Background to the investigation

Ar 8 Medi 2017, cyflwynodd Momentum ei ffurflen gwariant ar gyfer etholiad cyffredinol 2017. Gwnaethom nodi nifer o faterion mewn perthynas â'r ffurflen. Gwnaethom ohebu â Momentum, ac yn ystod y broses, cyflwynodd Momentum ddau adroddiad ar wariant wedi'u diweddaru, ar 10 Tachwedd 2017 a 13 Tachwedd 2017, yn ogystal ag adroddiad ar roddion wedi'i ddiweddaru ar 13 Tachwedd 2017.

O ganlyniad, gwnaethom amau yn rhesymol bod y ffurflen wreiddiol yn anghywir. Gwnaethom gychwyn ymchwiliad ar 16 Tachwedd 2017, gan archwilio'r canlynol:

  • materion yn ymwneud â threfniadau Momentum ar gyfer cofnodi rhoddion a gwariant
  • anfonebau coll
  • datganiad coll
  • p'un a aeth gwariant Momentum o bosibl y tu hwnt i'r terfynau cyfreithiol

Daethom o hyd i dystiolaeth a awgrymodd y gallai Momentum fod wedi methu â chofnodi rhoddion a dderbyniwyd fel cymdeithas aelodau, ac ehangwyd cwmpas yr ymchwiliad er mwyn adolygu hyn hefyd.

Gwnaethom ymdrechu hefyd i gael cofnod llawn a chywir o'i wariant yn ystod yr etholiad.

Further information

Yn ystod yr ymchwiliad, cawsom dystiolaeth gan y canlynol:

  • Momentum
  • Mr Miah yr undeb llafur gofrestredig, y Gymdeithas i Staff Trafnidiaeth Cyflogedig (TSSA)
  • Mr Afridi a Mr Chessum

Roedd y dystiolaeth a ystyriwyd gennym yn cynnwys y canlynol:

  • Trydedd fersiwn o'r adroddiad ar wariant a ddarparwyd gan Momentum ar 22 Ionawr 2018
  • cyngor a roddwyd gennym i Momentum cyn yr etholiad cyffredinol
  • esboniadau gan Momentum
  • cofnodion ariannol Momentum, gan gynnwys:
  1. cyfriflenni banc a PayPal
  2. gwybodaeth am y gyflogres
  3. cyfriflenni cardiau credyd
  4. anfonebau
  5. adroddiadau ar drafodion
  • dogfennau mewnol Momentum, gan gynnwys:
  1. adroddiadau mewnol
  2. cofnodion ac agendâu cyfarfodydd
  3. gohebiaeth a chanllawiau mewnol
  4. dogfennaeth adroddiadau ariannol mewnol
  • gohebiaeth rhwng Momentum a TSSA
  • negeseuon e-bost mewnol TSSA a ddarparwyd gan TSSA

Ni chawsom gydweithrediad llawn gan Momentum yn ystod yr ymchwiliad.

Darparodd Momentum rywfaint o'r wybodaeth a'r esboniadau y gofynnwyd amdanynt, ond nid y cyfan, ond gwnaeth hefyd herio sail ein hymchwiliad a’r wybodaeth yr oeddem yn gofyn amdani. Roedd rhai o'r esboniadau diweddarach a'r dystiolaeth yn mynd yn groes i rai o'r esboniadau. Bu'n rhaid i ni ofyn am eglurhad dro ar ôl tro, a gwnaeth Momentum geisiadau am nifer o estyniadau i'r cyfnodau ymateb, a chytunwyd i hynny, gan ychwanegu'n sylweddol at hyd a chymhlethdod yr ymchwiliad.

Cynigiodd Mr Miah i ddarparu fersiwn pellach o'r cofnod a'r wybodaeth yr oedd y Comisiwn wedi gofyn amdano ond nad oedd wedi'i gyflwyno. Ar y sail y byddai gwybodaeth yn cael ei darparu, fe wnaethom ei wahodd, ac fe gytunodd i ddod am gyfweliad gwirfoddol i roi esboniad unwaith bod y wybodaeth wedi'i ddarparu. Roedd y cyfweliad fod i gael ei gynnal ym mis Hydref 2018, ond methodd Mr Miah â darparu'r wybodaeth na'r fersiwn pellach o'r cofnod yr oedd wedi cytuno i roi i ni'n flaenorol. Felly ni aeth y cyfweliad yn ei flaen.

