Overview of your application

Byddwn yn cynnal archwiliad cychwynnol i sicrhau bod eich cais yn cynnwys yr holl wybodaeth a dogfennau gofynnol a bod eich ffi wedi’i thalu.

Os byddwn yn nodi unrhyw broblemau cychwynnol gyda’ch cais, efallai y byddwn yn ei oedi am gyfnod rhesymol ac yn cysylltu â’ch plaid er mwyn eich galluogi i ystyried y materion a godwyd gennym a gwneud newidiadau i’ch cais os bydd angen.

Mae’n anochel y gall hyn oedi penderfyniad ar y cais, fodd bynnag, rydym yn gwneud hyn er mwyn helpu plaid gyda’i chais. Dylech nodi mai eich cyfrifoldeb chi yn y pen draw yw penderfynu ar fanylion eich cais a sicrhau bod eich cais yn cydymffurfio â gofynion PPERA. Hyd nes y gwneir penderfyniad terfynol ar eich cais, ni allwn gadarnhau p’un a fydd yn llwyddiannus. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein rhesymau os byddwn yn gwrthod eich cais.

Bydd angen i holl swyddogion y blaid awdurdodi unrhyw newidiadau i’ch cais.

Os na fyddwn yn clywed gennych erbyn y dyddiad cau, gellir gwrthod eich cais.Os bydd yr holl wybodaeth a dogfennau gofynnol wedi eu cynnwys, byddwn yn cydnabod y cais yn ffurfiol. Yna bydd cam nesaf y broses o wneud cais yn cychwyn..

Dylech fod yn ymwybodol mai archwiliad cychwynnol o’ch cais ar yr olwg gyntaf yn unig a geir ar y cam hwn a’i bod yn bosibl y caiff rhagor o faterion eu nodi ar gam diweddarach.