Adroddiad ar ymchwiliad i Blaid Annibyniaeth y DU (UKIP)

Trosolwg

Rydym wedi ystyried a dderbyniodd Plaid Annibyniaeth y DU (UKIP) roddion o ffynonellau nas caniateir yn ystod 2015 a 2016. Rydym wedi dod i'r casgliad na wnaeth hynny. Rydym yn esbonio'r cefndir a'n casgliadau yn yr adroddiad hwn.

Further information

Mae UKIP yn blaid wleidyddol sydd wedi'i chofrestru ym Mhrydain Fawr (mae plaid sydd wedi'i chofrestru ar wahân o'r enw UKIP yng Ngogledd Iwerddon). Brwydrodd UKIP dros nifer o seddi ledled y DU yn yr etholiad cyffredinol yn 2015, a dywedodd iddi wario tua £2.8m ar ei hymgyrch.

Fel plaid wleidyddol sydd wedi'i chofrestru yn y DU:

  • ni all UKIP dderbyn rhoddion gan sefydliadau y tu allan i'r DU
  • rhaid i UKIP roi gwybod i ni am unrhyw roddion o £7,500 neu fwy bob chwarter
  • rhaid i UKIP roi gwybod am ei holl wariant ar ymgyrchu ar ôl pob etholiad cyffredinol

Nid yw ADDE nac IDDE yn bleidiau gwleidyddol sydd wedi'u cofrestru yn y DU. Felly, nid yw'r rheolau hyn yn berthnasol iddynt. Fel pleidiau a sefydliadau gwleidyddol Ewropeaidd eraill, derbyniodd ADDE ac IDDE gyllid grant gan yr UE. Gellir defnyddio'r cyllid ar gyfer hyd at 85% o wariant cymwys y blaid a'r sefydliad, a gellir ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o bethau, o swyddogaethau gweinyddol i'r costau ymgyrchu ar gyfer etholiadau Ewropeaidd. Ni ellir ei ddefnyddio at ddibenion penodol, gan gynnwys cyllido pleidiau cenedlaethol, ymgeiswyr mewn etholiadau a sefydliadau gwleidyddol yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol ar lefel genedlaethol na lefel Ewropeaidd.

Mae'r rheolau ar roddion i bleidiau gwleidyddol yn y DU wedi'u nodi yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Yn ôl y rheolau:

  • mae rhodd yn golygu unrhyw anrheg a roddir i blaid o arian neu eiddo arall, nawdd, talu tanysgrifiadau neu ffioedd, gwario arian i dalu unrhyw dreuliau y mae plaid yn mynd iddynt neu ddarparu eiddo, gwasanaethau neu gyfleusterau ar delerau anfasnachol
  • dim ond symiau uwchlaw £500 sy'n cael eu hystyried yn rhoddion o dan y Ddeddf
  • ni all plaid gofrestredig dderbyn rhodd gan unigolyn nad yw'n rhoddwr a ganiateir ar y pryd
  • mae rhoddwr a ganiateir, yn fras, yn unigolyn sydd ar y gofrestr etholiadol neu'n gwmni neu'n endid arall yn y DU

Os bydd plaid yn derbyn rhodd o ffynhonnell nas caniateir, mae'n rhaid iddi roi'r rhodd yn ôl o fewn 30 diwrnod. Os na fydd y blaid yn gwneud hyn, mae ei thrysorydd yn cyflawni trosedd. Fodd bynnag, gall y trysorydd gyfiawnhau hyn os gwnaeth gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y rhoddwr yn rhoddwr a ganiateir ac, o ganlyniad i hynny, yn credu bod y rhoddwr yn un a ganiateir.

Rydym yn gorfodi'r rheolau hyn gan ddefnyddio amrywiaeth o bwerau ymchwilio a sancsiynu.

Ble gallwch gael rhagor o wybodaeth?

Mae gwybodaeth am Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar gael ar wefan deddfwriaeth y llywodraeth. Mae'r rheolau ar roddion i'w gweld yn Rhan IV.

Investigation evidence

Ym mis Rhagfyr 2016, daeth Biwrô Senedd Ewrop i'r casgliad bod €500,616 a wariwyd gan ADDE a €33,864 a wariwyd gan IDDE yn 2015 yn torri'r rheolau ar grantiau i bleidiau a sefydliadau Ewropeaidd. Roedd Biwrô Senedd Ewrop wedi dod i'r casgliad bod rhywfaint o'r arian grant wedi'i wario'n anuniongyrchol i gyllido UKIP, a oedd yn mynd yn groes i'w rheolau.

