Bydd y Tîm Rheoleiddio yn asesu eich cais yn erbyn y profion statudol yn PPERA, a fydd yn cynnwys y canlynol:
Dilysu’r wybodaeth a ddarperir yn eich cais. Bydd hyn yn golygu gwirio, er enghraifft, bod cyfeiriadau cartref wedi eu rhoi ar gyfer swyddogion y blaid.
Adolygu eich cyfansoddiad a’ch cynllun ariannol i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion PPERA.
Asesu a yw enw arfaethedig eich plaid, ynghyd ag unrhyw ddisgrifiadau ac unrhyw arwyddluniau arfaethedig, yn bodloni profion statudol PPERA.
Mae’n bosibl y byddwn yn nodi materion gyda’r cais gan awgrymu y dylech eu hystyried ar y cam hwn. Os felly, efallai y byddwn yn oedi eich cais am gyfnod rhesymol er mwyn eich galluogi i ymateb. Gall unrhyw oedi cyn ymateb arwain at oedi’r gwaith o brosesu eich cais. Os na fyddwn yn clywed gennych erbyn y dyddiad cau gellir gwrthod eich cais.