Rhoddion a adroddwyd yn hwyr
Rhannu'r dudalen hon:
Crynodeb
Rhaid i bleidiau gwleidyddol gyflwyno gwybodaeth i ni bob chwarter sy'n dangos y rhoddion y maent wedi'u derbyn yn ystod pob cyfnod adrodd. Oni fydd rhodd yn rhan o swm cyfunol, rhaid rhoi gwybod amdani yn y chwarter y cafodd ei derbyn.
Data yn yr adran hon
Rhoi gwybod am roddion
Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am roddion i bleidiau gwleidyddol bedair gwaith y flwyddyn, ar ddiwedd:
- mis Mawrth
- mis Mehefin
- mis Medi
- mis Rhagfyr
Mae'r wybodaeth hon yn cynnwys:
- y blaid wleidyddol a dderbyniodd y rhodd
- gwerth y rhodd
- pwy a wnaeth y rhodd, gan gynnwys ei enw a'i statws (megis unigolyn neu gwmni), neu a oedd yn arian cyhoeddus
Siart: Rhoddion a adroddwyd yn hwyr yn ôl plaid
Mae'r siart hon yn dangos pa bleidiau a roddodd wybod am roddion yn hwyr yn y chwarter olaf a chyfanswm gwerth y rhoddion hyn.