiad.2 Ceir rhagor o wybodaeth am wariant ymgeisydd yn gwariant ymgeiswyr.
Gallwch hefyd benodi asiantiaid eraill i arsylwi ar y prosesau etholiadol canlynol, y mae gennych chi a'ch asiant etholiad yr hawl i arsylwi arnynt hefyd: 3
- agor pleidleisiau post
- y bleidlais
- dilysu a chyfrif pleidleisiau
Hefyd, bydd hawl gennych chi, eich asiant etholiad ac un person arall a benodir gennych chi i fod yn bresennol pan fydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn cyfrifo'r canlyniad.
- 1. Erthygl 26 ac Erthygl 29, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 31, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Paragraff 33 Atodlen 2 a Pharagraff 31 Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
Pwy all fod yn asiant etholiad?
Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol i fod yn asiant etholiad a gallwch weithredu fel eich asiant eich hun os byddwch yn dymuno gwneud hynny.
Fodd bynnag, ni chaiff y bobl ganlynol fod yn asiantiaid etholiad:
- Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu, Swyddog Canlyniadau Lleol neu aelod o'u staff (gan gynnwys unrhyw glercod a benodwyd yn arbennig ar gyfer yr etholiad)1
- dirprwy neu glerc Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu, Swyddog Canlyniadau Lleol, neu aelod o'u staff2
- swyddog awdurdod lleol y mae Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu neu Swyddog Canlyniadau Lleol yn defnyddio ei wasanaethau3
- partner neu glerc unrhyw un o'r uchod4
- unrhyw sydd heb hawl i bleidleisio yn yr etholiad o ganlyniad i adroddiad llys etholiadol neu gollfarn am arfer llwgr neu anghyfreithlon yn unol â Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 19835
- unrhyw un a gollfarnwyd a adroddwyd am arfer llwgr neu anghyfreithlon o dan Orchymyn 20126
Efallai y bydd gan eich plaid reolau penodol hefyd ynghylch pwy y gallwch ei benodi'n asiant etholiad.
- 1. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 76, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 76, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 6
Penodi asiant etholiad
Yn sgil y cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth rôl asiant etholiad, dylech ystyried eich penodiad yn ofalus a sicrhau bod yr unigolyn dan sylw yn deall ei rwymedigaethau. Gallwch weithredu fel eich asiant eich hun os byddwch yn dymuno gwneud hynny.
Rhaid i chi, neu rywun ar eich rhan, ddatgan yn ysgrifenedig enw, cyfeiriad a chyfeiriad swyddfa eich asiant etholiad i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu erbyn 4pm, 19 diwrnod cyn yr etholiad.1 Dylai'r datganiad gael ei lofnodi gennych chi (neu'r person sy'n gwneud y datganiad ar eich rhan) a'r asiant i ddangos ei fod yn derbyn y penodiad.
Mae hefyd yn ddefnyddiol darparu rhif ffôn cyswllt a chyfeiriad e-bost ar gyfer eich asiant etholiad fel y gall Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu neu'r Swyddog Canlyniadau Lleol gysylltu ag ef yn hawdd
Gall Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ddarparu ffurflen datganiad, neu gallech ddefnyddio ffurflen datganiad yr asiant etholiad a gynhyrchwyd gan y Comisiwn. Os na fyddwch yn penodi rhywun fel eich asiant erbyn y dyddiad cau, chi fydd eich asiant eich hun yn awtomatig.2
Rhaid bod cyfeiriad swyddfa eich asiant yn ardal yr heddlu lle cynhelir yr etholiad. Rhaid iddo fod yn gyfeiriad ffisegol – ni ellir defnyddio blychau Swyddfa'r Post na blychau post tebyg.3 Yn aml, cyfeiriad cartref yr asiant fydd cyfeiriad ei swyddfa, ond gallai hefyd fod yn gyfeiriad swyddfa leol y blaid neu swyddfa a sefydlwyd ar gyfer yr etholiad.
Os byddwch yn gweithredu fel eich asiant etholiad eich hun am nad ydych wedi penodi rhywun arall, tybir mai'r cyfeiriad swyddfa yw'r cyfeiriad a roddwyd gennych ar y ffurflen cyfeiriad cartref. Os yw'r cyfeiriad hwnnw y tu allan i ardal yr heddlu, tybir mai'r cyfeiriad swyddfa yw cyfeiriad eich cynigydd (h.y. y llofnodwr cyntaf ar eich ffurflen enwebu).4
Dyma'r achos hyd yn oed pan fyddwch wedi dewis peidio â gwneud eich cyfeiriad cartref yn gyhoeddus ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd a'r papur pleidleisio.
Os bydd asiant yn marw neu'n methu â gweithredu, cewch benodi asiant arall yn ei le drwy gyflwyno'r ffurflen penodiad berthnasol i'r Swyddog Canlyniadau.5
Rhaid i unrhyw benodiad newydd o dan yr amgylchiadau hyn gael ei wneud yn ddi-oed.
- 1. Erthygl 26, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 29, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 28, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 29(5), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. adran 67(4), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
Diddymu penodiad asiant etholiad
Gallwch ddiddymu penodiad eich asiant etholiad unrhyw bryd, gan gynnwys ar ôl y diwrnod pleidleisio, a gellir gwneud penodiad newydd drwy ddilyn y broses uchod Penodi asiant etholiad.1 Os byddwch yn diddymu penodiad eich asiant etholiad, heb benodi rhywun arall, tybir mai chi yw eich asiant etholiad eich hun.
Os ydych yn gweithredu fel eich asiant etholiad eich hun, gallwch ddiddymu eich penodiad eich hun a phenodi rhywun arall fel eich asiant.
Pan fydd asiant wedi derbyn ei benodiad, ni all ymddiswyddo a rhaid iddo gyflawni'r dyletswyddau gofynnol oni fyddwch yn diddymu ei benodiad.
- 1. Adran 67(3) a 70(3) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Is-asiantiaid
Is-asiantiaid 1
Gall eich asiant etholiad benodi is-asiantiaid i weithredu ar ei ran ledled ardal yr heddlu lle rydych yn sefyll, ar yr amod nad yw'r rhannau hynny o'r ardal yn gorgyffwrdd. Gall yr asiant benderfynu ar sut i rannu ardal yr heddlu
Caiff is-asiant wneud unrhyw beth y caiff yr asiant etholiadol ei wneud yn yr ardal y mae wedi'i benodi i weithredu ynddi.
Fodd bynnag, yr unig ddigwyddiad etholiadol y caiff is-asiant fod yn bresennol ynddo yn ei rinwedd ei hun yw agor amlenni pleidleisiau post, ar yr amod bod hynny'n digwydd yn yr ardal lle y'i penodwyd. Hefyd, caiff fod yn bresennol yn y dilysu a chyfrif, yn ogystal â chyfrifo'r canlyniad, ar yr amod ei fod wedi'i benodi i ymdrin â'r prosesau hynny ar gyfer yr ardal benodol honno a'i fod yn gweithredu yn lle'r asiant etholiad. Os bydd yr asiant etholiad yn bresennol, ni chaiff fod yn bresennol.
Dylai'r asiant etholiad sicrhau bod unrhyw is-asiant yn ymwybodol o'r rheolau gwariant ac etholiadol, oherwydd caiff unrhyw beth a wneir gan is-asiant ei drin fel petai wedi'i wneud gan yr asiant etholiad. Ceir rhagor o wybodaeth am wariant etholiad yn ein canllawiau ar Wariant a rhoddion.
Rhaid i'r asiant etholiad hysbysu Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn ysgrifenedig am enw a chyfeiriad pob is-asiant a'r ardal lle y caiff weithredu erbyn y pumed diwrnod gwaith cyn yr etholiad. Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn darparu ffurflen i chi ei defnyddio. Neu, gallwch ddefnyddio'r ffurflen bwrpasol ym mhecyn enwebu'r Comisiwn.
Caiff yr asiant etholiad ddiddymu penodiad is-asiant ar unrhyw adeg a phenodi rhywun arall yn ei le drwy roi manylion yr is-asiant newydd i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu. Os penodir is-asiant arall, rhaid i'r asiant etholiad ddatgan yn ysgrifenedig enw, cyfeiriad, cyfeiriad swyddfa ac ardal y penodiad i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu.
Pan fydd is-asiant wedi derbyn ei benodiad, ni all ymddiswyddo a rhaid iddo gyflawni'r dyletswyddau gofynnol oni fydd yr asiant etholiad yn diddymu ei benodiad.
- 1. Erthygl 27, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Gwariant ymgeiswyr
Mae'r adran ganlynol yn rhoi canllawiau ar wariant ymgeiswyr mewn etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r canllawiau'n cwmpasu:
- faint y gallwch ei wario yn y cyfnod cyn yr etholiad
- pa weithgareddau sy'n cyfrif tuag at wariant ymgeisydd
- pa gofnodion y mae'n rhaid i chi eu cadw
- sut i gyfrif am fathau gwahanol o wariant
Yr asiant etholiad sy'n bennaf cyfrifol am gydymffurfio â'r cyfreithiau hyn, hyd yn oed os yw'n penodi is-asiant i'ch helpu gyda'ch treuliau. Fodd bynnag, dylai'r ymgeiswyr fod yn gwbl ymwybodol o'r cyfreithiau gan fod yn rhaid i'r ymgeisydd a'r asiant ddatgan bod y ffurflen gwariant yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eu gwybodaeth a'u cred.
Ceir rhagor o wybodaeth am gyfrifoldebau'r asiant a'r ymgeisydd yn Pwy sy'n gyfrifol am wariant ymgeisydd?
Pryd mae'r cyfreithiau ynghylch gwariant ymgeisydd yn gymwys?
Defnyddiwn y term 'cyfnod a reoleiddir' i olygu'r adeg pan fydd y cyfreithiau ynghylch gwariant yn gymwys.
Y cyfnod a reoleiddir
Mae'r cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr yn 2024 yn dechrau ar y diwrnod ar ôl i chi ddod yn ymgeisydd yn swyddogol ac yn dod i ben ar y diwrnod pleidleisio, sef 2 Mai 2024. 1
Pryd y bydd rhywun yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol?
Y dyddiad cynharaf y gallwch ddod yn ymgeisydd yn swyddogol yw'r dyddiad olaf y cyhoeddir yr hysbysiad etholiad, sef dydd Mawrth 26 Mawrth 2024. 2
Byddwch yn dod yn ymgeisydd ar y dyddiad hwn os ydych chi neu eraill eisoes wedi cyhoeddi eich bwriad i sefyll. 3 Er enghraifft, efallai fod eich plaid wedi cyhoeddi datganiad i'r wasg pan gawsoch eich dewis, neu efallai eich bod wedi sôn am eich bwriad mewn cyfarfod i drigolion.
Os nad yw eich bwriad i sefyll wedi cael ei gyhoeddi erbyn 26 Mawrth 2024, byddwch yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol ar y dyddiad cynharaf o'r rhain:
- y dyddiad y cyhoeddir eich bod yn bwriadu sefyll
- y dyddiad y cyflwynwch eich papurau enwebu 4
Rhaid i hyn fod cyn y daw'r cyfnod enwebu i ben, sef 4pm ddydd Gwener 5 Ebrill 2024 5
- 1. Erthygl 50(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 3(2)(a) ac Erthygl 3, paragraff 1, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 3(2)(a), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 3(2)(b), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 3, paragraff 1, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 5
Mynd i gostau a gwneud taliadau ar gyfer gwariant ymgeisydd
Ceir rheolau i sicrhau y gellir rheoli'r gwariant a'i gofnodi a rhoi gwybod amdano'n gywir.
Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybodaeth lawn a chywir am wariant ymgeisydd. Dylech sicrhau eich bod yn deall y rheolau a bod pob gwariant wedi'i awdurdodi a'i gofnodi ac y rhoddir gwybod amdano'n gywir.
Pan gaiff asiant ei benodi, dim ond y bobl ganlynol y caniateir iddynt fynd i wariant etholiadol:
- yr asiant
- yr ymgeisydd
- unrhyw un a awdurdodir gan yr ymgeisydd neu'r asiant
Ystyr ‘mynd i gostau’ yw gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario arian. Os ydych yn awdurdodi rhywun i fynd i wariant ymgeisydd, rhaid gwneud hynny'n ysgrifenedig a nodi'n glir faint y gall ei wario ac ar beth.1
Yr asiant, yn hytrach na'r ymgeisydd, ddylai wneud taliadau ar gyfer y rhan fwyaf o wariant yr ymgeisydd.2 Ceir pedwar eithriad:
- gall yr ymgeisydd dalu am eitemau cyn i'r asiant gael ei benodi 3
- gall ymgeisydd dalu hyd at £5,000 am dreuliau personol ar gyfer teithio a llety4
- gall yr asiant awdurdodi rhywun yn ysgrifenedig i dalu am fân dreuliau fel deunydd ysgrifennu neu gostau postio. Rhaid i'r awdurdodiad gynnwys swm y taliad.5
- gall yr asiant roi awdurdodiad ysgrifenedig i rywun fynd i wariant ar ran yr ymgeisydd fel nad yw'r gwariant yn cyfrif tuag at ‘swm a ganiateir’ y person hwnnw yn ardal yr heddlu ar ymgyrchu ar gyfer yr ymgeisydd (gweler Ymgyrchu lleol). 6 Gall y person a awdurdodir i fynd i'r gwariant hefyd wneud y taliadau ar gyfer y gwariant hwnnw. 7
Os gwneir unrhyw daliadau gan unrhyw un heblaw'r ymgeisydd, yr asiant neu'r is-asiant – er enghraifft gan berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig i fynd i wariant – yna bydd hyn yn rhodd i'r ymgeisydd os bydd dros £50 (ac na chaiff ei ad-dalu gan yr asiant). 8 Ceir rhagor o wybodaeth am roddion yn Rhoddion ymgeisydd.
Gall ymgeiswyr hefyd weithredu fel eu hasiant etholiad eu hunain. 9 Dylech sicrhau bod eich gwirfoddolwyr a'ch ymgyrchwyr yn ymwybodol o'r rheolau hyn ac yn gwybod pwy all ac na all fynd i gostau neu dalu costau.
- 1. Erthygl 32(4) a erthygl 34(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 31(1) a (4), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 32(2), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 32(1) a erthygl 72 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 32(4), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 34(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Erthygl 31(1) a (4)(ca), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 5, paragraff 2(1)(c) a pharagraff 4(2), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Erthygl 26(2), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 9
Faint y gallwch ei wario?
Mae'r terfyn gwario ar gyfer y cyfnod a reoleiddir yn uchafswm sy'n seiliedig ar ardal yr heddlu rydych yn sefyll ynddi.
Y terfynau yw:1
Ardal yr heddlu | Terfyn gwario | Ardal yr heddlu | Terfyn gwario |
---|---|---|---|
Avon a Gwlad yr Haf | £305,130 | Norfolk | £165,210 |
Swydd Bedford | £114,570 | Gogledd Cymru | £130,400 |
Swydd Gaergrawnt | £148,910 | Gogledd Swydd Efrog | £153,100 |
Swydd Gaer | £195,410 | Swydd Northampton | £130,980 |
Cleveland | £105,280 | Northumbria | £267,750 |
Cumbria | £98,900 | Swydd Nottingham | £200,320 |
Swydd Derby | £194,340 | De Cymru | £238,490 |
Dyfnaint a Chernyw | £319,410 | De Swydd Efrog | £244,590 |
Dorset | £146,350 | Swydd Stafford | £209,920 |
Durham | £121,930 | Suffolk | £137,880 |
Dyfed-Powys | £99,430 | Surrey | £211,410 |
Essex | £320,960 | Sussex | £301,210 |
Swydd Gaerloyw | £118,220 | Dyffryn Tafwys | £415,290 |
Gwent | £107,370 | Swydd Warwick | £104,710 |
Hampshire | £356,810 | Gorllewin Mersia | £231,030 |
Swydd Hertford | £207,270 | Gorllewin Canolbarth Lloegr | £489,410 |
Glannau Humber | £173,230 | Wiltshire | £128,270 |
Caint | £312,650 | ||
Swydd Gaerhirfryn | £276,210 | ||
Swydd Gaerlŷr | £192,370 | ||
Swydd Lincoln | £136,780 | ||
Glannau Mersi | £249,920 |
- 1. Erthygl 35(2), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Pa gofnodion y mae'n rhaid i chi eu cadw?
Dylech sicrhau bod system ar waith i gadw cofnodion o'ch holl wariant ymgeisydd fel y gallwch gydymffurfio â'ch cyfrifoldebau i roi gwybod am wariant ar ôl yr etholiad. Mae gan asiantiaid etholiad gyfrifoldeb i roi gwybod am wariant ar ôl yr etholiad.
Yr hyn y mae angen i chi ei gofnodi
Ar gyfer pob eitem gwariant, rhaid i chi gofnodi'r wybodaeth ganlynol i'w chynnwys ar eich ffurflen gwariant ar ôl yr etholiad:
- ar gyfer beth roedd y gwariant – er enghraifft, taflenni neu hysbysebu
- enw a chyfeiriad y cyflenwr
- y swm neu'r gwerth
- ar ba ddyddiad y gwnaethoch wario'r arian
Rhaid i bob cost gynnwys TAW, hyd yn oed os gallwch adennill taliadau TAW.
Rhaid i chi gadw anfonebau neu dderbynebau ar gyfer unrhyw daliadau o £20 neu drosodd. 1
Efallai y bydd yr asiant am gadw copïau o bob enghraifft o ddeunydd ymgyrchu (fel llythyrau neu daflenni) a ddefnyddir rhag ofn y bydd angen iddo gyfeirio'n ôl atynt.
Rhaid i chi hefyd gofnodi manylion gwariant:
- pan fyddwch yn defnyddio eitemau a ddarparwyd i chi
- pan fyddwch yn awdurdodi rhywun arall i fynd i wariant
Ceir rhagor o fanylion yn yr adrannau ar wariant tybiannol ac ymgyrchu lleol.
Ceir rhagor o wybodaeth am y manylion sy'n ofynnol ar y ffurflen gwariant yn Cwblhau eich ffurflen.
- 1. Erthygl 31(1) a (2), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Beth yw gwariant ymgeiswyr?
Gwariant ymgeisydd yw gwariant ar weithgareddau i hyrwyddo eich ymgeisyddiaeth, neu i feirniadu ymgeiswyr eraill, yn ystod y cyfnod 1 a reoleiddir.
Er mwyn iddo fod yn wariant ymgeisydd, rhaid iddo:
- fod yn weithgarwch ar restr o fathau o dreuliau etholiad
- hyrwyddo'r ymgeisydd 2
Pan fyddwch wedi penderfynu bod rhywbeth yn wariant ymgeisydd, bydd angen i chi benderfynu sut y dylid rhoi gwybod amdano. Gall fod yn:
- wariant arferol y mae'r ymgeisydd neu'r asiant yn mynd iddo
- gwariant tybiannol, lle caiff rhywbeth ei ddarparu i chi a'ch bod yn ei ddefnyddio yn eich ymgyrch
- ymgyrchu lleol, lle bydd rhywun heblaw'r ymgeisydd neu'r asiant yn mynd i wariant
Mae'r tudalennau canlynol yn cynnwys manylion y gweithgareddau sy'n cyfrif fel gwariant ymgeisydd a'r ffyrdd gwahanol yr eir i'r gwariant.
- 1. Adran 90ZA ac adran 118A(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.90ZA Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Pa weithgareddau sy'n cyfrif fel gwariant ymgeisydd?
Yn ystod y cyfnod a reoleiddir, bydd gwariant ar unrhyw un o'r gweithgareddau canlynol yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd os bydd y gweithgaredd yn hyrwyddo'r ymgeisydd:
- hysbysebu o unrhyw fath heblaw am yr anerchiad etholiadol swyddogol y gallwch ei roi ar wefan Swyddfa'r Cabinet. 1 Er enghraifft, posteri, hysbysebion mewn papurau newydd, gwefannau neu fideos
- deunydd a anfonir at bleidleiswyr yn ddigymell.2 Er enghraifft, llythyrau, taflenni neu negeseuon e-bost a anfonwch nad ydynt mewn ymateb i ymholiadau penodol
- costau cludiant.3 Er enghraifft, ceir wedi'u llogi neu drafnidiaeth gyhoeddus i'ch ymgyrchwyr
- cyfarfodydd cyhoeddus.4 Er enghraifft, ad-dalu treuliau'r sawl sy'n bresennol, llogi safleoedd a thalu am nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau ar gyfer cyfarfod cyhoeddus
- costau staff.5 Er enghraifft, cyflog asiant, neu staff wedi'u secondio gan eu cyflogwyr i chi. Nid oes angen i chi gynnwys amser a dreulir ar eich ymgyrch gan wirfoddolwyr
- swyddfeydd.6 Er enghraifft, swyddfa'ch ymgyrch
- costau gweinyddol.7 Er enghraifft, biliau ffôn, deunydd ysgrifennu, llungopïau a defnyddio cronfeydd data
Mae hyn yn cynnwys:
- yr holl gostau sy'n gysylltiedig â gweithgaredd. Er enghraifft, os ydych yn llunio taflenni neu hysbysebion, rhaid i chi gynnwys y costau dylunio a dosbarthu
- eitemau neu wasanaethau a brynwyd cyn y cyfnod a reoleiddir a ddefnyddir gennych yn ystod y cyfnod a reoleiddir
- eitemau neu wasanaethau a roddwyd i chi am ddim neu am ostyngiad a ddefnyddir gennych yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Ceir rhagor o wybodaeth yn Gwariant tybiannol.
Rhaid rhoi gwybod am y gwariant hwn ar eich ffurflen gwariant ar ôl yr etholiad. Rhoddir mwy o fanylion am bob categori ar y tudalennau canlynol.
- 1. Atodlen 7, paragraff 1 a 9, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 7, paragraff 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 7, paragraff 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 7, paragraff 4, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 7, paragraff 5, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 7, paragraff 6, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 7, paragraff 6, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 7
Hysbysebion o unrhyw fath
Costau cyffredinol
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safle neu gyfleusterau
- cyfarpar
a ddefnyddir i:
- baratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu deunydd ar gyfer hysbyseb
- lledaenu deunydd hysbysebu drwy ddosbarthu neu fel arall
Example
Er enghraifft, llogi ffotograffydd a safle i gynhyrchu delweddau i'w defnyddio mewn deunydd hysbysbeu.
Meddalwedd
Meddalwedd
Mae'n cynnwys cost meddalwedd o unrhyw fath i'w defnyddio ar unrhyw ddyfais i:
- ddylunio a chynhyrchu deunydd hysbysebu yn fewnol
- lledaenu neu hwyluso'r broses o ledaenu deunydd hysbysebu
p'un a gaiff y deunydd hwnnw ei ddosbarthu'n ddigidol, yn electronig neu drwy ddulliau eraill.
Example
Er enghraifft, ffi drwyddedu neu feddalwedd i'w defnyddio ar unrhyw ddyfais.
Gwasanaethau, cyfleusterau a chyfarpar
Gwasanaethau, cyfleusterau a chyfarpar
Mae'n cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safle neu gyfleusterau
- cyfarpar
a ddefnyddir i
- baratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu deunydd hysbysebu digidol neu electronig
- dosbarthu neu hwyluso'r broses o ledaenu'r deunydd hysbysebu hwnnw mewn unrhyw ffordd
gan gynnwys unrhyw gost y gellir ei phriodoli i wneud y cynnwys yn fwy gweladwy drwy unrhyw ddull
Example
Er enghraifft, prynu lle mwy blaenllaw ar dudalen mewn chwilotwr.
Websites and other digital material
Gwefannau a deunydd digidol arall
Mae'n cynnwys costau:
- lletya a chynnal gwefan neu ddeunydd electronig/digidol arall sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd
- dylunio ac adeiladu'r wefan
- cyfran o unrhyw wefan neu ddeunydd sy'n cael ei sefydlu i godi arian ar gyfer yr ymgeisydd ond sydd hefyd yn hyrwyddo'r ymgeisydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir
Deunydd i'w rannu
Mae'n cynnwys cost paratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu deunydd hysbysebu:
- i'w lawrlwytho a'i ddefnyddio gan bobl eraill
- i'w rannu ar unrhyw fath o sianel neu lwyfan cyfryngau cymdeithasol neu i hyrwyddo'r ymgeisydd drwy ddull o'r fath
Example
Er enghraifft, costau cynhyrchu deunydd hysbysebu yn hyrwyddo'r ymgeisydd a gaiff ei rannu ar dudalen ar sianel cyfryngau cymdeithasol yn annog dilynwyr i'w rannu.
Downloadable material
Deunydd y gellir ei lawrlwytho
Os rhoddwch ddeunydd ar wefan i bobl ei argraffu at eu defnydd personol, fel posteri ffenestr neu ffurflenni deiseb, bydd y costau dylunio a chostau'r wefan yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd. Nid oes angen i chi gyfrif costau argraffu pobl yn erbyn eich terfyn gwariant, oni bai bod pobl yn argraffu dogfennau ar eich rhan.
Os gallai'r deunydd gael ei argraffu a'i ddosbarthu i bleidleiswyr – er enghraifft, taflen – bydd angen i chi esbonio sut rydych yn disgwyl i bobl ei ddefnyddio.
Os byddwch yn awdurdodi defnydd ehangach o'r deunydd, gall y costau cynhyrchu gyfrif fel gwariant ymgeisydd ni waeth pwy sy'n ei argraffu.
Rhwydweithiau
Mae'n cynnwys cost cyrchu, prynu, datblygu a chynnal unrhyw rwydwaith digidol neu rwydwaith arall sy'n:
- hwyluso'r broses o ddosbarthu neu ledaenu deunydd hysbysebu drwy unrhyw ddull
- hyrwyddo deunydd hysbysebu neu'n ei wneud yn fwy gweladwy drwy unrhyw ddull
Example
Er enghraifft, prynu hunaniaethau digidol a ddefnyddir i wneud i ddeunydd ymddangos fel petai wedi cael ei weld a'i gymeradwyo gan nifer mawr o ddefnyddwyr ar lwyfan y cyfryngau cymdeithasol.
Other costs that are included
Costau eraill sydd wedi'u cynnwys
Mae'n cynnwys cost unrhyw hawliau neu ffi drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunydd hysbysebu.
Mae'n cynnwys cost:
- papur neu unrhyw gyfrwng arall y mae'r deunydd hysbysebu yn cael ei argraffu arno
- arddangos hysbysebion yn ffisegol mewn unrhyw leoliad, er enghraifft clymau neu lud i osod posteri
Mae'n cynnwys cost prynu, llogi neu ddefnyddio:
- cyfarpar llungopïo
- cyfarpar argraffu
a ddefnyddir yn ystod ymgyrch etholiadol yr ymgeisydd, heblaw lle:
- cafodd y cyfarpar ei gaffael gan yr ymgeisydd yn bennaf at ddefnydd personol yr ymgeisydd ei hun
- mae'n cael ei ddarparu gan unigolyn arall, cafodd y cyfarpar ei gaffael gan yr unigolyn hwnnw at ei ddefnydd personol ei hun ac ni chodir tâl ar yr ymgeisydd i'w ddefnyddio
Lle mae papur, cyfarpar llungopïo neu argraffydd yn cael ei brynu neu ei logi i'w ddefnyddio'n bennaf yn ystod yr ymgyrch, mae'n rhaid rhoi gwybod am y gost lawn.
Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar arall mewn perthynas â:
- pharatoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu'r deunydd hysbysebu
- lledaenu'r deunydd hysbysebu drwy ei ddosbarthu neu fel arall
Mae'n cynnwys cost bwyd a/neu lety i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaethau mewn cysylltiad â deunydd hysbysebu i'r ymgeisydd y mae'r ymgeisydd, plaid yr ymgeisydd neu drydydd parti arall yn talu amdano neu'n ei ad-dalu.
Costau sydd wedi'u heithrio
Nid yw'n cynnwys costau mewn perthynas â chynnal a chyhoeddi anerchiad etholiadol swyddogol. 1
- 1. Atodlen 7, paragraff 9, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Deunydd a anfonir at etholwyr yn ddigymell
Costau sy'n gysylltiedig â chael gwybodaeth a thargedu neu nodi pleidleiswyr, gan gynnwys costau cronfeydd data
Mae hyn yn cynnwys cost cyrchu, cael, prynu, datblygu neu gynnal:
- meddalwedd TG neu gronfeydd data o fanylion cyswllt
- unrhyw wybodaeth, drwy ba ddull bynnag
a ddefnyddir i hwyluso'r broses o anfon deunydd digymell at bleidleiswyr.
Example
Er enghraifft, prynu cyfeiriadau e-bost i dargedu pleidleiswyr
N/A
Mae'n cynnwys cost cyrchu, cael neu ddatblygu setiau data, gan gynnwys dadansoddeg data i dargedu pleidleiswyr drwy ba ddull bynnag, gan gynnwys cost asiantaethau, sefydliadau neu bobl eraill sy'n nodi grwpiau o bleidleiswyr, drwy ba ddull bynnag.
Example
Er enghraifft, cost unrhyw asiantaeth a gaiff ei thalu i ddadansoddi cynnwys cyfryngau cymdeithasol er mwyn hwyluso'r broses o dargedu pleidleiswyr mewn ardal etholiadol benodol a chost modelu gan asiantaeth sy'n seiliedig ar y dadansoddiad hwnnw.
N/A
Mae'n cynnwys cost unrhyw wasanaethau i nodi pleidleiswyr sy'n cael eu prynu, eu datblygu neu eu darparu cyn y cyfnod a reoleiddir, ond a ddefnyddir i dargedu pleidleiswyr yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Lle ceir gwybodaeth neu fynediad at wybodaeth gan drydydd parti, gan gynnwys plaid wleidyddol, mae cost fasnachol cael y wybodaeth honno gan y trydydd parti wedi'i chynnwys.
Costau sy'n gysylltiedig â pharatoi, cynhyrchu neu ddosbarthu deunydd digymell i bleidleiswyr, gan gynnwys drwy ddulliau digidol
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safle neu gyfleusterau
- cyfarpar
a ddefnyddir i:
- baratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu'r deunydd digymell
- lledaenu'r deunydd digymell drwy ei ddosbarthu neu fel arall, gan gynnwys unrhyw gost y gellir ei phriodoli i wneud y deunydd yn fwy gweladwy drwy unrhyw ddull
Mae'n cynnwys cost dosbarthu deunydd drwy unrhyw ddull gan gynnwys dulliau electronig neu ddosbarthu'r deunydd yn ffisegol.
Example
Er enghraifft, cost amlenni a stampiau neu brynu system ar gyfer anfon negeseuon e-bost.
N/A
Mae'n cynnwys cost cyrchu, datblygu a chynnal unrhyw rwydwaith digidol neu rwydwaith arall sy'n hyrwyddo deunydd digymell ar unrhyw lwyfan neu sy'n ei wneud yn fwy gweladwy ar unrhyw lwyfan.
Example
Er enghraifft, ymgeisydd yn talu datblygwr i greu ap sy'n hwyluso'r broses o dargedu ei ddeunydd ar sianel cyfryngau cymdeithasol.
N/A
Mae'n cynnwys cost goruchwylio a chynnal pob cyfrwng cymdeithasol, dull digidol neu ddulliau eraill o ddosbarthu deunydd digymell. Mae hyn yn cynnwys cynnal pob cyfrif ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys os yw'n cael ei gynnal gan endid/unigolyn arall.
Costau eraill sydd wedi'u cynnwys
Mae'n cynnwys cost unrhyw hawliau neu ffi drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunydd digymell.
Mae'n cynnwys cost papur neu unrhyw gyfrwng arall y mae'r deunydd digymell yn cael ei argraffu arno.
Mae'n cynnwys cost prynu, llogi neu ddefnyddio:
- cyfarpar llungopïo
- cyfarpar argraffu
a ddefnyddir yn ystod ymgyrch etholiadol yr ymgeisydd, heblaw lle:
- cafodd y cyfarpar ei gaffael gan yr ymgeisydd yn bennaf at ddefnydd personol yr ymgeisydd ei hun
- mae'n cael ei ddarparu gan unigolyn arall, cafodd y cyfarpar ei gaffael gan yr unigolyn hwnnw at ei ddefnydd personol ei hun ac ni chodir tâl ar yr ymgeisydd i'w ddefnyddio
Lle mae papur, cyfarpar llungopïo neu argraffydd yn cael ei brynu neu ei logi i'w ddefnyddio'n bennaf yn ystod yr ymgyrch, mae'n rhaid rhoi gwybod am y gost lawn.
Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar arall mewn perthynas â:
- pharatoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu'r deunydd digymell
- lledaenu'r deunydd digymell drwy ei ddosbarthu neu fel arall
Mae'n cynnwys cost bwyd neu lety i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaeth mewn cysylltiad â deunydd digymell i'r ymgeisydd y mae'r ymgeisydd, plaid yr ymgeisydd neu drydydd parti arall yn talu amdano neu'n ei ad-dalu.
Costau sydd wedi'u heithrio
Nid yw'n cynnwys unrhyw gost sy'n gysylltiedig â chael data fel y'i caniateir drwy statud neu reoliad.
Example
Er enghraifft, mae gan ymgeiswyr yr hawl i gael copi o'r gofrestr etholiadol.
Costau cludiant
Mae'n cynnwys cost cludo ar gyfer yr asiant lle mae'r ymgeisydd, plaid yr ymgeisydd neu drydydd parti arall yn ei ad-dalu.
Cludo gwirfoddolwyr ac ymgyrchwyr
Mae'n cynnwys cost cludo:
- gwirfoddolwyr
- aelodau o'r blaid, gan gynnwys aelodau o staff
- ymgyrchwyr eraill
o gwmpas yr ardal etholiadol, neu i'r ardal etholiadol ac oddi yno, gan gynnwys cost:
- tocynnau ar gyfer unrhyw gludiant, gan gynnwys unrhyw ffi archebu
- llogi unrhyw gludiant
- tanwydd neu drydan a brynir ar gyfer unrhyw gludiant
- parcio ar gyfer unrhyw gludiant
lle maent yn ymgyrchu ar ran yr ymgeisydd.
Mae'n cynnwys cost cludiant y telir amdano gan unrhyw unigolyn, plaid wleidyddol neu drydydd parti arall ac y bydd yr ymgeisydd, y blaid wleidyddol neu drydydd parti yn ei thalu neu'n ei had-dalu, lle roedd yr unigolion a oedd yn cael eu cludo yn ymgyrchu neu'n ymgymryd â gweithgareddau a oedd yn gysylltiedig â'r ymgyrch ar ran yr ymgeisydd.
