Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod eich papurau enwebu, gan gynnwys y ffurflen cyfeiriad cartref a'r ffurlfen cydsynio ag enwebiad, a lle rydych yn sefyll ar ran plaid, y dystysgrif awdurdodi a'r ffurflen gwneud cais am arwyddlun, yn cael eu cyflwyno i'r man a nodwyd ar yr hysbysiad etholiad erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.1
Os byddwch yn penodi asiant etholiad, bydd hefyd angen i chi gyflwyno ei ffurflen benodi erbyn y dyddiad cau hwn.
Dim ond nifer gyfyngedig o bobl a gaiff gyflwyno eich ffurflen enwebu a'ch ffurflen cyfeiriad cartref. Dim ond chi, eich cynigydd neu eilydd, neu eich asiant etholiad (os bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) wedi derbyn hysbysiad blaenorol o'u penodiad) all ddanfon eich ffurflen enwebu a'ch ffurflen cyfeiriad cartref).2
Ni chyfyngir ar bwy all gyflwyno'ch ffurflen cydsynio ag enwebiad, eich tystysgrif awdurdodi na'ch ffurflen gwneud cais am arwyddlun, ond rydym yn argymell y dylech chi, eich asiant, eich cynigydd neu eilydd, neu rywun rydych yn ymddiried ynddo wneud hyn, fel y gallwch fod yn siŵr y caiff y cydsyniad ei gyflwyno i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ar amser.
Dylech gysylltu â'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) cyn gynted â phosibl er mwyn gweld pa drefniadau sydd ar waith ar gyfer cyflwyno papurau enwebu. Byddwch yn gallu cysylltu â'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) drwy eich swyddfa etholiadau leol. Gellir cael manylion cyswllt o'n gwefan.