Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn is-etholiadau Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Cyfyngiadau methdaliad neu orchmynion interim

Nid yw methdaliad ynddo'i hun yn anghymhwysiad. Fodd bynnag, byddwch wedi'ch anghymhwyso os:1

  • rydych yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad ar hyn o bryd neu orchymyn cyfyngu rhyddhad ar ddyledion a wnaed gan lys yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, neu
  • mae eich ystâd wedi cael ei secwestru gan lys yn yr Alban ac nid ydych wedi cael eich rhyddhau

Os bydd unigolyn wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr gan lys yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon,
 neu os bydd yn destun gorchymyn cyfyngiadau methdaliad interim, ni chaiff ei anghymhwyso ar y sail honno, ar yr amod nad yw hefyd yn destun unrhyw anghymwysiadau methdaliad penodol a restrir uchod ar hyn o bryd. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Rhagfyr 2023