Cludiant i ddigwyddiad
Mae'n cynnwys costau cludo'r rhai sy'n mynd i ddigwyddiad sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd lle mae'r ymgeisydd, plaid yr ymgeisydd neu drydydd parti arall yn ad-dalu'r gost honno neu'n talu'r gost honno.
Cludiant sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd
Mae'n cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw gerbyd neu fath o gludiant sy'n arddangos deunydd sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd, gan gynnwys unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â:
- dylunio cynllun a'i osod ar y cerbyd neu'r math o gludiant
- gyrru neu symud cerbyd o amgylch ardal etholiadol benodol
- ffioedd parcio lle defnyddir cerbyd i arddangos deunydd
Costau sydd wedi'u heithrio
Mae'r costau canlynol wedi'u heithrio:
- lle telir y gost gan yr unigolyn a ddefnyddiodd y cludiant ac na chaiff y taliad hwnnw ei ad-dalu
- lle darperir y cludiant yn ddi-dâl gan unrhyw unigolyn arall os cafodd y dull cludo ei gaffael gan y person hwnnw yn bennaf at ei ddefnydd personol ei hun
Mae 'treuliau personol' yn cynnwys treuliau teithio rhesymol yr ymgeisydd mewn perthynas â'r etholiad.
Lle bydd cost cludiant ar draul bersonol yr ymgeisydd, ni fydd hyn yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant. Rhaid ei chofnodi fel traul bersonol yn y ffurflen gwariant. Ceir rhagor o wybodaeth yn Treuliau personol.
Cyfarfodydd cyhoeddus o unrhyw fath
Gwasanaethau, safleoedd, cyfleusterau neu gyfarpar a ddarperir gan eraill
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safle neu gyfleusterau
- cyfarpar
a ddefnyddir i:
- hyrwyddo cyfarfod cyhoeddus
- cynnal cyfarfod cyhoeddus i hyrwyddo'r ymgeisydd
- ffrydio cyfarfod cyhoeddus yn fyw neu ei ddarlledu drwy unrhyw ddull
Costau eraill o dan gyfarfodydd cyhoeddus
Mae'n cynnwys cost hyrwyddo neu hysbysebu'r digwyddiad, drwy unrhyw ddull.
Mae'n cynnwys cost digwyddiad sy'n cael ei gynnal drwy ddolen o unrhyw fath neu sy'n cael ei ffrydio'n fyw neu ei ddarlledu, lle mae'r digwyddiad hwnnw yn agored i'w weld gan ddefnyddwyr sianel neu lwyfan neu drwy ddull arall.
Mae'n cynnwys cost darparu unrhyw nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau yn y digwyddiad, er enghraifft cost llogi seddi.
Mae'n cynnwys cost prynu unrhyw gyfarpar mewn perthynas â:
- cynnal cyfarfod cyhoeddus i hyrwyddo'r ymgeisydd
- ffrydio cyfarfod cyhoeddus yn fyw neu ei ddarlledu drwy unrhyw ddull
Mae'n cynnwys cost llety a threuliau eraill i unrhyw un sy'n bresennol lle mae'r ymgeisydd, plaid yr ymgeisydd neu drydydd parti arall yn ad-dalu'r gost honno neu'n talu'r gost honno.
Costau nad oes angen i chi eu cynnwys
Nid oes angen i chi gynnwys:
- digwyddiadau a gynhelir i aelodau'ch plaid yn unig
- digwyddiadau a gynhelir yn bennaf at ddibenion ac eithrio'ch ymgyrch, lle mae'ch presenoldeb yn gysylltiedig – er enghraifft, digwyddiad cymdeithasol blynyddol lle rydych yn dweud ychydig o eiriau
Dylech wneud asesiad gonest yn seiliedig ar y ffeithiau ynghylch a yw'r cyfarfod wir yn cael ei gynnal at ddibenion eraill.
Efallai y cewch eich gwahodd i hustyngau a gynhelir gan sefydliadau lleol neu grwpiau cymunedol hefyd. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar wahân ar hustyngau sy'n esbonio pryd y bydd y rheolau ynglŷn â gwariant yn gymwys i'r digwyddiadau hyn o bosibl.
Costau staff
Costau asiantiaid
Mae hyn yn cynnwys unrhyw gydnabyddiaeth, gan gynnwys lwfansau, a delir i'r asiant.
Staff a gyflogir gan blaid wleidyddol
Mae'n cynnwys cost unrhyw aelod o staff plaid wleidyddol sy'n
- darparu gwasanaethau i'r ymgeisydd sydd at ddibenion ethol yr ymgeisydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir, neu
- darparu gwasanaethau i'r ymgeisydd sydd at ddiben ethol yr ymgeisydd cyn y cyfnod hwnnw a ddefnyddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir
Examples
Enghraifft A
Mae aelod o staff plaid wleidyddol yn treulio ei oriau gwaith â thâl yn cydlynu gwaith ymgyrchu gwirfoddolwyr ar gyfer ymgeisydd mewn ardal etholiadol benodol. Ystyrir bod ei amser gwaith at ddibenion etholiad yr ymgeisydd.
Os caiff ei ddarparu i'r ymgeisydd a'i ddefnyddio gan neu ar ran yr ymgeisydd, yna rhaid i gostau talu'r aelod hwnnw o staff ymddangos ar ffurflen yr ymgeisydd fel gwariant tybiannol (os yw'r gwerth yn fwy na £50).
Os na chaiff ei ddarparu i'r ymgeisydd ac na wneir defnydd ohono gan neu ar ran yr ymgeisydd, bydd yn cyfrif fel ymgyrchu lleol ar gyfer yr ymgeisydd.
Ceir rhagor o wybodaeth am y mathau hyn o wariant yn Gwariant tybiannol ac Ymgyrchu lleol.
Enghraifft B
Mae aelod o staff plaid wleidyddol yn treulio ei oriau gwaith â thâl ar nifer o weithgareddau ymgyrchu gwahanol, gan gynnwys hyrwyddo'r blaid yn gyffredinol a hyrwyddo ymgeisydd penodol. Ystyrir bod y gyfran o'i amser gwaith a dreulir yn hyrwyddo'r ymgeisydd at ddibenion ethol/etholiad yr ymgeisydd hwnnw.
Os caiff ei ddarparu i'r ymgeisydd a'i ddefnyddio gan neu ar ran yr ymgeisydd, yna rhaid i'r gyfran honno o gostau talu'r aelod hwnnw o staff ymddangos yn ffurflen yr ymgeisydd fel gwariant tybiannol.
Os na chaiff ei ddarparu i'r ymgeisydd ac na wneir defnydd ohono gan neu ar ran yr ymgeisydd, bydd yn cyfrif fel ymgyrchu lleol ar gyfer yr ymgeisydd.
Enghraifft C
Mae nifer o ymgeiswyr yn bresennol mewn sesiwn friffio ar addewidion maniffesto'r blaid a gynhelir gan staff y blaid a delir. Gan fod y pwyslais ar addewidion maniffesto'r blaid genedlaethol, nid ystyrir bod y sesiwn friffio at ddibenion eu hethol fel ymgeiswyr.
Felly nid oes angen cynnwys gwariant yn ffurflenni'r ymgeisydd.
N/A
Staff sy'n monitro cyfryngau cymdeithasol a gweithgareddau eraill sy'n ymwneud â'r wasg
Mae'n cynnwys cost staff sy'n ymwneud â rheoli a monitro'r cyfryngau cymdeithasol a chael data er mwyn targedu gweithgarwch ymgyrchu. Mae hyn yn cynnwys cyflogi staff i ddadansoddi a didoli'r data a chost staff i fonitro unrhyw fath o gyfrwng cymdeithasol neu gyfrif arall, ac i gyhoeddi ar gyfryngau o'r fath neu ymateb iddynt.
Mae'n cynnwys cost staff sy'n ymwneud â rheoli gweithgareddau gyda'r wasg o unrhyw fath, gan gynnwys staff sy'n cydgysylltu ag unrhyw fath o weithgarwch yn y cyfryngau drwy unrhyw ddull, neu ei reoli neu ei fonitro mewn cysylltiad ag ethol yr ymgeisydd.
Unrhyw un arall lle defnyddir ei wasanaethau
Mae'n cynnwys cost unrhyw un arall lle defnyddir ei wasanaethau mewn cysylltiad ag ethol yr ymgeisydd.
Amser gwirfoddolwyr
Nid yw'n cynnwys cost gwasanaethau asiant nac unrhyw berson arall sy'n gwirfoddoli.
Nid oes angen i chi ychwaith gynnwys costau teithio, bwyd na llety pobl tra byddant yn ymgyrchu ar eich rhan, os byddant yn talu'r costau eu hunain.
Fodd bynnag, bydd unrhyw dreuliau rydych yn eu talu, neu'n eu had-dalu, fel cludiant neu lety, yn cyfrif fel gwariant.
Weithiau, efallai na fyddwch yn siŵr a yw rhywun sy'n gweithio dros eich ymgyrch yn wirfoddolwr neu a ddylech gyfrif ei amser tuag at eich terfyn gwariant. Er enghraifft, efallai fod yr unigolyn yn cynnig gwasanaethau tebyg yn broffesiynol i'r rhai y mae'n eu cyflawni i chi.
Er enghraifft, bydd yn wirfoddolwr:
- os na fydd ei gyflogwr yn talu am yr amser a dreulir ganddo ar eich ymgyrch
- os bydd yn defnyddio ei wyliau blynyddol
- os bydd yn hunangyflogedig, ni fyddwch yn elwa ar unrhyw yswiriant proffesiynol sydd ganddo
Os bydd yn defnyddio cyfarpar neu ddeunyddiau arbenigol, mae'n debygol y bydd hyn yn wariant tybiannol.
Costau llety a chostau gweinyddol
Swyddfa a chyfarpar
Mae hyn yn cynnwys cost rhentu swyddfa, gan gynnwys ardrethi busnes, ar gyfer ymgyrch yr ymgeisydd, boed yn swyddfa a gaiff ei rhentu o'r newydd neu o dan gytundeb rhent presennol, ac felly eir i gostau tybiannol lle darperir y fath swyddfa am ddim neu am bris gostyngol gan blaid wleidyddol neu drydydd parti.
Mae'n cynnwys cost swyddfa lle mae'r swyddfa honno yn cael ei rhannu. Mae'n rhaid dosrannu'r gost ac mae'n rhaid i swm, sy'n adlewyrchu'n rhesymol y defnydd gan yr ymgeisydd yn ystod yr ymgyrch, gael ei gynnwys yn y ffurflen i'r ymgeisydd. Bydd y swm hwn yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd.
Mae'n cynnwys cost prynu, defnyddio neu logi unrhyw gyfarpar swyddfa cyffredinol ar gyfer ymgyrch yr ymgeisydd, ac felly eir i gostau tybiannol lle darperir y fath gyfarpar am ddim neu am bris gostyngol gan blaid wleidyddol neu drydydd parti.
Example
Er enghraifft, desgiau, cadeiriau a chyfrifiaduron a ddarperir gan blaid i'w defnyddio yn ymgyrch yr ymgeisydd.
N/A
Mae'n cynnwys cost prynu, llogi neu ddefnyddio:
- ffonau symudol neu ddyfeisiau llaw eraill
- y contractau cysylltiedig
i'w defnyddio yn yr ymgyrch gan yr ymgeisydd, asiant ac unrhyw staff neu wirfoddolwyr, lle mae'r ymgeisydd, plaid yr ymgeisydd neu drydydd parti sy'n talu am y cyfarpar hwnnw a/neu gostau cysylltiedig heblaw:
- lle prynodd yr ymgeisydd y cyfarpar yn bennaf at ei ddefnydd personol ei hun ac nad yw'r costau uwchlaw'r hyn yr eid iddynt fel arfer y tu allan i gyfnod etholiadol
- mae'n cael ei ddarparu gan unigolyn arall, cafodd y cyfarpar ei gaffael gan yr unigolyn hwnnw at ei ddefnydd personol ei hun, nid yw'r costau uwchlaw'r hyn yr eid iddynt fel arfer y tu allan i gyfnod etholiadol, ac ni chodir tâl ar yr ymgeisydd i'w ddefnyddio
Examples
Enghraifft A
Prynir cerdyn SIM â lwfans data a galwadau i ymgeisydd ar gyfer ei ymgyrch, byddai hyn yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd
Enghraifft B
Defnyddir ffôn symudol gwirfoddolwr i gydlynu gwirfoddolwyr eraill, ac y caiff cyfran o daliadau'r contract ei had-dalu gan yr ymgeisydd i'r gwirfoddolwr, byddai hyn yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd
Enghraifft C
Bydd yr ymgeisydd yn defnyddio ei ffôn ei hun a brynwyd ganddo at ddibenion personol, ac nad eir i unrhyw gostau pellach y tu hwnt i gostau misol arferol galwadau neu ddata. Nid yw hyn yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd
N/A
Gorbenion
Mae'n cynnwys cost:
- trydan
- llinellau ffôn a mynediad i'r rhyngrwyd
i'w defnyddio yn ystod ymgyrch yr ymgeisydd.
Mae'n cynnwys cost tanysgrifio ar gyfer gwasanaethau monitro'r cyfryngau a gwasanaethau datganiadau i'r wasg a gwifren y wasg.
Costau sy'n gysylltiedig ag asiantiaid, gwirfoddolwyr a chyflogeion
Mae'n cynnwys cost llety i'r asiant, lle mae'n cael ei had-dalu gan yr ymgeisydd, plaid yr ymgeisydd neu drydydd parti arall.
Mae'n cynnwys cost gwirfoddolwyr, cyflogeion a chyflogeion plaid lle maent yn ymgyrchu dros yr ymgeisydd mewn ardal etholiadol benodol, gan gynnwys eu costau llety os ydynt yn cael eu had-dalu gan yr ymgeisydd, plaid yr ymgeisydd neu drydydd parti arall.
Costau nad ydynt wedi'u cynnwys
Nid yw'n cynnwys cost gofal plant i ymgeisydd na'i asiant na gwirfoddolwr.
Nid yw'n cynnwys cost dŵr, nwy na'r dreth gyngor.
Nid yw'n cynnwys llety a ddarperir gan unrhyw unigolyn arall sy'n unig breswylfa neu'n brif breswylfa'r unigolyn os caiff ei ddarparu'n ddi-dâl.
Mae 'treuliau personol' yn cynnwys costau llety rhesymol yr ymgeisydd mewn perthynas â'r etholiad.
Lle bydd cost llety ar draul bersonol yr ymgeisydd, ni fydd hyn yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant. Rhaid ei chofnodi fel traul bersonol yn y ffurflen gwariant. Ceir rhagor o wybodaeth yn Treuliau personol.
Beth nad yw'n cyfrif fel gwariant ymgeisydd?
- talu eich ernes etholiadol1
- costau y gellir eu priodoli'n rhesymol i anabledd yr ymgeisydd2
- unrhyw beth (ac eithrio hysbysebion) sy'n ymddangos mewn papur newydd, cyfnodolyn neu ar sianel ddarlledu drwyddedig3
- gwariant ar eich anerchiad etholiadol swyddogol4
- cyfleusterau a ddefnyddiwch am fod gennych hawl i wneud hynny fel ymgeisydd, megis ystafell gyhoeddus ar gyfer cyfarfod5
- amser gwirfoddolwyr gan gynnwys amser a dreulir gan eich staff nad ydych yn eu talu amdano6
- y defnydd o brif gartref rhywun, a ddarperir am ddim7
- y defnydd o gar personol rhywun neu ddull cludiant arall, a gafaelwyd yn bennaf at ddefnydd personol yr unigolyn hwnnw ac a ddarperir am ddim8
- y defnydd o gyfarpar cyfrifiadurol neu argraffu rhywun, a gafaelwyd yn bennaf at ddefnydd personol y person hwnnw ac a ddarperir am ddim9
- treuliau rhesymol y gellir eu priodoli i ddiogelu pobl neu eiddo, er enghraifft llogi diogelwch, defnyddio Blwch Swyddfa’r Post i osgoi hysbysebu cyfeiriad cartref neu swyddfa ar argraffnodau, neu brynu meddalwedd gwrthfeirws ar gyfer diogelu cyfrifiaduron ymgyrchu10
- 1. Atodlen 7, paragraff 7, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 7, paragraff 7A, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 7, paragraff 8, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr H ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 7, paragraff 9, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 7, paragraff 10, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 7, paragraff 11, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 7, paragraff 12, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 7, paragraff 13, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Atodlen 7, paragraff 14, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Atodlen 7, paragraff 14A, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 10
Anerchiad etholiadol swyddogol
Gall ymgeiswyr roi anerchiad etholiadol swyddogol ar wefan Swyddfa'r Cabinet. Nid yw gwariant ar baratoi a chyhoeddi'r anerchiad etholiadol yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant ac ni ddylai ymddangos ar eich ffurflen gwariant.1
Ceir rhagor o wybodaeth am anerchiadau etholiadol swyddogol yn ein taflen ffeithiau ar anerchiadau etholiadol.
- 1. Atodllen 7, para. 9 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Treuliau personol
Mae treuliau personol yn cynnwys treuliau teithio a byw rhesymol (fel costau gwesty) yr ymgeisydd. 1 Nid yw treuliau personol yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant, ond rhaid i chi roi gwybod amdanynt yn eich ffurflen gwariant. 2
Gall treuliau personol gynnwys llogi car i'r ymgeisydd os nad yw'r ymgeisydd yn berchen ar gar eisoes, neu os nad yw ei gar yn addas ar gyfer ymgyrchu. Er enghraifft, os ydych yn sefyll mewn ardal etholaethol wledig, efallai y bydd yn rhesymol llogi cerbyd gyriant pedair olwyn i gyrraedd ardaloedd anghysbell.
Gall ymgeisydd dalu hyd at £5,000 o ran treuliau personol. Rhaid i'r asiant dalu unrhyw beth uwchlaw'r swm hwn. 3
Rhaid i ymgeiswyr ddarparu datganiad ysgrifenedig o'u treuliau personol i'w hasiant o fewn 21 diwrnod i ddatgan y canlyniad. 4
- 1. Erthygl 72, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 35(3) ac Erthygl 40, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 32(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 32(3) ac Erthygl 37(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
Eitemau nas defnyddiwyd ac eitemau a ailddefnyddiwyd
Eitemau nas defnyddiwyd ac eitemau a ailddefnyddiwyd 1
Pan fyddwch yn defnyddio eitem am y tro cyntaf, rhaid i chi gynnwys y gost.
Eitemau na chânt eu defnyddio
Nid oes angen i chi roi gwybod am wariant ar eitemau na chânt eu defnyddio (er enghraifft, taflenni na chânt eu dosbarthu) ac ni fydd yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant.
Dylech gadw'r deunydd na chaiff ei ddefnyddio neu ddangos tystiolaeth o'i ddinistrio.
Os byddwch yn defnyddio'r eitemau dros ben mewn etholiad arall, rhaid i chi roi gwybod am y gwariant ar yr eitemau hynny yn yr etholiad hwnnw.
Ailddefnyddio eitemau
Pan fyddwch wedi talu am eitem, rhaid i chi roi gwybod am y gost lawn pan gaiff ei defnyddio gyntaf, hyd yn oed os byddwch yn bwriadu ei hailddefnyddio mewn etholiad arall yn y dyfodol.
Os byddwch yn gwneud hynny, nid oes angen i chi roi gwybod am y taliad gwreiddiol eto. Efallai y bydd rhai costau cysylltiedig y mae'n rhaid rhoi gwybod amdanynt yn yr etholiad hwnnw, er enghraifft storio neu lanhau.
- 1. Adran 90ZA(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Eitemau a roddir am ddim neu am bris gostyngol a ‘gwariant tybiannol’
Weithiau, efallai y byddwch am ddefnyddio rhywbeth yn eich ymgyrch na fu'n rhaid i chi wario arian arno, am ei fod wedi cael ei roi i chi fel rhodd mewn da, am ddim neu am bris gostyngol.
Ymysg yr enghreifftiau posibl o rodd mewn da mae:
- gofod mewn neuadd ar gyfer digwyddiad
- taflenni
- rhoi bwyd a thrafnidiaeth i wirfoddolwyr
Pan fyddwch yn defnyddio rhywbeth a ddarparwyd i chi fel rhodd mewn da, bydd gwerth llawn yr hyn y gwnaethoch ei ddefnyddio yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant a rhaid rhoi gwybod amdano. 1
Gelwir hyn yn ‘wariant tybiannol’.
Rhoddion mewn da a drosglwyddwyd neu a ddarparwyd i chi eu defnyddio neu er budd i chi
O dan y gyfraith, defnyddir dau derm gwahanol wrth asesu gwerth y rhoddion mewn da hyn.
Caiff eitemau neu nwyddau eu trosglwyddo i'r ymgeisydd pan roddir perchenogaeth i'r ymgeisydd. Os caiff eitemau neu nwyddau eu trosglwyddo i'r ymgeisydd am ddim neu gyda gostyngiad anfasnachol o fwy na 10%, rhaid i'r rhain gael eu prisio yn ôl eu ‘gwerth marchnadol’. 2 Mae'r gwerth marchnadol yn golygu'r pris y gellid disgwyl yn rhesymol ei dalu am yr eitem neu'r nwyddau pe bai/baent ar werth ar y farchnad agored. 3
I'r gwrthwyneb, caiff eitemau, nwyddau neu wasanaethau eu darparu i'w defnyddio gan yr ymgeisydd neu er budd iddo os na fydd newid mewn perchnogaeth. Yn hytrach, os caiff eitem, nwyddau neu wasanaethau eu darparu i'w defnyddio gan yr ymgeisydd neu er budd iddo am ddim neu gyda gostyngiad anfasnachol o fwy na 10%, rhaid i'r rhain gael eu prisio yn ôl eu ‘cyfradd fasnachol'. 4 Nid oes unrhyw ddiffiniad penodol o gyfradd fasnachol o dan y gyfraith, ond gall hyn olygu'r cyfraddau cyfartalog ar gyfer yr eitem, nwyddau neu wasanaeth a gynigir gan ddarparwyr masnachol.
Yn y canllawiau hyn rydym yn defnyddio'r term ‘gwerth masnachol’ fel term cyffredinol ar gyfer gwerth marchnadol a chyfradd fasnachol.
Beth sy'n cyfrif fel gwariant tybiannol?
Mae'n rhaid bodloni pum prawf er mwyn i eitem gyfrif fel gwariant tybiannol
- caiff ei throsglwyddo i chi neu ei darparu i'w defnyddio gennych neu er budd i chi
- caiff ei throsglwyddo neu ei darparu am ddim neu am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10% 5
- mae'r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng gwerth masnachol yr hyn a ddarperir a'r hyn a dalwch dros £50 6
- rydych yn ei defnyddio yn eich ymgyrch (neu mae rhywun yn ei defnyddio ar eich rhan) 7
- byddai wedi bod yn dreuliau etholiad pe byddech chi wedi mynd i'r gwariant. 8 Ceir gwybodaeth am y categorïau o wariant ymgeisydd yn Pa weithgareddau sy'n cyfrif fel gwariant ymgeisydd?
Mae'r tudalennau canlynol yn rhoi rhagor o wybodaeth ac enghreifftiau sy'n nodi'r profion hyn.
- 1. Erthygl 51(3) a (4), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 51(1)(a)(i), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 51(6), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 51(1)(a)(ii), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl Adran 51(1)(a), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 51(2), (3) a (4), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Erthygl 51(1)(b), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Erthygl 51(1)(b), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 8
Wedi'u trosglwyddo neu eu darparu i'w defnyddio gan yr ymgeisydd neu er budd iddo
Rhaid i'r eitem gael ei throsglwyddo neu ei darparu i'r ymgeisydd er mwyn iddi gyfrif fel gwariant tybiannol. 1
Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw wariant tybiannol hefyd yn rhodd i'r ymgeisydd a rhaid rhoi gwybod amdano ar wahân yn yr adran rhoddion ar y ffurflen gwariant. Ceir rhagor o wybodaeth am y rheolau ynglŷn â rhoddion yn Rhoddion ymgeisydd.
Example
Enghraifft A
Mae plaid yn anfon taflenni at un o'i hymgeiswyr i'w defnyddio yn ei ymgyrch – felly mae'r taflenni wedi cael eu trosglwyddo i'r ymgeisydd.
Os bydd yr ymgeisydd yn dosbarthu'r taflenni, bydd wedi eu defnyddio yn ei ymgyrch. Rhaid cofnodi gwerth y taflenni (os yw dros £50) fel gwariant tybiannol.
N/A
Os na chaiff eitem sy'n hyrwyddo eich etholiad ei throsglwyddo neu ei darparu i chi, yna mae'n debygol y bydd yn ymgyrchu lleol gan bwy bynnag a gyflawnodd y gweithgaredd.
Example
Enghraifft B
Mae plaid yn anfon taflenni sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd yn uniongyrchol at bleidleiswyr. Mae'n rhoi gwybod i'r ymgeisydd y bydd yn gwneud hynny ymlaen llaw.
Yn yr enghraifft hon, nid yw wedi rhoi unrhyw beth i'r ymgeisydd – y cyfan y mae wedi'i wneud yw dweud wrth yr ymgeisydd yr hyn y mae am ei wneud. Mae wedi ymgyrchu dros yr ymgeisydd ei hun.
Er y gallai'r ymgeisydd gael budd o'r taflenni, nid yw'r blaid wedi rhoi rhywbeth i'r ymgeisydd y gall yr ymgeisydd benderfynu a yw am ei ddefnyddio ai peidio a sut.
Nid yw hyn yn wariant tybiannol. Ymgyrchu lleol ar gyfer yr ymgeisydd yw hyn. Ceir rhagor o wybodaeth yn Ymgyrchu lleol.
- 1. Erthygl 51(1)(a), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Gostyngiadau masnachol ac anfasnachol
Gostyngiadau masnachol yw'r rhai sydd ar gael i gwsmeriaid tebyg eraill, fel gostyngiadau ar gyfer swmp-archebion neu ostyngiadau tymhorol. Ni chaiff eitemau, nwyddau na gwasanaethau a brynir â gostyngiadau masnachol eu trin fel gwariant tybiannol.
Gostyngiadau anfasnachol yw gostyngiadau arbennig a roddir i chi gan gyflenwyr. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyfradd arbennig nad yw ar gael ar y farchnad agored. Mae'r rhain yn wahanol i ostyngiadau masnachol sydd ar gael i bob cwsmer, megis gostyngiadau ar gyfer swmp-archebion neu ostyngiadau tymhorol.
Example
Er enghraifft, bydd argraffwr yn rhoi dyfynbris o £120 i ymgeisydd am argraffu taflenni i hyrwyddo ymgyrch yr ymgeisydd. Mae'r argraffwr hefyd yn cynnig gostyngiad o 5% i'r ymgeisydd ar yr archeb am ei fod yn hoffi polisïau'r ymgeisydd. Mae'r ymgeisydd yn talu am y taflenni, yn derbyn y gostyngiad ac yn trefnu i'r taflenni gael eu dosbarthu i bleidleiswyr.
Er bod y taflenni wedi cael eu darparu i'w defnyddio gan yr ymgeisydd am ostyngiad anfasnachol, nid yw'r gostyngiad yn fwy na 10%. Nid yw hyn yn wariant tybiannol. Rhaid i'r ymgeisydd roi gwybod am y £116 a dalwyd am y taflenni fel taliad arferol a wnaed gan yr asiant.
Cael eu defnyddio gan neu ar ran yr ymgeisydd
Os caiff rhodd mewn da ei throsglwyddo neu ei darparu i'r ymgeisydd, dim ond os bydd yr ymgeisydd neu rywun sy'n gweithredu ar ei ran 1 yn ei defnyddio yn ei ymgyrch y bydd yn cyfrif fel gwariant tybiannol.
Os bydd gweithgaredd ymgyrchu i gefnogi'r ymgeisydd yn cael ei gyflawni gan rywun arall, ni fydd yn ddigon bod yr ymgeisydd wedi cael budd o'r gweithgaredd hwnnw, wedi cael gwybod amdano, na hyd yn oed wedi diolch i'r person a'i cyflawnodd.
Yr unig adeg y gall person wneud defnydd o rywbeth ar ran yr ymgeisydd yw os bydd y defnydd hwnnw wedi cael ei gyfarwyddo, ei awdurdodi neu ei annog gan yr ymgeisydd neu ei asiant. 2
Ystyr ‘defnyddio'r’ rhodd mewn da yw bod rhyw fath o ymwneud cadarnhaol ar ran yr ymgeisydd (neu rywun ar ei ran) i ddefnyddio'r nwyddau neu'r gwasanaethau a ddarperir.
Gall ‘defnyddio’ gynnwys:
- cyfrannu'n bersonol - er enghraifft, bydd yr ymgeisydd yn darparu cynnwys ar gyfer taflenni a gaiff eu cynhyrchu a'u dosbarthu gan y blaid, felly yn defnyddio'r gwasanaeth a ddarperir gan y blaid
- trefnu bod rhywun arall yn cyfrannu ar eich rhan – er enghraifft gofyn i wirfoddolwyr lleol y blaid helpu i ddosbarthu taflenni a ddarperir gan eu plaid
Example
Er enghraifft, mae plaid yn anfon taflenni at un o'i hymgeiswyr i'w defnyddio yn ei ymgyrch, ond nid yw'r ymgeisydd na'i asiant yn dosbarthu'r taflenni.
Yn yr enghraifft hon, nid yw'r ymgeisydd, na rhywun ar ei ran, wedi defnyddio'r taflenni yn ei ymgyrch. Nid yw hyn yn wariant tybiannol. Ni ddylid cynnwys y costau ar gyfer y taflenni ar ffurflen yr ymgeisydd gan na chafodd y taflenni eu defnyddio.
- 1. Erthygl 51(1)(b), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 51(1A), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
Prisio gwariant tybiannol
Mae gwariant tybiannol yn dechrau pan gaiff rhywbeth o werth ei ddarparu. Pan fydd y gwerth dros £50, mae hyn hefyd yn rhodd. 1 Dylech weithio allan werth yr hyn a ddarparwyd fel gwariant tybiannol yn yr un ffordd ag y byddwch yn gweithio allan werth rhodd anariannol.
Ceir rhagor o ganllawiau ar brisio gwariant tybiannol a rhoddion yn Sut rydych yn prisio rhodd?
Prisio staff ar secondiad
Os bydd cyflogwr yn secondio aelod o staff ar gyfer eich ymgyrch, rhaid i chi gofnodi ei gyflog gros ac unrhyw lwfansau ychwanegol fel gwariant tybiannol.
Nid oes angen i chi gynnwys cyfraniadau yswiriant gwladol na phensiwn y cyflogwr. Bydd angen i chi gynnwys gwerth unrhyw dreuliau, fel costau teithio neu fwyd, rydych chi neu'r cyflogwr yn eu had-dalu.
- 1. Atodlen 5, paragraff 2(1)(e) a pharagraff 4(2), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Enghreifftiau o wariant tybiannol
Mae'n rhaid bodloni pum prawf er mwyn i eitem gyfrif fel gwariant tybiannol
- caiff ei throsglwyddo i chi neu ei darparu i'w defnyddio gennych neu er budd i chi
- caiff ei throsglwyddo neu ei darparu am ddim neu am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10% 1
- mae'r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng gwerth masnachol yr hyn a ddarperir a'r hyn a dalwch dros £50 2
- rydych yn ei defnyddio yn eich ymgyrch (neu mae rhywun yn ei defnyddio ar eich rhan) 3
- byddai wedi bod yn dreuliau etholiad pe byddech chi wedi mynd i'r gwariant. 4
Ceir gwybodaeth am y categorïau o wariant ymgeisydd yn Pa weithgareddau sy'n cyfrif fel gwariant ymgeisydd?
Example
Enghraifft A
Mae plaid yn anfon gwerth £100 o daflenni at un o'i hymgeiswyr i'w defnyddio yn ei ymgyrch. Mae'r ymgeisydd yn derbyn y taflenni ac yn trefnu iddynt gael eu dosbarthu i bleidleiswyr.
Mae'r prawf cyntaf a'r ail brawf wedi'u bodloni am fod y taflenni wedi cael eu darparu i'r ymgeisydd eu defnyddio am ddim.
Mae'r trydydd prawf hefyd wedi cael ei fodloni am fod y gwahaniaeth mewn gwerth rhwng gwerth masnachol y taflenni (£100) a'r hyn y mae'r ymgeisydd yn ei dalu (£0) yn fwy na £50.
Mae'r pedwerydd prawf wedi'i fodloni am fod yr ymgeisydd wedi trefnu i'r taflenni gael eu defnyddio ar ei
ran drwy drefnu iddynt gael eu dosbarthu.
Mae'r pumed prawf wedi'i fodloni am fod deunydd digymell i etholwyr yn cyfrif fel traul etholiad.
Am fod yr holl brofion wedi'u bodloni, mae hyn yn enghraifft o wariant tybiannol. Rhaid i werth llawn y taflenni a ddarperir i'r ymgeisydd gael ei gofnodi fel gwariant tybiannol.
Gwnaed rhodd i'r ymgeisydd hefyd am fod gwerth y gwariant tybiannol dros £50.
Enghraifft B
Mae argraffwr yn rhoi dyfynbris o £200 i ymgeisydd am argraffu taflenni i hyrwyddo ymgyrch yr ymgeisydd. Mae'r argraffwr hefyd yn cynnig gostyngiad anfasnachol o 50% i'r ymgeisydd ar yr archeb. Mae'r ymgeisydd yn talu am y taflenni, yn derbyn y gostyngiad ac yn trefnu i'r taflenni gael eu dosbarthu i bleidleiswyr.
Mae'r prawf cyntaf a'r ail brawf wedi'u bodloni am fod y taflenni wedi cael eu darparu i'r ymgeisydd eu defnyddio am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%.
Mae'r trydydd prawf hefyd wedi cael ei fodloni am fod y gwahaniaeth mewn gwerth rhwng gwerth masnachol y taflenni (£200) a'r hyn y mae'r ymgeisydd yn ei dalu (£100) yn fwy na £50.
Mae'r pedwerydd prawf wedi'i fodloni am fod yr ymgeisydd wedi trefnu i'r taflenni gael eu defnyddio ar
ei ran drwy drefnu iddynt gael eu dosbarthu.
Mae'r pumed prawf wedi'i fodloni am fod deunydd digymell i etholwyr yn cyfrif fel traul etholiad.
