Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn is-etholiadau Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Penodi asiantiaid pleidleisio drwy’r post

Gallwch benodi asiantiaid i fynychu agoriadau pleidleisiau post. 

Gellir penodi unrhyw un, ac eithrio’r bobl ganlynol a restrir isod, yn asiant pleidlais bost:

  • y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu aelod o'u staff1
  • partner neu glerc y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu aelod o'u staff2
  • unrhyw sydd heb hawl i bleidleisio yn yr etholiad o ganlyniad i adroddiad llys etholiadol neu gollarn am arfer llwgr neu anghyfreithlon yn unol â Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.3  

Gallwch chi a'ch asiant etholiadol weithredu'n awtomatig fel un o'r asiantiaid hyn heb fod angen penodiad swyddogol.4

Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn dweud wrthych beth yw uchafswm nifer yr asiantiaid pleidleisio drwy’r post y gallwch eu penodi.5  Bydd pob ymgeisydd yn cael penodi yn union yr un nifer. 

Mae’n rhaid gwneud y cais i benodi asiantiaid pleidleisio drwy'r post yn ysgrifenedig i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol). Mae’n rhaid i'r cais gynnwys enwau a chyfeiriadau'r bobl sy'n cael eu penodi.6  Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn darparu ffurflenni y gallwch eu defnyddio ar gyfer hyn, neu gallwch ddefnyddio ffurflen penodi asiant pleidlais drwy'r post  y Comisiwn.

 

 

Mae angen cyflwyno ffurflenni penodi ar gyfer asiantiaid pleidleisio drwy'r post i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) erbyn yr amser a bennwyd ar gyfer agor pleidleisiau post y maent am fod yn bresennol ar ei gyfer. 

Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn rhoi o leiaf 48 awr o rybudd i chi cyn y dechrau sydd wedi'i drefnu ar gyfer pob sesiwn agor pleidleisiau post.7

Os bydd asiant yn marw neu'n methu â gweithredu, gallwch benodi asiant arall yn ei le drwy gyflwyno'r ffurflen benodi berthnasol i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).8  Mae'n rhaid hysbysu am y penodiadau o dan yr amgylchiadau hyn heb oedi.

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y gall asiantiaid pleidleisio drwy'r post ei wneud a'r hyn na allant ei wneud a'r hyn y gallant ddisgwyl ei weld mewn sesiynau agor pleidleisiau post ar gael yn ein canllawiau 'Beth yw gwaith asiant pleidleisio drwy'r post?' a 'Camau'r broses agor pleidleisiau post'.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Tachwedd 2024