Ar yr amod nad oes unrhyw wrthwynebiadau, bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn cyhoeddi datganiad o bersonau a enwebwyd erbyn 5pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.1
enw llawn neu enw a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer pob ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys
enwau ymgeiswyr nad ydynt wedi'u henwebu mwyach, os o gwbl (h.y. ymgeiswyr annilys a'r rhai sydd wedi tynnu'n ôl), gan nodi'r rheswm pam nad ydynt yn sefyll mwyach
cyfeiriad cartref pob ymgeisydd, neu os ydynt wedi gwneud cais i beidio â gwneud eu cyfeiriad cartref yn gyhoeddus, yr etholaeth y mae eu cyfeiriad cartref ynddi (neu'r wlad os yw eu cyfeiriad cartref y tu allan i'r DU)
disgrifiad pob ymgeisydd (os o gwbl)
Os oes unrhyw wrthwynebiadau, bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn cyhoeddi datganiad o bersonau a enwebwyd erbyn 4pm ar y diwrnod ar ôl y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu, h.y. 4pm, 18 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.3
Gall y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) hefyd drosglwyddo eich manylion cyswllt megis rhifau ffôn neu gyfeiriadau e-bost i'r heddlu i'w galluogi i gysylltu â chi'n uniongyrchol gyda chyngor diogelwch ar gyfer yr etholiad. Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn darparu rhagor o wybodaeth am hyn, gan gynnwys sut i optio allan o'r trefniant hwn.
Manylion cyswllt ymgeisydd
Lle rydych chi wedi darparu eich manylion cyswllt e-bost neu ffôn i'r Swyddog Canlyniadau drwy'r ffurflen manylion cyswllt ymgeisydd, caiff y manylion hyn eu rhannu â'r heddlu i'w galluogi i roi unrhyw ddiweddariadau neu gyngor penodol ar ganllawiau diogelwch i chi ar gyfer yr etholiadau hyn.