Am fod yr holl brofion wedi'u bodloni, mae hyn yn enghraifft o wariant tybiannol. Rhaid i'r ymgeisydd gofnodi'r swm a dalwyd ganddo am y taflenni fel taliad arferol a dalwyd gan yr asiant.
Rhaid i werth llawn y taflenni a ddarperir i'r ymgeisydd drwy'r pris gostyngol gael ei gofnodi fel gwariant tybiannol.
Gwnaed rhodd i'r ymgeisydd hefyd am fod gwerth y gwariant tybiannol dros £50
- 1. Erthygl 51(1)(a), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 51(2), (3) a (4), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 51(1)(b), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 51(1)(b), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
Ymgyrchu lleol
Weithiau, bydd pobl yn gwario arian er mwyn hyrwyddo ymgeisydd heb ddarparu na throsglwyddo rhywbeth i'r ymgeisydd ei ddefnyddio neu er budd iddo yn ystod yr ymgyrch. Yn yr un modd, gall pobl wario arian i feirniadu ymgeisydd neu i annog pleidleiswyr i beidio â'i gefnogi.
Gelwir sefydliadau neu unigolion, nad ydynt yn sefyll fel ymgeiswyr yn yr etholiadau, ond sy'n ymgyrchu ar gyfer neu yn erbyn ymgeisydd, yn ‘ymgyrchwyr lleol nad ydynt yn bleidiau’.
Gall ymgyrchwyr lleol nad ydynt yn bleidiau wario hyd at 'swm a ganiateir' mewn ardal yr heddlu yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar ymgyrchu ar gyfer neu yn erbyn ymgeisydd. 1 Mae gan bob ardal yr heddlu ei therfyn gwariant ei hun. Daw'n gymwys pan fydd yr ymgeisydd yn ymgeisydd y swyddogol (gweler Pryd y bydd rhywun yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol?)
Mae'r terfynau fel a ganlyn: 2
Ardal yr heddlu | Terfyn gwariant | Ardal yr heddlu | Terfyn gwariant |
---|---|---|---|
Avon a Gwlad yr Haf | £6,278 | Norfolk | £3,392 |
Swydd Bedford | £2,347 | Gogledd Cymru | £2,674 |
Swydd Gaergrawnt | £3,055 | Gogledd Swydd Efrog | £3,142 |
Swydd Gaer | £4,015 | Swydd Northampton | £2,686 |
Cleveland | £2,155 | Northumbria | £5,507 |
Cumbria | £2,024 | Swydd Nottingham | £4,116 |
Swydd Derby | £3,993 | De Cymru | £4,904 |
Dyfnaint a Chernyw | £6,573 | De Swydd Efrog | £5,030 |
Dorset | £3,003 | Swydd Stafford | £4,314 |
Durham | £2,499 | Suffolk | £2,828 |
Dyfed-Powys | £2,035 | Surrey | £4,345 |
Essex | £6,605 | Sussex | £6,197 |
Swydd Gaerloyw | £2,422 | Dyffryn Tafwys | £8,551 |
Gwent | £2,199 | Swydd Warwick | £2,144 |
Hampshire | £7,345 | Gorllewin Mersia | £4,750 |
Swydd Hertford | £4,260 | Gorllewin Canolbarth Lloegr | £10,080 |
Glannau Humber | £3,557 | Wiltshire | £2,630 |
Caint | £6,433 | ||
Swydd Gaerhirfryn | £5,682 | ||
Swydd Gaerlŷr | £3,952 | ||
Swydd Lincoln | £2,805 | ||
Glannau Mersi | £5,139 |
Ni all ymgyrchydd lleol nad yw'n blaid wario mwy na'r swm hwn a ganiateir heb awdurdodiad ysgrifenedig yr asiant i fynd i'r gwariant ychwanegol, a fydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd. 3
Os bydd ymgyrchydd lleol nad yw'n blaid yn mynd i wariant sydd uwchlaw'r swm a ganiateir, rhaid iddo roi gwybod am y gwariant ychwanegol hwn i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu o fewn 21 diwrnod i'r canlyniad gael ei ddatgan. 4
Mae ffurflen a datganiad ar wahân y mae'n rhaid i'r ymgyrchydd lleol nad yw'n blaid ei chwblhau er mwyn rhoi gwybod am dreuliau a awdurdodwyd.
Rhaid i'r treuliau a awdurdodwyd hefyd gael eu cynnwys yn y ffurflen gwariant i ymgeiswyr. 5 Mae arian yr eir iddo gan ymgyrchwyr mewn ymgyrchoedd lleol a awdurdodwyd gan yr asiant yn wariant ymgeisydd ac mae'n cyfrif tuag at y terfyn gwariant. 5
Gall y treuliau a awdurdodwyd hefyd gael eu talu gan y person a awdurdodwyd i fynd iddynt. 5 Os bydd yn gwneud y taliadau, a bod y gwariant dros £50, yna bydd hyn yn rhodd i'r ymgeisydd a rhaid rhoi gwybod amdani ar y ffurflen gwariant. 5
Ceir rhagor o wybodaeth yn Gwneud taliadau ar gyfer gwariant ymgeisydd a Rhoddion ymgeiswyr.
Dylai ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n cynllunio ymgyrch leol ddarllen ein canllawiau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Ymgyrchu lleol gan bleidiau
Rhaid i bleidiau fod yn ymwybodol y bydd unrhyw wariant gan y blaid ar ymgyrchu lleol ar gyfer un o'i hymgeiswyr na chaiff ei awdurdodi gan yr asiant, yn cyfrif fel gwariant 5 y blaid. Mewn etholiadau a gwmpesir gan gyfnod a reoleiddir y blaid, rhaid i'r gwariant hwn gael ei gynnwys ar ffurflen gwariant y blaid. 5
Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid cael etholiad cyffredinol erbyn 28 Ionawr 2025. Mae hyn yn golygu ei bod yn debygol y bydd ymgyrchu yn yr etholiadau ym mis Mai 2024 wedi'i gwmpasu gan gyfnod a reoleiddir y blaid.
I'r gwrthwyneb, dim ond ar y ffurflenni ymgyrchu lleol a ffurflen gwariant ymgeisydd fel uchod y bydd angen i unrhyw dreuliau a awdurdodwyd ymddangos.
Example
Er enghraifft, mae'r asiant yn cytuno i awdurdodi'r blaid i wario mwy na'r swm a ganiateir ar gyfer yr ardal heddlu honno ar wariant i hyrwyddo'r ymgyrchydd. Rhaid i'r asiant roi awdurdodiad ysgrifenedig cyn i'r blaid wario mwy na'r swm a ganiateir. Yn y senario hwn, mae'r blaid hefyd yn cytuno i wneud y taliadau ar gyfer y treuliau a hyn a awdurdodwyd.
Rhaid i'r asiant roi gwybod am y gwariant hwn a awdurdodwyd ar ffurflen yr ymgeisydd, gan y bydd yn cyfrif tuag at derfyn gwario'r ymgeisydd. Am fod y blaid wedi talu am y treuliau hyn a awdurdodwyd, rhaid eu cofnodi hefyd fel rhodd i'r ymgeisydd os yw'r gwerth yn fwy na £50. 1
Rhaid i'r blaid lenwi ffurflen a datganiad ar wahân i roi gwybod am y treuliau hyn a chyflwyno'r rhain i'r Swyddog Canlyniadau perthnasol o fewn 21 diwrnod i'r canlyniad gael ei ddatgan. 2
Gan na roddwyd gwybod am y gwariant ar ffurflen gwariant yr ymgeisydd, nid oes angen rhoi gwybod amdano ar ffurflen 3 gwariant y blaid.
- 1. Erthygl 34(1) a (3), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 34(4), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 34(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 34(6), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 40(2)(c), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 50 a 35(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Erthygl 31(4)(ca), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 5, paragraff 1(3), paragraff 2(1)(c), paragraff 4(2) a pharagraff 10(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Adran 72(2) – (7) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Adran 80(3)(a), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 10
- 1. Atodlen 5, paragraff 2(1)(c) a pharagraff 4(2), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 34(6), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 72(7)(a), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 3
Rhannu gwariant
Weithiau, efallai y bydd angen i chi rannu eich costau rhwng gweithgareddau sy'n cyfrif fel gwariant ymgeisydd a'r rhai nad ydynt yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd.
Er enghraifft, rhwng:
- eitemau a ddefnyddiwyd cyn ac yn ystod y cyfnod a reoleiddir
- eich gwariant ar yr ymgyrch a gweithgareddau eraill fel swyddfa rydych yn ei rhannu â'ch plaid leol
Ym mhob achos, dylech wneud asesiad gonest, yn seiliedig ar y ffeithiau, o gyfran y gwariant y gellir ei phriodoli'n deg i'ch gwariant fel ymgeisydd.
Er enghraifft, os ydych yn rhannu swyddfa plaid, efallai mai dim ond dadansoddiad o gostau galwadau dros werth penodol y gall eich bil ffôn ei ddarparu.
Yn yr achosion hyn, dylech ystyried y ffordd orau o wneud asesiad gonest ar sail y wybodaeth sydd gennych. Er enghraifft, gallech gymharu'r bil ag un nad yw'n cwmpasu cyfnod a reoleiddir.
Chi sy'n gyfrifol am roi gwybodaeth lawn a chywir am eich gwariant ymgeisydd. Dylech sicrhau eich bod yn deall y rheolau a bod pob gwariant wedi'i awdurdodi a'i gofnodi ac y rhoddir gwybod amdano'n gywir.
Ar ôl yr etholiad, bydd yn rhaid i chi lofnodi datganiad i ddatgan ei bod yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth a'ch cred. 1
Mae'n drosedd gwneud datganiad anwir a hynny'n fwriadol. 2
Os ydych yn dal yn ansicr, ffoniwch neu e-bostiwch ni i gael cyngor.
- 1. Erthygl 41(1) a (2), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 41(6), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
Gwariant i hyrwyddo'r ymgeisydd a'r blaid
Weithiau, bydd gwariant gan bleidiau yn hyrwyddo'r blaid a'r ymgeisydd. Yn yr achosion hyn, gall yr ymgeisydd roi gwybod am y gwariant hwn a bydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd yn hytrach na'r blaid.
Er mwyn asesu a ddylai'r ymgeisydd roi gwybod am wariant rhaid i chi asesu a yw'n hyrwyddo'r ymgeisydd yn y lle cyntaf.
Beth yw gwariant i hyrwyddo'r ymgeisydd?
Os bydd gweithgaredd wedi'i anelu at bleidleiswyr yn yr ardal etholiadol lle mae'r ymgeisydd yn sefyll er mwyn hyrwyddo neu sicrhau ethol yr ymgeisydd hwnnw, yna bydd yn wariant i hyrwyddo'r ymgeisydd.
Er enghraifft, ystyrir gweithgaredd sy'n hyrwyddo plaid yn weithgaredd sy'n hyrwyddo ymgeisydd pan fydd yr eitem:
- yn enwi'r ymgeisydd penodol
- yn enwi'r ardal etholiadol benodol lle mae'r ymgeisydd yn sefyll
Pan gaiff deunydd ei ddosbarthu ar draws nifer o ardaloedd etholiadol, bydd angen i chi ddosrannu costau'r gweithgaredd.
Lle mae deunydd:
- yn cynnwys ymgeisydd
- yn cael ei ddosbarthu ar draws ardal ehangach na'r ardal etholiadol benodol lle mae'r ymgeisydd yn sefyll
ystyrir bod cyfran o gost y deunydd hwn yn cael ei defnyddio at ddibenion ethol yr ymgeisydd.
Y gyfran yr ystyrir ei bod yn cael ei defnyddio at ddibenion ethol yr ymgeisydd yw cost dosbarthu'r deunydd yn ardal etholiadol benodol yr ymgeisydd hwnnw.
Os ydych yn ansicr a yw gwariant yn wariant ar ymgeisydd neu'n wariant ar blaid, dylech gysylltu â ni.
Am ragor o wybodaeth am wariant ymgyrch plaid wleidyddol, gweler ein canllawiau ar wariant ymgyrch plaid.
Ceir rhagor o wybodaeth am ddosrannu gwariant yn Rhannu gwariant.
Enghreifftiau
Gwariant gan y blaid sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd
N/A
Enghraifft A
Mae plaid wleidyddol yn cynhyrchu llythyr sy'n nodi polisïau'r blaid ac yn annog pleidleiswyr i bleidleisio dros ymgeisydd penodol yn yr ardal etholiadol honno yn y llinellau olaf. Gan fod modd adnabod yr ymgeisydd, dylid ystyried bod y llythyr wedi cael ei ddosbarthu at ddibenion ethol yr ymgeisydd.
Enghraifft B
Mae plaid wleidyddol yn cynhyrchu hysbyseb sy'n nodi polisïau'r blaid ac yn gofyn i bleidleiswyr bleidleisio dros y blaid yn yr ardal etholiadol honno. Er nad yw'r hysbyseb yn enwi'r ymgeisydd, mae'n enwi'r ardal etholiadol. Felly dylid ystyried bod yr hysbyseb wedi cael ei dosbarthu at ddibenion ethol ymgeisydd y blaid.
Spending that should be partially attributed to both the party and the candidate
Gwariant a ddylai gael ei briodoli'n rhannol i'r blaid ac i'r ymgeisydd
N/A
Enghraifft C
Caiff taflen sy'n cynnwys arweinydd y blaid ei dosbarthu ledled Prydain Fawr, gan gynnwys yn yr ardal etholiadol lle mae arweinydd y blaid yn sefyll. Dylid ystyried bod y taflenni sy'n cael eu dosbarthu yn ardal etholiadol arweinydd y blaid wedi cael eu dosbarthu at ddibenion ethol yr arweinydd fel ymgeisydd.
Enghraifft D
Mae cynghorydd lleol blaenllaw yn ymddangos ar daflen sy'n cael ei dosbarthu ledled y sir gyfan, gan gynnwys yn yr ardal etholiadol benodol lle mae'r cynghorydd yn sefyll. Dylid ystyried bod y taflenni sy'n cael eu dosbarthu yn ardal etholiadol y cynghorydd wedi cael eu dosbarthu at ddibenion ethol y cynghorydd fel ymgeisydd.
Enghraifft E
Mae plaid yn paratoi ymgyrch ddigidol yn cynnwys aelod poblogaidd o'r blaid mewn ardal benodol o'r wlad. Mae'r aelod hwnnw o'r blaid yn ymgeisydd mewn un rhan o'r ardal honno. Mae'r deunydd wedi'i dargedu at grŵp penodol o bleidleiswyr a bydd yn ymddangos ar ffrydiau cyfryngau cymdeithasol rhywun sy'n aelod o'r grŵp targed. Mae'r grŵp targed yn cynnwys lleoliad daearyddol. Ystyrir bod y gyfran o'r ymgyrch sydd wedi'i thargedu yn ardal etholiadol yr aelod blaenllaw o'r blaid wedi'i chyhoeddi at ddiben ei ethol fel ymgeisydd.
Spending that doesn’t promote the candidate
Gwariant nad yw'n hyrwyddo'r ymgeisydd
N/A
Enghraifft F
Mae plaid wleidyddol yn cynhyrchu llythyr sy'n nodi polisïau'r blaid ac yn annog pleidleiswyr i bleidleisio dros y blaid. Er bod y llythyr yn cael ei anfon i gartref yn yr ardal etholiadol, nid yw'r llythyr ei hun yn nodi enw'r ymgeisydd na'r ardal etholiadol. Ni ddylid ystyried bod hwn yn cael ei ddefnyddio at ddibenion etholiad yr ymgeisydd.
Enghraifft G
Mae plaid yn paratoi ymgyrch ddigidol yn cynnwys aelod poblogaidd o'r blaid ledled y wlad gyfan, gan gynnwys lle mae'r aelod o'r blaid yn ymgeisydd. Nid yw'r deunydd wedi'i dargedu ond bydd yn ymddangos os caiff geiriau penodol eu teipio mewn chwilotwr. Nid yw'n bosibl canfod pa mor aml na phryd yr ymddangosodd y deunydd i bleidleiswyr yn ardal etholiadol yr aelod o'r blaid. Ni ddylid ystyried bod y deunydd hwn wedi cael ei ddefnyddio at ddiben ei etholiad fel ymgeisydd.
N/A
Ceir canllawiau ar asesu sut i roi gwybod am wariant yn yr adran nesaf.
Asesu sut i roi gwybod am wariant
Ar gyfer pob gweithgaredd rydych wedi sefydlu ei fod yn wariant ymgeisydd, rhaid i chi gofio gweithio allan pa fath o wariant ydyw, fel eich bod yn gwybod sut i roi gwybod amdano:
- gwariant arferol y mae'r ymgeisydd neu'r asiant yn mynd iddo
- gwariant tybiannol
- ymgyrchoedd lleol
Os caiff eitem neu wasanaeth eu darparu i'r ymgeisydd a'u defnyddio gan neu ar ran yr ymgeisydd, yna mae'n debygol bod y gyfran berthnasol o gost targedu ardal etholiadol yr ymgeisydd yn adroddadwy fel gwariant tybiannol, os bydd yn bodloni'r profion.
Os na wneir hyn gan yr ymgeisydd neu'r asiant ac na chaiff ei darparu i'r ymgeisydd ac na wneir defnydd ohoni gan neu ar ran yr ymgeisydd, bydd yn cyfrif fel ymgyrchu lleol dros yr ymgeisydd.
Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos pennu'n gyntaf a yw'r gwariant yn hyrwyddo'r ymgeisydd, ac yna bennu sut y dylid rhoi gwybod amdano.
Examples
Enghraifft A
Mae plaid yn cynnal digwyddiad yn ardal etholiadol yr ymgeisydd. Mae arweinydd y blaid yn bresennol ac yn rhoi araith. Yn ystod yr araith, dim ond am bolisïau cenedlaethol y mae'r arweinydd yn siarad. Rhoddir gwahoddiad i'r ymgeisydd fod yn bresennol ac mae'n gwneud hynny. Nid yw'n chwarae unrhyw ran arall yn y digwyddiad.
Nid yw'r digwyddiad yn nodi'r ymgeisydd yn ôl ei enw na thrwy'r ardal etholiadol.
Gan nad yw'r digwyddiad yn nodi'r ymgeisydd, nid yw'n cyfrif fel gwariant i hyrwyddo'r ymgeisydd.
Bydd y gwariant ar y digwyddiad yn wariant plaid os caiff ei gynnal yn ystod cyfnod a reoleiddir ar gyfer pleidiau. 1
Enghraifft B
Mae plaid yn cynnal digwyddiad yn ardal etholiadol yr ymgeisydd. Mae arweinydd y blaid yn bresennol ac yn rhoi araith. Yn ystod yr araith, mae'r arweinydd yn sôn am bolisïau cenedlaethol y rhan fwyaf o'r amser, ond mae'n treulio 10 munud yn sôn yn benodol am yr ardal etholiadol a'r ymgeisydd. Rhoddir gwahoddiad i'r ymgeisydd fod yn bresennol ac mae'n gwneud hynny. Nid yw'n chwarae unrhyw ran arall yn y digwyddiad.
Gan fod yr ymgeisydd a'r ardal etholiadol yn cael eu henwi, ystyrir bod y rhan honno o'r digwyddiad yn hyrwyddo'r ymgeisydd.
Nid oes dim wedi'i ddarparu i'r ymgeisydd er mwyn iddo ei ddefnyddio, felly nid yw'n wariant tybiannol. Yn hytrach, mae'r blaid yn ymgyrchu dros yr ymgeisydd.
Mae'r gwariant ar y rhan o'r digwyddiad sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd yn enghraifft o ymgyrchu lleol dros yr ymgeisydd. Rhaid i'r blaid beidio â mynd i fwy o dreuliau na'r swm a ganiateir ar gyfer yr ardal heddlu honno ar hyrwyddo'r ymgeisydd, oni bai fod ganddi awdurdodiad ysgrifenedig gan yr asiant i wneud hynny. 2
Enghraifft C
Mae'r blaid yn cynnal digwyddiad yn ardal etholiadol yr ymgeisydd. Mae arweinydd y blaid yn bresennol ac yn rhoi araith. Yn ystod yr araith, mae'r arweinydd yn sôn am bolisïau cenedlaethol, ond mae hefyd yn gwahodd yr ymgeisydd i roi ei araith ei hun am 10 munud o'r amser. Mae'r ymgeisydd yn derbyn ac yn rhoi'r araith.
Nodir yr ymgeisydd am ei fod ymddangos ar y llwyfan, felly ystyrir bod y rhan honno o'r digwyddiad yn hyrwyddo'r ymgeisydd.
Mae'r blaid wedi rhoi cyfleuster i'r ymgeisydd – slot yn ystod y digwyddiad – ac mae'r ymgeisydd wedi'i ddefnyddio drwy roi'r araith.
Mae hyn yn wariant tybiannol. Rhaid cofnodi'r gwerth priodol ar ffurflen gwariant yr ymgeisydd, ac fel rhodd gan y blaid pan fydd yn gymwys.
Enghraifft D
Mae'r ymgeisydd yn cynnal digwyddiad yn ei ardal etholiadol, a drefnir gan ei asiant. Mae'r blaid yn darparu arian i dalu costau'r digwyddiad.
Mae'r ymgeisydd yn rhan ganolog o'r digwyddiad felly mae'r gwariant hwn yn hyrwyddo'r ymgeisydd. Yr asiant sydd wedi mynd i'r gwariant, felly mae hyn yn wariant ymgeisydd arferol a rhaid iddo ymddangos ar y ffurflen.
Mae unrhyw rodd o arian dros £50 a ddarperir gan y blaid yn rhodd i'r ymgeisydd a rhaid rhoi gwybod amdani yn yr adran rhoddion yn y ffurflen.3 Ceir rhagor o wybodaeth am roi gwybod am roddion yn Rhoddion ymgeisydd.
- 1. Adran 72(2) – (7) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 34(1), (3)(a) a (4), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 5, paragraff 2(1) & paragraff 4(2) Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
Ar ôl yr etholiad
Ar ôl yr etholiad, rhaid i'r ymgeisydd ysgrifennu datganiad ysgrifenedig o'i dreuliau personol i'w asiant o fewn 21 diwrnod i ddatgan y canlyniad. 1
Rhaid i'r asiant gydymffurfio â'r terfynau amser ar gyfer:
- derbyn a thalu anfonebau
- anfon ffurflen gwariant a rhoddion at Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu
Rhaid i'r asiant a'r ymgeisydd hefyd gyflwyno datganiadau bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir. 2
Rhaid i chi gyflwyno ffurflen a datganiadau, hyd yn oed os nad ydych wedi gwario unrhyw arian. 3 Gelwir hwn yn ddatganiad ‘dim trafodion’.
Nodir y terfynau amser hyn, a rhagor o wybodaeth am roi gwybod am wariant, yn Ar ôl yr etholiad.
- 1. Erthygl 32(3) ac Erthygl 37(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 41(1) a (2), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 40(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
Rhoddion ymgeiswyr
Mae'r adran ganlynol yn rhoi canllawiau ar wariant ymgeiswyr mewn etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r canllawiau'n cwmpasu:
- beth sy'n cyfrif fel rhodd
- gan bwy y gallwch dderbyn rhoddion
- y gwiriadau y mae angen i chi eu gwneud ar fathau gwahanol o roddion
- sut i brisio gwahanol fathau o roddion
- arferion gorau ar gyfer rhoddion cyllido torfol
- y wybodaeth y mae angen i chi ei chofnodi
Beth sy'n cyfrif fel rhodd?
Rhodd yw arian, nwyddau, eiddo neu wasanaethau a roddir:
- tuag at eich gwariant fel ymgeisydd
- heb godi tâl neu ar delerau anfasnachol 1
ac sy'n werth dros £50. 2 Nid ystyrir bod unrhyw beth sy'n £50 neu lai yn rhodd.
Mae'r rheolaethau ynglŷn â rhoddion ar gyfer ymgeiswyr yn gymwys pan fyddwch yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol. 3
Mae rhai enghreifftiau o roddion yn cynnwys:
- rhodd arian neu fath arall o eiddo
- talu anfoneb ar gyfer gwariant ymgeisydd a fyddai fel arall yn cael ei thalu gennych chi
- benthyciad nas rhoddwyd ar delerau masnachol
- nawdd neu ddigwyddiad neu gyhoeddiad
- defnydd am ddim, neu am bris gostyngol arbennig, o eiddo neu gyfleusterau, er enghraifft defnydd am ddim o swyddfa
- 1. Rheol 5, paragraff 1(3) a pharagraff 2(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 5, paragraff 4(2), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 5 ac Erthygl 3(2), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
Sut rydych yn penderfynu p'un a allwch dderbyn rhodd?
Dim ond rhoddion gan rai ffynonellau penodol y gellir eu derbyn, sydd wedi'u lleoli yn y DU yn bennaf. 1 Ceir manylion ynghylch pa ffynonellau a ganiateir yn Gan bwy y gallwch dderbyn rhoddion?
Cyn i chi dderbyn unrhyw rodd o fwy na £50 at ddiben talu treuliau etholiad, rhaid i chi gymryd pob cam rhesymol i:
- sicrhau eich bod yn gwybod pwy yw'r rhoddwr
- cadarnhau bod y rhodd gan ffynhonnell a ganiateir 2
Os nad yw'n gwbl glir pwy y dylech ei drin fel rhoddwr, cadarnhewch y ffeithiau er mwyn gwneud yn siŵr.
Faint o amser sydd gennych i gadarnhau a yw rhodd yn un a ganiateir?
Pan fyddwch yn cael rhodd, bydd gennych 30 diwrnod i gadarnhau'r hyn a ganiateir a dychwelyd y rhodd os na chaiff ei chaniatáu. 3 Os cadwch rodd am fwy na 30 diwrnod, tybir eich bod wedi ei derbyn. 4
Os cadwch rodd nas caniateir ar ôl y cyfnod hwn, efallai y byddwch yn cyflawni trosedd a gallwn wneud cais i'r llysoedd iddi gael ei fforffedu i ni i'w thalu i mewn i'r gronfa gyfunol. 5 Os ydych wedi derbyn rhodd nas caniateir, dylech ddweud wrthym mor fuan â phosibl.
Hyd yn oed os ydych wedi cynnal gwiriad i gadarnhau bod rhodd cynharach gan yr un ffynhonnell yn un a ganiateir, dylech ystyried p'un a fyddwch yn cynnal gwiriad newydd ar gyfer pob rhodd ddilynol.
Dylech gadw cofnod o'ch holl wiriadau i gadarnhau a yw rhoddion yn rhai a ganiateir er mwyn dangos eich bod wedi dilyn y gyfraith.
Os nad yw'r rhodd gan roddwr a ganiateir, neu os na allwch fod yn siŵr pwy yw'r ffynhonnell wirioneddol am unrhyw reswm, darllenwch Sut rydych yn dychwelyd rhodd? i gael canllawiau pellach ar y camau y mae'n rhaid i chi eu cymryd.
- 1. Atodlen 5, paragraff 6(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 5, paragraff 7, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ac adran 56(1), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 5, paragraff 7, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ac adran 56(2) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 5, paragraff 7, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ac adran 56(5) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 5, paragraff 7, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ac adran 56(4), adran 56(5), adran 57(3) ac adran 58, Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 5
Rhoddion a roddir ar ran eraill
Os rhoddir rhodd ar ran rhywun arall, rhaid i'r person sy'n rhoi'r rhodd i chi ddweud wrthych:
- bod y rhodd ar ran rhywun arall
- manylion y rhoddwr gwirioneddol 1
Un enghraifft o hyn yw lle mae trefnydd digwyddiad yn trosglwyddo'r enillion o ginio a gynhaliwyd yn benodol i godi arian ar ran eich ymgyrch.
Os oes gennych reswm dros gredu y gallai rhywun fod wedi gwneud rhodd ar ran rhywun arall ond nad yw wedi dweud wrthych, rhaid i chi ganfod y ffeithiau fel y gallwch wneud y gwiriadau priodol.
Os nad ydych yn siŵr pwy yw'r rhoddwr gwirioneddol, dylech gofnodi'r rhodd a'i dychwelyd.
Ceir canllawiau ar sut i ddychwelyd rhodd yn Sut rydych yn dychwelyd rhodd?
- 1. Atodlen 2A, paragraff 7 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac a.54(6) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
Gan bwy y gallwch dderbyn rhodd?
Dim ond o ffynhonnell a ganiateir y gallwch dderbyn rhoddion. 1 Ffynhonnell a ganiateir yw:
- unigolyn sydd wedi'i gofrestru ar un o gofrestrau etholiadol y DU, 2 gan gynnwys etholwyr tramor
- plaid wleidyddol sydd wedi'i chofrestru ym Mhrydain Fawr 3
- cwmni sydd wedi'i gofrestru yn y DU ac sy'n gwmni corfforedig yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU 4
- undeb llafur sydd wedi'i gofrestru yn y DU 5
- cymdeithas adeiladu sydd wedi'i chofrestru yn y DU 6
- partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi'i chofrestru yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU 7
- cymdeithas gyfeillgar sydd wedi'i chofrestru yn y DU 8
- cymdeithas anghorfforedig sydd wedi'i lleoli yn y DU ac sy'n cynnal busnes neu weithgareddau eraill yn y DU yn gyfan gwbl neu'n bennaf ac sydd â'i phrif swyddfa yn y DU 9
Gallwch hefyd dderbyn rhoddion gan fathau penodol o ymddiriedolaethau a chan 10 gymynroddion.11 Mae'r rheolau ynglŷn â'r rhoddion hyn yn gymhleth, felly cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
Er y gallwch, o dan gyfraith etholiadol, dderbyn yn gyfreithiol roddion gan elusennau sy'n un o'r ffynonellau a ganiateir uchod, ni chaniateir i elusennau wneud rhoddion gwleidyddol fel arfer o dan gyfraith elusennau. Dylech gadarnhau bod unrhyw elusen sy'n cynnig rhodd wedi cael cyngor gan y rheoleiddiwr elusennau perthnasol cyn ei derbyn.
- 1. Atodlen 5, paragraff 6(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 5, paragraff 6(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ac adran 54(2)(a), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 5, paragraff 1(6A) a pharagraff 6(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ac adran 54(2)(c), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 5, paragraff 6(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ac adran 54(2)(b), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 5, paragraff 6(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ac adran 54(2)(d), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 5, paragraff 6(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ac adran 54(2)(e), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 5, paragraff 6(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ac adran 54(2)(f), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 5, paragraff 6(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ac adran 54(2)(g), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Atodlen 5, paragraff 6(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ac adran 54(2)(h), D ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Atodlen 5, paragraff 6(2) a (3), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Atodlen 5, paragraff 6(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ac adran 54(2)(a) a (3), adran 55(5), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 11
Unigolion
Beth sy'n gwneud unigolyn yn ffynhonnell a ganiateir?
Rhaid i unigolion fod ar un o gofrestrau etholiadol y DU ar adeg rhoi'r rhodd. 1 Mae hyn yn cynnwys etholwyr tramor.
Sut rydych yn cadarnhau'r hyn a ganiateir?
Gallwch ddefnyddio'r gofrestr etholiadol i gadarnhau a yw unigolyn yn rhoddwr a ganiateir. Mae hawl gan ymgeiswyr a'u hasiantiaid i gael copi am ddim o'r gofrestr etholiadol lawn yn y cyfnod cyn etholiad. 2 Dim ond er mwyn cadarnhau a yw rhoddwr yn rhoddwr a ganiateir neu at ddibenion etholiadol eraill y cewch ddefnyddio'r gofrestr. Rhaid i chi beidio â'i rhoi i unrhyw un arall.3
Dylech gysylltu â'r adran cofrestru etholiadol yn y cyngor lleol neu
Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon, fel sy'n briodol, i gael eich copi, gan esbonio eich bod yn gofyn am un fel ymgeisydd mewn etholiad, neu fel asiant etholiad ar ran yr ymgeisydd. 4
Dylech ofyn i'r adran anfon yr holl ddiweddariadau i'r gofrestr atoch hefyd. Mae hyn yn bwysig oherwydd gall enw etholwr gael ei dynnu oddi ar y gofrestr ac felly ar adeg rhoi rhodd efallai na fydd yn rhoddwr a ganiateir. Byddwch yn cael y gofrestr ar ffurf electronig oni bai eich bod yn gofyn am fersiwn argraffedig o'r gofrestr. 5
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt cynghorau lleol drwy ddefnyddio ein hadnodd chwilio codau post.
Rhaid i chi edrych ar y gofrestr a'r diweddariadau'n ofalus, er mwyn sicrhau bod y person ar y gofrestr ar y dyddiad y cawsoch y rhodd.
O dan amgylchiadau arbennig, mae gan bobl gofrestriad dienw. Os yw'r unigolyn wedi'i gofrestru'n ddienw, rhaid i chi ddarparu datganiad i gadarnhau eich bod wedi gweld tystiolaeth bod gan yr unigolyn gofnod dienw ar y gofrestr. 6 Bydd tystiolaeth ar ffurf tystysgrif o gofrestriad dienw. Rhaid i chi gyflwyno copi o'r dystysgrif gyda'r datganiad hwn ynghyd â'ch ffurflen gwariant. 7
Pa wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chofnodi?
Rhaid i chi gofnodi:
- enw llawn y rhoddwr
- y cyfeiriad fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr etholwyr, neu os mai etholwr tramor yw'r person, ei gyfeiriad cartref (boed yn y DU neu rywle arall) 8
Efallai y bydd yn ddefnyddiol nodi rhif etholiadol y rhoddwr fel cofnod o'ch gwiriadau.
- 1. Atodlen 2A, paragraff 6(1), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac adran 54(2)(a) ac (8), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 102(1) a 104(1)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 101(1) a 103(1)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001 a Rheoliad 101(1) a 103(1)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Gogledd Iwerddon) 2008 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 104(3) a (4), 108(5) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl Cymru a Lloegr 2001, Rheoliad 103(3) a (4), 106(3) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl Yr Alban 2001 a Rheoliad 103(3) a (4), 106(3) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl Gogledd Iwerddon 2008 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 102(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl Cymru a Lloegr 2001, Rheoliad 101(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl Yr Alban 2001 a Rheoliad 101(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl Gogledd Iwerddon 2008 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 102(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl Cymru a Lloegr 2001, Rheoliad 101(2)(c) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl Yr Alban 2001 a Rheoliad 101(2)(c) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl Gogledd Iwerddon 2008 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 2A, paragraff 10(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 2A, paragraff 10(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 2A, paragraff 11(c) a paragraff 12(2)(a) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 8
Cwmnïau
Beth sy'n gwneud cwmni yn ffynhonnell a ganiateir?
