Dewis enw, disgrifiadau ac arwyddluniau plaid
Overview of choosing an identity mark
Pan fyddwch yn cofrestru plaid wleidyddol, bydd yn rhaid i chi nodi enw plaid.
Gallwch hefyd gofrestru hyd at 12 o ddisgrifiadau a hyd at dri arwyddlun.
Nodau adnabod plaid
Mae nodau adnabod plaid yn cynnwys ei henw, ei disgrifiadau a'i harwyddluniau sydd wedi'u cofrestru â ni.
Enw'r blaid yw enw cofrestredig plaid.
Mae disgrifiad o'r blaid yn nod adnabod dewisol y gallwch ei gofrestru yn ogystal ag enw eich plaid.
Cynrychiolaeth weledol, ddewisol (neu logo) plaid yw ei harwyddlun.
Overview of choosing an identity mark
Yn y rhan fwyaf o etholiadau yn y DU, gall ymgeisydd naill ai ddefnyddio enw cofrestredig neu ddisgrifiad cofrestredig ei blaid i sefyll etholiad. Mewn etholiadau eraill, rhaid i blaid ddefnyddio ei henw cofrestredig, a gall hefyd ddefnyddio disgrifiad cofrestredig ochr yn ochr ag ef.
Dylech holi eich Swyddog Canlyniadau lleol i gadarnhau'r hyn y gallwch ac na allwch ei ddefnyddio ar gyfer pob etholiad.
Gallwch wneud cais i newid enw eich plaid, y disgrifiadau ohoni a'u harwyddluniau yn ddiweddarach am ffi ychwanegol o £25 fesul cais na chaiff ei had-dalu.