Roeddem yn fodlon ar y pryd ein bod wedi rhoi digon o gyfle i Momentum a Mr Miah i esbonio'r gwariant a reoleiddir yn yr etholiad cyffredinol, ac i roi unrhyw esboniad yr oeddent am i ni ei ystyried.

Penderfynwyd dod â'r ymchwiliad i ben ym mis Tachwedd 2018 gan nad oeddem o'r farn ei fod yn gymesur nac o fudd i'r cyhoedd i ni barhau â'r ymchwiliad yn seiliedig ar y canlynol:

  • nifer y troseddau yr oeddem yn fodlon eu bod wedi'u profi y tu hwnt i amheuaeth resymol
  • methiant Mr Miah a Momentum i ddarparu'r wybodaeth a'r esboniadau gofynnol
  • hyd yr amser a'r adnoddau a ddefnyddiwyd eisoes ar yr ymchwiliad

Ym mis Tachwedd 2018, roeddem yn fodlon bod digon o dystiolaeth i wneud penderfyniadau cychwynnol ar y troseddau yr oeddem yn ymchwilio iddynt.

Gwnaethom gyflwyno hysbysiad statudol i Momentum o dan Atodlen 19C o PPERA yn nodi ein penderfyniadau cychwynnol ac yn cynnig cosbau. Fel rhan o'r hysbysiad, estynnwyd gwahoddiad i Momentum gyflwyno sylwadau o fewn y cyfnod statudol o 28 diwrnod.

Ar 17 Ionawr 2019, cyflwynodd Momentum ei sylwadau mew perthynas â'r cosbau arfaethedig. Cyflwynwyd adroddiad ar roddion o 2016 nad oeddem wedi'i weld yn flaenorol ac adroddiad rhannol ar ôl y bleidlais yn nodi rhodd nas cofnodwyd yn flaenorol hefyd ar y dyddiad hwn. Gwnaethom eu hystyried yn ofalus cyn gwneud penderfyniad terfynol ar y troseddau a'r cosbau.

Gwnaethom gyhoeddi ein penderfyniadau terfynol a'r cosbau i Momentum ar 4 Mawrth 2019.

Incomplete spending return

Rhoddodd Mr Miah ffurflen gwariant ar etholiad cyffredinol i ni ar ran Momentum a oedd yn anghyflawn am y rhesymau canlynol:

  • nid oedd yn darparu datganiad cywir o'r taliadau a wnaed
  • nid oedd yn darparu'r holl anfonebau na derbynebion gofynnol
  • roedd yn hepgor rhoddion
  • nid oedd yn darparu datganiad gofynnol i ategu'r adroddiad ar roddion

Ni nodwyd trosedd gennym mewn perthynas â gwariant y tu hwnt i derfynau'r wlad.

Datganiad o'r taliadau a wnaed

Datganiad o'r taliadau a wnaed

Nid oedd y ffurflen gwariant yn cydymffurfio â'r gofyniad i ddarparu datganiad cywir o'r holl daliadau a wnaed gan neu ar ran Momentum mewn perthynas â gwariant a reolir.

Roedd y datganiad o daliadau a gyflwynwyd i ni yn anghywir am y rhesymau canlynol:

  • roedd gwariant ledled y DU wedi'i briodoli i Ogledd Iwerddon er gwaethaf y ffaith nad oedd unrhyw ymgeiswyr o'r Blaid Lafur yn sefyll yno
  • roedd nifer o daliadau wedi'u hepgor ym mhob fersiwn o'r ffurflen a gyflwynwyd gan Momentum
  • nid oedd nifer o'r eitemau a gofnodwyd yn cyfateb i gofnodion ariannol Momentum ar y pryd
  • roedd nifer fawr o eitemau, gan gynnwys cyflogau, wedi'u rhannu rhwng gwariant a reoleiddir a gwariant nas rheoleiddir, gan ddefnyddio gwahanol fformiwla i'w rhannu ym mhob fersiwn o'r ffurflen a dderbyniwyd gennym. Ym mhob achos, roedd nifer o'r fformiwlâu yn anghywir ac yn mynd yn gwbl groes i'n cyngor a'n canllawiau