Mae cwmni yn rhoddwr a ganiateir:
- wedi'i gofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau
- os yw wedi'i gorffori yn y DU
- os yw'n cynnal busnes yn y DU 1
Rhaid i chi fod yn siŵr bod y cwmni yn bodloni pob un o'r tri maen prawf.
Sut rydych yn cadarnhau cofrestriad cwmni?
Dylech edrych ar y gofrestr yn Nhŷ'r Cwmnïau, gan ddefnyddio'r gwasanaeth Webcheck am ddim. Dylech edrych ar gofnod cofrestru llawn y cwmni.
Sut rydych yn cadarnhau a yw'r cwmni yn cynnal busnes yn y DU?
Rhaid i chi fodloni'ch hun bod y cwmni yn cynnal busnes yn y DU. Gall y busnes fod yn un nid er elw.
Hyd yn oed os ydych yn gyfarwydd â'r cwmni eich hun, dylech edrych ar gofrestr Tŷ'r Cwmnïau er mwyn gweld:
- a yw'r cwmni yn cael ei ddiddymu, yn segur, neu ar fin cael ei
ddileu o'r gofrestr - a yw cyfrifon a ffurflen flynyddol y cwmni yn hwyr
Mae'n bosibl bod cwmni yn dal i gynnal busnes os yw'n cael ei ddiddymu, yn segur neu'n hwyr yn cyflwyno dogfennau, ond dylech wneud gwiriadau ychwanegol er mwyn bodloni'ch hun mai felly y mae.
O ran unrhyw gwmni, dylech ystyried edrych ar y canlynol:
- gwefan y cwmni
- cyfeirlyfrau ffôn neu wefannau dibynadwy masnachau perthnasol
- y cyfrifon diweddaraf a gyflwynwyd i Dŷ'r Cwmnïau
Os nad ydych yn siŵr o hyd a yw'r cwmni yn cynnal busnes yn y DU, dylech ofyn am gadarnhad ysgrifenedig gan gyfarwyddwyr y cwmni ynglŷn â'i weithgareddau busnes.
Pa wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chofnodi?
Rhaid i chi gofnodi:
- yr enw fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr
- cyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni
- rhif cofrestru'r cwmni 2
- 1. Atodlen 2A, paragraff 6(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac a.54(2)(b) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Refferenda ac Etholiadau 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 2A, paragraff 11(c) a paragraff 12(2)(a) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac Atodlen 6, paragraff 2(4) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Refferenda ac Etholiadau 2000 ↩ Back to content at footnote 2
Partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig
Beth sy'n gwneud partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn ffynhonnell a ganiateir?
Mae partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn rhoddwr a ganiateir:
- os yw wedi'i chofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau
- os yw'n cynnal busnes yn y DU 1
Sut rydych yn cadarnhau'r hyn a ganiateir?
Dylech edrych ar y gofrestr yn Nhŷ'r Cwmnïau, gan ddefnyddio'r gwasanaeth Webcheck am ddim.
Sut rydych yn cadarnhau a yw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes yn y DU?
Rhaid i chi fodloni'ch hun bod y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes yn y DU. Gall y busnes fod yn un nid er elw.
Hyd yn oed os ydych yn gyfarwydd â'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig eich hun, dylech edrych ar gofrestr Tŷ'r Cwmnïau er mwyn gweld:
- a yw'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cael ei diddymu, yn segur, neu ar fin cael ei dileu o'r gofrestr
- a yw cyfrifon a ffurflen flynyddol y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn hwyr
Mae'n bosibl bod partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn dal i gynnal busnes os yw'n cael ei diddymu, yn segur neu'n hwyr yn cyflwyno dogfennau, ond dylech wneud gwiriadau ychwanegol er mwyn bodloni'ch hun mai felly y mae.
O ran unrhyw bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, dylech ystyried edrych ar y canlynol:
- gwefan y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig
- cyfeirlyfrau ffôn neu wefannau dibynadwy masnachau perthnasol
- y cyfrifon diweddaraf a gyflwynwyd i Dŷ'r Cwmnïau
Os nad ydych yn siŵr o hyd a yw'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes yn y DU, dylech ofyn am gadarnhad ysgrifenedig gan gyfarwyddwyr y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ynglŷn â'i gweithgareddau busnes.
Pa wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chofnodi?
Rhaid i chi gofnodi:
- yr enw fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr
- cyfeiriad swyddfa gofrestredig y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig 2
Dylech hefyd gofnodi rhif cofrestru'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.
- 1. Atodlen 2A, paragraff 6(1), Deddf Cynrychioilaeth y Bobl 1983 ac adran 54(2)(f), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 2A, paragraff 11(c) a paragraff 12(2)(a) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac Atodlen 6, paragraff 2(8), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 2
Cymdeithasau anghorfforedig
Beth yw cymdeithas anghorfforedig?
Yn gyffredinol, cymdeithas anghorfforedig yw cymdeithas sydd â dau unigolyn neu fwy sydd wedi dod ynghyd i gyflawni diben a rennir.
Mae gan gymdeithas anghorfforedig aelodaeth adnabyddadwy sydd wedi'i rhwymo ynghyd gan reolau adnabyddadwy neu gytundeb rhwng yr aelodau. Mae'r rheolau hyn yn nodi sut y dylid rhedeg a rheoli'r gymdeithas anghorfforedig.
Weithiau, efallai y caiff y rheolau eu ffurfioli, er enghraifft mewn cyfansoddiad ysgrifenedig. Fodd bynnag, nid oes rhaid eu ffurfioli.
Er enghraifft, gall clybiau aelodau fod yn gymdeithasau anghorfforedig weithiau.
Beth sy'n gwneud cymdeithas anghorfforedig yn ffynhonnell a ganiateir?
Mae cymdeithas anghorfforedig yn ffynhonnell a ganiateir:
- os bydd ganddi fwy nag un aelod
- os yw'r brif swyddfa yn y DU
- os yw'n cynnal busnes neu weithgareddau eraill yn y DU 1
Rhaid i chi fod yn siŵr bod y gymdeithas anghorfforedig yn bodloni pob un o'r tri maen prawf.
Sut rydych yn cadarnhau'r hyn a ganiateir?
Nid oes unrhyw gofrestr o gymdeithasau anghorfforedig. Rhaid asesu a yw cymdeithasau anghorfforedig yn ffynonellau a ganiateir fesul achos felly.
Os nad ydych yn siŵr a yw cymdeithas yn bodloni'r meini prawf, dylech ystyried a yw'r rhodd gan yr unigolion ynddi mewn gwirionedd (yn hytrach na'r gymdeithas) neu a oes rhywun yn y gymdeithas yn gweithredu fel asiant dros eraill.
Os credwch mai felly y mae, rhaid i chi gadarnhau bod pob un o'r unigolion a gyfrannodd fwy na £50 yn rhoddwyr a ganiateir a'u trin fel y rhoddwyr.
Rhaid i chi sicrhau bod gan y gymdeithas anghorfforedig fwy nag un aelod a bod ei phrif swyddfa yn y DU.
Rhaid i chi gadarnhau bod y gymdeithas anghorfforedig yn cynnal busnes neu weithgareddau eraill yn y DU.
Os bydd cymdeithas anghorfforedig yn rhoi rhoddion gwleidyddol gwerth mwy na £37,270 yn ystod blwyddyn galendr, dylech ei hysbysu bod yn rhaid iddi roi gwybod i ni am hyn. Gweler ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth am gymdeithasau anghorfforedig.
Os hoffech gael mwy o gyngor ar gadarnhau p'un a yw cymdeithasau anghorfforedig yn rhoddwyr a ganiateir mewn achosion penodol, cysylltwch â ni.
Pa wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chofnodi?
Rhaid i chi gofnodi:
• enw'r gymdeithas anghorfforedig
• prif gyfeiriad y gymdeithas anghorfforedig 2
- 1. Atodlen 2A, paragraff 6(1), Deddf Cynrychiolaeth y /bobl 1983 ac adran 54(2)(h) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Refferenda ac Etholiadau 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 2A, paragraff 11(c) a pharagraff 12(2)(a) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac Atodlen 6, paragraff 2(10), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 2
Rhoddwyr eraill
Pleidiau gwleidyddol cofrestredig
Rhaid i blaid fod ar gofrestr Prydain Fawr er mwyn bod yn ffynhonnell a ganiateir. 1 Gallwch weld y rhestr lawn o bleidiau gwleidyddol sydd wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr ar ein cofrestr o bleidiau gwleidyddol.
Undebau llafur
Rhaid i undeb llafur fod wedi'i restru fel undeb llafur gan y Swyddog Ardystio neu'r Swyddog Ardystio ar gyfer Gogledd Iwerddon er mwyn bod yn ffynhonnell a ganiateir. 2 Dylech edrych ar y rhestr swyddogol o undebau llafur gweithredol ar wefan y Swyddog Ardystio neu ar wefan y Swyddog Ardystio ar gyfer Gogledd Iwerddon.
Cymdeithasau adeiladu
Rhaid i gymdeithas adeiladu fod yn gymdeithas adeiladu o fewn ystyr Deddf Cymdeithasau Adeiladu 1986 er mwyn bod yn ffynhonnell a ganiateir. 3 Dylech edrych ar y rhestr o gymdeithasau adeiladu sydd wedi'u cofrestru gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar y Gofrestr Gyhoeddus o Gwmnïau Cydfuddiannol.
Cymdeithasau cyfeillgar a chymdeithasau diwydiannol a darbodus
Rhaid i gymdeithasau cyfeillgar a chymdeithasau diwydiannol a darbodus fod wedi'u cofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1974, Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 neu Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus (Gogledd Iwerddon) 1969 er mwyn bod yn ffynhonnell a ganiateir. 4 Dylech edrych ar y Gofrestr Gyhoeddus o Gwmnïau Cydfuddiannol a gynhelir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Pa wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chofnodi?
Bydd angen i chi gofnodi:
- enw'r rhoddwr
- y cyfeiriad, fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr berthnasol 5
- 1. Atodlen 2A, paragraff 1(6A) a pharagraff 6(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac adran 54(2)(c) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 2A, paragraff 6(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac adran 54(2)(d) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 2A, paragraff 6(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac adran 54(2)(e) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 2A, paragraff 6(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac adran 54(2)(g) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 2A, paragraff 11(c) a pharagraff 12(2)(a) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac Atodlen 6, paragraff 2(5)-(7) a (9) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 5
Pryd y byddwch yn cael ac yn derbyn rhodd?
Byddwch fel arfer yn ‘cael’ rhodd ar y diwrnod y byddwch yn dod yn berchen arni.
Er enghraifft:
- os rhoddir taflenni am ddim i chi, rydych yn cael y rhodd pan gaiff y taflenni eu trosglwyddo i chi
- os rhoddir siec i chi, rydych yn cael y rhodd ar y diwrnod y mae'r siec yn cael ei chlirio
- os trosglwyddir rhodd yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc, byddwch yn cael y rhodd ar y dyddiad y bydd yr arian yn cyrraedd eich cyfrif.
Os bydd yr ymgeisydd wedi derbyn rhodd, rhaid rhoi'r rhodd ac unrhyw wybodaeth ategol ynghylch pwy yw'r rhoddwyr ac a gaiff ei ganiatáu i'r asiant etholiad os bydd un wedi'i benodi. 1 O dan y gyfraith, yn yr amgylchiadau hyn, caiff rhodd ei thrin fel pe bai'n cael ei derbyn gan yr asiant ar y diwrnod y cafodd ei derbyn yn y lle cyntaf gan yr ymgeisydd. 2 Felly, rhaid i ymgeiswyr roi rhoddion ac unrhyw wybodaeth ategol i'w asiant cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Pryd y byddwch yn derbyn rhodd?
Byddwch yn derbyn rhodd ar y diwrnod y byddwch yn cytuno i gadw'r rhodd. Ar gyfer rhoddion nad ydynt yn rhai ariannol, os byddwch yn defnyddio'r rhodd, byddwch wedi'i derbyn o ganlyniad.
Os byddwch yn cadw rhodd ar ôl y cyfnod o 30 diwrnod, ystyrir hefyd eich bod wedi'i derbyn.
- 1. Atodlen 2A, paragraff 8(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 2A, paragraff 8(3) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Sut rydych yn dychwelyd rhodd?
Os ydych yn gwybod pwy yw'r rhoddwr, rhaid i chi ddychwelyd y swm cyfatebol iddo o fewn 30 diwrnod i gael y rhodd. 1
Os daw'r rhodd o ffynhonnell anhysbys (er enghraifft, rhodd arian o £100 yn ddienw), rhaid i chi ei dychwelyd y swm cyfatebol o fewn 30 diwrnod i gael y rhodd i'r canlynol:
- y sawl a drosglwyddodd y rhodd i chi, neu
- y sefydliad ariannol a ddefnyddiwyd i drosglwyddo'r rhodd 2
Os nad ydych yn gwybod pwy yw'r naill na'r llall, cysylltwch â ni gan fod rhaid i chi anfon y swm cyfatebol at y Comisiwn Etholiadol. Byddwn yn ei thalu i mewn i'r Gronfa Gyfunol, a gaiff ei rheoli gan Drysorlys Ei Mawrhydi. 3 Cysylltwch â ni i drefnu bod yr arian hwn yn cael ei drosglwyddo.
Os byddwch wedi ennill llog ar y rhodd cyn i chi ei dychwelyd, gallwch ei gadw. Ni chaiff y llog hwn ei drin fel rhodd ac nid oes angen rhoi gwybod amdano. 4
- 1. Atodlen 2A, paragraff 7 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac adran 56(2)(a) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 2A, paragraff 7 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac a.56(2), a.57(1)(a) a (b) adran 57(1)(a) a (b) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 2A, paragraff 7 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac a.56(2), a.57(1)(c) a (3) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 2A, paragraff 4(1)(c) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
Sut rydych yn prisio rhodd?
Gwerth y rhodd yw'r gwahaniaeth rhwng gwerth yr hyn a gewch a'r swm (os o gwbl) a dalwch amdano. 1 Fel gyda phob math o rodd, rhaid i chi hefyd sicrhau bod unrhyw rodd rydych yn ei derbyn sydd dros £50 gan roddwr a ganiateir. 2
Os byddwch yn derbyn rhywbeth fel rhodd mewn da, am ddim neu gyda gostyngiad anfasnachol o fwy na 10%, a'ch bod chi neu rywun arall yn ei ddefnyddio yn eich ymgyrch (a elwir hefyd yn wariant tybiannol), rhaid i chi hefyd ei gofnodi fel rhodd os bydd gwerth yr hyn a gawsoch yn fwy na £50. 3 Dim ond i ostyngiadau anfasnachol y mae'r rheolau ynglŷn â rhoddion yn gymwys. 4
Dylech ddarllen yr adran ar wariant tybiannol cyn darllen yr adran hon.
Yr egwyddor arweiniol
Yr egwyddor arweiniol ym mhob achos yw y dylech wneud asesiad gonest a rhesymol o werth y nwyddau neu'r gwasanaethau rydych yn eu cael.
Os yw'r union eitem neu wasanaeth, neu opsiynau tebyg, ar gael ar y farchnad, dylech ddefnyddio'r cyfraddau a godir gan ddarparwyr eraill fel arweiniad wrth brisio. Er enghraifft, os mai darparwr masnachol yw'r rhoddwr, dylech ddefnyddio'r cyfraddau y mae'n eu codi ar gwsmeriaid tebyg eraill.
Os nad yw'r union nwyddau neu wasanaethau, neu opsiynau tebyg, ar gael ar y farchnad, dylech seilio eich asesiad ar werth masnachol nwyddau neu wasanaethau cyfatebol rhesymol. Os byddwch yn dal yn ansicr ynghylch sut y dylech brisio rhodd benodol, cysylltwch â ni am gyngor.
Dylech sicrhau eich bod yn cadw cofnod o asesiadau a phrisiadau fel y gallwch esbonio p'un a wnaed rhodd ai peidio.
Examples
Enghraifft A
Mae cwmni argraffu'n cynnig gostyngiad anfasnachol o 50% i chi ar bris cynhyrchu taflenni ar gyfer eich ymgyrch. Gwerth masnachol y taflenni yw £200. Rydych yn cadarnhau bod y rhoddwr yn ffynhonnell a ganiateir ac yn penderfynu derbyn y rhodd. Y pris a dalwch am y taflenni yw £100.
Mae'r argraffwr wedi gwneud rhodd o £100 i chi: £200 (gwerth y nwyddau) - £100 (y pris a dalwch) = rhodd anariannol o £100.
Enghraifft B
Mae dylunydd gwefannau yn cynnig creu gwefan ar gyfer eich ymgyrch am ddim. Gwerth masnachol ei wasanaethau yw £250. Rydych yn cadarnhau bod y rhoddwr yn ffynhonnell a ganiateir ac yn penderfynu derbyn y rhodd.
Mae dylunydd y wefan wedi gwneud rhodd o £250 i chi: £250 (gwerth y gwasanaethau) - £0 (y pris a dalwch) = rhodd anariannol o £250.
Valuing a donation by sponsorship
Prisio rhodd drwy nawdd
Os bydd rhywun yn noddi cyhoeddiad neu ddigwyddiad ar ran yr ymgeisydd, gwerth y rhodd yw'r swm llawn a dalwyd ganddo.
Ni ddylech ddidynnu unrhyw symiau ar gyfer unrhyw fudd y mae'n ei gael drwy'r nawdd. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar nawdd.
Prisio mathau eraill o roddion
Ceir rhagor o wybodaeth am brisio gofod swyddfa a staff wedi'u secondio yn Prisio gwariant tybiannol a Rhannu gwariant.
- 1. Atodlen 2A, paragraff 5(2) a (4) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 2A, paragraff 4(2) a pharagraff 6(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 2A, paragraff 2(1)(e) a pharagraff 4(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 2A, paragraff 2(1)(e) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
Pa gofnodion sydd angen i chi eu cadw?
Rhoddion a dderbyniwyd gennych
Os derbyniwch rodd gwerth dros £50, rhaid i chi gofnodi:
- y manylion gofynnol ar gyfer y math o rodd (gweler y dudalen ar y math perthnasol o roddwr) 1
- y swm (ar gyfer rhodd ariannol) neu natur a gwerth y rhodd (ar gyfer rhodd anariannol) 2
- y dyddiad y cawsoch y rhodd
- y dyddiad y derbyniwyd y rhodd 3
Rhoddion a ddychwelwyd gennych
Os cewch rodd o ffynhonnell nas caniateir, rhaid i chi gofnodio'r manylion canlynol:
- y swm (ar gyfer rhodd ariannol) neu natur a gwerth y rhodd (ar gyfer rhodd anariannol) 4
- enw a chyfeiriad y rhoddwr (oni bai fod y rhodd yn ddienw) 5
- os nad ydych yn gwybod pwy yw'r rhoddwr, manylion am sut y rhoddwyd y rhodd 6
- y dyddiad y cawsoch y rhodd 7
- y dyddiad y dychwelwyd y rhodd gennych 8
- y camau a gymerwyd gennych i ddychwelyd y rhodd (er enghraifft, yr unigolyn neu'r sefydliad y dychwelwyd y rhodd iddynt) 9
Ar ôl yr etholiad
Bydd angen i chi gynnwys y manylion hyn ar eich ffurflen gwariant a rhoddion. Mae rhagor o wybodaeth am y ffurflen, a phryd y bydd angen i chi ei dychwelyd, yn Cwblhau'ch ffurflen.
- 1. Atodlen 5, paragraff 11(c), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 5, paragraff 11(a), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 5, paragraff 11(b), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 5, paragraff 12(2)(b), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 5 paragraff 12(2)(a), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 5 paragraff 12(3)(a), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 5, paragraff 12(2)(c) a (3)(c), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 5 paragraff 12(2)(c) a (3)(c), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Atodlen 5, paragraff 12(2)(c) a (3)(c), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 9
Ymgeiswyr sy'n aelodau plaid neu'n ddeiliaid swydd etholedig
Os ydych yn aelod o blaid wleidyddol gofrestredig neu os ydych eisoes yn dal rhyw swydd etholedig berthnasol, mae angen i chi ddilyn y rheolau ynglŷn â rhoddion a benthyciadau i chi, sy'n ymwneud â gweithgarwch gwleidyddol cyn y cyfnod a reoleiddir. Er enghraifft, efallai y cewch rodd er mwyn helpu i ariannu'ch ymgyrch i gael eich ethol yn ymgeisydd.
Deiliaid swydd etholedig yw: 1
- aelod o Senedd y DU
- aelod o Senedd yr Alban
- aelod o Senedd Cymru
- aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon
- maer awdurdodau cyfunol
- aelod o unrhyw awdurdod lleol yn y DU, heb gynnwys cynghorau plwyf neu gymuned
- aelod o Gynulliad Llundain Fwyaf
- Maer Llundain neu unrhyw faer etholedig arall
- Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
Galwn yr unigolion hyn yn 'dderbynwyr a reoleiddir'. Dim ond ffynonellau penodol a ganiateir a all roi mwy na £500 neu gael benthyciad o fwy na £500 gyda derbynwyr rheoledig. 2 Rhaid i chi gadarnhau bod y ffynhonnell yn un a ganiateir cyn cael benthyciad a bydd gennych 30 diwrnod i gadarnhau'r hyn a ganiateir a dychwelyd y rhodd os na chaiff ei chaniatáu. 3
Os derbyniwch rodd neu'n cael benthyciad gwerth mwy na £2,230 (neu roddion neu fenthyciadau o un ffynhonnell sy'n gwneud cyfanswm o fwy na £2,230), rhaid i chi roi gwybod i ni am hyn o fewn 30 diwrnod i dderbyn y rhodd neu gael y benthyciad. 4
Os cewch eich ethol, bydd y rheolau hyn hefyd yn gymwys i chi ar ôl i chi gael eich ethol.
Gallwch weld ein canllawiau ar y rheolau hyn ar ein gwefan.
Os ydych yn dal un o'r swyddi etholedig hyn a'ch bod yn bwriadu sefyll ar gyfer llywodraeth leol, dylech hefyd sicrhau nad oes un swydd yn eich atal rhag dal y llall.
Ceir rhagor o wybodaeth am anghymhwyso yn Cymwysterau a gwaharddiadau ar gyfer sefyll etholiad.
- 1. Atodlen 7, paragraff 1(8), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 7, paragraff 2(1) a pharagraff 4(3)(b), Atodlen 7A, paragraff 2(1)-(3) a (4)(b), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 7, paragraff 8(1) ac adran 56(2) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 7, paragraff 10(1A) a (2), Atodlen 7A, paragraff 9(2) a (7), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 4
Cronfeydd ymladd pleidiau lleol
Mae llawer o bleidiau gwleidyddol yn cynnal cronfeydd ymladd lleol i ymgeiswyr. Os yw'r gronfa wedi'i rheoli gan y blaid ac nid yr ymgeisydd, caiff rhoddion i'r gronfa eu trin fel rhoddion i'r blaid fel arfer ac nid oes angen i chi eu trin fel rhoddion i'r ymgeisydd, oni chaiff y rhoddion eu rhoi'n benodol tuag at ymgyrch eich etholiad.
Fodd bynnag, bydd angen i chi roi gwybod am roddion gan y blaid leol at ddiben talu am wariant eich ymgyrch.
Er enghraifft, mae cangen plaid yn casglu rhoddion i godi arian ar gyfer ymgyrchoedd etholiadol yn yr ardal leol. Os bydd y blaid leol yn nodi'n glir y rhoddir y rhoddion hyn er mwyn talu am dreuliau etholiad yr ymgeisydd, neu os bydd rhoddwr yn nodi bod ei rodd at y diben hwn, yna dylid trin y rhodd fel rhodd i'r ymgeisydd.
Rhaid i unrhyw roddion a wneir ar eich rhan fod ar gael i chi eu defnyddio. Mae hyn yn cynnwys rhoddion a gedwir ar eich rhan gan eich plaid wleidyddol neu rywun arall.
Cyllido torfol
Beth yw cyllido torfol?
Cyllido torfol yw pan ddefnyddir llwyfan ar y we i gasglu rhoddion. Yn gyffredinol, caiff y llwyfan ei reoli gan ddarparwr trydydd parti a bydd gan bob ymgyrch codi arian unigol dudalen ar y wefan. Fel arfer caiff ymgyrchoedd eu cynnal am gyfnod penodol. Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, caiff yr arian a godwyd, ar ôl tynnu ffi a delir i'r darparwr, ei drosglwyddo i'r derbynnydd.
Tryloywder
Dylech sicrhau bod y dudalen we cyllido torfol yn nodi'n glir i bwy y rhoddir yr arian ac at ba ddiben. Er enghraifft, dylech egluro a yw'r cyllid yn cael ei godi i dalu eich treuliau etholiad, ar gyfer eich ymgyrch i gael eich dewis fel ymgeisydd, neu a yw ar gyfer cronfa ymladd plaid leol. Mae hyn oherwydd bod trothwyon cofnodi ac adrodd gwahanol ar gyfer rhoddion i ymgeiswyr a phleidiau.
Dylech sicrhau bod y dudalen we yn cynnwys gwybodaeth sy'n esbonio y caiff gwiriadau eu cynnal er mwyn sicrhau bod ffynonellau rhoddion yn rhai a ganiateir yn unol â'r gyfraith, ac y gall gwybodaeth am roddion, gan gynnwys manylion rhoddwyr, gael eu cyhoeddi. Bydd Swyddogion Canlyniadau yn sicrhau bod ffurflenni a baratowyd gan ymgeiswyr ar gael i'w harchwilio ar ôl etholiadau. Mae'r rhain yn cynnwys manylion rhoddion.
Rydym hefyd yn argymell eich bod yn cynnwys argraffnod ar eich tudalen cyllido torfol.
Yr hyn a ganiateir
Dim ond o ffynhonnell a ganiateir y gallwch dderbyn rhoddion dros £50.
Fel gyda phob math o rodd, mae gennych 30 diwrnod i gynnal gwiriadau er mwyn cadarnhau bod ffynhonnell y rhodd yn un a ganiateir a dychwelyd y rhodd os na chaiff ei chaniatáu. 1 Y dyddiad derbyn yw'r dyddiad y byddwch yn cael y cyllid o'r wefan cyllido torfol.
Ni chaiff arian a roddir drwy dudalen we cyllido torfol sy'n £50 neu'n llai ei ystyried yn rhodd o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac nid oes rhaid rhoi gwybod amdano. 2
Dylech sicrhau bod gennych ddigon o wybodaeth gan ddarparwr y llwyfan cyllido torfol a'ch bod yn cadw eich cofnodion mewn ffordd sy'n eich galluogi i ganfod a oes sawl rhodd wedi dod o'r un ffynhonnell.
Rhaid i chi gasglu gwybodaeth ddigonol gan bob rhoddwr i sicrhau y gallwch gadarnhau'n briodol fod pob rhodd gan ffynhonnell a ganiateir. Dylech nodi'n glir ar y dudalen we mai dyma'r rheswm rydych yn casglu unrhyw wybodaeth. Os nad ydych yn siŵr pwy yw'r rhoddwr gwirioneddol rhaid i chi beidio â derbyn y rhodd. Ni allwch dderbyn rhoddion dienw gyda gwerth o fwy na £50.
Rhaid i chi hefyd gasglu gwybodaeth ddigonol i gydymffurfio â gofynion adrodd.
Cryptoarian
Arian cyfred digidol sy'n gweithredu'n annibynnol ar unrhyw fanc neu awdurdod canolog yw cryptoarian.
Mae'r un rheolau'n berthnasol i roddion a geir mewn cryptoarian ag unrhyw roddion eraill. Rhaid casglu gwybodaeth ddigonol er mwyn cadarnhau bod rhoddion yn rhai a ganiateir. Rhaid bod ffordd o brisio unrhyw rodd a geir mewn unrhyw gryptoarian.
- 1. Atodlen 5, paragraff 7, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ac adran 56(2) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 5, paragraff 4(2), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
Ymgyrchu
Bydd yr adrannau canlynol yn rhoi arweiniad i chi ynghylch eich ymgyrch. Mae hyn yn cynnwys:
- Pryd y gallwch ddechrau ymgyrchu a'r hyn y gellir ac na ellir ei wneud ar gyfer eich ymgyrch
- Defnyddio'r gofrestr etholiadol a'r rhestr pleidleiswyr absennol
- Eich rôl wrth sicrhau uniondeb a diogelwch yr etholiad
- Troseddau etholiadol a rhoi gwybod am honiadau o dwyll etholiadol
Pryd y gallwch ddechrau ymgyrchu?
Cewch ddechrau ymgyrchu unrhyw bryd. Nid oes rhaid i chi aros am enwebiad dilys er mwyn datgan eich bod am sefyll etholiad, gofyn i bobl eich cefnogi na chyhoeddi deunydd ymgyrchu.
Mae terfynau gwariant etholiad yn gymwys o'r diwrnod ar ôl i berson ddod yn ymgeisydd yn swyddogol.
Ceir rhagor o wybodaeth am wariant etholiad yn ein canllawiau ar wariant a rhoddion.
Yr hyn y dylid ac na ddylid ei wneud mewn ymgyrch
Mae'r adran hon yn nodi gweithgareddau y gall ymgeiswyr a'u cefnogwyr eu cynnal yn ystod eu hymgyrch, gweithgareddau y dylent eu cynnal, a'r pethau na ddylent eu gwneud.
Bydd y Swyddog Canlyniadau wedi siarad am y safonau ymddygiad a ddisgwylir gan ymgeiswyr a'u cefnogwyr yn ystod yr ymgyrch etholiadol ac ar y diwrnod pleidleisio fel rhan o'i sesiwn friffio ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid. Dylech gysylltu â'r Swyddog Canlyniadau i gael manylion os nad oeddech yn gallu mynd i'r sesiwn friffio.
I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau ymgyrchu derbyniol, gweler ein Cod ymddygiad i ymgyrchwyr
Yn ystod yr ymgyrch, cewch...
- Annog pobl nad ydynt ar y gofrestr etholiadol i wneud cais i gofrestru. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio mewn da bryd ar gyfer yr etholiad yw 12 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. 1 Gall unigolion gofrestru ar-lein yn https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
- Atgoffa pleidleiswyr sy'n dymuno pleidleisio yn bersonol y bydd yn ofynnol iddynt gyflwyno math o brawf adnabod ffotograffig a dderbynnir er mwyn profi pwy ydynt cyn y byddant yn cael papur pleidleisio. Os na fydd gan unigolyn fath o brawf adnabod ffotograffig a dderbynnir, neu os nad yw'n dymuno defnyddio un o'r rhain, gall wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr. Ceir rhagor o wybodaeth am y mathau o brawf adnabod ffotograffig a Thystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr a dderbynnir yn ein canllawiau ar gyfer y diwrnod pleidleisio.
- Helpu pleidleiswyr gyda gwybodaeth am bleidleisiau post a phleidleisiau drwy ddirprwy ac annog pleidleiswyr i wneud cais ar-lein yn https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost ar gyfer yr etholiadau yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. 2 Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer yr etholiadau yw 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn yr etholiad er, 3 o dan rai amgylchiadau, caiff etholwyr wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio. 4 Gall etholwr wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng os bydd wedi cael argyfwng meddygol ar ôl 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn yr etholiad, neu wedi cael ei alw i ffwrdd ar fusnes, neu nad yw'r prawf adnabod ffotograffig yr oedd wedi bwriadu ei ddefnyddio yn yr orsaf bleidleisio ar gael ac nad oes ganddo fath amgen o brawf adnabod ffotograffig derbyniol.
- Ceir rhagor o wybodaeth am bwy all gofrestru i bleidleisio a phleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy ar ein gwefan https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr
- 1. Adran 13B(1)-(3), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a Rheoliad 29(4), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Paragraffau 16(3) a (4), Atodlen 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Paragraff 16(1), Atodlen 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Paragraff 16(2), Atodlen 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
Yn ystod yr ymgyrch, dylech...
- Sicrhau bod unrhyw ffurflenni cais rydych yn eu datblygu yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol, neu caiff y ceisiadau eu gwrthod fel arall. Yn benodol, rhaid i chi sicrhau bod y meysydd llofnod a dyddiad geni ar ffurflenni cais pleidleisiau post a phleidleisiau drwy ddirprwy yn y fformat cywir a bod maes i'r ymgeiswyr gynnwys eu rhif Yswiriant Gwladol. Dylech ddefnyddio ein ffurflenni cais pleidleisio absennol fel canllaw a dylech gysylltu â'r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol a all roi ffurflenni i chi eu defnyddio efallai. Er mwyn helpu i sicrhau bod ceisiadau pleidleiswyr yn cael eu derbyn a'u prosesu cyn gynted â phosibl, gallwch hefyd roi gwybod iddynt y gallant wneud cais am ffurflen pleidleisio absennol www.gov.uk/vote-uk-election
- Rhoi gwybod i'r pleidleiswyr ddychwelyd eu ffurflenni cais wedi'u cwblhau i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol cyn gynted â phosibl. Ni ddylai ymgyrchwyr gasglu ceisiadau papur wedi'u cwblhau gan bleidleiswyr ac ni ddylent ofyn i bleidleiswyr anfon ceisiadau wedi'u cwblhau i gyfeiriadau ymgyrchwyr.
- Sicrhau bod eich cefnogwyr yn dilyn y Cod ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr ym Mhrydain Fawr – bydd hyn yn eu helpu i osgoi sefyllfaoedd lle y gallai eu gonestrwydd neu eu huniondeb gael ei gwestiynu.
- Sicrhau bod eich cefnogwyr yn gwrtais wrth ddelio ag ymgeiswyr eraill a'u cefnogwyr wrth ymgyrchu yn ogystal ag mewn digwyddiadau etholiadol fel y cyfrif a'r broses ddilysu.
- Bod yn ymwybodol o'r dyddiadau cau ar gyfer penodi asiant etholiad, ac asiantiaid i fod yn bresennol mewn achlysuron agor amlenni pleidleisiau post, gorsafoedd pleidleisio a'r cyfrif. Mae'r dyddiadau cau wedi'u nodi yn ein canllawiau ar bleidleisio drwy’r post, y diwrnod pleidleisio a'r broses dilysu a chyfrif.
- Darllen ein canllawiau ar achlysuron agor amlenni pleidleisiau post, y broses bleidleisio a'r cyfrif fel eich bod yn gwybod beth y gallwch ei ddisgwyl a phryd.
