Unwaith y byddwch wedi cytuno ar y ffordd y caiff y prosesau dilysu a chyfrif eu trefnu a'u rheoli, dylech wneud yn siŵr y bydd cynlluniau Swyddogion Canlyniadau Lleol yn sicrhau safon gyson wrth weinyddu'r agweddau hyn ar yr etholiad, fel y bydd yr etholiad yn ei gyfanrwydd yn arwain at ganlyniad cywir y gall pawb ymddiried ynddo.
Mae amrywiaeth o ddulliau o ddilysu'r papurau pleidleisio a chyfrif y pleidleisiau. Gallwch benderfynu p'un a ddylid ei gwneud yn ofynnol i Swyddogion Canlyniadau Lleol ddefnyddio dulliau penodol, neu adael i bob Swyddog Canlyniadau Lleol ddewis ei ddull ei hun yn seiliedig ar yr hyn sydd fwyaf priodol i'w amgylchiadau lleol ac esbonio hynny i chi. Chi sy'n penderfynu pa ddull i'w ddefnyddio mewn ymgynghoriad â Swyddogion Canlyniadau Lleol yn eich ardal ac ar y cyd â nhw.
Pa ddull cyfrif bynnag a ddefnyddir dylai fod yn dryloyw ac arwain at ganlyniad cywir. Mae cyfrifo canlyniad lleol yn dibynnu ar ffigurau dilysu a chyfrif cywir, a bydd angen i chi ystyried yn benodol sut y byddwch yn sicrhau bod y cyfansymiau lleol a dderbyniwch oddi wrth Swyddogion Canlyniadau Lleol i goladu'r canlyniad yn gywir cyn i chi eu derbyn. Dylech baratoi templedi ar gyfer pob dogfen y bydd angen i Swyddogion Canlyniadau Lleol ei chwblhau yn ystod y broses dilysu a chyfrif er mwyn rhoi trywydd archwilio clir.
Un dull cyfrif sy'n effeithiol iawn o ran sicrhau canlyniad cywir yw rhannu'r broses o ddilysu a chyfrif pleidleisiau yn ardaloedd sy'n llai na'r ardal bleidleisio gyfan. Mae rhannu'r broses o ddilysu a chyfrif pleidleisiau yn rhannau sy'n llai na'r ardal bleidleisio yn effeithiol iawn o ran sicrhau canlyniad cywir ac amserol ac iddo drywyddion archwilio clir. Yna caiff canlyniadau'r 'rhannau' hynny eu cyfuno i roi cyfanswm lleol cyffredinol ar gyfer yr ardal bleidleisio. Bydd unrhyw broblemau cyfrif sy'n codi wedi'u cyfyngu i ardal fwy hydrin a bydd unrhyw ailgyfrif a all ddigwydd o ganlyniad wedi'i gyfyngu o bosibl.
Beth bynnag fo'ch penderfyniad, dylech fod yn gallu bodloni'ch hun y gall cynlluniau Swyddogion Canlyniadau Lleol ar gyfer dilysu a chyfrif pleidleisiau gydymffurfio â'r egwyddorion ar gyfer proses dilysu a chyfrif effeithiol ac y byddant yn sicrhau canlyniad sy'n gywir ac y gall pawb ymddiried ynddo.