Cod Ymddygiad ar gyfer Ymgyrchwyr yn etholiadau Senedd yr Alban, Senedd Cymru, cyngor yr Alban ac etholiadau lleol Cymru
Cofrestru etholiadol, pleidleisio drwy’r post, pleidleisio drwy ddirprwy a gorsafoedd pleidleisio
Mae ymgyrchwyr yn elfen hanfodol o ddemocratiaeth iach, a dylid cefnogi a diogelu eu hawl i gyflwyno eu dadleuon i bleidleiswyr. Fodd bynnag, mae yr un mor bwysig sicrhau nad yw gweithgareddau ymgyrchwyr yn codi amheuaeth ynghylch uniondeb y broses etholiadol.
Mae'r Cod hwn yn darparu canllaw i ymgyrchwyr, gweinyddwyr etholiadau a heddluoedd ynghylch beth a gaiff ac na chaiff ei ystyried yn ymddygiad derbyniol mewn gorsafoedd pleidleisio ac yn y gymuned yn ystod y cyfnod cyn y diwrnod pleidleisio.
Fel egwyddor arweiniol, os bydd unrhyw amheuaeth ynghylch gweithgaredd penodol, dylai ymgyrchwyr ystyried “Beth fyddai arsylwr rhesymol yn ei feddwl?”
Gellir dod o hyd i ganllawiau manylach am droseddau etholiadol yn y canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid, sydd ar gael yn:https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/ymgeisydd-neu-asiant.
Anfonwyd y Cod at bob plaid wleidyddol gofrestredig ym Mhrydain Fawr, a bydd Swyddogion Canlyniadau yn tynnu sylw'r holl ymgeiswyr a phleidiau sy'n ymladd etholiadau perthnasol ato.
Gall rhai Swyddogion Canlyniadau nodi'r angen i ddatblygu a cheisio cytundeb i ddarpariaethau lleol penodol sy'n ategu telerau'r Cod hwn, er mwyn mynd i'r afael â risgiau lleol a nodwyd. Rhaid i Swyddogion Canlyniadau ymgynghori ag ymgyrchwyr lleol a'r Swyddogion Enwebu cenedlaethol perthnasol yn ogystal â heddluoedd er mwyn sicrhau cytundeb lleol priodol i ddarpariaethau o'r fath, a dylent sicrhau eu bod yn cael eu cyfleu i ymgeiswyr yn lleol a'u bod yn eu deall yn iawn.
Cwmpas y cod hwn
Mae'r cod hwn yn cwmpasu'r holl bobl hynny sy'n cymryd rhan weithredol mewn gwaith ymgyrchu yn yr achosion canlynol:
- Etholiadau Senedd yr Alban
- Etholiadau cynghorau'r Alban
- Refferenda a gynhelir o dan ddeddfwriaeth Senedd yr Alban
- Etholiadau Senedd Cymru
- Etholiadau lleol yng Nghymru
- Refferenda a gynhelir o dan ddeddfwriaeth Senedd Cymru
Etholiadau a refferenda eraill ym Mhrydain Fawr
NID yw'r cod hwn yn gymwys i unrhyw ddigwyddiadau pleidleisio eraill. Gellir dod o hyd i'r cod ymddygiad i ymgyrchwyr ar gyfer mathau eraill o etholiadau a refferenda ym Mhrydain Fawr yma ac mae hwn yn cwmpasu:
- Etholiadau Senedd y DU (yng Nghymru, Lloegr, a'r Alban)
- Is-etholiadau Senedd y DU
- Etholiadau lleol yn Lloegr
- Refferenda lleol yn Lloegr
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu, Tân a Throseddu) yng Nghymru a Lloegr
Ystyr y term “ymgyrchydd”
- Ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad, eu hasiantiaid, eu staff a'u cefnogwyr
- Swyddogion, aelodau a chefnogwyr plaid wleidyddol sy'n ymgyrchu mewn etholiad
- Pobl eraill a sefydliadau sy'n ymgyrchu o blaid neu yn erbyn ymgeisydd, grŵp o ymgeiswyr neu blaid mewn etholiad
- Pobl a sefydliadau sy'n ymgyrchu o blaid neu yn erbyn canlyniad penodol mewn refferendwm
Cydymffurfio â'r cod hwn
Dylid codi unrhyw bryderon fod y cod hwn wedi ei dorri gyda'r ymgeisydd, y blaid wleidyddol neu'r ymgyrchydd dan sylw yn gyntaf.
Dylid tynnu sylw'r Comisiwn Etholiadol at unrhyw bryderon pellach. Bydd y Comisiwn yn eu codi gyda'r blaid neu'r ymgyrchydd perthnasol os yw hynny'n briodol, a bydd yn cytuno ar gamau priodol i ddatrys y sefyllfa neu atal unrhyw doriad rhag codi eto.