Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn is-etholiadau Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Tynnu'n ôl fel ymgeisydd

Cewch dynnu'n ôl fel ymgeisydd drwy lofnodi a chyflwyno hysbysiad tynnu enw yn ôl, y mae'n rhaid i rywun arall ei dystio.1  Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran pwy all gyflwyno'r hysbysiad, ond rhaid gwneud hynny'n bersonol. Rhaid i'ch tyst hefyd lofnodi'r hysbysiad. Gallwch gael hysbysiad tynnu enw yn ôl  gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu gallwch ei lawrlwytho o'n gwefan.
 


Os ydych y tu allan i'r DU ac am dynnu'n ôl, gall eich cynigydd lofnodi'r hysbysiad tynnu enw yn ôl ar eich rhan. Rhaid i'r hysbysiad tynnu enw yn ôl gael ei ategu gan ddatganiad ysgrifenedig a lofnodwyd gan eich cynigydd yn cadarnhau eich absenoldeb.

Os ydych y tu allan i'r DU ac yn sefyll wedi eich enwebu gan fwy nag un ffurflen enwebu, dylech siarad â'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) os ydych am dynnu eich enw yn ôl gan fod rheolau arbennig yn berthnasol yn yr achos hwn.

Mae'n rhaid cyflwyno'r hysbysiad tynnu enw yn ôl erbyn y terfyn amser ar gyfer tynnu enwau yn ôl (h.y. erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad).
 
Ar ôl y dyddiad cau ar gyfer tynnu'n ôl, nid yw'n bosibl tynnu'n ôl o'r etholiad, a bydd eich enw yn ymddangos ar y papur pleidleisio. Os bydd yr etholiad yn ddiwrthwynebiad, cewch eich ethol.

Os byddwch yn tynnu'n ôl fel ymgeisydd, ad-delir eich ernes.

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Ionawr 2024