Nodir y diwygiadau cyffredinol a wnaed i'r datganiad o daliadau gan bob fersiwn o'r adroddiad isod:

  • Ar 8 Medi 2017, nododd Momentum ei fod wedi gwario £40,186.92 yn ei ddatganiad o'r taliadau a wnaed. Fodd bynnag, ar y ffurflen ei hun, nodwyd cyfanswm gwariant o £32,316.57 gan fod nifer fawr o'r ffigurau wedi'u nodi fel symiau negyddol neu gyfansymiau a gamgyfrifwyd
  • Ar 10 Tachwedd 2017, diwygiodd Momentum 29 o linellau gwariant, gan ddatgan £36,033.37 yn ei ddatganiad o'r taliadau a wnaed
  • Ar 10 Tachwedd 2017, diwygiwyd 13 o linellau gwariant pellach, gan newid y swm a ddatganwyd ar ei ddatganiad o daliadau i £34,917.06
  • Ar 22 Ionawr 2018, cyflwynodd Momentum ddatganiad o daliadau pellach a ddiwygiodd 43 o linellau gwariant, gan ailddatgan symiau a gafodd eu dileu yn flaenorol mewn rhai achosion, a chan ddatgan cyfanswm o £32,591.14

Mae'r rhain yn cyfeirio at y datganiad o daliadau a wnaed yn unig ac nid ydynt yn cynnwys gwariant tybiannol a gofnodir ar ran arall o'r ffurflen ond sy'n berthnasol wrth ystyried y terfynau gwariant.

Other inaccuracies in the statement of payments made

Roedd pob un o'r ffurflenni a ddarparodd Momentum wedi dosrannu gwariant ledled y DU i Ogledd Iwerddon. Nid oedd unrhyw ymgeiswyr o'r Blaid Lafur yn sefyll yng Ngogledd Iwerddon, ac felly ni ellir priodoli unrhyw wariant a reolir iddi. Dylid bod wedi dosrannu'r gwariant hwn rhwng Cymru, Lloegr a'r Alban lle yr oedd ymgeiswyr o'r Blaid Lafur yn sefyll.

Nid oedd y cyflogau a gofnodwyd ar gyfer dau swyddog y wasg a weithiodd ar is-etholiadau Stoke a Copeland yn cyfateb i unrhyw gyflogau a dalwyd yn ystod y cyfnod hwnnw yn ôl cofnodion mewnol Momentum. Methodd Momentum â darparu enwau'r swyddogion y wasg hynny er mwyn i ni allu cysoni'r ffigurau.

Nododd ein dadansoddiad o gofnodion ariannol Momentum fod cyfanswm gwariant o £1,075.06 o leiaf wedi'i hepgor o'r ffurflen. Mae'n bosibl bod y ffigur hwn mewn gwirionedd yn uwch, gan nad ydym yn fodlon bod y costau cyflog a gynhwyswyd yn y swm hwn yn gywir.

Diwygiodd Momentum amrywiol fformiwlâu a ddefnyddiwyd i gyfrifo elfennau cofnodadwy taliadau mwy o faint, er enghraifft, mewn perthynas â gwasanaeth negeseuon testun.

Ni lwyddodd Momentum i ddarparu cofnodion o gyfnod yr ymgyrch i egluro'r ffordd yr aeth ati i rannu cyflogau staff rhwng gwariant a reoleiddir (sef cyfran sylweddol o'r gwariant a gofnodwyd ganddo) a gwariant nas rheoleiddir.

O ran dosrannu amser staff i negeseuon e-bost yn ymgyrchu a anfonwyd at aelodau (nad oes angen ei gofnodi) ac unigolion nad ydynt yn aelodau (dylid ei gofnodi), defnyddiodd Momentum fformiwla wahanol i'r fformiwla a awgrymir gennym, gan arwain at ddosraniad sylweddol is i wariant a reoleiddir nag a fyddai wedi bod yn wir pe byddai wedi dilyn ein cyngor. Mae yna faterion eraill o ran dosrannu gwariant, gan gynnwys cyflogau staff ac eitemau llai, lle y cymhwyswyd fformiwla dosrannu anghywir yn groes i'n canllawiau.