- Cydymffurfio ag unrhyw drefniadau diogelwch ychwanegol y gall Swyddogion Canlyniadau eu rhoi ar waith mewn digwyddiadau etholiadol, megis y cyfrif a'r broses ddilysu, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i fynychwyr ddangos ID neu ofyn am gael gwirio eu bagiau cyn cael mynediad a dilyn unrhyw gyfarwyddiadau ynghylch y safonau ymddygiad a ddisgwylir.
- Sicrhau bod eich systemau ar gyfer cofnodi gwariant a rhoddion yn gweithio. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar roddion a gwariant etholiad.
Yn ystod yr ymgyrch, rhaid i chi sicrhau nad ydych yn...
- Gwneud datganiad ffug am gymeriad personol ymgeisydd arall yn fwriadol. 1
- Talu canfaswyr. Ystyr canfasio yw ceisio darbwyllo etholwr i bleidleisio dros neu yn erbyn ymgeisydd neu blaid benodol. 2
- Trin papurau pleidleisio wedi'u cwblhau neu becynnau pleidleisio drwy'r post ar gyfer pleidleiswyr nad ydynt yn deulu agos neu rhywun rydych yn gofalu amdano.3
Bydd angen i chi sicrhau bod eich cefnogwyr yn ymwybodol o'r cyfyngiadau o ymdrin â phleidleisiau post ac yn dilyn y Cod ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr ym Mhrydain Fawr. Bydd hyn yn eu helpu i osgoi sefyllfaoedd lle y gallai eu gonestrwydd neu eu huniondeb gael ei gwestiynu.
Ceir rhagor o wybodaeth am droseddau mewn etholiad a sut i roi gwybod amdanynt yn ein canllawiau ar droseddau.
Os byddwch chi, neu'ch asiant, wedi gwneud camgymeriad ac wedi torri'r rheolau, gallwch wneud cais am ryddhad rhag canlyniadau gwneud camgymeriad. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar beth i'w wneud os byddwch wedi gwneud camgymeriad.
- 1. Erthygl 61, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 65, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 9A, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
Yr hyn y dylid ac na ddylid ei wneud o ran cyhoeddusrwydd wrth ymgyrchu
Rhaid i chi wneud y canlynol:
- Defnyddio argraffnodau ar eich holl ddeunydd ymgyrchu argraffedig ac unrhyw ddeunydd ymgyrchu electronig a ddylunnir i'w argraffu'n lleol. 1 Dylech sicrhau bod yr argraffnod yn glir ac yn weladwy. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar ddefnyddio argraffnodau.
- Cydymffurfio â rheolau cynllunio sy'n ymwneud â byrddau hysbysebu a baneri mawr 2 – dylech ofyn i'r awdurdod lleol perthnasol am gyngor.
- Sicrhau bod posteri awyr agored yn cael eu tynnu'n ddi-oed ar ôl yr etholiad – rhaid i chi wneud hyn o fewn pythefnos i ddiwedd yr etholiad. 3
Dylech wneud y canlynol:
- Cynnwys argraffnod ar unrhyw ddeunydd ymgyrchu nas argreffir, gan gynnwys gwefannau.
- Ystyried sut i sicrhau bod eich ymgyrch yn hygyrch i bob pleidleisiwr – er enghraifft pleidleiswyr anabl neu bleidleiswyr nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf, neu efallai y bydd angen darparu deunydd ymgyrchu Cymraeg mewn fformat penodol. Gallech gysylltu â grwpiau anabledd yn eich ardal leol am gyngor.
Rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol:
- 1. Adran 143A, Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ac erthygl 64, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) (Lloegr) 2007 a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) (Lloegr) 2007 a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 55, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 63, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 5
Defnyddio argraffnodau
Beth yw argraffnod?
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ychwanegu argraffnod at yr holl ddeunydd argraffedig er mwyn dangos pwy sy'n gyfrifol am ei lunio. 1
Dylech sicrhau bod eich argraffnod yn glir ac yn weladwy.
Mae ein canllaw i argraffnodau ymgeisydd yn esbonio'r rheolau y mae'n rhaid i chi eu dilyn os ydych yn ymgyrchydd yn y math hwn o etholiad.
Dylech hefyd ychwanegu argraffnod i bob deunydd ymgyrchu arall am ei fod yn helpu i sicrhau bod yr ymgyrch yn dryloyw.
O dan Ddeddf Etholiadau 2022, mae angen argraffnodau ar ddeunydd digidol penodol hefyd. Ar gyfer y gofynion argraffnodau ar ddeunydd digidol, gweler ein canllawiau statudol ar argraffnodau digidol.
- 1. Adran 143, Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ac erthygl 64, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Defnyddio ysgolion ac ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus
Efallai y byddwch am ymgysylltu â'r cyhoedd mewn cyfarfodydd cyhoeddus, gan hyrwyddo eich syniadau ac ateb cwestiynau gan y gynulleidfa.
Mae Swyddog Cofrestru Etholiadol pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr yn cadw rhestr o leoliad ac argaeledd ystafelloedd cyfarfod yn ei ardal. Bydd y rhestr hon ar gael i ymgeiswyr ac asiantiaid etholiad o'r diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad etholiad.
Pan fyddwch yn ymgeisydd, cewch ddefnyddio ystafelloedd cyhoeddus hyd at y diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio. 1
Ceir manylion cyswllt Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr/gwybodaeth-etholiad
Dylech gysylltu â pherchennog y safle i drefnu ystafell, gan roi rhybudd rhesymol er mwyn lleihau'r risg y caiff y cais ei wrthod. Nid yw eich hawl i ddefnyddio ystafelloedd yn cynnwys yr oriau y defnyddir ysgol at ddibenion addysgol na phan fydd cytundeb wedi'i wneud i osod ystafell wedi'i wneud ymlaen llaw.
Ni chodir tâl am ddefnyddio'r ystafelloedd hyn, ond rhaid i chi dalu am unrhyw gostau yr eir iddynt, megis gwres, golau a glanhau, ac am unrhyw ddifrod i'r eiddo.
- 1. Erthygl 56, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Defnyddio'r gofrestr etholwyr a rhestrau o bleidleiswyr absennol
Pan fyddwch wedi dod yn ymgeisydd yn swyddogol, cewch gopi o'r cofrestrau etholiadol llawn am ddim. 1 Cewch hefyd weld y rhestrau o bobl sy'n pleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy ('y rhestrau o bleidleiswyr absennol') ar gyfer eich ardal heddlu gyfan.
Caiff pleidiau gwleidyddol cofrestredig gopi o'r gofrestr etholiadol ar unrhyw adeg.
Mae dau fath o gofrestr.
Gan ddefnyddio gwybodaeth gan y cyhoedd, mae swyddogion cofrestru yn cadw dwy gofrestr –
Y gofrestr etholiadol
Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Defnyddir y gofrestr at ddibenion etholiadol, fel sicrhau mai dim ond pobl gymwys a all bleidleisio. Fe'i defnyddir hefyd at ddibenion cyfyngedig eraill a nodir yn y gyfraith, fel canfod trosedd (e.e. twyll), galw pobl i wasanaeth rheithgor, gwirio ceisiadau am gredyd.
Y gofrestr agored
Mae'r gofrestr agored yn rhan o'r gofrestr etholwyr, ond ni chaiff ei defnyddio ar gyfer etholiadau. Gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu. Er enghraifft, caiff ei defnyddio gan fusnesau ac elusennau er mwyn cadarnhau enwau a chyfeiriadau. Gall etholwyr ofyn am i'w henw a'u cyfeiriad beidio â chael eu cynnwys ar y gofrestr agored
- 1. Paragraffau 4 a 5, Atodlen 1, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Cyfyngiadau ar ddefnyddio'r wybodaeth a geir yn y gofrestr etholiadol a'r rhestrau pleidleiswyr absennol
Mae'r gofrestr etholiadol a'r rhestrau pleidleiswyr absennol yn cynnwys data personol pobl ac felly rheolir eu defnydd yn ofalus iawn.
Gallwch eu defnyddio i:
- gwblhau eich ffurflen enwebu
- eich helpu i ymgyrchu
- cadarnhau bod rhoddion yn rhai a ganiateir
Ni ddylech roi unrhyw fanylion sydd ond yn ymddangos ar y gofrestr lawn ac nid ar y gofrestr agored, sydd ar werth yn gyffredinol, i neb. Ni ddylech ddefnyddio'r gofrestr lawn na'r rhestrau o bleidleiswyr absennol at unrhyw ddiben arall nad yw wedi'i restru uchod. 1
Os byddwch wedi rhoi copi o'r gofrestr neu'r rhestrau o bleidleiswyr absennol i weithwyr ymgyrch, rhaid iddynt hefyd gydymffurfio â'r gofynion uchod.
Rhaid i chi sicrhau eich bod yn cadw'r gofrestr etholiadol a'r rhestrau pleidleiswyr absennol yn ddiogel. 2
Pan na fydd angen y gofrestr na'r rhestrau o bleidleiswyr absennol arnoch mwyach at ddiben etholiadol, dylech ddinistrio unrhyw gopïau a roddwyd i chi fel ymgeisydd yn unol â chanllawiau'r Comisiynydd Gwybodaeth.
- 1. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, rheoliad 102 a 108; Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001, rheoliad 101 a 107 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016, erthygl 5 ↩ Back to content at footnote 2
Gwneud cais am gopi o'r gofrestr etholwyr a'r rhestrau o bleidleiswyr absennol
Gellir cael copïau o'r gofrestr a'r rhestrau o bleidleiswyr absennol gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol.
Bydd Swyddog Cofrestru Etholiadol wedi'i benodi ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yn ardal yr heddlu i gynnal y cofrestrau etholwyr. Gallwch ddod o hyd i'r manylion cyswllt yn www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr/gwybodaeth-etholiad
Rhaid i'r cais gael ei wneud yn ysgrifenedig1 ac rydym wedi darparu ffurflen cais am y gofrestr a ffurflen cais am y rhestr pleidleiswyr absennol at y diben hwn ar ein gwefan.
Er bod yn rhaid cyflwyno ceisiadau i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol, dylech hefyd gysylltu â Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu, a all fod wedi rhoi trefniadau ar waith i gydgysylltu ceisiadau ar gyfer yr holl gofrestrau a rhestrau yn ardal yr heddlu.
Darperir y gofrestr a'r rhestrau ar ffurf electronig oni fydd cais penodol am gopi papur.
Bydd y fersiwn o'r gofrestr etholwyr a'r rhestrau a ddarperir yn gyfredol ar adeg eich cais. Gallwch hefyd wneud cais am ddiweddariadau i'r cofrestrau etholiadol a'r rhestrau a gyhoeddir yn y cyfnod cyn yr etholiad, gan gynnwys y rhestr o etholwyr sydd newydd gofrestru pan gaiff ei chyhoeddi bum diwrnod gwaith cyn yr etholiad.
Gallai unrhyw un sy'n torri'r cyfyngiadau ar ddefnyddio'r gofrestr etholiadol wynebu dirwy anghyfyngedig. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar gyfyngiadau ar ddefnyddio'r gofrestr etholiadol yng Nghymru a Lloegr.
- 1. Paragraff 2, Atodlen 1, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Eich anerchiad etholiadol
Caiff pob ymgeisydd wneud datganiad ymgyrch i'w gyhoeddi ar wefan a ddarperir gan Lywodraeth y DU.
Mae anerchiad etholiadol yn ddatganiad ymgyrch y bydd ymgeisydd yn ei wneud i'r etholaeth er mwyn darbwyllo etholwyr i bleidleisio drosto.
Os hoffech i'ch anerchiad gael ei gynnwys ar y wefan, rhaid i chi ei gyflwyno i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu. Bydd yn cadarnhau erbyn pryd y bydd yn rhaid i chi gyflwyno eich anerchiad er mwyn iddo gael ei gynnwys ar y wefan.
Rydym wedi cyhoeddi taflen ffeithiau i ymgeiswyr ac asiantiaid ar wahân sy'n cynnwys rhagor o wybodaeth am anerchiadau ymgeiswyr.
Cynnal uniondeb a diogelwch yr etholiad
- Ymgeiswyr yw un o brif wynebau cyhoeddus yr etholiad, a bydd eich gwrthwynebwyr, y cyfryngau a phleidleiswyr yn craffu ar eich ymddygiad yn ofalus.
- Dylai pleidleiswyr allu ymddiried ynoch i gydymffurfio â'r gyfraith a chynnal uniondeb a diogelwch y broses etholiadol.
Mae asiantiaid etholiad yn gyfrifol am eich ymgyrch ac, yn benodol, maent yn gyfrifol am ei rheolaeth ariannol yn gyfreithiol. - Dylech sicrhau bod eich cefnogwyr yn deall y gyfraith yn llawn ac yn gwybod beth i'w wneud i
- sicrhau y gall pleidleiswyr fwrw eu pleidlais heb unrhyw rwystr; ac y gall
- ymgeiswyr eraill a'u cefnogwyr gymryd rhan yn ddiogel yn yr etholiad hwn heb brofi bygythiadau
- Mae rhagor o wybodaeth am ganllawiau diogelwch i ymgeiswyr ac asiantiaid ar gael yn https://www.gov.uk/government/publications/security-guidance-for-may-2021-elections.
- Dim ond os oes tystiolaeth o drosedd y gall yr heddlu ymchwilio i honiadau o dwyll etholiadol. Dylai honiadau neu gyhuddiadau gael eu cadarnhau bob amser pan gânt eu cyfeirio at yr heddlu.
- Dylech hefyd ystyried yr effaith ar hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd os gwneir honiadau anwir neu ddisylwedd ynghylch ymddygiad ymgyrchwyr eraill.
- Nid yw'r Swyddog Canlyniadau Lleol, Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu na'r Comisiwn yn rheoleiddio'r troseddau hyn. Ceir manylion am sut i roi gwybod am unrhyw honiadau yn ein canllawiau ar ‘Rhoi gwybod am honiadau o dwyll etholiadol’
Tabl o droseddau
Mae'r tabl canlynol yn dangos nifer o droseddau etholiadol a throseddau nad ydynt yn rhai etholiadol y dylech fod yn ymwybodol ohonynt. Dylech geisio eich cyngor cyfreithiol eich hun pan fydd angen.
Llwgrwobrwyo 1 | Mae'r drosedd o lwgrwobrwyo yn cynnwys, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, roi unrhyw arian neu sicrhau unrhyw swydd ar gyfer unrhyw bleidleisiwr neu ar ei ran, er mwyn ysgogi unrhyw bleidleisiwr i bleidleisio neu beidio â phleidleisio |
Anrhegu 2 | Mae unigolyn yn euog o dretio os bydd, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, naill ai cyn, yn ystod neu ar ôl etholiad, yn rhoi neu'n darparu unrhyw fwyd, diod, adloniant neu ddarpariaeth er mwyn dylanwadu'n llygredig ar unrhyw bleidleisiwr i bleidleisio neu beidio â phleidleisio. Mae a wnelo tretio â bwriad llygredig – nid yw'n gymwys i letygarwch arferol. |
Dylanwad gormodol 3 | Bydd person yn euog o ddylanwad gormodol os bydd yn cyflawni gweithgaredd
Y gweithgareddau hyn yw:
Nid yw dylanwad gormodol yn ymwneud â mynediad ffisegol i'r orsaf bleidleisio yn unig. Er enghraifft, gallai taflen sy'n bygwth defnyddio grym er mwyn cymell pleidleisiwr i bleidleisio mewn ffordd benodol hefyd fod yn ddylanwad gormodol. |
Trin dogfennau pleidleisio drwy'r post gan ymgyrchwyr gwleidyddol 4
| Mae'n drosedd i ymgyrchwyr gwleidyddol drin papurau pleidleisio wedi'u cwblhau neu becynnau pleidleisio drwy'r post ar gyfer pleidleiswyr nad ydynt yn aelodau agos o'u teulu neu'n rhywun y maent yn gofalu amdanynt. |
Cambersonadu 5 | Ystyr cambersonadu yw pan fydd unigolyn yn pleidleisio fel rhywun arall, naill ai drwy'r post neu'n bersonol yn yr orsaf bleidleisio, fel etholwr neu ddirprwy. Mae'r drosedd hon yn gymwys p'un a yw'r person a gaiff ei gambersonadu yn fyw, yn farw neu'n ffuglennol. Mae hefyd yn drosedd cynorthwyo, annog neu gaffael cambersonadu.
|
Datganiadau ffug Ynghylch cymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd 6
| Mae'n drosedd gwneud neu gyhoeddi datganiad ffeithiau ffug am gymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd er mwyn effeithio ar ethol ymgeisydd mewn etholiad. Nid yw datganiadau ffug nad ydynt yn ymwneud â chymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd arall yn anghyfreithlon o dan gyfraith etholiadol, ond gellid eu hystyried yn enllibus neu'n athrodus. Mae hefyd yn anghyfreithlon gwneud datganiad ffug bod ymgeisydd yn tynnu ei enw'n ôl er mwyn hyrwyddo neu gaffael ethol ymgeisydd arall.
|
Datganiadau ffug Mewn papurau enwebu 7
| Mae'n drosedd gwneud datganiad ar bapur enwebu y gwyddoch ei fod yn ffug. Er enghraifft, os ydych yn gwybod eich bod wedi eich anghymhwyso rhag sefyll etholiad, ni ddylech lofnodi'r ffurflen cydsynio ag enwebiad. |
Gwybodaeth gofrestru ffug a chais ffug i bleidleisio drwy'r post/drwy ddirprwy 8 | Mae'n drosedd rhoi gwybodaeth ffug ar ffurflen gais cofrestru, pleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy. Mae gwybodaeth ffug yn cynnwys llofnod ffug |
Cais ffug am bleidlais drwy'r post neu drwy ddirprwy 9 | Bydd unigolyn yn euog o drosedd os bydd yn gwneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy er mwyn cael pleidlais nad oes ganddo'r hawl i'w chael neu er mwyn atal rhywun arall rhag pleidleisio. |
Troseddau'n gysylltiedig ag aml-bleidleisio a phleidleisio drwy ddirprwy 10 | Ceir amryw droseddau o ran aml-bleidleisio a phleidleisio drwy ddirprwy, gan gynnwys unigolyn yn pleidleisio drwy'r post fel etholwr neu ddirprwy pan fo wedi'i anghymhwyso yn ôl y gyfraith rhag pleidleisio a chymell neu gaffael rhywun arall i gyflawni'r drosedd. |
Torri'r gofynion o ran cyfrinachedd y bleidlais 11 | Rhaid i bawb sy'n gysylltiedig â'r broses etholiadol neu sy'n bresennol mewn rhai digwyddiadau gynnal cyfrinachedd y bleidlais. Bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn rhoi copi o'r gofynion swyddogol o ran cyfrinachedd i bawb sy'n bresennol yn yr achlysur agor amlenni pleidleisiau post neu gyfrif papurau pleidleisio, ac i asiantiaid pleidleisio. |
Deunydd cyhoeddusrwydd ymgyrch | Mae rhai troseddau'n ymwneud yn benodol â deunydd cyhoeddusrwydd ymgyrch etholiadol. Rhaid i ddeunydd cyhoeddusrwydd ymgyrch etholiadol argraffedig gynnwys argraffnod, 12 peidio ag edrych fel cerdyn pleidleisio 13 a pheidio â chynnwys datganiad ffug ynghylch cymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd arall. 14 Nid yw'r Swyddog Canlyniadau Lleol, Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu na'r Comisiwn yn rheoleiddio cynnwys deunydd ymgyrchu ac ni allwn wneud unrhyw sylwadau am gyfreithlondeb unrhyw ddeunydd etholiadol penodol y tu hwnt i'r hyn a nodir yn y canllawiau hyn |
Casineb hiliol | O dan Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986, mae'n drosedd cyhoeddi neu ddosbarthu deunydd bygythiol, ymosodol neu sarhaus y bwriedir iddo ysgogi casineb hiliol neu sy'n debygol o wneud hynny. |
Swyddogion yr heddlu fel canfaswyr 15 | Ni chaiff aelodau o'r heddlu ganfasio a byddent yn cyflawni trosedd petaent yn gwneud hynny. Ni chaiff aelodau o'r heddlu ddarbwyllo unrhyw un i bleidleisio neu i beidio â phleidleisio. |
- 1. Erthygl 67, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 68, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 114A, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Paragraff 9A, Atodlen 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 17, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 61, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Erthygl 21, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Adran 13D, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Paragraff 10, Atodlen 1, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Erthygl 18, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Erthygl 22, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 11
- 12. Erthygl 64, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 12
- 13. Erthygl 55, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 13
- 14. Erthygl 61, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 14
- 15. Erthygl 60, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 15
Beth os ydych wedi gwneud camgymeriad?
Efallai y gallwch wneud cais am ryddhad rhag cosbau trosedd a gyflawnwyd yn anfwriadol, yn ddiniwed neu heb eich gwybodaeth.
Dylech bob amser geisio cyngor cyfreithiol annibynnol wrth ystyried gwneud cais am ryddhad.
I gael rhagor o wybodaeth, dylech gysylltu â'r cyfeiriad canlynol:
The Election Petitions Office
Room E105
Royal Courts of Justice
Strand
London WC2A 2LL
E-bost: [email protected]
Ffôn: 0207 947 6877
Rhoi gwybod am honiadau o dwyll etholiadol
Os byddwch yn poeni am dwyll etholiadol, dylech siarad yn gyntaf â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol neu'r Swyddog Canlyniadau perthnasol.
Efallai y byddant yn gallu egluro p'un a gyflawnwyd twyll etholiadol ai peidio, a gallant gyfeirio eich pryderon at yr heddlu os oes angen. Gall hefyd roi manylion swyddog cyswllt yr heddlu ar gyfer yr heddlu perthnasol fel y gallwch roi gwybod am yr honiad eich hun.
Os bydd gennych dystiolaeth o drosedd etholiadol, dylech gysylltu â'r heddlu ar unwaith, gan ddefnyddio'r rhif 101 ar gyfer galwadau nad ydynt yn rhai brys oni fydd trosedd yn cael ei chyflawni yn y fan a'r lle, pan ddylech ffonio'r rhif safonol sef 999.
Mae gan bob heddlu Swyddog Cyswllt Unigol penodol a fydd yn gallu rhoi cyngor er mwyn sicrhau yr ymchwilir i'ch honiadau'n gywir. Dylech fod yn barod i roi datganiad iddo ac ategu eich honiad.
Os nad ydych am roi datganiad i'r heddlu, gallwch leisio eich pryderon yn ddienw ar wefan Crimestoppers neu drwy ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111
Mae manylion cyswllt Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau Lleol ar gael yn www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr/gwybodaeth-etholiad.
Gallwch gysylltu â ni i ddysgu pwy yw Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ar gyfer pob ardal. Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu hefyd yn gallu rhoi manylion cyswllt ar gyfer Swyddogion Canlyniadau Lleol.
Noder, os bydd eich honiad yn ymwneud â materion cyllid ymgyrchydd plaid, etholiadol neu gofrestredig, fel gwariant a rhoddion, yna dylech ddilyn y cyngor a roddir yn: https://www.electoralcommission.org.uk/cy/pwy-ydym-ni-a-beth-rydym-yn-ei-wneud/gorfodi/gwneud-honiad
Enwebiadau
Mae'r adrannau canlynol yn rhoi canllawiau ar sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r canllawiau yn ymdrin â'r canlynol:
- Y broses enwebu, gan gynnwys pa ffurflenni y mae angen i chi eu cwblhau
- Pryd a sut y bydd angen i chi gyflwyno eich papurau enwebu
- Beth sy'n digwydd ar ôl i chi gyflwyno eich papurau enwebu
Mae rheolau penodol y mae angen i ymgeiswyr eu dilyn, yn dibynnu a ydynt yn sefyll fel ymgeisydd plaid wleidyddol neu'n sefyll fel ymgeisydd annibynnol. Caiff y gwahaniaethau hyn eu nodi'n amlwg yn y canllawiau.
Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu
Mewn rhai ardaloedd heddlu mae rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu hefyd yn cynnwys cyfrifoldeb am wasanaethau tân ac achub yn yr ardal. Yn yr ardaloedd hyn, mae'r ffurflenni enwebu yn cyfeirio at ethol Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu.
Gallwch weld ein canllawiau ar gyfer etholiadau eraill ar ein gwefan.
Cwblhau eich papurau enwebu
I gael eich enwebu fel ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, bydd angen i chi gyflwyno set o bapurau enwebu wedi'u cwblhau i'r man a nodwyd gan Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. 1
Pennir y dyddiad cau hwn yn ôl y gyfraith ac ni ellir ei newid am unrhyw reswm.
Nodir y dyddiad pan fyddwch yn gallu dechrau cyflwyno papurau enwebu, yn ogystal â'r amseroedd a'r man cyflwyno, yn yr hysbysiad etholiad a gyhoeddir gan Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu. 2
Rhaid i chi gyflwyno tri phapur enwebu er mwyn i'ch enwebiad fod yn ddilys: 3
Gall Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu benderfynu bod eich papur enwebu yn annilys os nad yw manylion eich enwebiad yn unol â gofynion y gyfraith. Hefyd, gall Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu wrthod eich enwebiad os yw'n dod i'r casgliad ei fod yn un ffug, er enghraifft os rhoddir enw sy'n amlwg yn ffug.
Os na fyddwch chi, eich asiant neu rywun rydych yn ymddiried ynddo yn gallu cwblhau'r ffurflen enwebu, gall Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu eich helpu drwy baratoi'r ffurflen i chi ei llofnodi. 4
Efallai y gall Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu hefyd gynnig bwrw golwg anffurfiol dros eich papurau enwebu wedi'u cwblhau cyn i chi eu cyflwyno. 5 Dylech gael rhagor o wybodaeth gan Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu o ran a yw'n bwriadu cynnig gwiriadau anffurfiol.
Noder bod yn rhaid i unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhoi ar eich papurau enwebu fod yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth. Mae'n drosedd gwneud datganiad ffug ar eich papurau enwebu. Gallai rhoi datganiad ffug annilysu eich etholiad, a gallech hefyd wynebu dirwy anghyfyngedig a/neu ddedfryd o garchar.
Ochr yn ochr â'ch papurau enwebu, rhaid i chi hefyd gyflwyno ernes o £5,000 i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar ernesau.
- 1. Paragraff 1, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Paragraff 4, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Paragraffau 5 a 8, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Paragraff 7(4)(b), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 21, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 5
Y ffurflen enwebu
Gallwch gael papurau enwebu gan Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu. Rhoddir manylion cyswllt ar ein gwefan. Fel arall, rydym wedi llunio dwy gyfres o bapurau enwebu sy'n cynnwys yr holl ffurflenni sydd eu hangen i enwebu ymgeisydd ar gyfer etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu neu Gomisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu.
Dylai eich enw a'ch disgrifiad (os byddwch yn dewis defnyddio un) gael eu nodi ar y ffurflen enwebu cyn i chi ofyn i lofnodwyr lofnodi'r ffurflen.
Rhaid i'r ffurflen enwebu gael ei chwblhau yn Gymraeg neu'n Saesneg.
Rhaid i'r ffurflen gynnwys:
Eich enw llawn 1
- Nodwch eich cyfenw ac enwau eraill yn llawn.
- Gallai defnyddio blaenlythrennau'n unig arwain at wrthod eich papur enwebu.
- Peidiwch â defnyddio rhagddodiaid fel Mr, Mrs, Dr neu Cyngh. fel rhan o'ch enw.
- Mae'r un peth yn wir am ôl-ddodiaid. Fodd bynnag, os oes gennych deitl, gallwch ddefnyddio hwn fel eich enw llawn. Er enghraifft, os mai Joseph Smith yw eich enw gwirioneddol, ond mai eich teitl etifeddol yw Joseph Avon, gallwch ddefnyddio'r enw Joseph Avon fel eich enw llawn.
Llofnodion 100 o etholwyr cofrestredig 2
- Fe'u gelwir hefyd yn llofnodwyr o ardal yr heddlu.
- Rhaid i'ch llofnodwyr ymddangos ar gofrestr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer unrhyw awdurdod lleol yn ardal yr heddlu sydd mewn grym 25 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar lofnodwyr.
Disgrifiad
Gallwch hefyd ddewis defnyddio disgrifiad ar eich papur enwebu. Mae'r math o ddisgrifiad y gallwch ei ddefnyddio yn dibynnu ar b'un a ydych yn ymgeisydd annibynnol neu'n ymgeisydd plaid.
Ymgeiswyr Annibynnol | Dim ond “Annibynnol” y gallwch ei ddefnyddio fel eich disgrifiad |
---|---|
Ymgeiswyr pleidiau gwleidyddol | Gallwch ddefnyddio enw neu ddisgrifiad y blaid. Os ydych am ddefnyddio enw neu ddisgrifiad plaid, mae'n rhaid i chi hefyd gyflwyno, ynghyd â'ch papurau enwebu eraill, dystysgrif sy'n dangos fod gennych awdurdodiad i ddefnyddio enw neu ddisgrifiad y blaid. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar y dystysgrif awdurdodi. |
Nid oes rhaid i chi ddefnyddio disgrifiad. Os byddwch yn dewis peidio â defnyddio disgrifiad, gallwch adael maes disgrifiad y ffurflen enwebu yn wag.
- 1. Paragraff 5(2)(a), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Paragraff 7, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
Enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin
Rhaid i chi gwblhau eich enw llawn ar y ffurflen enwebu
Os ydych:
- yn defnyddio cyfenw neu enw cyntaf sy'n wahanol i unrhyw gyfenw neu enw cyntaf arall sydd gennych
- yn defnyddio un enw cyntaf neu gyfenw neu fwy mewn ffordd wahanol i'r hyn a nodir ar eich ffurflen enwebu
gallwch nodi eich enw neu enwau a ddefnyddir yn gyffredin ar eich ffurflen enwebu yn ogystal â'r enwau llawn a ddarparwyd gennych 1
Er enghraifft, efallai fod pobl yn eich adnabod fel 'Andy', yn hytrach na'ch enw cyntaf llawn sef 'Andrew'. Yn yr achos hwnnw, gallwch ysgrifennu 'Andy' yn y blwch ‘enw cyntaf a ddefnyddir yn gyffredin’ ar y papur enwebu, os byddai'n well gennych fod yr enw hwnnw’n ymddangos ar y papur pleidleisio.
Gallwch wneud cais i ddefnyddio enw cyntaf a ddefnyddir yn gyffredin, cyfenw a ddefnyddir yn gyffredin, neu'r ddau.
Yna byddai unrhyw enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin yn ymddangos ar:
- ddatganiad ynghylch y personau a enwebwyd
- yr hysbysiad etholiad
- y papurau pleidleisio
Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn gwrthod enwau a ddefnyddir yn gyffredin sy'n debygol o gamarwain neu ddrysu etholwyr, neu sy'n anweddus neu'n sarhaus. Os na chaniateir yr enw(au), bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn ysgrifennu atoch gan nodi'r rheswm dros hynny. Yn yr achosion hynny, defnyddir eich enw gwirioneddol. 2
Os caiff y blwch ar gyfer enw cyntaf neu gyfenw a ddefnyddir yn gyffredin ar y papur enwebu ei adael yn wag, yna bydd eich enw cyntaf neu gyfenw gwirioneddol, yn dibynnu ar ba flwch ar gyfer enwau a ddefnyddir yn gyffredin a adawyd yn wag, yn cael ei ddefnyddio.
Mae'n drosedd gwneud datganiad ffug ar eich papur enwebu. Felly, os byddwch yn dewis rhoi enw cyffredin, rhaid i chi sicrhau ei fod yn enw cyntaf neu'n gyfenw cyffredin ar eich cyfer.
- 1. Rheolau Prif Ardaloedd 2006, Atodlen 2, Rheol 4(3) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Paragraffau 13(4) a (5), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
Llofnodion llofnodwyr
Mae angen i bob ffurflen enwebu gael ei llofnodi gan y 100 o etholwyr sydd ar y gofrestr etholiadol llywodraeth leol ar gyfer awdurdod lleol yn ardal yr heddlu.
Rhaid iddynt fod o oedran pleidleisio erbyn y diwrnod pleidleisio a bod ar y gofrestr sydd mewn grym ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad etholiad. 1
Bydd y ddau etholwr cyntaf yn llofnodi ac yn ysgrifennu eu henwau fel y cynigydd a'r eilydd, a bydd y 98 arall yn llofnodi fel cefnogwyr i'r enwebiad.
Os bydd ffurflen enwebu yn cynnwys mwy na 100 o lofnodion, dim ond y 100 cyntaf a dderbynnir. 2 Os bydd unrhyw un o'r 100 llofnod cyntaf yn annilys, rhaid i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu bennu bod y ffurflen enwebu'n annilys, waeth p'un a yw'r ffurflen yn cynnwys mwy na 100 ai peidio. 3
Nid oes dim yn eich atal rhag llofnodi eich enwebiad eich hun ar yr amod eich bod wedi'ch cofrestru yn ardal yr heddlu.
Gall fod rhai etholwyr ar y gofrestr sydd wedi cofrestru'n ddi-enw am eu bod yn poeni am eu diogelwch.
Ni chaiff etholwyr sydd wedi cofrestru'n ddi-enw lofnodi ffurflenni enwebu.
Dangosir etholwyr di-enw ar y gofrestr gyda'u rhif pleidleisio a'r llythyren 'N' yn unig (yn hytrach na'u henw a chyfeiriad).
Ni ddylai ffurflenni enwebu gael eu newid ar ôl eu llofnodi. Dylai eich holl fanylion gael eu cwblhau cyn i chi wahodd unrhyw un i lofnodi eich enwebiad. Unwaith y bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu wedi derbyn ffurflen enwebu, ni all llofnodion gael eu tynnu'n ôl.
Y rhif etholwr
Rhaid nodi rhif etholwr pob llofnodwr fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr etholiadol, ar y ffurflen enwebu, yn ogystal ag enw'r awdurdod lleol lle y mae wedi'i gofrestru. 4
Fel rheol, mae'r rhif etholwr yn cynnwys rhifau neu lythrennau penodol y dosbarth etholiadol ar flaen y gofrestr.
Bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer pob awdurdod lleol yn gallu eich cynghori ar drefn ei gofrestr.
Cewch gopi am ddim o'r gofrestr etholwyr ar gyfer pob awdurdod lleol, neu ran o awdurdod lleol, sydd yn ardal yr heddlu lle rydych yn sefyll. 5
Dylech ddefnyddio'r cofrestrau er mwyn sicrhau bod eich ffurflen enwebu wedi'i llofnodi'n gywir.
Yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data, a'r ddarpariaeth etholiadol y cawsoch y gofrestr drwyddi, rhaid i chi sicrhau eich bod yn cadw'r gofrestr etholwyr yn ddiogel ac ar ôl i chi orffen ei defnyddio, dylech sicrhau ei bod yn cael ei dinistrio'n ddiogel.
Ystyriaethau diogelu data
Wrth gasglu gwybodaeth am lofnodwyr, dylech nodi at ba ddibenion y caiff y wybodaeth ei defnyddio, a sut y caiff data personol eu prosesu a'u cadw'n ddiogel. Sail gyfreithiol casglu'r wybodaeth yn y ffurflen hon yw bod ei hangen er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd ac arfer awdurdod swyddogol fel y nodir yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a'r rheoliadau cysylltiedig.
Dylech hefyd esbonio y bydd y wybodaeth yn cael ei rhannu â'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu. I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelu a phrosesu data, dylech gyfeirio at hysbysiad preifatrwydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ar ei wefan.
Mae deddfwriaeth diogelu data yn gymwys i brosesu pob math o ddata personol. Cysylltwch â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i gael rhagor o wybodaeth am y ffordd y gall y ddeddfwriaeth diogelu data bresennol effeithio arnoch chi fel ymgeisydd.
- 1. Paragraffau 7(1) a (5), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Paragraff 7(2), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Paragraff 11(2), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Paragraff 70, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Paragraffau 4 a 5, Atodlen 1, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 5
Cydsynio ag enwebiad
Rhaid i chi hefyd gydsynio'n ffurfiol â'ch enwebiad yn ysgrifenedig. 1
Rhagnodir cynnwys y ffurflen cydsynio ag enwebiad o dan y gyfraith a rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen gyfan er mwyn i'ch enwebiad fod yn ddilys.
Ar y ffurflen, gofynnir i chi nodi eich bod yn gymwys ac nad ydych wedi eich anghymhwyso rhag sefyll. Rhaid i chi hefyd roi eich dyddiad geni.
Ni chewch lofnodi'r ffurflen gydsynio yn gynt nag un ar ddeg ar hugain o ddiwrnodau calendr cyn y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno eich papurau enwebu.
Rhaid i rywun arall dystio eich llofnod, a rhaid i'r tyst lofnodi'r ffurflen a rhoi ei enw a'i gyfeiriad llawn.
Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran pwy all dystio'r ffurflen cydsynio ag enwebiad.
- 1. Paragraff 8, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Ffurflen cyfeiriad cartref
Er mwyn i'ch enwebiad fod yn ddilys, rhaid i chi gyflwyno ffurflen cyfeiriad cartref 1 wedi'i chwblhau gyda'ch ffurflen enwebu, eich ffurflen cydsynio ag enwebiad a'ch ernes.
Rhaid i'r ffurflen cyfeiriad cartref gynnwys:
- Eich enw llawn.
- Eich cyfeiriad cartref llawn.
Eich cyfeiriad cartref:
- rhaid iddo gael ei gwblhau'n llawn
- ni ddylai gynnwys talfyriadau
- rhaid mai eich cyfeiriad cartref cyfredol ydyw
- ni ddylai fod yn gyfeiriad busnes (oni fyddwch yn rhedeg busnes o'ch cartref)
Dewis peidio â chyhoeddi eich cyfeiriad cartref
Gallwch ddewis i'ch cyfeiriad cartref beidio â chael ei gyhoeddi ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd na'r papur pleidleisio.
Os felly, rhaid i chi lofnodi datganiad na ddylid cyhoeddi cyfeiriad eich cartref a'ch bod wedi'ch cofrestru ar y gofrestr etholwyr ar gyfer ardal etholiadol mewn perthynas â chyfeiriad o fewn ardal yr heddlu.
Dim ond os na fyddwch am i'ch cyfeiriad cartref gael ei gyhoeddi y bydd angen y datganiad hwn. Rhaid i chi roi eich cyfeiriad cartref llawn hyd yn oed os byddwch yn dewis peidio â'i gyhoeddi ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd a'r papur pleidleisio.
Os byddwch yn gweithredu fel eich asiant etholiad eich hun, oni bai eich bod yn darparu cyfeiriad swyddfa, caiff eich cyfeiriad cartref fel y'i rhoddwyd ar y ffurflen cyfeiriad cartref ei gyhoeddi o hyd ar yr hysbysiad o asiantiaid etholiad. 2 Dyma'r achos hyd yn oed pan fyddwch wedi dewis peidio â gwneud eich cyfeiriad cartref yn gyhoeddus ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd a'r papur pleidleisio.
Ni chaiff y cyhoedd weld ffurflenni cyfeiriad cartref a chânt eu dinistrio ar ôl yr etholiad.
- 1. Paragraffau 5(5) (6) a (7), Atodlen 3 i Orchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 29(5), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
Gofynion ychwanegol ar gyfer ymgeiswyr sy'n sefyll ar ran pleidiau gwleidyddol
Mae'r adran hon yn rhoi gwybodaeth benodol ar gyfer ymgeiswyr sy'n sefyll ar ran plaid wleidyddol am y wybodaeth ychwanegol y mae'n ofynnol ei chyflwyno fel rhan o'u papurau enwebu.
Er mwyn sefyll ar ran plaid wleidyddol gofrestredig, rhaid bod y blaid wedi'i chofrestru ar gofrestr o bleidiau gwleidyddol y Comisiwn yn http://search.electoralcommission.org.uk a bod wedi'i rhestru'n blaid y caniateir iddi gyflwyno ymgeiswyr yng Nghymru (os ydych yn sefyll etholiad mewn ardal yr heddlu yng Nghymru) neu Loegr (os ydych yn sefyll etholiad mewn ardal yr heddlu yn Lloegr). 1
Bydd hefyd angen i chi gyflwyno tystysgrif awdurdodi i allu sefyll ar ran y blaid honno. Os ydych hefyd am ddefnyddio arwyddlun y blaid, bydd hefyd angen i chi gyflwyno ffurflen gais am arwyddlun fel rhan o'ch enwebiad.
- 1. Paragraff 6(6), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Y dystysgrif awdurdodi
Mae pleidiau gwleidyddol yn awdurdodi ymgeiswyr i sefyll ar eu rhan drwy roi tystysgrif awdurdodi. Rhaid i'r dystysgrif hon nodi y gall yr ymgeisydd a enwir sefyll ar eu rhan a chaniatáu iddo ddefnyddio un o'r canlynol: 1
- union enw'r blaid fel y'i cofrestrwyd â'r Comisiwn
- un o ddisgrifiadau cofrestredig y blaid
- eich dewis o naill ai enw'r blaid gofrestredig neu un o'r disgrifiadau cofrestredig
Os ydych yn ymgeisydd yng Nghymru, cewch ddefnyddio naill ai'r fersiwn Gymraeg, y fersiwn Saesneg neu'r ddwy fersiwn o enw'r blaid neu'r disgrifiad, cyhyd â'u bod wedi'u cofrestru â ni.
Ceir enwau pleidiau cofrestredig a disgrifiadau cofrestredig ar gofrestr ar-lein o bleidiau gwleidyddol y Comisiwn http://search.electoralcommission.org.uk
Dylai'r Swyddog Enwebu (neu rywun sydd wedi'i awdurdodi i weithredu ar ei ran) fod yn hynod ofalus wrth gwblhau'r dystysgrif awdurdodi. Os yw'r dystysgrif yn awdurdodi enw plaid/disgrifiad penodol ac nad yw'n cyfateb i enw'r blaid/disgrifiad ar y papur enwebu, bydd yr enwebiad cyfan yn annilys. 2
Rhaid i'r dystysgrif awdurdodi gael ei llofnodi gan Swyddog Enwebu cofrestredig y blaid wleidyddol, neu gan rywun sydd wedi'i awdurdodi gan y Swyddog Enwebu i weithredu ar ei ran,a rhaid iddi ddod i law Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu erbyn y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau, sef 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. 3 4
Os ydych yn sefyll ar ran dwy blaid ar y cyd, bydd angen i chi gael tystysgrif awdurdodi gan Swyddog Enwebu'r naill blaid gofrestredig a'r llall (neu bobl a awdurdodwyd i weithredu ar eu rhan). 5 Rhestrir disgrifiadau ar y cyd ar gofrestr pleidiau gwleidyddol y Comisiwn ar dudalen gofrestru'r pleidiau perthnasol.
- 1. Paragraffau 6(1) a (2), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Paragraff 11(2), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Paragraff 6(1), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Paragraff 6(1)(b), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Paragraffau 6(3) a (4), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 5
Cais i ddefnyddio arwyddlun ar y papur pleidleisio
Os ydych wedi eich awdurdodi gan blaid wleidyddol i ddefnyddio enw'r blaid neu ddisgrifiad cofrestredig ar y papur pleidleisio, gallwch hefyd wneud cais am i un o arwyddluniau swyddogol y blaid gael ei argraffu ar y papur pleidleisio wrth ymyl eich enw. 1
Rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig am arwyddlun a'i gyflwyno i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu. Rhaid i'r cais ddod i law Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. 2
Gall plaid gofrestru hyd at dri arwyddlun. Efallai y byddwch am holi'ch plaid (e.e y Swyddog Enwebu neu rywun sydd wedi'i awdurdodi i weithredu ar ei ran) ynghylch pa arwyddlun i'w ddefnyddio. Cofiwch wneud cais am arwyddlun cyfredol.
Caiff ymgeiswyr sy'n sefyll ar ran dwy blaid gofrestredig neu fwy ac sy'n defnyddio disgrifiad ar y cyd ddefnyddio arwyddlun sydd wedi'i gofrestru gan un o'r pleidiau gwleidyddol. 3 Mae'n rhaid i'r cais gael ei wneud yn ysgrifenedig a'i gyflwyno i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu erbyn i'r enwebiadau gau, h.y. 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn rhoi ffurflen i chi y gallwch ei defnyddio i wneud y cais hwn, neu, fel arall, gallwch ddefnyddio'r ffurflen gwneud cais am arwyddlun a gynhyrchwyd gan y Comisiwn.
Dylai'r cais nodi enw'r blaid wleidyddol a'r disgrifiad o'r arwyddlun i'w ddefnyddio, fel y'u rhestrir ar gofrestr ar-lein o bleidiau gwleidyddol y Comisiwn. Ni ellir newid arwyddluniau cofrestredig mewn unrhyw ffordd.
- 1. Paragraff 19(4), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Paragraff 19(5), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Paragraffau 6(3) a 19(4), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
Cyflwyno eich papurau enwebu
Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod eich papurau enwebu, gan gynnwys y ffurflen cydsynio ag enwebiad a'r ffurflen cyfeiriad cartref, a lle rydych yn sefyll ar ran plaid, y dystysgrif awdurdodi a'r ffurflen gwneud cais am arwyddlun os yw'n ofynnol, gael eu cyflwyno i'r man a nodwyd ar yr hysbysiad etholiad erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. 1
Pwy all gyflwyno'r papurau enwebu?
Dim ond nifer cyfyngedig o bobl a gaiff gyflwyno eich ffurflen enwebu a'ch ffurflen cyfeiriad cartref, sef:
sef:
- chi
- eich asiant etholiad (ar yr amod eich bod wedi rhoi hysbysiad penodi i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu neu fod yr hysbysiad yn cael ei gyflwyno gyda'r ffurflenni)
- y cynigydd neu'r eilydd fel y mae'n ymddangos ar y ffurflen enwebu
Ni chyfyngir ar bwy all gyflwyno'ch ffurflen cydsynio ag enwebiad, eich tystysgrif awdurdodi na'ch ffurflen gwneud cais am arwyddlun, ond dylech sicrhau eich bod chi, eich asiant neu rywun rydych yn ymddiried ynddo yn gwneud hyn, fel y gallwch fod yn siŵr y cânt eu cyflwyno i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ar amser. 2
- 1. Paragraffau 4(1)(a), 8(d) a 10, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Paragraff 8(d), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
Sut y dylai papurau enwebu gael eu cyflwyno?
Rhaid i'r ffurflen enwebu, y ffurflen cyfeiriad cartref a'r ffurflen cydsynio ag enwebiad gael eu cyflwyno'n bersonol. Ni ellir eu postio, ffacsio, e-bostio na defnyddio unrhyw gyfrwng electronig arall. 1
Gellir cyflwyno'r dystysgrif awdurdodi a'r ffurflen gwneud cais am arwyddlun drwy'r post, ond ni ellir eu ffacsio, e-bostio na defnyddio unrhyw gyfrwng electronig arall. 2
Rhaid cyflwyno fersiwn wreiddiol pob papur a gwblhawyd. 3
Er enghraifft, byddai tystysgrif awdurdodi a anfonwyd fel atodiad e-bost i'w argraffu, er enghraifft, yn ei gwneud yn ‘gopi o ddogfen’ ac nid yn ddogfen wreiddiol.
- 1. Paragraffau 5(1) ac 8(6), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Paragraffau 6(1) a 19(4) a (5), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Paragraffau 6 a 19, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
Pryd y dylai papurau enwebu gael eu cyflwyno?
Dylech gyflwyno eich papurau enwebu cyn gynted â phosibl er mwyn rhoi cyfle i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu fwrw golwg anffurfiol drostynt a rhoi digon o amser i chi gyflwyno papurau enwebu newydd os bydd eich set gyntaf yn cynnwys unrhyw wallau.
Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn cadarnhau'r union fanylion o ran pryd a ble y gellir cyflwyno papurau enwebu ar yr hysbysiad etholiad. 1 Cyhoeddir yr hysbysiad etholiad heb fod yn hwyrach na 25 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.
Yn y rhan fwyaf o achosion, cyhoeddir yr hysbysiad etholiad ar wefan awdurdod lleol Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu.
Gallwch gyflwyno papurau enwebu rhwng 10am a 4pm ar unrhyw ddiwrnod ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad etholiad tan 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. 2
Dylech gysylltu â Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu cyn gynted â phosibl er mwyn gweld pa drefniadau sydd ar waith ar gyfer cyflwyno papurau enwebu. Gallwch gysylltu â ni i ddysgu pwy yw Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ar gyfer pob ardal. Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu hefyd yn gallu rhoi manylion cyswllt ar gyfer Swyddogion Canlyniadau Lleol.
Os byddwch yn newid eich meddwl ar ôl i chi gyflwyno'ch papurau enwebu ac yn penderfynu nad ydych am sefyll yn yr etholiad mwyach, gallwch dynnu'ch enw yn ôl, cyn belled â'ch bod yn gwneud hynny erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. 3
- 1. Paragraff 4, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Paragraff 1, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Paragraff 15, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
Yr ernes
Er mwyn i'ch enwebiad fod yn ddilys, rhaid i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu dderbyn y swm o £5,000 erbyn y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau.
Gellir talu'r ernes gan ddefnyddio:
- arian parod (punnoedd Sterling yn unig)
- drafft bancwr yn y DU
Gall Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu hefyd dderbyn ernes ar ffurf siec cymdeithas adeiladu, cerdyn debyd neu gredyd neu drosglwyddiad electronig. Fodd bynnag, gall wrthod gwneud hynny. Os ydych yn ystyried talu'r ernes yn un o'r ffyrdd hyn, dylech holi Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu i weld a yw'r dull o dalu'n dderbyniol cyn gynted â phosibl.
Os bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn caniatáu i'r ernes gael ei thalu drwy gerdyn debyd neu gredyd, gall y cwmni dan sylw godi ffi am y trafodyn. Os felly, bydd angen i chi dalu unrhyw ffioedd ychwanegol yn ogystal â'r ernes o £5,000.
Oni bai mai eich asiant yw'r person sy'n talu'r ernes, a'ch bod wedi hysbysu Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu am ei benodiad, bydd angen i'r person sy'n talu'r ernes roi ei enw a'i gyfeiriad i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ar yr adeg honno.
Ad-delir yr ernes os cewch fwy na 5% o gyfanswm nifer y pleidleisiau dilys yn ardal yr heddlu. Bydd yr ymgeiswyr hynny a gaiff 5% neu lai o gyfanswm nifer y pleidleisiau dilys yn colli eu hernes.
Archwilio papurau enwebu ymgeiswyr eraill
Dim ond rhai pobl a gaiff fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu ac archwilio a gwrthwynebu dilysrwydd ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref. 1 Ar ôl i chi gyflwyno eich papurau enwebu a'ch ernes a'ch bod wedi eich enwebu'n ddilys, caiff y canlynol archwilio a gwrthwynebu ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref:
- chi
- eich asiant etholiad
- eich cynigydd neu eilydd
- os mai chi yw eich asiant etholiad, rhywun a enwebwyd gennych i fod yn bresennol ar eich rhan
Os mai chi yw eich asiant etholiad, cewch benodi rhywun arall i fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu a gwrthwynebu ar eich rhan.
Os ydych wedi cyflwyno mwy nag un ffurflen enwebu, dim ond y cynigydd a'r eilydd o'r ffurflen enwebu a ddewiswyd gennych a gaiff fod yn bresennol. Os na ddewiswyd un, y cynigydd a'r eilydd o'r ffurflen enwebu a gyflwynwyd gyntaf a gaiff wneud hynny.
Ni chaiff neb arall archwilio papurau enwebu ar unrhyw adeg.
Yn ogystal â'r sawl a restrir uchod, caiff cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol ac un unigolyn arall a ddewisir gan bob ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu, ond ni chânt eu harchwilio na'u gwrthwynebu.
Ni chaiff neb arall, heblaw am Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu a'i staff, fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu.
- 1. Paragraff 10, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Gwrthwynebu enwebiadau
Gellir gwrthwynebu dilysrwydd unrhyw ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.
Bydd y cyfnod a ganiateir i wrthwynebu yn dibynnu ar bryd y cyflwynir y papurau enwebu.
Amserlen ar gyfer gwrthwynebiadau
Enwebiadau a gyflwynir hyd at ac yn cynnwys 4pm, 20 diwrnod gwaith cyn yr etholiad
Rhaid i wrthwynebiadau i unrhyw ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref a gyflwynir hyd at ac yn cynnwys 4pm, 20 diwrnod gwaith cyn yr etholiad gael eu gwneud rhwng 10am a hanner dydd, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. 1
Enwebiadau a gyflwynir ar ôl 4pm, 20 diwrnod gwaith cyn yr etholiad
Rhaid i wrthwynebiadau i unrhyw ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref a gyflwynir ar ôl 4pm, 20 diwrnod gwaith cyn yr etholiad gael eu gwneud rhwng 10am a 5pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. Rhaid i unrhyw wrthwynebiad gael ei wneud ar adeg cyflwyno'r enwebiad neu'n syth wedi hynny. 2
Penderfyniadau ynglŷn â gwrthwynebiadau
Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn ystyried unrhyw wrthwynebiadau a wneir, ond caiff benderfynu bod enwebiad yn annilys am y rhesymau canlynol yn unig: 3
- nid yw manylion yr ymgeisydd neu'r llofnodwyr yn unol â gofynion y gyfraith
- ni lofnodwyd y papur fel sy'n ofynnol
Bydd penderfyniad Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu fod enwebiad yn ddilys yn derfynol ac ni ellir ei herio yn ystod yr etholiad. Dim ond drwy ddeiseb etholiadol y gellir herio'r penderfyniad ar ôl etholiad 4
Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar ddeisebau etholiadol.
- 1. Paragraff 1, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Paragraff 1, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Paragraff 11(2), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Paragraffau 11(7) ac (8), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
Tynnu'n ôl
Cewch dynnu'n ôl fel ymgeisydd drwy lofnodi a chyflwyno hysbysiad tynnu enw yn ôl. 1 Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran pwy all gyflwyno'r hysbysiad, ond rhaid gwneud hynny'n bersonol. Rhaid i rywun arall dystio llofnodi'r hysbysiad tynnu enw yn ôl, a rhaid iddo hefyd lofnodi'r hysbysiad. Gellir cael hysbysiad tynnu enw yn ôl gan Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu neu gellir ei lawrlwytho o'n gwefan.
Os ydych y tu allan i'r DU ac am dynnu'n ôl, gall eich cynigydd lofnodi'r hysbysiad tynnu enw yn ôl ar eich rhan a rhaid cyflwyno datganiad ysgrifenedig wedi'i lofnodi gan eich cynigydd yn cadarnhau eich absenoldeb gyda'r hysbysiad.
Rhaid i'r hysbysiad tynnu enw yn ôl gael ei gyflwyno i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn y man cyflwyno papurau enwebu erbyn y dyddiad cau ar gyfer tynnu'n ôl, sef 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.
Ar ôl y dyddiad cau ar gyfer tynnu'n ôl, nid yw'n bosibl tynnu'n ôl o'r etholiad, a bydd eich enw yn ymddangos ar y papur pleidleisio. Os bydd yr etholiad yn ddiwrthwynebiad, cewch eich ethol.
Os byddwch yn tynnu'n ôl fel ymgeisydd, ad-delir eich ernes.
- 1. Paragraff 15, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Beth sy'n digwydd ar ôl i enwebiadau gau?
Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn cyhoeddi datganiad ynghylch y personau a enwebwyd ar gyfer ardal yr heddlu erbyn 4pm, 18 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. 1
Yna, bydd yn rhoi copi i bob Swyddog Canlyniadau Lleol yn ardal yr heddlu, a fydd yn cyhoeddi'r datganiad yn lleol.
Bydd y datganiad yn cynnwys: 2
- enw llawn neu enw a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer pob ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys
- enwau ymgeiswyr nad ydynt wedi'u henwebu mwyach, os oes rhai (h.y. ymgeiswyr annilys sydd wedi tynnu'n ôl a'r rhai sydd wedi marw), gan nodi'r rheswm pam nad ydynt yn sefyll mwyach
- cyfeiriad cartref pob ymgeisydd, neu os yw wedi gofyn am i'w gyfeiriad cartref beidio â chael ei gyhoeddi, y geiriau Cyfeiriad yn Ardal Heddlu [rhowch enw ardal yr heddlu]
- disgrifiad pob ymgeisydd (os o gwbl)
- 1. Paragraff 1, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Paragraff 13, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
A fydd yr etholiad yn ddiwrthwynebiad ai peidio?
Ar ôl i'r enwebiadau gau, bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn penderfynu a oes angen cynnal etholiad. 1 Os bydd mwy nag un ymgeisydd yn sefyll a enwebwyd yn ddilys yn ardal yr heddlu ar ôl y dyddiad cau ar gyfer tynnu enw'n ôl, bydd etholiad.
Os bydd dau ymgeisydd yn sefyll, etholir Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar sail y cyntaf i'r felin. Rhoddir rhagor o wybodaeth am y system bleidleisio yn ein canllawiau Y system etholiadol.
Fodd bynnag, os mai dim ond un ymgeisydd fydd yn sefyll ar ôl y dyddiad cau ar gyfer tynnu enw'n ôl, bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn datgan bod yr ymgeisydd hwnnw wedi'i ethol.
Os etholir ymgeisydd mewn etholiad diwrthwynebiad, bydd yn rhaid iddo wneud datganiad o ran ei wariant ar yr etholiad o hyd. Cewch ragor o wybodaeth am gyflwyno ffurflenni gwariant a dechrau yn y swydd yn ein canllawiau
- 1. Paragraffau 17 a 62, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Marwolaeth ymgeisydd
Os caiff Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu wybod bod ymgeisydd wedi marw yn ystod yr ymgyrch etholiadol neu hyd yn oed ar y diwrnod pleidleisio ei hun (ond cyn datgan y canlyniad), caiff y bleidlais ei chanslo. 1
Yn yr achos hwnnw, bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn gorchymyn etholiad newydd er mwyn llenwi'r rôl.
Os bydd cyd-ymgeisydd yn marw yn ystod yr ymgyrch, bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn rhoi arweiniad pellach i chi.
Os bydd ymgeisydd etholedig yn marw ar ôl datgan y canlyniad, byddai angen cynnal is-etholiad er mwyn llenwi'r rôl.
- 1. Paragraff 69(1), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Pleidleisiau post
Mae'r adrannau canlynol yn rhoi arweiniad ar bleidleisio drwy'r post a'r prosesau dan sylw.
Mae'r canllawiau yn ymdrin â'r canlynol:
- Pwy all wneud cais i bleidleisio drwy'r post
- Yr hyn sydd wedi'i gynnwys mewn pecynnau pleidleisio drwy'r post
- Agor amlenni pleidleisiau post a phwy all fod yn bresennol
- Y broses o agor amlenni pleidleisiau post
- Penodi asiantiaid pleidleisio drwy'r post a'u rôl
- Eich dyletswydd i gynnal cyfrinachedd yn ystod sesiynau agor pleidleisiau post, cod ymddygiad i ymgyrchwyr ym Mhrydain Fawr a chyfyngiadau i ymgyrchwyr o gwmpas ymdrin â phleidleisiau post.
Pwy all wneud cais i bleidleisio drwy'r post?
Gall y canlynol wneud cais i bleidleisio drwy'r post mewn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu drwy gyflwyno cais i'w Swyddog Cofrestru Etholiadol:
- Person 18 oed neu drosodd sydd wedi'i gofrestru i bleidleisio
- Person 18 oed neu drosodd sydd wedi gwneud cais i gofrestru i bleidleisio
- Person sydd wedi'i benodi i bleidleisio fel dirprwy ar ran rhywun arall
Rhaid i'r cais ddod i law'r Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm ar yr unfed diwrnod gwaith ar ddeg cyn yr etholiad.i
Nid oes gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol unrhyw ddisgresiwn i ymestyn y dyddiad cau am ba reswm bynnag.
- i. Paragraffau 16(3) a (4), Atodlen 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote i
Pecynnau pleidleisio drwy'r post
Caiff pecynnau pleidleisio drwy'r post eu hanfon at etholwyr o tua phythefnos cyn y diwrnod pleidleisio.
Bydd etholwyr a gofrestrodd yn agos at y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yn derbyn eu pecynnau pleidleisio drwy'r post pan fydd eu henwau wedi'u hychwanegu at y fersiwn derfynol o'r gofrestr ar y pumed diwrnod gwaith. Bydd etholwyr a wnaeth gais am bleidlais bost yn agos at y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yn derbyn eu pecynnau pleidleisio drwy'r post pan fydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch eu cais.
Bydd etholwyr wedyn yn marcio eu papur pleidleisio, yn cwblhau eu datganiad pleidleisio drwy'r post drwy roi eu llofnod a'u dyddiad geni, ac yn dychwelyd eu pleidlais bost at y Swyddog Canlyniadau Lleol cyn i’r gorsafoedd pleidleisio gau (h.y. 10pm ar y diwrnod pleidleisio).
Nid oes gan ymgeiswyr, asiantiaid etholiad nac asiantiaid pleidleisio drwy'r post yr hawl i fod yn bresennol pan ddosberthir pleidleisiau post.
Beth mae'r pecyn pleidleisio drwy'r post yn ei gynnwys?
Mae pecynnau pleidleisio drwy'r post gynnwys y canlynol:
- Amlen A yw'r amlen y mae'r etholwr yn dychwelyd ei bapur pleidleisio ynddi. Fe'i nodir â'r llythyren 'A' a'r geiriau 'amlen papur pleidleisio'
- Amlen B - hon yw'r amlen y bydd yr etholwr yn ei defnyddio i ddychwelyd amlen y papur pleidleisio a'r datganiad pleidleisio drwy'r post. Fe'i nodir â'r llythyren 'B' a chyfeiriad y Swyddog Canlyniadau Lleol
- Mae'r datganiad pleidleisio drwy'r post yn cynnwys enw'r etholwr, rhif y papur pleidleisio a anfonwyd ato, cyfarwyddiadau ar sut i bleidleisio drwy'r post a lle i'r etholwr lofnodi a nodi ei ddyddiad geni
- Y papur pleidleisio
Os yw’r etholiad yn cael ei gyfuno â phleidlais arall, efallai y bydd y Swyddog Canlyniadau wedi penderfynu cyfuno’r gwaith o anfon pleidleisiau post.
Os felly, bydd y pecyn pleidleisio drwy'r post hefyd yn cynnwys y papur pleidleisio ar gyfer y digwyddiad(au) etholiadol eraill.
Agor pleidleisiau post
Pwy all fod yn bresennol pan agorir pleidleisiau post
Mae hawl gan y bobl ganlynol i fod yn bresennol ar adeg agor pleidleisiau post1 :
- Chi
- eich asiant etholiad, is-asiant neu berson a benodwyd gennych i fod yn bresennol yn ei le2
- asiantiaid a benodwyd gennych i fynd i sesiynau agor amlenni ar eich rhan3 . Ceir manylion am sut i benodi'r asiantiaid hyn yn Penodi eich asiant etholiad
Dyletswydd i gynnal diogelwch yn ystod sesiynau agor amlenni pleidleisiau post
Caiff papurau pleidleisio eu cadw â'u hwynebau i lawr drwy gydol sesiwn agor amlenni pleidleisiau post4 . Mae gan unrhyw un sy'n bresennol mewn sesiwn agor amlenni ddyletswydd i gynnal cyfrinachedd ac ni ddylai wneud y canlynol:
- cael
- ceisio cael
- cyfathrebu â pherson arall ar unrhyw adeg
- datgelu sut y cafodd papur pleidleisio penodol ei farcio na throsglwyddo gwybodaeth o'r fath a ddeilliodd o'r sesiwn7
Felly, mae'n dilyn na chaniateir cadw cyfrif o faint o bapurau pleidleisio sydd wedi cael eu marcio.
Gall rhywun a geir yn euog o dorri'r gofynion hyn wynebu dirwy anghyfyngedig, neu gall wynebu carchar am hyd at chwe mis.
- 1. Adran 27, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 68, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 69, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Paragraff 48(8)(a), Atodlen 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 66(3A)(a), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Adran 66(3A) (b) a (4)(a), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Adran 66(4)(b), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 7
Penodi asiantiaid pleidleisiau post
Cewch benodi asiantiaid i fod yn bresennol mewn achlysuron agor amlenni pleidleisiau post.
Gellir penodi unrhyw un, ar wahân i'r bobl a restrir isod, i weithredu fel asiant pleidleisiau post:
- Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu, Swyddog Canlyniadau Lleol neu aelod o'u staff (gan gynnwys unrhyw glercod a benodwyd yn arbennig ar gyfer yr etholiad)1
- dirprwy neu glerc Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu, Swyddog Canlyniadau Lleol, neu aelod o'u staff2
- swyddog awdurdod lleol y mae Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu neu Swyddog Canlyniadau Lleol yn defnyddio ei wasanaethau3
- partner neu glerc unrhyw un o'r uchod4
- unrhyw sydd heb hawl i bleidleisio yn yr etholiad o ganlyniad i adroddiad llys etholiadol neu gollfarn am arfer llwgr neu anghyfreithlon yn unol â Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 19835
- unrhyw un a gollfarnwyd a adroddwyd am arfer llwgr neu anghyfreithlon o dan Orchymyn 20126
Gallwch chi a'ch asiant etholiad hefyd weithredu fel un o'r asiantiaid hynny heb fod angen eich penodi'n swyddogol. Mae gan is-asiantiaid hawl i fod yn bresennol ar adeg agor amlenni pleidleisiau post yn eu rhinwedd eu hunain.
Bydd pob Swyddog Canlyniadau Lleol yn nodi uchafswm nifer yr asiantiaid pleidleisiau post y gallwch eu penodi. Caiff pob ymgeisydd benodi'r un nifer7
.
Rhaid i'r cais i benodi asiantiaid pleidleisiau post hyn gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Swyddog Canlyniadau Lleol perthnasol gennych chi neu eich asiant.
Rhaid i'r cais gynnwys enwau a chyfeiriadau'r bobl a benodir8
. Rhaid gwneud penodiad ar wahân ar gyfer pob cyfrif lleol, hyd yn oed os cynhelir pob cyfrif lleol mewn lleoliad canolog9
.Bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn darparu ffurflenni ar gyfer hyn, neu gallwch ddefnyddio ffurflenni penodi asiantiaid pleidleisiau post y Comisiwn.
Mae angen i'r ffurflenni penodi ar gyfer asiantiaid pleidleisiau post gael eu cyflwyno i'r Swyddog Canlyniadau Lleol perthnasol erbyn yr amser a bennwyd ar gyfer yr achlysur agor amlenni pleidleisiau post y maent am fod yn bresennol ynddo.10
Bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn rhoi o leiaf 48 awr o rybudd i chi cyn i bob achlysur agor amlenni pleidleisiau post ddechrau.11
Os bydd asiant yn marw neu'n methu â gweithredu, cewch benodi asiant arall yn ei le drwy gyflwyno'r ffurflen penodiad berthnasol i'r Swyddog Canlyniadau Lleol perthnasol. Rhaid i unrhyw benodiad newydd o dan yr amgylchiadau hyn gael ei wneud yn ddi-oed.12
Rhoddir rhagor o wybodaeth am yr hyn y caiff asiantiaid ei wneud a'r hyn na chaiff asiantiaid ei wneud, a'r hyn y gallant ddisgwyl ei weld mewn sesiynau agor amlenni pleidleisiau post yn ein canllawiau ‘beth mae asiant pleidleisio drwy'r post yn ei wneud’ a ‘camau'r broses o agor amlenni pleidleisiau post’.
- 1. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 76, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 76, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Paragraff 33(1), Atodlen 2 a Pharagraff 31(6), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Paragraff 33(2), Atodlen 2 a Pharagraff 31(9), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Paragraff 31(7), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Paragraff 33(2), Atodlen 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Paragraff 44, Atodlen 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 11
- 12. Paragraff 33(5), Atodlen 2 a Pharagraff 31(8), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 12
Beth mae asiant pleidleisio drwy'r post yn ei wneud?
Caniateir i asiant pleidleisio drwy'r post fod yn bresennol ac arsylwi ar achlysuron agor amlenni pleidleisiau post, a gaiff eu cynnal gan y Swyddog Canlyniadau Lleol.
Ym mhob achlysur agor amlenni, bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn penderfynu a yw'r dyddiad geni a'r llofnod a ddarparwyd gan etholwyr ar eu datganiadau pleidleisio drwy'r post yn cyfateb i'r llofnod a'r dyddiad geni a ddarparwyd yn flaenorol ac sydd yn eu cofnodion. Os na fydd y rhain yn cyfateb, caiff y bleidlais bost ei gwrthod.
Mae gan asiant pleidleisio drwy'r post yr hawl i arsylwi ar y broses hon, ond ni chaiff ymyrryd â hi. Fodd bynnag, gall asiant pleidleisio drwy'r post wrthwynebu penderfyniad Swyddog Canlyniadau Lleol i wrthod pleidlais bost.xii
Ni fydd yn effeithio ar benderfyniad y Swyddog Canlyniadau Lleol, ond bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn cofnodi unrhyw wrthwynebiadau drwy roi'r geiriau 'gwrthwynebwyd y penderfyniad i wrthod' ar y datganiad pleidleisio drwy'r post.
