Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu yn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr

| Argraffu'r canllawiau llawn

Cynllunio ar gyfer dilysu, cyfrif a choladu canlyniadau

Dylech weithio'n agos gyda Swyddogion Canlyniadau Lleol yn eich ardal i lywio unrhyw benderfyniadau ynglŷn â sut y byddwch yn trefnu ac yn rheoli'r broses o ddilysu, cyfrif a choladu'r canlyniad drwy'r ardal heddlu gyfan. 

Dylech gynllunio a chwblhau'ch prosesau ymgynghori, cynnal deialog a gwneud penderfyniadau mewn da bryd, cyn bod cyfnod ffurfiol yr ymgyrch etholiadol yn dechrau er mwyn ei gwneud yn bosibl i Swyddogion Canlyniadau Lleol adlewyrchu eich penderfyniadau wrth iddynt gynllunio ar gyfer dilysu a chyfrif y pleidleisiau. Dylech hefyd ymgysylltu ag unrhyw randdeiliaid eraill sydd â diddordeb, megis ymgeiswyr ac asiantiaid, pleidiau gwleidyddol, pleidleiswyr a'r cyfryngau.

Er y dylech geisio barn y rhai yr effeithir arnynt neu sydd â diddordeb er mwyn llywio'ch penderfyniadau, chi fel Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu sy'n gyfrifol yn y pen draw am wneud y penderfyniadau.

Un o'r agweddau ar y broses etholiadol lle byddwch yn awyddus i sicrhau cysondeb yw'r broses o ddilysu a chyfrif pleidleisiau a choladu canlyniadau. Felly, bydd angen i chi ystyried pryd, ble a sut y caiff y pleidleisiau eu dilysu a'u cyfrif gan Swyddogion Canlyniadau Lleol.

Efallai y byddwch yn dewis cynnal y cyfrif mewn lleoliad canolog neu ganiatáu i gyfrifon lleol gael eu cynnal mewn rhannau o'r awdurdodau cyfansoddol. Sut bynnag y caiff y broses dilysu a chyfrif ei threfnu, dylech wneud yn siŵr y bydd cynlluniau Swyddogion Canlyniadau Lleol yn sicrhau safon weinyddu gyson. 

Wrth ddatblygu'ch cynlluniau, dylech ystyried egwyddorion y Comisiwn ynglŷn â phroses dilysu a chyfrif wedi'i threfnu'n dda ac ystyried ffactorau ymarferol eraill a all effeithio ar y ffordd y caiff y broses dilysu a chyfrif ei threfnu a'i hamseriad. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfrif yn ein canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol ar Ddilysu a chyfrif y pleidleisiau.   

Dylech gofnodi pob penderfyniad ynglŷn â phryd, ble a sut i ddilysu a chyfrif, a hysbysu'r rhai yr effeithir arnynt, o gofio y gall fod trefniadau gwahanol ar waith mewn rhannau gwahanol o ardal yr heddlu.  

Os bydd trefniadau gwahanol ar waith mewn rhannau gwahanol o ardal yr heddlu, dylech sicrhau eich bod yn rhoi gwybodaeth glir i ymgeiswyr ac asiantiaid, ac eraill a all fod yn bresennol neu'n arsylwi ar y prosesau dilysu a chyfrif ynglŷn â pha agweddau ar y prosesau hynny a all fod yn wahanol, a pham. 

Dylech roi protocol cadarn ar waith er mwyn i chi a'r Swyddogion Canlyniadau Lleol rannu gwybodaeth am ddilysu a chyfrif gyda'ch gilydd, gan gynnwys ffigurau dilysu a rhoi gwybod am gyfansymiau cyfrifon lleol.

Lle y caiff yr etholiad ei gyfuno ag etholiad arall, bydd cydweithredu effeithiol rhwng y Swyddogion Canlyniadau gwahanol drwy'r ardal heddlu gyfan yn hollbwysig oherwydd y cymhlethdod ychwanegol a nifer y papurau pleidleisio.

Lle nad yw'r bleidlais mewn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu wedi'i chyfuno â'r bleidlais mewn etholiad arall, cewch ymgymryd â'r cyfrifoldeb am ddilysu a chyfrif y pleidleisiau mewn unrhyw un neu bob un o'r ardaloedd pleidleisio drwy hysbysu'r Swyddog Canlyniadau Lleol perthnasol. Os bwriadwch ymgymryd â'r cyfrifoldeb hwn dylech hysbysu'r Swyddogion Canlyniadau Lleol perthnasol yn gynnar yn ystod y broses cynllunio etholiad, a chydgysylltu â nhw o ran pryd a sut y caiff y papurau pleidleisio eu dosbarthu i chi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Ebrill 2024