Ni lwyddodd Momentum i ddarparu unrhyw ddogfennaeth o gyfnod yr ymgyrch a fyddai wedi ein galluogi i ddosrannu'r gwariant yn gywir, gan iddo fethu â chadw a chynnal cofnodion o'r cyfnod hwnnw.

Rydym yn fodlon bod yr adroddiad o daliadau a reoleiddir a wnaed ar gyfer etholiad cyffredinol 2017 a gyflwynwyd i ni gan Momentum yn anghywir mewn sawl ffordd.

Mae'r methiant i gadw a chynnal cofnodion priodol o'r ffordd y cafodd gwariant ei rannu rhwng gwariant a reoleiddir a gwariant nas rheoleiddir yn golygu nad ydym yn fodlon o hyd bod gennym ni na Momentum gofnod cywir o wariant a reoleiddir gan Momentum yn ystod etholiad cyffredinol 2017.

Anfoneb a hepgorwyd

Anfoneb a hepgorwyd

Methodd Mr Miah â chydymffurfio â'r gofyniad i ddarparu'r holl anfonebau neu dderbynebion gofynnol gyda ffurflen gwariant Momentum. Ni chynhwyswyd anfoneb ar gyfer taliad o £492.41 i Facebook, yr aed iddo ar 31 Mai 2017 ac a dalwyd ar 3 Mehefin 2017. Dywedodd Mr Miah mai gwall dynol a systemau annigonol oedd yn gyfrifol am yr hepgoriad.

Rhoddion a hepgorwyd

Rhoddion a hepgorwyd

Roedd yn ofynnol i Momentum gynnwys adroddiad ar roddion fel rhan o'r ffurflen ar ôl y bleidlais.

Ar 8 Medi 2017, nododd Mr Miah nad oedd Momentum wedi derbyn unrhyw roddion dros £7,500 a'i fod wedi derbyn rhoddion dros £500 (ond yn llai na £7,500) â chyfanswm gwerth o £7,300. Newidiodd Mr Miah y swm a dderbyniwyd i £7,500 ar 13 Tachwedd.

Fodd bynnag, nid oedd yr adroddiad ar roddion yn cynnwys pum rhodd arian parod ychwanegol â gwerth cyfun o £12,620, nac un rhodd nad oedd ar ffurf arian parod o £10,338.46.

Omitted cash and non cash donations

Yn ystod yr ymchwiliad, cadarnhaodd Momentum na rhoddwyd gwybod i ni am y rhoddion arian parod yn yr adroddiad ar ôl y bleidlais fel yr oedd yn ofynnol. Cofnodwyd pob rhodd arian parod mewn ffurflen ddiwygiedig ar ôl y bleidlais ar 17 Gorffennaf 2018.

Derbyniodd Momentum rodd nad oedd ar ffurf arian parod ar ffurf gofod swyddfa gan yr undeb gofrestredig, y Gymdeithas i Staff Trafnidiaeth Cyflogedig (TSSA) gwerth £10,338.46 ar 27 Ebrill 2017.

O ran y rhodd hon, ymddengys fod Mr Afridi, sef ysgrifennydd Momentum fel ymgyrchydd nad yw'n blaid ar y pryd, wedi ceisio rhoi gwybod i ni amdani ar 16 Mai 2017 mewn adroddiad cyn y bleidlais, ond ni chwblhaodd y broses o gyflwyno'r wybodaeth. Beth bynnag, ni ddechreuodd y cyfnod adrodd cyn y bleidlais tan 3 Mai 2017 a derbyniwyd y rhodd hon ar 27 Ebrill 2017, felly nid oedd angen rhoi gwybod amdani yn ystod y cyfnod adrodd cyn y bleidlais. Fodd bynnag, wedyn methodd Momentum â rhoi gwybod am y rhodd hon yn yr adroddiad ar ôl y bleidlais fel yr oedd yn ofynnol.

