Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu yn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr

| Argraffu'r canllawiau llawn

Torri dyletswydd swyddogol a'r pŵer i gywiro gwallau gweithdrefnol

Rydych hefyd yn rhwym wrth ddarpariaethau torri dyletswydd swyddogol. Mae hyn yn golygu os byddwch chi neu'ch dirprwyon penodedig yn euog o unrhyw weithred neu anweithred sy'n torri dyletswydd swyddogol, heb achos rhesymol, rydych chi (a/neu nhw) yn agored i dalu dirwy anghyfyngedig os cewch euogfarn ddiannod.1

Mae gennych y pŵer i gymryd y cyfryw gamau ag sy'n briodol yn eich barn chi i unioni gweithredoedd neu anweithredoedd sy'n codi mewn cysylltiad â''ch swyddogaethau etholiadol ac nad ydynt yn unol â'r rheolau neu unrhyw ofynion eraill sy’n berthnasol i’r etholiad.2

Mae'r pŵer hwn yn caniatáu i chi gywiro gwallau gweithdrefnol rydych chi, fel Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu, neu Swyddog Canlyniadau Lleol, Swyddog Cofrestru Etholiadol, Swyddog Llywyddu neu berson sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau i chi (neu ddirprwyon unrhyw un o'r rhain) yn eu gwneud. Nid yw'r pŵer hwn yn ymestyn i gywiro gwallau a wneir gan ymgeiswyr neu asiantiaid. I gael rhagor o wybodaeth am gamgymeriadau a wneir yn ystod y broses enwebu gan ymgeiswyr ac asiantiaid, gweler ein canllawiau ar gywiro gwallau bach.

Mae gan Swyddogion Canlyniadau Lleol yr un pŵer i gywiro gwallau gweithdrefnol a dylech sicrhau eu bod yn ymgynghori â chi cyn arfer y pŵer hwn.

Mae gwall gweithdrefnol yn cyfeirio at wall y mae rhywun wedi'i wneud yn ystod y broses o gynllunio neu gynnal etholiad, a allai effeithio ar broses neu ganlyniad yr etholiad. Er enghraifft, gwybodaeth anghywir ar gardiau pleidleisio neu bapurau pleidleisio, neu bapurau pleidleisio drwy'r post neu mewn gorsaf bleidleisio yn cael eu cyhoeddi mewn camgymeriad neu heb eu cyhoeddi pan y dylent fod wedi'u cyhoeddi. Nid yw'r enghreifftiau uchod yn gynhwysfawr a dylech gysylltu â thîm lleol y Comisiwn am gymorth a chyngor os ydych yn meddwl eich bod wedi gwneud camgymeriad y gellid ei unioni drwy ddefnyddio'r pŵer hwn. Dylech hefyd geisio cyngor cyfreithiol annibynnol eich hun.

Lle rydych chi neu Swyddog Canlyniadau Lleol yn defnyddio'r pŵer hwn i gywiro gwallau gweithdrefnol ar gyfer etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, dylech sicrhau bod y gwall a'r cam unioni a gymerwyd yn cael eu hesbonio i'r rhai yr effeithir arnynt, gan gynnwys pleidleiswyr ac ymgeiswyr ac asiantiaid, lle y bo'n gymwys. Dylech sicrhau eich bod cadw cofnod o'r canlynol: 

  • unrhyw wallau a nodwyd gan gynnwys beth oedd y gwall a sut y digwyddodd
  • effaith y gwall
  • unrhyw gyngor a gawsoch chi neu'r Swyddog Canlyniadau Lleol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol)
  • pa gamau a gymerwyd i gywiro'r gwall, a sut y rhoddwyd gwybod am y rhain

Mae gwall gweithdrefnol yn cyfeirio at wall y mae rhywun wedi'i wneud yn ystod y broses o gynllunio neu gynnal etholiad, a allai effeithio ar broses neu ganlyniad yr etholiad. Er enghraifft, gwybodaeth anghywir ar gardiau pleidleisio neu bapurau pleidleisio, neu bapurau pleidleisio drwy'r post neu mewn gorsaf bleidleisio yn cael eu cyhoeddi mewn camgymeriad neu heb eu cyhoeddi pan y dylent fod wedi'u cyhoeddi. Nid yw'r enghreifftiau uchod yn gynhwysfawr a dylech gysylltu â thîm lleol y Comisiwn am gymorth a chyngor os ydych yn meddwl eich bod wedi gwneud camgymeriad y gellid ei unioni drwy ddefnyddio'r pŵer hwn.

Lle rydych yn unioni gweithred neu anweithred gweithredfnol yn llawn drwy ddefnyddio'r pŵer hwn, ni fyddwch yn euog o drosedd o dorri dyletswydd swyddogol.3  Dylech gofio nad yw'r pŵer i gywiro gwallau gweithdrefnol yn ei gwneud yn bosibl i'r pleidleisiau gael eu hailgyfrif ar ôl i'r canlyniad gael ei ddatgan.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Tachwedd 2025