Roedd Biwrô Senedd Ewrop o'r farn bod arwyddion cryf bod ADDE ac IDDE wedi cynnal yr arolygon barn yn 2015 er budd UKIP, a nododd natur Ewro-sgeptig y cwestiynau a'r lleoliadau y cynhaliwyd yr arolygon barn ynddynt. Mae'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer cyllido pleidiau a sefydliadau gwleidyddol Ewropeaidd yn rhoi'r baich o brofi cymhwysedd i gael cyllid ar y buddiolwr.

Cynhaliwyd yr arolygon barn:

  • yng Ngogledd Thanet, Rochester a Strood, Sittingbourne a Sheppey a De Thanet ym mis Chwefror 2015
  • yn Great Grimbsy a Thurrock ym mis Ebrill 2015
  • yn Ne Caerdydd a Phenarth ym mis Ebrill 2015
  • ym Merthyr Tudful a Rhymni ym mis Ebrill 2015
  • ledled y DU ym mis Mehefin/Gorffennaf 2015
  • ledled Cymru ym mis Medi 2015
  • yn yr Alban a Llundain ym mis Tachwedd 2015
  • ledled y DU ym mis Rhagfyr 2015
  • mewn saith gwlad yn yr UE ym mis Rhagfyr 2015
  • ledled y DU unwaith eto ym mis Rhagfyr 2015

Cyfanswm cost yr arolygon barn i ADDE ac IDDE oedd tua €321,000.

Rhoddodd Biwrô Senedd Ewrop wybod i ni am hyn ym mis Hydref 2016. Rhoddodd dystiolaeth sylweddol i ni i esbonio ei phryderon ac, ar ôl ystyried hyn, gwnaethom ddechrau ymchwiliad.

Ymchwiliwyd i'r materion canlynol:

  • p'un a gafodd unrhyw arolwg barn neu waith arall y talwyd amdano gan ADDE neu IDDE ei roi i UKIP er mwyn iddi gael budd ohono
  • os felly, p'un a oedd hyn yn gyfystyr â rhodd o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000
  • os felly, p'un a oedd trysorydd UKIP ac UKIP wedi cyflawni trosedd drwy beidio â rhoi rhodd nas caniateir yn ôl, sy'n ofynnol gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000

Yn ystod yr ymchwiliad, dywedodd Biwrô Senedd Ewrop hefyd ei bod yn pryderu y gall cynorthwywyr ASEau UKIP fod wedi bod yn gweithio i UKIP, ac y gall cyflogau ASEau fod wedi bod yn rhodd i UKIP. Gwnaethom ystyried y dystiolaeth, ond gwnaethom benderfynu nad oedd yn cyrraedd y trothwy ar gyfer ychwanegu'r mater at ein hymchwiliad.

Rhwng mis Rhagfyr 2016 a mis Mai 2017, gwnaethom roi cyfres o hysbysiadau cyfreithiol yn gofyn am ddogfennau a gwybodaeth gan UKIP a'r cwmni arolygon barn a gynhaliodd yr arolygon barn ar ran ADDE ac IDDE. Yn ogystal, gwnaethom anfon hysbysiadau cyfreithiol at un o gyfarwyddwyr UKIP ar y pryd ac unigolyn preifat a gontractiwyd gan ADDE i arwain y gwaith ar lawer o'r arolygon barn ac a fu'n gweithio fel rheolwr ymgyrchu dros UKIP yn flaenorol. Cawsom lawer iawn o ddogfennau a gwybodaeth mewn ymateb i'r holl hysbysiadau hyn, a chafodd y rhain eu harchwilio gennym.

Yna, gwnaethom drefnu cyfweld ag unigolion allweddol, a chynhaliwyd cyfweliadau hyd at fis Chwefror 2018. Roedd yr unigolion hyn yn cynnwys prif gontractiwr ADDE a weithiodd ar sawl arolwg barn, unigolyn ychwanegol a gontractiwyd gan ADDE i lunio adroddiadau ar yr arolygon barn, Llywydd ADDE ac un o sylfaenwyr a chyfarwyddwr blaenorol ADDE ac IDDE. Roedd y rhain i gyd yn gyfweliadau gwirfoddol. Gwrthododd Cyfarwyddwr Gweithredol ADDE gyfarfod â ni, ond darparodd ymateb ysgrifenedig.

Our analysis and evidence

Gwelsom fod yr arolygon barn y talwyd amdanynt gyda chyllid grant gan Fiwrô Senedd Ewrop yn berthnasol i sefyllfa wleidyddol UKIP yn 2015/16.