Dywedodd Momentum wrthym nad at ddibenion yr etholiad cyffredinol y gwnaed y rhodd hon. Fodd bynnag, gwelsom dystiolaeth i'r gwrthwyneb, gan gynnwys dogfennaeth fewnol Momentum yn nodi bod y rhodd wedi'i darparu ar ôl cyhoeddi'r etholiad cyffredinol. Gwelsom hefyd ohebiaeth rhwng Momentum a TSSA lle y gofynnodd un o uwch gynrychiolwyr Momentum am gael defnyddio llawr gwaelod Walkden House “for the duration of the general election campaign”.

Rhoddodd Momentum wybod am y rhodd hon ar 19 Ionawr 2019.

Datganiad i ategu'r adroddiad ar roddion (ffurflen gwariant)

Datganiad i ategu'r adroddiad ar roddion (ffurflen gwariant)

Pan gyflwynodd Mr Miah yr adroddiad ar roddion a oedd yn rhan o ffurflen gwariant etholiad cyffredinol Momentum, roedd yn ofynnol iddo lofnodi datganiad i gadarnhau bod y rhoddion a gofnodwyd ar y ffurflen wedi'u rhoi gan roddwyr a ganiateir ac nad oedd unrhyw roddion eraill perthnasol wedi'u derbyn. Ni wnaeth hyn. Ar 13 Tachwedd 2017, darparodd Mr Miah adroddiad diwygiedig, gan ddefnyddio ein ffurflen gywir y tro hwn, a oedd yn cynnwys datganiad wedi'i lofnodi.

Terfynau gwariant

Terfynau gwariant

Roedd terfynau gwariant Momentum ym mhob gwlad ar gyfer Etholiad Cyffredinol Senedd y DU 2017 (ac eithrio Gogledd Iwerddon lle nad oedd unrhyw ymgeiswyr Llafur) fel a ganlyn:

  • £31,980 yn Lloegr
  • £3,540 yn yr Alban
  • £2,400 yng Nghymru
  • £37,920 o £37,920

Datgelodd ffurflen wreiddiol Momentum wariant a oedd y tu hwnt i derfynau'r gwledydd. Fodd bynnag, llwyddodd diwygiadau dilynol a wnaed gan Momentum i leihau'r gwariant a gofnodwyd ond roedd y gwariant hwnnw yn uwch na'r terfyn gwariant yng Nghymru o hyd.

Nid ydym wedi dod o hyd i dystiolaeth bod Mr Miah wedi troseddu drwy fynd i wariant a reolir y tu hwnt i'r terfyn a bennwyd yn Atodlen 10 o PPERA lle roedd yn gwybod neu lle y dylai fod wedi gwybod yn rhesymol y byddai'r gwariant yn mynd y tu hwnt i'r terfyn hwnnw, sy'n drosedd o dan adran 94E(2) o PPERA.

Daethom o hyd i dystiolaeth a oedd yn nodi gwariant y tu hwnt i'r terfynau. Fodd bynnag, ni allwn ddod i ganfyddiad o drosedd gan nad oedd y wybodaeth a ddarparwyd gan Momentum, ac y credwn sydd yn ei feddiant yn ein barn ni, yn ddigonol i ddarparu cofnod dibynadwy o'i wariant a reolir.

Y penderfyniad o ran sancsiynau

Y penderfyniad o ran sancsiynau

Gwnaethom ystyried ein canfyddiad a'r sylwadau a wnaed gan Momentum ac rydym wedi cyhoeddi'r cosbau canlynol:

  • £2,700 am fethu â chofnodi'r holl roddion ar y ffurflen gwariant, heb esgus rhesymol
  • £250 am fethu â darparu anfoneb gyda'r ffurflen gwariant, heb esgus rhesymol
  • £12,150 am fethu â darparu ffurflen gwariant gyflawn, heb esgus rhesymol
  • £250 am fethu â darparu anfoneb gyda'r ffurflen gwariant, heb esgus rhesymol
  • £900 am fethu â rhoi gwybod am rodd o £10,000 gan TSSA, heb esgus rhesymol
  • £450 am fethu â rhoi gwybod am rodd o £8,000 gan TSSA, heb esgus rhesymol

Rhodd arian parod o £10,000 gan y Gymdeithas i Staff Trafnidiaeth Cyflogedig

Rhodd arian parod o £10,000 gan y Gymdeithas i Staff Trafnidiaeth Cyflogedig

Cafodd Momentum rodd arian parod gan y Gymdeithas i Staff Trafnidiaeth Cyflogedig (TSSA) ar 21 Gorffennaf 2016, a derbyniodd y rhodd honno. Felly, roedd yn ofynnol i Mr Chessum a Momentum roi gwybod i ni am y rhodd hon erbyn 21 Awst 2016.