Yn yr un modd â'ch asiantiaid pleidleisio drwy'r post, mae gennych chi, eich asiant etholiad a'ch is-asiant(iaid) yr hawl i wrthwynebu penderfyniad i wrthod hefyd.
Bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn egluro'r broses o agor amlenni pleidleisiau post i chi a gall ddosbarthu gwybodaeth am y gweithdrefnau i'w dilyn, gan gynnwys cyfarwyddiadau ar yr hyn y dylid ei wneud a'r hyn na ddylid ei wneud. Dylech gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau y mae'r Swyddog Canlyniadau Lleol wedi eu rhoi.
- xii. Paragraff 51(4), Atodlen 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote xii
Pryd y caiff pleidleisiau post eu hagor a sut y byddwch yn gwybod pryd mae sesiwn agor yn cael ei chynnal?
Mae'n debygol y cynhelir sawl sesiwn agor cyn y diwrnod pleidleisio, yn ogystal â'r diwrnod pleidleisio ei hun.
Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Lleol wneud y canlynol:
- rhoi rhybudd o 48 awr o leiaf i ymgeiswyr yn nodi pryd a ble y cynhelir y sesiynau.1
- nodi sawl asiant pleidleisio drwy'r post a all fod yn bresennol ym mhob sesiwn.
Bydd sesiwn agor derfynol ar ôl i'r bleidlais gau er mwyn agor unrhyw bleidleisiau post a gyflwynir â llaw i orsafoedd pleidleisio. Gellir cynnal y sesiwn hon yn y lleoliad cyfrif neu mewn lleoliad arall. Bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn eich hysbysu am y lleoliad ar gyfer yr achlysur agor amlenni terfynol.
Ceir rhagor o wybodaeth am y broses a gynhelir yn y sesiwn agor amlenni pleidleisiau post yn Camau'r broses o agor amlenni pleidleisiau post.
- 1. Paragraff 44, Atodlen 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Camau'r broses o agor amlenni pleidleisiau post
Gellir crynhoi camau'r broses o agor amlenni pleidleisiau post fel a ganlyn:
Cam | Proses |
---|---|
1 | Caiff pleidleisiau post eu cludo i'r sesiwn agor mewn blychau pleidleisio |
2 | Tynnir y prif amlenni (amlen B) allan a'u cyfrif |
3 | Cofnodir cyfanswm nifer y prif amlenni |
4 | Rhennir prif amlenni (amlen B) rhwng timau o staff agor |
5 | Bydd staff yn agor pob prif amlen (amlen B) ac yn tynnu'r datganiad pleidleisio drwy'r post ac amlen y papur pleidleisio wedi'i selio (amlen A) allan |
6 | Bydd y staff yn cadarnhau bod rhif y datganiad pleidleisio drwy'r post yn cyfateb i'r rhif ar amlen A |
7 | Os bydd y rhifau'n cyfateb, bydd y staff yn cadarnhau bod yr etholwr wedi darparu llofnod a dyddiad geni (heb gadarnhau mai rhai'r etholwr ydynt ar y cam hwn) Bydd datganiadau pleidleisio drwy'r post heb lofnod a dyddiad geni yn peri i'r bleidlais bost gael ei gwrthod |
8 | Os bydd y datganiad neu amlen y papur pleidleisio ar goll, neu os na fydd y rhifau ar y datganiad ac amlen y papur pleidleisio yn cyfateb, caiff y ddogfen neu ddogfennau eu rhoi o'r neilltu, eu recordio a'u storio'n ddiogel mewn pecynnau |
9 | Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Lleol gadarnhau'r dyddiadau geni a'r llofnodion a ddarparwyd ar y datganiadau |
10 | Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Lleol fod yn fodlon bod y dyddiadau geni a'r llofnodion ar y datganiadau yn cyfateb i'r rhai a ddarparwyd ac y cedwir cofnod ohonynt |
11 | Ar ôl cadarnhau'r llofnodion a'r dyddiadau geni, caiff datganiadau pleidleisio drwy'r post eu symud o'r byrddau |
12 | Bydd y staff yn agor amlenni'r papurau pleidleisio (amlen A) ac yn tynnu'r papurau pleidleisio allan |
13 | Bydd y staff yn cadarnhau bod y rhif ar gefn y papur pleidleisio yn cyfateb i'r rhif ar amlen y papur pleidleisio (amlen A) |
14 | Caiff y papurau pleidleisio dilys (nid y pleidleisiau) eu cyfrif a chaiff y cyfanswm ei gofnodi |
15 | Rhoddir pob papur pleidleisio dilys yn y blychau pleidleisio a'u storio'n ddiogel cyn eu dosbarthu i leoliad y cyfrif er mwyn eu cyfrif ar ôl diwedd y cyfnod pleidleisio |
Paru datganiadau pleidleisio drwy'r post â phapurau pleidleisio drwy'r post
Bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn cadw rhestrau o unrhyw bapurau pleidleisio1
drwy'r post a wrthodwyd dros dro, sef:
• unrhyw bapur pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd heb ddatganiad pleidleisio drwy'r post
• unrhyw ddatganiad pleidleisio drwy'r post na chaiff ei ddychwelyd gyda'r papur pleidleisio
Bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn gwirio'r rhestrau hyn yn rheolaidd er mwyn sicrhau os bydd modd paru unrhyw ddogfennau nad ydynt yn cyfateb, bod y pleidleisiau post hynny'n cael eu hailgyflwyno i'r broses.
- 1. Paragraff 55, Atodlen 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Datganiadau pleidleisio drwy'r post annilys ac a wrthodwyd
Papurau pleidleisio dilys yw'r papurau pleidleisio hynny y mae'r datganiad pleidleisio drwy'r post cysylltiedig wedi bodloni'r gwiriadau o ran llofnod a dyddiad geni.
Nid oes angen i nifer fach iawn o bleidleiswyr lofnodi eu datganiad pleidleisio drwy'r post. Bydd hepgoriad wedi'i roi i'r pleidleiswyr hyn am na allant lofnodi na darparu llofnod cyson oherwydd anabledd neu anallu i ddarllen neu ysgrifennu. Bydd y datganiad pleidleisio drwy'r post a anfonir at etholwyr o'r fath yn egluro hyn.
Caiff papurau pleidleisio annilys eu rhoi o'r neilltu a'u storio'n ddiogel mewn pecynnau.
Oni fydd hepgoriad wedi ei roi, bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn gwrthod datganiad pleidleisio drwy'r post os bydd llofnod a/neu ddyddiad geni ar goll neu os na fydd llofnod a/neu ddyddiad geni yn cyfateb i'r rhai a ddarparwyd yn flaenorol gan yr etholwr ac y cedwir cofnod ohonynt.
Atodir datganiadau a wrthodwyd at y papurau pleidleisio perthnasol neu amlenni'r papurau pleidleisio. Rhoddir y gair 'gwrthodwyd' arnynt ac fe'u dangosir i unrhyw asiantiaid sy'n bresennol.
Gall asiantiaid wrthwynebu penderfyniad y Swyddog Canlyniadau Lleol i wrthod unrhyw bleidlais bost ac, os gwnânt hynny, ychwanegir y geiriau 'gwrthwynebwyd y penderfyniad i wrthod' at y datganiad. Fodd bynnag, mae penderfyniad y Swyddog Canlyniadau Lleol yn derfynol a bydd y bleidlais bost yn parhau i gael ei gwrthod.
Mae rhesymau eraill dros wrthod yn cynnwys pryd fydd unigolyn sy’n cyflwyno pleidlais bost i’r Swyddog Canlyniadau:
- ddim yn llenwi'r ffurflen pleidlais bost yn llawn (anghyflawn)
- yn cyflwyno pleidleisiau post ar ran mwy na'r nifer a ganiateir o etholwyr
- yn ymgyrchydd na chaniateir iddo drin pleidleisiau post
- ddim yn llenwi'r ffurflen pleidlais bost (wedi'i gadael ar ôl)
Yn yr achosion hyn bydd y bleidlais bost yn cael ei gwrthod. Efallai y gwelwch y pleidleisiau post hyn a wrthodwyd wedi'u selio gyda disgrifiad o'u cynnwys wedi'i ysgrifennu ar bob pecyn.
Diwrnod pleidleisio
Y diwrnod pleidleisio yw'r diwrnod pan fydd gorsafoedd pleidleisio ar agor a bydd etholwyr yn ymweld â nhw i fwrw eu pleidlais yn bersonol. Hefyd, dyma'r diwrnod olaf y gall Swyddogion Canlyniadau Lleol dderbyn pleidleisiau post a ddychwelwyd. Weithiau, gelwir y diwrnod pleidleisio yn “ddiwrnod etholiad”.
Mae'r canllawiau yn ymdrin â'r canlynol:
- lleoliadau gorsafoedd pleidleisio a'r broses bleidleisio
- pwy all eich cefnogi ar y diwrnod pleidleisio (gan gynnwys asiantiaid pleidleisio a rhifwyr)
- yr hyn y dylech ac na ddylech chi a'ch ymgyrchwyr ei wneud ar y diwrnod pleidleisio
- beth sy'n digwydd ar ôl i'r gorsafoedd gau
Gorsafoedd pleidleisio
Mae gennych chi a'ch asiant etholiad yr hawl i arsylwi ar weithrediadau y tu mewn i orsafoedd pleidleisio.1
Gall is-asiant fod yn bresennol, ond dim ond yn ei rinwedd i weithredu ar ran yr asiant etholiad.2
Hefyd, gallwch benodi asiantiaid i fod yn bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio ar eich rhan.3 Ceir rhagor o fanylion yn ein canllawiau ar benodi asiantiaid pleidleisio.
Dod o hyd i leoliad gorsafoedd pleidleisio
Mewn hysbysiad cyhoeddus, bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn cyhoeddi lleoliad gorsafoedd pleidleisio erbyn y chweched diwrnod gwaith cyn yr etholiad.4 Bydd yn rhoi copi o'r hysbysiad hwn i asiantiaid etholiadol yn fuan wedi hyn.
Oriau agor gorsafoedd pleidleisio
Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor ar y diwrnod pleidleisio rhwng 7am a 10pm.
Caiff unrhyw bleidleiswyr sy'n aros mewn ciw yn eu gorsaf bleidleisio am 10pm bleidleisio, hyd yn oed os nad ydynt wedi cael papur pleidleisio.
- 1. Paragraff 34, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 27, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Paragraff 31, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Paragraff 24(3), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
Pwy all bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio?
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn dewis pleidleisio yn bersonol yn eu gorsaf bleidleisio hwy. Gall unrhyw un sydd ar gofrestr etholiadol yr orsaf bleidleisio fynd ati i bleidleisio mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn yr orsaf bleidleisio, oni bai:
- ei fod yn bleidleisiwr post cofrestredig
- ei fod yn bleidleisiwr drwy ddirprwy cofrestredig a bod ei ddirprwy eisoes wedi pleidleisio ar ei ran neu wedi gwneud cais i bleidleisio ar ei ran
- nad yw'n 18 mlwydd oed neu hŷn ar y diwrnod pleidleisio
- ei fod yn gofrestredig fel un o arglwyddi'r deyrnas dramor neu'n etholwr dramor
Bydd etholwyr yn cael cerdyn pleidleisio cyn yr etholiad yn dweud wrthynt ble a phryd y gallant bleidleisio. Nid oes angen i etholwyr fynd â'u cerdyn pleidleisio gyda nhw i'r orsaf bleidleisio er mwyn pleidleisio, oni fyddant wedi cofrestru'n ddienw oherwydd risg i'w diogelwch.
Gofynion o ran prawf adnabod ffotograffig
Bydd yn ofynnol i etholwyr sy'n pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ddangos prawf adnabod ffotograffig cyn cael papur pleidleisio. Mae'r mathau o brawf adnabod ffotograffig a dderbynnir fel a ganlyn:1
- pasbort a roddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Dramor Brydeinig, gwladwriaeth AEE, neu un o wledydd y Gymanwlad (gan gynnwys Cerdyn Pasbort Iwerddon)
- Trwydded yrru a gyflwynwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu wladwriaeth AEE
- dogfen mewnfudo fiometrig
- Cerdyn adnabod sydd â hologram y Cynllun Safonau Prawf Oedran (cerdyn PASS)
- Ffurflen 90 y Weinyddiaeth Amddiffyn (Cerdyn Adnabod Amddiffyn)
- Bathodyn Glas
- Cerdyn adnabod cenedlaethol a gyflwynwyd gan wladwriaeth AEE
- Pàs Bws Person Hŷn a ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
- Pàs Bws Person Anabl a ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
- Cerdyn Oyster 60+ a ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
- Pàs Freedom
- Cerdyn Hawl Cenedlaethol a gyflwynir yn yr Alban
- Cerdyn Teithio Rhatach i bobl 60 oed a throsodd a gyflwynir yng Nghymru
- Cerdyn Teithio Rhatach i bobl anabl a gyflwynir yng Nghymru
- SmartPass i Bobl Hŷn a gyflwynir yng Ngogledd Iwerddon
- SmartPass i bobl sydd wedi'u cofrestru'n ddall neu SmartPass i bobl ddall a gyflwynir yng Ngogledd Iwerddon
- SmartPass Anabledd Rhyfel a gyflwynir yng Ngogledd Iwerddon
- SmartPass 60+ a gyflwynir yng Ngogledd Iwerddon
- SmartPass Hanner Pris a gyflwynir yng Ngogledd Iwerddon
- Cerdyn Adnabod Etholiadol a gyflwynir yng Ngogledd Iwerddon
Gellir defnyddio dogfennau adnabod ffotograffig sydd wedi dod i ben fel prawf adnabod ffotograffig a dderbynnir yn yr orsaf bleidleisio o hyd, cyhyd â bod y llun yn dal i fod yn ddigon tebyg i'r etholwr.
Os na fydd gan etholwr un o'r mathau o brawf adnabod ffotograffig a dderbynnir, gall wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr mewn sawl ffordd:
- ar-lein yn www.gov.uk/ceisio-am-lun-id-tystysgrif-awdurdod-pleidleiswyr
- yn ysgrifenedig ar ffurflen gais bapur
- yn bersonol, os yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cynnig y gwasanaeth hwn yn ei swyddfa
Bydd yn ofynnol i etholwyr dienw sy'n dymuno pleidleisio'n bersonol wneud cais am Ddogfen Etholwr Dienw. Dim ond yn ysgrifenedig y gellir gwneud cais am ddogfen Etholwr Dienw, gan ddefnyddio ffurflen gais bapur. Bydd eich Swyddog Cofrestru Etholiadol lleol yn gallu rhoi'r ffurflen hon i etholwyr ar gais. Yna gall yr etholwr ddychwelyd y ffurflen gais i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol drwy'r post, yn bersonol neu drwy e-bostio copi wedi'i sganio.
Ni ddylai ymgeiswyr ac asiantiaid drin ceisiadau wedi'u cwblhau am Dystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr na Dogfennau Etholwyr Dienw. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein cod ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr ym Mhrydain Fawr
Dychwelyd pecynnau pleidleisio drwy'r post
Ni ellir rhoi papur pleidleisio i bleidleiswyr post cofrestredig yn yr orsaf bleidleisio, ond gallant ddychwelyd eu pecyn pleidleisio drwy'r post wedi'i gwblhau i'w gorsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio. Fel arall, yn Lloegr, gallant ddychwelyd eu pleidlais bost i rai gorsafoedd pleidleisio eraill yn yr ardal awdurdod lleol (bydd y swyddfa etholiadau yn gallu rhoi manylion iddynt). Yng Nghymru, gallant ddychwelyd eu pleidlais bost i rai gorsafoedd pleidleisio eraill yn yr etholaeth (bydd y swyddfa etholiadau yn gallu rhoi manylion iddynt). Ym mhob achos, gellir dychwelyd pecynnau pleidleisio drwy'r post hefyd â llaw i'r Swyddog Canlyniadau Lleol yn y swyddfa etholiadau.
Os yw'r Swyddog Canlyniadau Lleol wedi anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post ar gyfer mwy nag un etholiad ar yr un diwrnod, byddant yn rhoi gwybodaeth i'r etholwyr i esbonio i ble y gallant ddychwelyd eu pecynnau pleidleisio drwy'r post.
Rhaid i becynnau pleidleisio drwy'r post a ddychwelir i orsafoedd pleidleisio gael eu rhoi i staff gorsafoedd pleidleisio ac nid yn y blwch pleidleisio.
Cyfyngiadau i'r broses trin ceisiadau post
Mae'n drosedd i ymgyrchydd gwleidyddol drin papurau pleidleisio wedi'u cwblhau neu becynnau pleidleisio drwy'r post ar gyfer pleidleiswyr nad ydynt yn aelodau agos o'r teulu neu'n rhywun y maent yn gofalu amdanynt.
Mae hefyd yn nodi terfyn ar gyfer nifer y pleidleisiau post y gellir eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio neu eu cyflwyno i'r Swyddog Canlyniadau ac yn cyflwyno gofyniad i gwblhau ffurflen wrth wneud hynny.
Gall person gyflwyno pleidleisiau post ar ran pum etholwr arall ynghyd â'i bleidlais ei hun.
Bydd yn ofynnol i berson sy'n cyflwyno pleidlais bost gwblhau ffurflen sy'n cynnwys gwybodaeth sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Bydd methiant i gwblhau'r ffurflen yn arwain at wrthod y pleidleisiau post a gyflwynir mewn gorsaf bleidleisio neu a gyflwynir i'r Swyddog Canlyniadau.
- 1. Rheol 37, Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Beth yw'r broses bleidleisio arferol?
Gellir crynhoi'r broses bleidleisio fel a ganlyn.
Bydd staff yr orsaf bleidleisio yn gwneud y canlynol:
- gofyn am enw a chyfeiriad y pleidleiswyr cyn gwneud yn siŵr eu bod yn gymwys i bleidleisio drwy gadarnhau yn erbyn y gofrestr o etholwyr
- gofyn i'r etholwr am ei brawf adnabod ffotograffig
- dilysu'r prawf adnabod ffotograffig
- marcio llinell syth yn erbyn cofnod y pleidleisiwr ar y gofrestr etholwyr
- galw allan enw a rhif etholwr yr etholwr
- ysgrifennu rhif etholwr ar restr (y Rhestr Rhifau Cyfatebol) wrth ymyl rhif y papur pleidleisio a roddir
- gwneud yn siŵr bod y papur pleidleisio yn cynnwys y marc swyddogol (e.e. cod bar neu ddyfrnod)
- plygu'r papur pleidleisio a'i roi i'r etholwr heb ei blygu fel y gall weld yr holl opsiynau ar y papur pleidleisio
Yna bydd yr etholwr yn gwneud y canlynol:
- mynd â'r papur pleidleisio i'r bwth pleidleisio
- marcio'r papur pleidleisio mewn preifatrwydd, oni fydd yn cael cymorth gan gydymaith neu'r Swyddog Llywyddu
- plygu'r papur pleidleisio wedi'i farcio ac yn dangos rhif y papur pleidleisio a'r marc adnabod unigryw ar gefn y papur pleidleisio i'r Swyddog Llywyddu
- rhoi'r papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio ac yna'n gadael yr orsaf bleidleisio
Bydd yr orsaf bleidleisio'n cynnwys cyfleusterau ar gyfer unrhyw bleidleisiwr sydd am gael dilysu ei brawf adnabod yn breifat.
Os na fydd y pleidleisiwr wedi dod â phrawf adnabod neu os bydd wedi dod â math anghywir o brawf adnabod, bydd y pleidleisiwr yn gallu dychwelyd i'r orsaf bleidleisio gyda math derbyniol o brawf adnabod ffotograffig. Unwaith y bydd math derbyniol o brawf adnabod wedi'i ddangos, bydd y pleidleisiwr yn cael papur pleidleisio.
Os bydd yr etholiad wedi cael ei gyfuno â digwyddiad etholiadol arall, bydd staff gorsafoedd pleidleisio yn dosbarthu'r papurau pleidleisio ar gyfer pob digwyddiad etholiadol y mae'r pleidleisiwr yn gymwys i bleidleisio ynddo.
Weithiau, bydd hyn yn golygu, efallai na fydd etholwyr yn cael pob papur pleidleisio a roddir yn yr orsaf, oherwydd efallai nad oes hawl ganddynt i bleidleisio ym mhob digwyddiad etholiadol.
Mae'n bosibl y bydd gofynion etholfraint gwahanol ar gyfer digwyddiadau etholiadol gwahanol, felly weithiau ni fydd gan etholwr yr hawl i bleidleisio ym mhob un o'r etholiadau sy'n digwydd.
Os bydd etholiadau wedi cael eu cyfuno, gellir defnyddio blwch pleidleisio unigol ar gyfer pob un o'r etholiadau, neu gellir defnyddio un blwch pleidleisio ar gyfer pob etholiad ar wahân.
Hygyrchedd mewn gorsafoedd pleidleisio
Mae gan y Swyddog Canlyniadau Lleol gyfrifoldeb dros sicrhau bod y broses bleidleisio'n hygyrch. Rhaid iddo ddarparu i bob gorsaf bleidleisio amrywiaeth o gyfarpar y mae’n rhesymol ei ddarparu at ddibenion galluogi pleidleiswyr anabl i bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol, neu ei gwneud yn haws iddynt wneud hyn.
Gall y Swyddog Llywyddu helpu unrhyw un na all farcio'r papur pleidleisio ei hun.1 Fel arall, gall pleidleisiwr ddod â rhywun gydag ef y mae'n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo i'w helpu i farcio ei bleidlais.2 Rhaid i'r sawl sy'n helpu'r pleidleisiwr fod yn 18 oed neu drosodd a dim ond hyd at ddau bleidleisiwr y gall eu helpu yn yr etholiad.
Rhaid i unrhyw berson sy'n mynd i'r orsaf bleidleisio i helpu etholwr gwblhau datganiad i'r Swyddog Llywyddu cyn iddo helpu'r etholwr yn y bwth pleidleisio.
- 1. Para 40, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Paragraff 41, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
Casglu papurau pleidleisio drwy'r post o'r orsaf bleidleisio
Gall y Swyddog Canlyniadau Lleol drefnu i unrhyw bleidleisiau post a gyflwynwyd gan etholwyr mewn gorsaf bleidleisio gael eu casglu drwy gydol y diwrnod pleidleisio.
Rhaid i'r Swyddog Llywyddu selio unrhyw bleidleisiau post a ddychwelwyd mewn pecyn cyn iddynt gael eu casglu. Gall unrhyw un o'ch asiantiaid sy'n bresennol ychwanegu eu sêl eu hunain at y pecyn hefyd, os dymunant.
Beth sy'n digwydd ar ôl i'r gorsafoedd gau?
Pan fydd pob pleidleisiwr a gafodd bapur pleidleisio wedi pleidleisio, caiff y blwch pleidleisio ei selio gan y Swyddog Llywyddu a gall asiantiaid pleidleisio, ymgeiswyr neu asiantiaid etholiad ychwanegu eu sêl eu hunain os dymunant.1
Ar ôl i'r Swyddog Llywyddu gwblhau'r holl waith papur, eir â'r blwch pleidleisio wedi'i selio i leoliad y cyfrif.
- 1. Para 47, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Pwy all eich cefnogi ar ddiwrnod yr etholiad?
Ar y diwrnod pleidleisio, gallwch gael cefnogaeth gan ymgyrchwyr, asiantiaid pleidleisio ac efallai y byddwch hefyd yn bwriadu defnyddio rhifwyr.
Mae'r adran hon yn rhoi rhagor o wybodaeth am
• asiantiaid pleidleisio a sut i'w penodi
• rôl rhifwyr
• y gofyniad i gynnal cyfrinachedd y bleidlais
• yr hyn y dylai ac na ddylai ymgeiswyr a'u cefnogwyr ei wneud ar y diwrnod pleidleisio
Asiantiaid pleidleisio
Asiantiaid pleidleisio
Cewch benodi pobl yn asiantiaid i fod yn bresennol yn y gorsafoedd pleidleisio.
Beth yw gwaith asiant pleidleisio?
Er y gall asiant pleidleisio arsylwi'r bleidlais, nid oes rhaid iddo fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio er mwyn i weithdrefnau pleidleisio a gweithdrefnau cysylltiedig gael eu cynnal.
Mae gan asiantiaid pleidleisio sawl rôl bwysig i'w chwarae ar y diwrnod pleidleisio.
Gallant:
- fod yn bresennol yn eu gorsaf bleidleisio cyn iddi agor er mwyn gwylio'r Swyddog Llywyddu yn dangos y blwch pleidleisio gwag cyn ei selio
- canfod cam-bersonadu ac atal pobl rhag pleidleisio fwy nag unwaith yn yr un etholiad (heblaw fel dirprwyon). Cambersonadu yw pan fydd unrhyw unigolyn yn pleidleisio fel rhywun arall (boed yn rhywun byw neu farw neu'n rhywun ffug
- bod yn bresennol pan fydd y Swyddog Llywyddu yn marcio papur pleidleisio ar gais etholwr sydd angen cymorth i farcio papur pleidleisio oherwydd anabledd neu anallu i ddarllen neu ysgrifennu
- rhoi gwybod i chi neu eich asiant etholiad am unrhyw weithgareddau amhriodol a chadw nodiadau, os oes angen, er mwyn rhoi tystiolaeth yn y llys
- bod yn bresennol ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio pan gaiff y pecynnau amrywiol o ddogfennau eu selio
- atodi eu sêl i unrhyw becynnau a drefnir gan y Swyddog Llywyddu ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio, gan gynnwys y blwch pleidleisio. Ni ellir rhoi seliau asiantiaid pleidleisio ar flychau pleidleisio ar ddechrau'r cyfnod pleidleisio nac yn ystod y cyfnod hwnnw.
Gallwch chi a'ch asiant etholiad hefyd wneud unrhyw beth y mae gan asiant pleidleisio hawl i'w wneud.1
- 1. Para 33(7), Atodlen 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Penodi asiantiaid pleidleisio
Gellir penodi unrhyw un i fod yn asiant pleidleisio, ar yr amod nad yw'n:
- Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu, Swyddog Canlyniadau Lleol neu aelod o'u staff (gan gynnwys unrhyw glercod a benodwyd yn arbennig ar gyfer yr etholiad)1
- dirprwy neu glerc Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu, Swyddog Canlyniadau Lleol, neu aelod o'u staff2
- swyddog awdurdod lleol y mae Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu neu Swyddog Canlyniadau Lleol yn defnyddio ei wasanaethau3
- partner neu glerc unrhyw un o'r uchod4
- unrhyw sydd heb hawl i bleidleisio yn yr etholiad o ganlyniad i adroddiad llys etholiadol neu gollfarn am arfer llwgr neu anghyfreithlon yn unol â Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 19835
- unrhyw un a gollfarnwyd a adroddwyd am arfer llwgr neu anghyfreithlon o dan Orchymyn 20126
Gallwch chi a'ch asiant etholiad hefyd weithredu fel un o'r asiantiaid hynny heb fod angen eich penodi'n swyddogol. Caiff is-asiantiaid hefyd fod yn bresennol yn ystod y bleidlais, ond dim ond yn lle'r asiant etholiad.
Ni ellir penodi mwy na phedwar asiant i unrhyw orsaf bleidleisio benodol, oni fydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn caniatáu mwy na hynny.7 Os penodir mwy na phedwar, bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn penderfynu pwy a gaiff fod yn bresennol.8 Dim ond un asiant pleidleisio fesul ymgeisydd a gaiff fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio ar y tro, ond gellir penodi asiant pleidleisio i fod yn bresennol mewn mwy nag un orsaf bleidleisio. Ni fydd hyn yn effeithio ar eich hawl chi, hawl eich asiant etholiad na hawl is-asiantiaid i fod yn bresennol.
Rhaid i asiantiaid pleidleisio gael eu penodi heb fod yn hwyrach na'r pumed diwrnod gwaith cyn yr etholiad.9 Rhaid i'r cais i benodi asiantiaid pleidleisio gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Swyddog Canlyniadau Lleol perthnasol gennych chi neu eich asiant. Rhaid iddo gynnwys enwau a chyfeiriadau'r bobl a benodir.10 Bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn darparu ffurflenni ar gyfer hyn, neu gallwch ddefnyddio ffurflen benodi'r asiant pleidleisio.
Os bydd asiant yn marw neu'n methu â gweithredu, cewch benodi asiant arall yn ei le drwy gyflwyno'r ffurflen penodiad berthnasol i'r Swyddog Canlyniadau Lleol perthnasol. Rhaid i unrhyw benodiad newydd o dan yr amgylchiadau hyn gael ei wneud yn ddi-oed.11
- 1. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Para 31(4), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Para 31(4) a (5), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Para 31(7), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Para 33(2), Atodlen 2 a Phara 31(9), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Para33(5), Atodlen 2 a Phara 31(8), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 11
Rhifwyr
Pobl sy'n sefyll y tu allan i fannau pleidleisio ac yn cofnodi rhifau etholwyr sydd wedi pleidleisio yw rhifwyr. Wedyn, gallant nodi cefnogwyr tebygol nad ydynt wedi pleidleisio a'u hannog i wneud hynny cyn i'r orsaf bleidleisio gau.
Nid oes gan rifwyr statws cyfreithiol ac mae gan bleidleiswyr yr hawl i wrthod rhoi unrhyw wybodaeth iddynt. Y Swyddog Canlyniadau Lleol sy'n gyfrifol am y modd y cynhelir yr etholiad yn ei ardal bleidleisio. Os yw gweithgareddau'r rhifwyr yn achos pryder iddynt, gallant ofyn i'r rhifwyr gydymffurfio â'r cod ymddygiad cytûn neu adael y man pleidleisio.
Rydym wedi llunio taflen ffeithiau o'r hyn y dylai ac na ddylai rhifwyr ei wneud yn ogystal â chanllawiau mwy cynhwysfawr ar weithgareddau rhifwyr . Nod y canllawiau yw sicrhau bod pawb yn gwybod yn union beth sy'n dderbyniol a'r hyn nad yw'n dderbyniol ac fe'u lluniwyd i hyrwyddo safonau ymddygiad priodol. Gall y Swyddog Canlyniadau Lleol roi ei ganllawiau ei hun i rifwyr hefyd.
Cynnal cyfrinachedd y bleidlais
Mae gan unrhyw un sy'n bresennol mewn gorsaf bleidleisio ddyletswydd i gynnal cyfrinachedd y bleidlais.1
Yn benodol, rhaid sicrhau na chaiff y wybodaeth ganlynol ei datgelu:
• enw neu rif etholiadol y rhai sydd wedi neu heb bleidleisio
• y rhif neu farc adnabod unigryw arall ar y papur pleidleisio
Hefyd, rhaid i unrhyw un sy'n bresennol mewn gorsaf bleidleisio sicrhau nad yw'n ceisio canfod sut mae pleidleisiwr wedi pleidleisio na phwy y mae ar fin pleidleisio drosto.
Gall asiant pleidleisio farcio ar ei gopi ef o'r gofrestr etholwyr y pleidleiswyr hynny sydd wedi gwneud cais am bapur pleidleisio. Os bydd yr asiant pleidleisio yn gadael yr orsaf bleidleisio yn ystod yr oriau pleidleisio, bydd angen iddo adael y copi wedi'i farcio o'r gofrestr yn yr orsaf bleidleisio er mwyn sicrhau na thorrir gofynion cyfrinachedd.
Gall unrhyw un y'i dyfernir yn euog o dorri'r gofynion cyfrinachedd wynebu dirwy anghyfyngedig, neu hyd at chwe mis yn y carchar.
Yng Nghymru, i gael rhagor o wybodaeth, darllenwch gofynion cyfrinachedd gorsafoedd pleidleisio yn Saesneg ac yn Gymraeg.
Yn Lloegr, i gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ofynion cyfrinachedd gorsafoedd pleidleisio.
- 1. Erthygl 22, Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Yr hyn y dylid ac na ddylid ei wneud ar y diwrnod pleidleisio
Dylech wneud y canlynol:
- sicrhau bod unrhyw rifwyr sy'n gweithio i chi yn dilyn ein canllawiau i rifwyr ac unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Swyddog Canlyniadau Lleol a Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu.
- sicrhau bod eich ymgyrchwyr yn dilyn y Cod ymddygiad i ymgyrchwyr ym Mhrydain Fawr sy'n nodi'r hyn a gaiff, a'r hyn na chaiff, ei ystyried yn ymddygiad derbyniol mewn gorsafoedd pleidleisio ac yn y gymuned.
- sicrhau eich bod yn dilyn unrhyw gyngor diogelwch ychwanegol a ddarperir gan y Swyddog Canlyniadau Lleol a Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu.
- cydymffurfio â cheisiadau gan staff gorsafoedd pleidleisio a'r Swyddog Canlyniadau Lleol neu Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ynghylch ymgyrchu ger gorsafoedd pleidleisio. Fodd bynnag, dylai fod hawl gennych i gyflwyno eich neges i bleidleiswyr ar y diwrnod pleidleisio, gan gynnwys mewn mannau cyhoeddus y tu allan i fannau pleidleisio.
- sicrhau bod unrhyw asiantiaid sy'n bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio, achlysuron agor amlenni pleidleisiau post neu'r cyfrif yn deall y rheolau ynghylch cyfrinachedd y bleidlais. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein dogfennau sy'n amlinellu'r gofynion cyfrinachedd ar gyfer y bleidlais, pleidleisio drwy'r post a'r cyfrif. Ar gyfer ymgeiswyr yng Nghymru, rydym wedi llunio'r gofynion cyfrinachedd ar gyfer y bleidlais, pleidleisio drwy'r post a'r cyfrif yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg.
Rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol:
- ymgyrchu ger mannau pleidleisio mewn ffordd y gallai pleidleiswyr ei hystyried yn ymosodol neu a allai godi ofn arnynt (er enghraifft, grwpiau mawr o gefnogwyr yn cario baneri, neu gerbydau ag uchelseinyddion neu â deunydd ymgyrchu drostynt.
- torri'r gofynion o ran cyfrinachedd y bleidlais.1 Mae hyn yn rhan hanfodol o unrhyw ddemocratiaeth fodern ac ymdrinnir ag unrhyw fethiant yn ddifrifol.
