Gwariant ymgeiswyr Senedd Cymru 2021

Yn etholiad y Senedd mis 2021, roedd yna 311 o ymgeiswyr etholaethol a rhanbarthol annibynnol a oedd angen cyflwyno ffurflen wariant, yn rhestru’r hyn y gwnaethant ei wario yn ystod yr ymgyrch etholiadol. Mae’r set ddata’n cynnwys y prif ffigyrau ar wariant ymgeiswyr a’r rhoddion a gawsant yn ystod etholiad y Senedd 2021. Rydym yn cyhoeddi’r ffigurau hyn er mwyn gwella tryloywder a rhoi gwybodaeth i bleidleiswyr am roddion i ymgyrchoedd etholiadol ymgeiswyr a’u gwariant er mwyn sicrhau bod modd gweld yr wybodaeth hon mewn un man. Mae ffurflenni llawn ymgeiswyr unigol ar gael i'w craffu gan y cyhoedd gan y Swyddogion Canlyniadau perthnasol am gyfnod o ddwy flynedd ar ôl etholiad.

Mae'r ffurflenni’n cynnwys y cyfanswm a wariodd yr ymgeisydd, ynghyd â dadansoddiad o faint y gwnaethon nhw ei wario ar bethau fel hysbysebu, trafnidiaeth a chyfarfodydd cyhoeddus. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw roddion a gafodd yr ymgeisydd dros £50 yn ystod y cyfnod a reoleiddir.

Mae'r data a gymerwyd o'r ffurflenni gwariant yn adlewyrchu’r hyn a gyflwynodd ymgeiswyr a’u hasiantiaid i Swyddogion Canlyniadau yng Nghymru. Rydym yn cyhoeddi'r wybodaeth hon fel y mae'n ymddangos ar ffurflen yr ymgeisydd fel bod cofnod cywir o'r hyn a adroddwyd. Mae terfynau gwariant yn amrywio rhwng etholaethau. 

Mae’r mwyafrif helaeth o Swyddogion Canlyniadau wedi danfon y ffurflenni a gyflwynwyd iddynt i gael eu cynnwys yn y set ddata hon. Pan fod gwybodaeth ar goll, gall hyn fod oherwydd nad yw’r Swyddog Canlyniadau wedi’i hanfon atom, neu oherwydd nad yw’r ymgeisydd wedi cyflwyno’i ffurflen i’r Swyddog Canlyniadau.

O dan y gyfraith, mae gwariant ar hyrwyddo ymgeiswyr rhestr pleidiau rhanbarthol yn cyfrif fel gwariant plaid, ac felly roedd angen i’r blaid adrodd amdano yn ei ffurflen gwariant etholiadol.

Mae gwybodaeth am ddata gwariant ymgeiswyr ar gyfer etholiadau datganoledig blaenorol ar gael ar-lein yn yr Archif Genedlaethol.

Gwariant ymgeiswyr Senedd Cymru 2021