  • Cawsant eu cynnal mewn ardaloedd daearyddol o bwysigrwydd strategol posibl i UKIP
  • Roedd y cwestiynau yn ymwneud ag agweddau at yr UE
  • Roedd yr adroddiadau a luniwyd yn dilyn yr arolygon barn yn ystyried y data o safbwynt UKIP yn rhannol.

Er hynny, roedd tystiolaeth annigonol bod yr arolygon barn wedi'u comisiynu i fod o fudd i UKIP a dim tystiolaeth bod UKIP wedi cael y canlyniadau neu wedi elwa ohonynt. Gwelsom anfonebau a negeseuon e-bost a ddarparwyd gan y cwmni arolygon barn, a ddangosodd fod ADDE wedi comisiynu'r arolygon barn ac wedi cael ei hanfonebu amdanynt. Dywedodd y rhai y gwnaethom gyfweld â nhw yr un peth. Nid oedd unrhyw wybodaeth arall gan unrhyw un o'r endidau yr aethom atynt i awgrymu mai arolygon barn UKIP oeddent.

Rhoddodd Biwrô Senedd Ewrop lythyr i ni, dyddiedig 2 Tachwedd 2016, a anfonwyd gan ADDE i Senedd Ewrop i wrthwynebu casgliadau Biwrô Senedd Ewrop. Roedd fel petai'n cydnabod mai 'arolygon barn UKIP' oedd dau ohonynt, a nodwyd bod ADDE wedi cael yr anfoneb 'drwy gamgymeriad' ond nid oedd hyn yn gyson â'r dystiolaeth a welsom.

Dywedodd contractwyr ADDE a sylfaenydd ADDE wrthym fod ADDE ac IDDE wedi comisiynu'r arolygon barn er mwyn gwario arian grant gan Fiwrô Senedd Ewrop mor effeithlon â phosibl i gyfiawnhau mwy o gyllid. Gwnaethant ddweud nad bwriad yr arolygon barn oedd ymdrin â materion o bwysigrwydd i UKIP. Dywedodd y contractwyr a gynhaliodd yr arolygon barn na chawsant eu harwain gan ADDE yn fawr a'i bod wedi caniatáu iddynt ddewis y materion a oedd o ddiddordeb iddynt.

Ni welsom unrhyw dystiolaeth ddogfennol i awgrymu bod unrhyw ddata o arolygon barn ADDE wedi'u rhoi i UKIP. Gwnaethom ofyn i'r contractwyr a weithiodd ar arolygon barn ADDE am hyn. Roedd y ddau ohonynt wedi gweithio fel rheolwyr ymgyrchu dros ymgeiswyr UKIP yn ystod yr etholiad cyffredinol yn 2015. Roedd hyn cyn iddynt ymwneud ag arolygon barn ADDE a ddechreuodd ym mis Mehefin 2015. Yn ystod yr etholiad cyffredinol, roeddent yn gweithio yn yr etholaethau lle cynhaliwyd yr arolygon barn yn ystod mis Chwefror a mis Ebrill 2015, ond gwnaethant ddweud na welsant ddata'r arolygon barn tra oeddent yn gweithio yn yr etholaethau hyn. O ystyried eu rolau fel rheolwyr ymgyrchu, gwnaethant ddweud ei bod yn debygol y byddent yn ymwybodol os oedd UKIP wedi cael y data gan y byddai'r data wedi bod o ddiddordeb posibl iddynt.

Rhoddodd Biwrô Senedd Ewrop ddata ac adroddiadau ar arolygon barn, contractau a'i gwaith dadansoddi i ni, yn ogystal â dogfennau ADDE ac IDDE mewnol a gafwyd ganddi a gohebiaeth â'r cwmni arolygon barn.

Drwy ddefnyddio ein pwerau cyfreithiol, cawsom wybodaeth gan gontractwyr ADDE a'r cwmni arolygon barn. Roedd hyn yn cynnwys anfonebau a gohebiaeth bellach rhwng ADDE, ei chontractwyr a'r cwmni arolygon barn. Nid oedd UKIP yn gallu rhoi gwybodaeth sylweddol i ni mewn ymateb i'r hysbysiad, a hynny am nad oedd ganddi unrhyw ddogfennau a oedd yn berthnasol i'r arolygon barn.

Cawsom dystiolaeth bwysig hefyd gan y bobl y gwnaethom gyfweld â nhw ynglŷn â'r arolygon barn. Gwnaethom nodi pryd y cawsom esboniad cyson, o ran y rheswm dros yr arolygon barn, pwy oedd yn rhan o'r broses o gytuno arnynt a'u trefnu, a beth ddigwyddodd i'r adroddiadau arnynt.