Crynodeb

Rhaid i bleidiau gwleidyddol roi gwybod am roddion y maent yn eu derbyn a rhoi gwybodaeth am bwy a'u rhoddodd, gan gynnwys rhoddion sy'n dod o arian cyhoeddus. Rydym yn cyhoeddi'r holl wybodaeth rydym yn ei chael ar Cyllid Gwleidyddol Ar-lein.

Mae'r rheolau ar gyfer cyhoeddi'r wybodaeth hon yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon. Nid yw'r ddeddfwriaeth yn caniatáu i ni gyhoeddi unrhyw wybodaeth am roddion na benthyciadau o'r cyfnod cyn 1 Gorffennaf 2017.