Mae’r Senedd bellach yn defnyddio system bleidleisio o’r enw ‘system rhestr gyfrannol gaeedig’ i ethol Aelodau. Roedd y rhan fwyaf o’r ymgeiswyr a safodd yn cynrychioli plaid wleidyddol, gyda dim ond 30 o ymgeiswyr unigol yn sefyll.
O ganlyniad i hyn, mae pleidiau gwleidyddol yn cyflwyno datganiadau gwariant sy’n cwmpasu eu gwariant ar draws Cymru, tra bod ymgeiswyr annibynnol yn cyflwyno datganiadau gwariant unigol. 12 Mehefin 2026 oedd y dyddiad cau i ymgeiswyr annibynnol gyflwyno eu datganiadau gwariant. Mae’r rhain yn cael eu cyhoeddi yma heddiw.
7 Awst 2026 oedd y dyddiad cau i bleidiau gwleidyddol a wariodd lai na £250,000 gyflwyno eu datganiadau gwariant, a 7 Tachwedd 2026 yw’r dyddiad cau i bleidiau a wariodd dros £250,000. Caiff y rhain eu cyhoeddi maes o law.