- ceisio nodi a chyhoeddi sut mae pleidleisiau wedi cael eu marcio ar bapurau pleidleisio unigol, yn arbennig os byddwch chi (neu eich asiantiaid) yn mynd i sesiynau agor amlenni pleidleisiau post.
- cyhoeddi arolygon barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio nac unrhyw ddata eraill yn seiliedig ar wybodaeth a roddwyd gan bobl am y ffordd y gwnaethant bleidleisio ar ôl iddynt fwrw eu pleidlais, gan gynnwys pleidlais bost, cyn diwedd y cyfnod pleidleisio.
- 1. Erthygl 22, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Dilysu a Chyfrif
Mae'r adrannau canlynol yn rhoi arweiniad ar y broses o ddilysu a chyfrif y pleidleisiau yn yr etholiad. Fel ymgeisydd cewch wahoddiad i fod yn bresennol ac arsylwi ar y prosesau hyn.
Mae'n cynnwys canllawiau ar y canlynol:
- pryd a ble y cynhelir y cyfrif
- pwy all fod yn bresennol yn y cyfrif
- beth yw gwaith asiant cyfrif?
- dyletswydd i sicrhau cyfrinachedd
- sut y caiff pleidleisiau eu cyfrif
- beth os nad yw'r bleidlais ar bapur pleidleisio yn glir?
- papurau pleidleisio amheus
- datgan canlyniad
Pryd a ble y cynhelir y cyfrif?
Gall y broses ddilysu a'r cyfrif ddigwydd yn syth ar ôl diwedd y cyfnod pleidleisio neu gall y Swyddog Canlyniadau benderfynu dilysu a chyfrif yn ystod y diwrnod(au) canlynol.
Bydd y Swyddog Canlyniadau yn eich hysbysu am yr union amser a lleoliad a bydd yn gofyn i chi ddarparu rhestr o bwy fydd yn dod gyda chi. Gweler ein canllawiau ar bwy all fynychu'r cyfrif ac ar benodi asiantiaid cyfrif am ragor o wybodaeth.
Bydd y Swyddog Canlyniadau yn rhoi cyfarwyddiadau neu wahoddiad gydag unrhyw ofynion sydd ganddo ar gyfer bod yn bresennol. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth am unrhyw fesurau diogelwch ychwanegol sydd ar waith megis ei gwneud yn ofynnol i fynychwyr ddangos prawf adnabod a gofyn am gael gwirio eu bagiau cyn cael mynediad, yn ogystal â gwybodaeth am y safonau ymddygiad a ddisgwylir ar gyfer mynychwyr. Dylech sicrhau bod y cyfarwyddiadau hyn yn cael eu dilyn gennych chi ac unrhyw un arall sy'n dod gyda chi.
Pwy a all fod yn bresennol yn ystod y broses cyfrif a dilysu?
Mae gennych chi a'ch asiant etholiad yr hawl i fod yn bresennol yn y sesiynau dilysu a chyfrif ar gyfer unrhyw un o'r ardaloedd pleidleisio yn ardal yr heddlu.1 Mae gennych chi a'ch asiant etholiad yr hawl hefyd i fod yn bresennol yn ystod y broses o gyfrifo'r canlyniad ar gyfer ardal yr heddlu.2
Hefyd, gallwch wahodd un unigolyn arall i fod yn bresennol yn y gweithrediadau hyn, a gallwch hefyd benodi asiantiaid yn benodol i fod yn bresennol yn y gweithrediadau hyn ar eich rhan.3
Mae gan is-asiant yr hawl i fod yn bresennol yn lle asiant etholiad, ond dim ond os yw'r gweithrediadau yn ymwneud â'r ardal y cafodd ei benodi i weithredu ynddi.4
Dylech sicrhau eich bod chi a'ch holl fynychwyr yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Swyddog Canlyniadau Lleol neu Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu.
Ceir manylion am sut i benodi asiantiaid yn Penodi eich asiantiaid cyfrif
- 1. Para 48 a 51, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Para 58, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Para 31, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 27, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
Beth yw gwaith asiant cyfrif?
Mae gan asiantiaid cyfrif nifer o rolau pwysig i'w chwarae yn y cyfrif:
- maent yn arsylwi ar y broses gyfrif ac yn sicrhau ei bod yn gywir
- gallant dynnu sylw'r staff cyfrif at unrhyw bapurau pleidleisio amheus
- os byddant yn anghytuno â phenderfyniad y Swyddog Canlyniadau Lleol i wrthod papur pleidleisio, gallant ofyn i'r Swyddog Canlyniadau Lleol farcio ar y papur pleidleisio "gwrthwynebwyd y penderfyniad i wrthod”
- os caiff cyfrif ei atal am unrhyw reswm, os bydd toriad rhwng diwedd y dilysu a dechrau'r cyfrif a/neu os bydd angen i flychau pleidleisio gyda phapurau pleidleisio wedi'u dilysu gael eu cludo i leoliad gwahanol i'w cyfrif, gall asiantiaid cyfrif ychwanegu eu seliau pan fydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn selio'r blychau a'r amlenni pleidleisio.
Gallwch chi a'ch asiant etholiad wneud unrhyw beth y mae gan asiant cyfrif hawl i'w wneud.1
- 1. Para 31(13) ac (14), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Penodi eich asiantiaid cyfrif
Cewch chi (neu eich asiant etholiad) hefyd benodi asiantiaid i fod yn bresennol yn y cyfrif.1
Gellir penodi unrhyw un, ar wahân i'r rhai a restrir isod, fel asiant cyfrif.
Ni chaiff y bobl ganlynol fod yn asiantiaid cyfrif:
- Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu, Swyddog Canlyniadau Lleol neu aelod o'u staff (gan gynnwys unrhyw glercod a benodwyd yn arbennig ar gyfer yr etholiad)2
- dirprwy neu glerc Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu, Swyddog Canlyniadau Lleol, neu aelod o'u staff3
- swyddog awdurdod lleol y mae Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu neu Swyddog Canlyniadau Lleol yn defnyddio ei wasanaethau4
- partner neu glerc unrhyw un o'r uchod5
- unrhyw sydd heb hawl i bleidleisio yn yr etholiad o ganlyniad i adroddiad llys etholiadol neu gollfarn am arfer llwgr neu anghyfreithlon yn unol â Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 19836
- unrhyw un a gollfarnwyd a adroddwyd am arfer llwgr neu anghyfreithlon o dan Orchymyn 20127
Gallwch chi a'ch asiant etholiad hefyd weithredu fel un o'r asiantiaid hynny heb fod angen eich penodi'n swyddogol. Caiff is-asiantiaid hefyd fod yn bresennol yn ystod y bleidlais a'r cyfrif, ond dim ond yn lle'r asiant etholiad.
Bydd pob Swyddog Canlyniadau Lleol yn nodi uchafswm nifer yr asiantiaid cyfrif y gallwch eu penodi. Caiff pob ymgeisydd benodi'r un nifer.8 Yn y cyfrif, oni fydd amgylchiadau arbennig, ni fydd nifer yr asiantiaid cyfrif a ganiateir fesul ymgeisydd yn llai na'r nifer a geir drwy rannu nifer y cynorthwywyr cyfrif (h.y. y staff hynny a gyflogir i gyfrif) â nifer yr ymgeiswyr.9
Ym mhob un o'r cyfrif lleol, gellir dynodi un asiant cyfrif ar gyfer pob ymgeisydd fel rhywun sydd wedi'i awdurdodi i ofyn am ailgyfrif. Rhaid i'r dynodiad gael ei wneud ar yr un pryd â'u penodiad yn asiant cyfrif.
Rhaid i'r cais i benodi'r asiantiaid hyn gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Swyddog Canlyniadau Lleol perthnasol gennych chi neu eich asiant etholiad. Rhaid iddo gynnwys enwau a chyfeiriadau'r bobl a benodir.10 Rhaid gwneud penodiad ar wahân ar gyfer pob cyfrif lleol, hyd yn oed os cynhelir pob cyfrif lleol mewn lleoliad canolog.11 Bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn darparu ffurflenni ar gyfer hyn, neu gallwch ddod o hyd i ffurflenni penodi asiantiaid cyfrif ar wefan y Comisiwn.
Y dyddiad cau ar gyfer penodi asiantiaid yw erbyn y pumed diwrnod gwaith cyn yr etholiad fan bellaf.12
Os bydd asiant yn marw neu'n methu â gweithredu, cewch benodi asiant arall yn ei le drwy gyflwyno'r ffurflen penodiad berthnasol i'r Swyddog Canlyniadau Lleol perthnasol. Rhaid i unrhyw benodiad newydd o dan yr amgylchiadau hyn gael ei wneud yn ddi-oed.13
Ceir rhagor o wybodaeth am yr hyn y dylai 'r hyn na ddylai asiantiaid ei wneud, a'r hyn y gallant ddisgwyl ei weld yn y cyfrif, yn ein canllawiau Beth mae asiant cyfrif yn ei wneud?
- 1. Para 33, Atodlen 2 a Phara 31, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 76, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Erthygl 76, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Para 33(1), Atodlen 2 a Phar 31(6), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Para 31(6), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Para 33(2), Atodlen 2 a Phara 31(9), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Para 31(7), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 11
- 12. Para 31(7), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 12
- 13. Para 33(5), Atodlen 2 a Phara 31(8), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 13
Dyletswydd i sicrhau cyfrinachedd
Mae dyletswydd ar unrhyw un sy'n bresennol yn ystod y broses gyfrif i gynnal cyfrinachedd y cyfrif.1 Yn arbennig, ni ddylai unrhyw un sy'n bresennol wneud y canlynol:
- canfod neu geisio canfod y rhif neu'r marc adnabod unigryw arall ar gefn unrhyw bapur pleidleisio
- cyfleu unrhyw wybodaeth a geir yn ystod y cyfrif ynghylch yr ymgeisydd y rhoddir unrhyw bleidlais iddi neu iddo ar unrhyw bapur pleidleisio penodol
- 1. Erthygl 22, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Sut y caiff y pleidleisiau eu cyfrif
Cam 1 – Cofnodi
Bydd staff y Swyddog Canlyniadau Lleol yn cludo'r blychau pleidleisio o'r gorsafoedd pleidleisio i leoliad y cyfrif
Bydd staff y Swyddog Canlyniadau Lleol yn cofnodi'r blychau pleidleisio wrth iddynt gyrraedd lleoliad y cyfrif
Cam 2 – Dilysu
Caiff blychau pleidleisio eu gwagio ar fyrddau a dangosir y blychau gwag i asiantiaid.
Bydd y staff yn cyfrif y papurau pleidleisio o bob gorsaf bleidleisio
Bydd staff yn cadarnhau bod nifer y papurau pleidleisio yn cyfateb i nifer y papurau a ddosbarthwyd, fel y cofnodir ar gyfrifon papurau pleidleisio'r Swyddogion Llywyddu.
Dangosir y papurau pleidleisio a ddilyswyd i'r asiantiaid etholiad a'r asiantiaid cyfrif yn wynebu i fyny
Bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn pennu'r rhesymau dros unrhyw anghysondebau ac yn llunio cyfanswm terfynol wedi ei ddilysu
Bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn llunio datganiad o'r broses ddilysu. Gall asiantiaid weld neu gopïo'r datganiad hwn os dymunant.
Os bydd yr etholiad wedi cael ei gyfuno â digwyddiad etholiadol arall, caiff pob blwch pleidleisio ei ddilysu cyn i unrhyw ganlyniadau gael eu datgan.
Gall un blwch pleidleisio gael ei ddefnyddio ar gyfer pob etholiad neu gall blychau pleidleisio gwahanol gael eu defnyddio ar gyfer etholiadau gwahanol a ymleddir. Sut bynnag, caiff papurau pleidleisio eu rhannu yn etholiadau gwahanol a ymleddir.
Bydd unrhyw bapur pleidleisio a ganfyddir yn y blwch pleidleisio 'anghywir' yn ddilys o hyd a chaiff ei symud i'r blwch cywir yn ystod y broses ddilysu.
Os nad yw'r cyfrif yn digwydd yn union wedi'r dilysu, caiff y blychau wedi'u dilysu eu storio'n ddiogel. Gall ymgeiswyr ac asiantiaid atodi eu seliau i'r blychau os dymunant.
Cam 3 – Cyfrif y pleidleisiau
Bydd staff yn didoli'r papurau pleidleisio fesul ymgeisydd ac yn cyfrif nifer y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd.
Yna caiff y cyfansymiau lleol eu trosglwyddo i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu er mwyn cyfrifo'r canlyniad.
Beth os nad yw'r bleidlais ar bapur pleidleisio yn glir?
Ni chaiff papur pleidleisio ei gyfrif:
- os nad yw wedi ei farcio
- os nad yw'n cynnwys y marc swyddogol
- os yw'n cynnwys mwy nag un bleidlais
- os nad yw'r pleidleisiwr wedi nodi ei ddewis yn gwbl sicr
- os yw'n cynnwys unrhyw farc neu ysgrifen a all adnabod y pleidleisiwr
Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Lleol lunio datganiad yn dangos nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd yn ei ardal bleidleisio am y rhesymau hyn.1
Os yw bwriad y pleidleisiwr yn glir ar bapur pleidleisio ac na all unrhyw farc neu ysgrifen ei enwi, ni fydd yn ddi-rym os yw pleidlais wedi ei marcio:
- rywle arall yn hytrach na'r man priodol
- mewn ffordd arall heblaw croes (e.e. tic)
- mae'r bleidlais wedi'i marcio drwy fwy nac un marc
Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Lleol roi'r gair "gwrthodwyd" ar unrhyw bapur pleidleisio a wrthodir. Rhaid iddo ychwanegu'r geiriau "gwrthwynebwyd y penderfyniad i wrthod" os yw asiant cyfrif yn gwrthwynebu penderfyniad y Swyddog Canlyniadau Lleol.2
I gael rhagor o fanylion am y broses o ddyfarnu papurau pleidleisio amheus, gweler ein canllawiau isod.
- 1. Paragraff 53(7), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Paragraff 53(6), Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
Papurau pleidleisio amheus
Er mwyn helpu Swyddogion Canlyniadau Lleol, rydym wedi llunio canllawiau ar sut i ddyfarnu pleidleisiau ar bapurau pleidleisio a all ymddangos yn amheus. Ceir y canllawiau hyn yn ein llyfryn Ymdrin â phapurau pleidleisio amheus. Rydym hefyd wedi llunio mat bwrdd papurau pleidleisioo bleidleisiau a ganiateir a rhai a wrthodir y gellir cyfeirio atynt yn gyflym.
Mae'r enghreifftiau a roddir yn y dogfennau hyn yn seiliedig ar reolau'r etholiad.
Noder, er eu bod yn darparu canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol, y Swyddog Canlyniadau Lleol unigol sy'n gyfrifol yn y pen draw am wneud penderfyniad ynghylch papurau pleidleisio unigol. Hefyd, efallai y bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu wedi rhoi canllawiau i'r Swyddogion Canlyniadau Lleol yn ardal yr heddlu er mwyn sicrhau dull gweithredu cyson ar draws ardal yr heddlu.
Bydd penderfyniad y Swyddog Canlyniadau Lleol i wrthod papur pleidleisio penodol yn ystod y cyfrif neu'r ailgyfrif yn derfynol a dim ond ar ôl datgan y canlyniad y gellir ei adolygu mewn deiseb etholiadol. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar ddeisebau etholiadol.
Ailgyfrifon
Gallwch chi neu eich asiant etholiad ofyn i'r Swyddog Canlyniadau Lleol ailgyfrif y pleidleisiau. Gall y Swyddog Canlyniadau Lleol wrthod ailgyfrif os bydd yn credu bod y cais yn afresymol.1
Dim ond ar lefel yr ardal bleidleisio y gellir gofyn i bleidleisiau gael eu hailgyfrif. Ni chaniateir i bleidleisiau ar gyfer ardal gyfan yr heddlu gael eu hailgyfrif.
- 1. Paragraff 54, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Datgan canlyniad
Pan fydd holl gyfansymiau'r cyfrif o'r ardaloedd pleidleisio wedi cael eu hadio at ei gilydd gan Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu, bydd yn datgan ac yn cyhoeddi'r canlyniad.
Bydd rhai Swyddogion Canlyniadau yn caniatáu i ymgeiswyr annerch ar ôl i'r canlyniad gael ei ddatgan. Cadarnhewch y trefniadau gyda Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu. Dylech sicrhau eich bod chi a’ch cefnogwyr yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ynghylch y safonau ymddygiad sy’n ofynnol yn ystod cyhoeddiadau llafar.
Ceir manylion yr hyn a fydd yn digwydd ar ôl i'r canlyniad gael ei gyhoeddi yn Ar ôl yr etholiad.
Ar ôl yr etholiad
Mae’r adran hon yn nodi’r hyn sy’n digwydd ar ôl yr etholiad, gan gynnwys y camau y mae’n rhaid i ymgeiswyr eu cymryd. Mae hyn yn cynnwys:
- cyflwyno eich ffurflen gwariant a'r terfynau amser cysylltiedig
- dychwelyd eich blaendal
- cyrchu a chyflenwi dogfennau etholiadol
- deisebau etholiadol
Terfynau amser
Ar ôl yr etholiad, dylai'r asiant sicrhau'r canlynol:
- rhaid i bob anfoneb ddod i law o fewn 21 diwrnod calendr ar ôl i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan1
- rhaid i bob anfoneb gael ei thalu o fewn 28 diwrnod calendr ar ôl i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan2
- caiff ffurflen gwariant etholiad sy'n nodi manylion gwariant a rhyddion yr ymgeisydd, ynghyd â datganiad yn cadarnhau bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred3 , ei chyflwyno i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu o fewn 70 diwrnod ar ôl i'r etholiad gael ei ddatgan4
Nodwch, os bydd y dyddiad cau ar gyfer unrhyw un o'r uchod ar benwythnos neu ŵyl y banc, bydd y dyddiad cau yn symud i'r diwrnod gwaith nesaf.5 Mae hyn wedi'i gynnwys o fewn y cyfrifiadau dyddiadau cau canlynol.
Dyddiad cyhoeddi'r canlyniad | Dyddiad olaf i | ||
---|---|---|---|
Dderbyn eich anfonebau | Talu eich anfonebau | Cyflwyno eich ffurflen a'ch datganiad asiant | |
2 Mai 2024 | 23 Mai 2024 | 30 Mai 2024 | 11 Gorffennaf 2024 |
3 Mai 2024 | 24 Mai 2024 | 31 Mai 2024 | 12 Gorffennaf 2024 |
4 Mai 2024 | 28 Mai 2024 | 3 Mehefin 2024 | 15 Gorffennaf 2024 |
Rhaid i'r ymgeisydd ddarparu datganiad ysgrifenedig o'i dreuliau personol i'w asiant o fewn 21 diwrnod i ddatgan y canlyniad.6
Rhaid i'r ymgeisydd hefyd anfon datganiad at Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn cadarnhau bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred. Rhaid gwneud hyn o fewn saith diwrnod gwaith i gyflwyno'r ffurflen.7
Os bydd yr ymgeisydd y tu allan i'r Deyrnas Unedig pan fydd angen cyflwyno'r datganiad, caiff y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r datganid ei ymestyn i 14 diwrnod ar ôl iddo ddychwelyd.8
Rhaid i chi gyflwyno ffurflen, hyd yn oed os nad ydych wedi gwario unrhyw arian.9
Gelwir hwn yn ddatganiad ‘dim trafodion’.
Mae canlyniadau os na fyddwch yn dychwelyd ffurflenni gwariant, ac mae'r rhain wedi'u nodi yn ‘Beth fydd yn digwydd os na chaiff ffurflen gwariant neu ddatganiad eu cyflwyno?’
Anfonebau sy'n dod i law neu sy'n cael eu talu ar ôl y terfynau amser
Rydym yn galw hawliadau (anfonebau ar gyfer gwariant gan ymgeisydd) nas derbynnir gan yr asiant etholiad o fewn y terfyn amser o 21 diwrnod yn hawliadau heb eu talu.
Ni ellir yn gyfreithlon dalu hawliadau heb eu talu oni cheir gorchymyn llys yn caniatáu talu'r hawliad.10
Gall fod yn drosedd talu hawliad heb ei dalu heb orchymyn llys.11
Rydym yn galw hawliadau (anfonebau) a gyflwynwyd o fewn y terfyn amser o 21 diwrnod ond nad ydynt wedi cael eu talu o fewn y terfyn amser o 28 diwrnod yn hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch.
Ni ellir yn gyfreithlon dalu hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch heb i orchymyn llys gael ei roi gyntaf yn caniatáu talu'r hawliad.12
Rhaid rhoi gwybod am unrhyw hawliad sy'n cael ei dalu:
- ar ôl y terfyn amser o 21 diwrnod i dderbyn anfoneb; neu
- ar ôl y terfyn amser o 28 diwrnod ar gyfer taliadau,
ar ôl cais llwyddiannus i'r llys, ac ar ôl y terfyn amser ar gyfer cyflwyno ffurflenni gwariant etholiad, yn ysgrifenedig i'r swyddog canlyniadau o fewn saith diwrnod i'w dalu, ynghyd â chopi o'r gorchymyn llys.13
Rhaid i chi hefyd anfon copi o'r Gorchymyn i'r Comisiwn Etholiadol.
- 1. Erthygl 37(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 37(2), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 41, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 40(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 119, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 32(3) ac erthygl 37(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Erthygl 41(2), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Erthygl 41(3), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Erthygl 40(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Erthygl 37(1) a (5), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Erthygl 37(3), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 11
- 12. Erthygl 37 (2) a (5) ac erthygl 38(3), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 12
- 13. Erthygl 40(4), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 13
Cwblhau eich ffurflen
Gelwir yr adroddiad ar wariant a rhoddion yn ‘ffurflen’.
Rhaid i'r asiant gwblhau'r ffurflen, ac mae'n rhaid iddi gynnwys y canlynol ar gyfer pob eitem gwariant:
- ar gyfer beth roedd y gwariant, er enghraifft, taflenni neu hysbysebu
- enw a chyfeiriad y cyflenwr
- y swm neu'r gwerth
- manylion pryd yr aed i'r gwariant a phryd y'i talwyd
- manylion unrhyw symiau sydd heb eu talu neu y mae anghydfod yn eu cylch
- manylion unrhyw wariant tybiannol, a datganiad o'i werth1
- anfonebau neu dderbynebau ar gyfer unrhyw daliad o £20 neu fwy2
- manylion unrhyw dreuliau personolexpenses3
Rhaid i'r ffurflen hefyd gynnwys manylion pob rhodd dros £50 ac unrhyw wariant ymgyrchu lleol awdurdodedig.4 Mae rhagor o wybodaeth am y manylion y mae angen i chi eu cofnodi yn Gwariant ymgeiswyr a Rhoddion ymgeiswyr
Rhaid i'r ymgeisydd a'r asiant hefyd lofnodi datganiad bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eu gwybodaeth a'u cred.5 Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybodaeth lawn a chywir am wariant ymgeisydd.
Mae'n drosedd gwneud datganiad ffug yn fwriadol.6
Ffurflenni y bydd eu hangen arnoch:
- 1. Erthygl 40(1)(a) a erthygl 51(2)(b), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 40(1)(b), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 40(1)(a) a Atodlen 6, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 5, paragraff 10(1) a Erthygl 40(2)(c), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 41(1) a (2), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 41(6), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 6
Beth fydd yn digwydd os na chaiff ffurflen gwariant neu ddatganiad eu cyflwyno?
Mae methu â chyflwyno ffurflen gwariant neu ddatganiad erbyn y dyddiad cau heb esgus awdurdodedig yn drosedd.1
Mae gan y Comisiwn Etholiadol gylch gwaith cyfreithiol i sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheolau ynghylch gwariant a rhoddion ymgeiswyr, ond nid oes ganddo bwerau cosbi mewn perthynas â thorri'r rheolau. Os amheuir bod ymgeisydd yn torri'r rheolau, dylid cyfeirio'r mater at yr heddlu.
Os na chaiff y ffurflen na'r datganiad ynghylch treuliau etholiad ymgeisydd eu cyflwyno cyn i'r amser a ganiateir at y diben hwnnw ddod i ben, bydd yr ymgeisydd, mewn perthynas â'r etholiad hwnnw, yn cael ei anghymhwyso rhag cael ei ethol neu fod yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.2
- 1. Erthygl 43, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 44, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
Beth sy'n digwydd os na fyddwch yn dilyn y rheolau?
Os nad ydych yn cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol na rheoliadol, gallwch wynebu sancsiynau troseddol. Os enillwch yr etholiad a bod rhywun yn llwyddo mewn deiseb etholiadol yn erbyn gweithgareddau neu adroddiadau eich ymgyrch, gallech gael eich gwahardd rhag dal swydd.
Os derbyniwch roddion na allwch eu derbyn yn gyfreithiol, gallwn wneud cais i'r llysoedd am iddynt gael eu fforffedu.
Mae rhagor o wybodaeth am rôl reoleiddio'r Comisiwn yn:
https://www.electoralcommission.org.uk/cy/pwy-ydym-ni-a-beth-rydym-yn-ei-wneud/gorfodi
Dychwelyd ernes
Ad-delir yr ernes os cewch fwy na 5% o gyfanswm nifer y pleidleisiau dilys yn ardal yr heddlu.1
Bydd yr ymgeiswyr hynny a gaiff 5% neu lai o gyfanswm nifer y pleidleisiau dilys yn colli eu hernes.
- 1. Paragraff 63, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Datganiad derbyn swydd
Os cewch eich ethol, bydd eich cyfnod fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn dechrau ar y seithfed diwrnod calendr ar ôl y diwrnod pleidleisio.
Rhaid i'r datganiad derbyn swydd gael ei wneud o fewn dau fis i ddiwrnod yr etholiad a gellir ei lofnodi ar unwaith ar ôl i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan.
Os na fyddwch yn cyflwyno eich datganiad o fewn dau fis, datgenir bod y swydd yn wag a chynhelir isetholiad.1
- 1. Adran 70, Ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 ↩ Back to content at footnote 1
Beth fydd yn digwydd i waith papur yr etholiad ar ôl i'r canlyniad gael ei ddatgan?
Ar ôl i'r canlyniad gael ei ddatgan, caiff yr holl ddogfennau etholiadol eu cadw'n ddiogel gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol am gyfnod o 12 mis.1
Mae'r rhan fwyaf o ddogfennau ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio. Nodwch nad yw papurau pleidleisio ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio.
Archwilio a darparu'r cofrestrau a'r rhestrau o bleidleiswyr absennol wedi'u marcio
Mae'r cofrestrau etholiadol a'r rhestrau pleidleiswyr absennol wedi'u marcio yn dangos pwy sydd wedi cael papur pleidleisio, pwy sydd wedi dychwelyd ei bapur pleidleisio drwy'r post, a phwy sydd wedi trefnu bod pleidlais drwy ddirprwy yn cael ei bwrw ar ei ran.
Gallwch archwilio neu gael copïau o'r gofrestr etholwyr a'r rhestrau o bleidleiswyr absennol wedi'u marcio ar ôl yr etholiad os gwnewch gais ysgrifenedig i'r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol.2
Mae manylion cyswllt ar gael ar ein gwefan: www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr/gwybodaeth-etholiad
Noder mai dim ond at ddibenion ymchwil neu ddibenion etholiadol y gallwch ddefnyddio'r wybodaeth a geir o'r dogfennau hyn.
Rhaid i'r cais am archwiliad nodi:3
- pa ddogfennau y gwneir cais amdanynt
- at ba ddibenion y defnyddir y wybodaeth mewn unrhyw ddogfen
- pan fo'r cais ar gyfer archwilio'r gofrestr neu'r rhestrau wedi'u marcio, unrhyw reswm pam na fyddai archwilio'r gofrestr lawn neu'r rhestrau heb eu marcio yn ddigon at y diben hwnnw
- pwy fydd yn archwilio'r dogfennau
- y dyddiad yr hoffai'r unigolyn archwilio'r dogfennau, ac
- a fyddai'n well ganddo archwilio'r dogfennau ar ffurf argraffedig neu ddata
Caiff archwiliadau eu cynnal dan oruchwyliaeth a byddant yn rhad ac am ddim. Ni fyddwch yn cael mynd â chopïau, ond gallwch wneud nodiadau â llaw.
Rhaid i'r cais nodi'r canlynol:4
- pa gofrestr neu restrau wedi'u marcio (neu'r rhan berthnasol o'r gofrestr neu'r rhestrau) y gwneir cais amdani/amdanynt
- a yw'r sawl sy'n gwneud cais am gael copi argraffedig o'r cofnodion neu'r rhestrau neu gopi ar ffurf data
- at ba ddibenion y defnyddir y gofrestr neu'r rhestrau wedi'u marcio a pham na fyddai darparu neu brynu copi o'r gofrestr lawn neu restrau heb eu marcio yn ddigon i gyflawni'r diben hwnnw
Codir ffi o £10 ynghyd â £2 am fersiwn argraffedig a £1 am fersiwn ddata fesul 1,000 o gofnodion am y ddogfen y gwneir cais amdani.5
Noder ar ôl 12 mis, gall y dogfennau hyn, a gedwir gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol, gael eu dinistrio, oni fydd gorchymyn llys yn nodi'n wahanol.6
O dan ddeddfwriaeth diogelu data bresennol, ni chaiff data personol a brosesir at unrhyw ddiben eu cadw am fwy nag sydd ei angen at y diben hwnnw. Os byddwch yn gwneud cais am y wybodaeth a restrir uchod ac yn ei derbyn, unwaith y bydd diben casglu'r data hyn wedi darfod, bydd angen i chi ystyried a oes rheswm dros gadw'r data hynny. Os nad oes rheswm, dylech sicrhau bod unrhyw ddata a gedwir yn cael eu dinistrio'n ddiogel.
Archwilio dogfennau etholiadol eraill
Gallwch archwilio dogfennau etholiadol eraill, ond ni fyddwch yn cael gwneud unrhyw nodiadau na chymryd copïau o'r dogfennau hyn.7 Yr unig ddogfennau na ellir eu harchwilio yw:
- y papurau pleidleisio
- y rhestrau rhifau cyfatebol
- y tystysgrifau sy'n caniatáu i staff gorsafoedd pleidleisio bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio y maent yn gweithio ynddi
- papurau enwebu
- y Rhestr o Bapurau Pleidleisio a Wrthodwyd (dim ond ar gais ar ôl iddo gael ei wrthod y gellir datgelu gwybodaeth o'r rhestr hon ar gais i'r etholwr perthnasol neu'r dirprwy)8
Ni ellir archwilio papurau enwebu ar ôl yr etholiad. Dim ond pobl benodol all eu harchwilio cyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio (5pm mewn rhai amgylchiadau).
Ar ôl 12 mis, caiff yr holl ddogfennau etholiadol, a gedwir gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol, eu dinistrio, oni fydd gorchymyn llys yn nodi'n wahanol.9
Archwilio ffurflenni gwariant etholiadol
Caiff ffurflenni gwariant a datganiadau eu cadw gan Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu. Gall unrhyw un eu harchwilio ar ôl iddynt gael eu cyflwyno.10
Mae copïau hefyd ar gael am ffi o 15c fesul ochr tudalen.
Cedwir ffurflenni gwariant a datganiadau am ddwy flynedd. Gallwch wneud cais am iddynt gael eu dychwelyd atoch chi neu at eich asiant ar ddiwedd y cyfnod hwn. Os na fyddwch chi na'ch asiant am eu cael yn ôl, caiff y ffurflenni gwariant a'r datganiadau eu dinistrio.
- 1. Paragraff 68, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Paragraff 2, Atodlen 10, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Paragraff 3(2), Atodlen 10, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Paragraff 2(4), Atodlen 10, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Paragraff 6, Atodlen 10, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheol 68, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Paragraff 3, Atodlen 10, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Rheoliad 32, Rheoliadau Adnabod Pleidleiswyr 2022 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Paragraff 1, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Rheol 68, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 10
Deisebau etholiadol
Gellir herio canlyniad etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu drwy ddeiseb etholiadol.
Cyflwyno deiseb etholiadol
Dim ond rhai pobl a gaiff gyflwyno deiseb etholiadol, a dim ond o dan amgylchiadau arbennig.
Gellir cyflwyno deiseb etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu gan:1
- rhywun sy'n honni ei fod yn ymgeisydd yn yr etholiad, neu
- o leiaf bedwar etholwr (nad ydynt yn etholwyr sydd wedi cofrestru'n ddienw) a oedd â hawl i bleidleisio yn yr etholiad (noder nad oes angen iddynt fod wedi pleidleisio).
Y seiliau a ganiateir dros ddeiseb yw:2
- bod yr ymgeisydd llwyddiannus wedi'i anghymhwyso ar adeg yr etholiad
- nad oedd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi'i ethol yn briodol
- bod yr etholiad yn annilys oherwydd arferion llygredig neu anghyfreithlon
- bod yr etholiad yn annilys oherwydd llygredd cyffredinol neu benodi canfasiwr/asiant llwgr3
Rhaid i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu y gwneir cwyn ynglŷn â'i ethol fod yn wrthapeliwr i'r ddeiseb. Os bydd y ddeiseb yn cwyno am ymddygiad y Swyddog Canlyniadau (naill ai Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu a/neu y Swyddog Canlyniadau Lleol) neu ei staff yn ystod yr etholiad, gall y Swyddog(ion) Canlyniadau fod yn wrthapeliwr hefyd.4
Fel arfer, rhaid cyhoeddi'r ddeiseb o fewn 21 diwrnod calendr ar ôl dyddiad yr etholiad. Fodd bynnag, os bydd y ddeiseb yn cwyno am arferion llwgr neu anghyfreithlon sy'n ymwneud â thalu arian neu roi math arall o wobr, neu arfer anghyfreithlon sy'n ymwneud â gwariant etholiadol, gellir caniatáu mwy o amser.5
Ar gyfer unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â deisebau etholiadol, yn cynnwys cadarnhau'r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno deiseb etholiadol, dylech gysylltu â:
The Election Petitions Office
Room E105
Royal Courts of Justice
Strand
London
WC2A 2LL
E-bost: [email protected]
Ffôn: 0207 947 6877
Mae costau yn gysylltiedig â deiseb etholiadol. Os ydych yn ystyried cyflwyno deiseb etholiadol, rydym yn argymell yn gryf y dylech gael cyngor cyfreithiol annibynnol.
- 1. Adran 128 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 127 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 128, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 128, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 129, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
Adnoddau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod cyn i chi sefyll fel ymgeisydd
Gwariant ymgeiswyr
Ymgyrchu
Enwebiadau
Pleidleisiau post
Diwrnod pleidleisio