Caiff rhai deiliaid swyddi eu hanghymwyso rhag dod yn Aelod Seneddol. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol1
:
gweision sifil
aelodau o heddluoedd
aelodau o'r lluoedd arfog
cyfarwyddwyr cwmnïau masnachol a enwebwyd gan y llywodraeth
barnwyr
aelodau o ddeddfwrfa unrhyw wlad neu diriogaeth y tu allan i'r Gymanwlad
arglwyddi sy'n aelodau o Dŷ'r Arglwyddi ac a all bleidleisio yno
esgobion yr Eglwys yn Lloegr (y cyfeirir atynt fel Arglwyddi Ysbrydol) y mae hawl ganddynt i fod yn aelodau o Dŷ'r Arglwyddi a phleidleisio yno
Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr a nodir rhestrau manwl o swyddi anghymhwysol yn Neddf Anghymwyso Tŷ'r Cyffredin 1975 (fel y'i diwygiwyd).
Deiliaid swyddi eraill sy'n sefyll mewn etholiad Senedd y DU
Aelodau'r Senedd yn sefyll mewn etholiad Senedd y DU
Er y gall Aelodau'r Senedd sefyll fel ymgeiswyr mewn etholiad Senedd y DU, ni allant fod yn Aelodau o Dŷ'r Cyffredin. Os bydd yn llwyddiannus, byddai'n rhaid i AS ymddiswyddo o'i sedd yn y Senedd o fewn wyth diwrnod calendr ar ôl cael ei ethol i Dŷ'r Cyffredin.
Aelodau Senedd yr Alban
Er y gall Aelodau Senedd yr Alban sefyll fel ymgeiswyr mewn etholiad Senedd y DU, ni allant fod yn Aelodau o Dŷ’r Cyffredin. Os byddant yn llwyddiannus, byddai’n rhaid iddynt ymddiswyddo o’u swydd o fewn 49 diwrnod calendr ar ôl cael eu hethol / tyngu’r llw teyrngarwch (neu roi'r cadarnhad cyfatebol).