Yn dibynnu ar eich pŵer i gywiro mân wallau, ni ellir gwneud unrhyw newidiadau i bapur enwebu unwaith y bydd wedi cael ei gyflwyno'n ffurfiol.1
Cywiro mân wallau
Mae'r wybodaeth yn yr adran hon yn esbonio sut i ymdrin â mân wallau a rhaid i chi gadw hyn mewn cof.2
Yn ôl y gyfraith, cewch gywiro mân wallau a wneir ar ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref unrhyw bryd cyn i chi gyhoeddi'r datganiad ynghylch y pleidiau a'r personau a enwebwyd.3
Dylech geisio cysylltu â Swyddog Enwebu'r blaid yn achos rhestr plaid, neu'r ymgeisydd neu'r asiant unigol, cyn cywiro unrhyw fân wallau.
Mae'r tabl isod yn nodi rhai o'r mân wallau y gellir eu cywiro a chanllawiau ynghylch arfer eich pŵer i gywiro mân wallau. Dylech gysylltu â ni am gyngor wrth ystyried cywiro mân wallau.
Math o wall
Canllawiau
Gwallau sillafu amlwg ym manylion yr ymgeisydd
Dylid cymryd gofal wrth arfer y pŵer hwn – mae'n bosibl na fydd pawb yn cyd-weld o ran yr hyn a ystyrir yn wall sillafu amlwg.
Gwallau mewn cyfeiriad cartref
Pan na fydd cyfeiriad cartref yn hollol gywir efallai na fydd angen ei gywiro. Yn ôl y gyfraith, nid yw gwallau mewn cyfeiriad cartref yn effeithio ar ddilysrwydd ffurflen enwebu, cyhyd ag y gellir deall y cyfeiriad yn gyffredin.4