Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn is-etholiadau Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Cwblhau eich papurau enwebu

I gael eich enwebu fel ymgeisydd yn etholiad cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr mae'n rhaid i chi gyflwyno set gyfan o bapurau enwebu i'r man a bennir gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) erbyn 4pm 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.1

Pennir y dyddiad cau hwn yn ôl y gyfraith ac ni ellir ei newid am unrhyw reswm.

Nodir y dyddiad pan fyddwch yn gallu dechrau cyflwyno papurau enwebu, yn ogystal â'r amseroedd a'r man cyflwyno, yn yr hysbysiad etholiad  a gyhoeddir gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).2
     
Rhaid i chi gyflwyno tri papur enwebu er mwyn i'ch enwebiad fod yn ddilys:3

Gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) benderfynu bod eich papur enwebu yn annilys os nad yw manylion eich enwebiad yn unol â gofynion y gyfraith. Hefyd, gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) wrthod eich enwebiad os yw'n dod i'r casgliad ei fod yn un ffug, er enghraifft os rhoddir enw sy'n amlwg yn ffug.

Os na allwch chi, eich asiant  neu rywun rydych yn ymddiried ynddo gwblhau'r ffurflen enwebu, gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) eich helpu drwy baratoi'r ffurflen i chi ei llofnodi.4

Efallai y gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) hefyd gynnig bwrw golwg anffurfiol dros eich papurau enwebu wedi'u cwblhau cyn i chi eu cyflwyno. Dylech gael rhagor o wybodaeth gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) o ran a yw'n bwriadu cynnig gwiriadau anffurfiol.

Noder bod yn rhaid i unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhoi ar eich papurau enwebu fod yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth. Mae'n drosedd gwneud datganiad ffug ar eich papurau enwebu. Gallai rhoi datganiad anwir annilysu eich etholiad, a gallech hefyd wynebu dirwy a/neu ddedfryd o garchar i chi. Yng Nghymru a Lloegr mae'r ddirwy yn anghyfyngedig;5  yn yr Alban mae'r ddirwy hyd at £10,000 neu'n anghyfyngedig os cewch eich collfarnu ar dditiad.6
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Ionawr 2024