Cawsom wybod am y rhodd hon gan TSSA ar 17 Ionawr 2019, bron i ddwy flynedd a hanner ar ôl cael y rhodd a'i derbyn, ac yn dilyn ymchwiliad a'r penderfyniad i gyflwyno hysbysiad o sancsiynau arfaethedig i Momentum.

Dywedodd Momentum bod dryswch ymysg y staff p’un a bod y rhodd yma’n un y dylir ei adrodd ai peidio. Derbyniodd Momentum y rhodd, a Mr Chessum, mewn gwirionedd, oedd yr unigolyn cyfrifol ar y pryd, gan hyd yn oed lofnodi adroddiad a oedd yn ymwneud â rhodd arall ar 15 Gorffennaf 2016.

Pe byddai'r dystiolaeth wedi ategu'r datganiad bod hanner y rhodd wedi'i bwriadu ar gyfer sefydliad ar wahân, byddai wedi bod yn ofynnol o hyd i Momentum a Mr Chessum roi gwybod am y £5,000 gan y byddai wedi cael ei gyfuno â symiau eraill a gafwyd gan TSSA.

Cyflawnodd Mr Chessum a Momentum ill dau drosedd drwy fethu â chyflwyno adroddiad yn rhoi gwybod i ni am y rhodd honno o £10,000 o fewn 30 diwrnod o'i derbyn, heb esgus rhesymol.

Rhodd arian parod o £8,000 gan y Gymdeithas i Staff Trafnidiaeth Cyflogedig

Rhodd arian parod o £8,000 gan y Gymdeithas i Staff Trafnidiaeth Cyflogedig

Penodwyd Mohammed Afridi fel yr unigolyn cyfrifol ar gyfer Momentum, fel cymdeithas aelodau, ar 17 Chwefror 2017.

Cafodd Momentum rodd arian parod o £8,000, hefyd gan TSSA, ar 3 Mai 2017.

Ar 16 Mai 2017, ceisiodd Mr Afridi roi gwybod am y rhodd hon o dan y gofynion adrodd cyn y bleidlais ar gyfer etholiad cyffredinol 2017, gan ddefnyddio ein system adrodd ar-lein. Ond ni ddarparwyd yr holl wybodaeth ofynnol, a methodd â chwblhau'r broses o gyflwyno'r wybodaeth. Beth bynnag, nid oedd y rhodd yn eitem i'w chofnodi o dan y gofynion hynny a dylid bod wedi'i chofnodi fel rhodd a wnaed i gymdeithas aelodau.

Roedd y wybodaeth a gafwyd gan Mr Afridi a Momentum am y rhodd hon yn gwrth-ddweud ei gilydd, gan gynnwys gwybodaeth yn nodi nad oedd y sefydliad na Mr Afridi yn ymwybodol eu bod wedi cael y rhodd hon. Fodd bynnag, roeddem yn fodlon ar y dystiolaeth bod Mr Afridi wedi cael gwybod am y rhodd cyn 16 Mai 2017. Roedd hyn yn amlwg mewn nifer o ddogfennau mewnol Momentum o'r cyfnod, yn ogystal â'i ymgais aflwyddiannus i roi gwybod am y rhodd ar ffurflen cyn y bleidlais.

Rhoddwyd gwybod am y rhodd ar 17 Gorffennaf 2018.

Cyflawnodd Mr Afridi a Momentum ill dau drosedd drwy fethu â chyflwyno adroddiad yn rhoi gwybod i ni am y rhodd honno o fewn 30 diwrnod o'i derbyn, heb esgus rhesymol.