Derbyn a rheoli papurau pleidleisio a deunyddiau etholiad yn y lleoliad dilysu
Dylai fod gennych dîm o staff hyfforddedig sy'n gyfrifol am gofnodi eu bod wedi derbyn yr holl flychau pleidleisio, y pleidleisiau post a'r deunyddiau eraill a ddosbarthwyd o orsafoedd pleidleisio.
Dylech drefnu'r pecynnau a'r parseli o orsafoedd pleidleisio fel y gallwch ddod o hyd i unrhyw becyn yn hawdd.
Mae angen i'r sachau sy'n cynnwys y dogfennau y mae angen eu storio, megis rhestrau rhifau cyfatebol wedi'u selio, gael eu gwahanu oddi wrth y rhai sy'n cynnwys eitemau a gaiff eu hailddefnyddio, megis deunyddiau ysgrifennu cyffredinol.
Yna gallwch ryddhau'r deunyddiau amrywiol a dderbyniwyd yn ôl gan orsafoedd pleidleisio i'r staff derbyn yn y timau perthnasol, er mwyn gallu dechrau'r broses o ddilysu'r papurau pleidleisio heb eu defnyddio ac agor pleidleisiau post. Gellir cynnal y prosesau hyn ar yr un pryd â'r broses i ddilysu pleidleisiau wedi'u defnyddio.
Mae'r tabl canlynol yn crynhoi'r cam gweithredu y dylech ei gymryd ar gyfer pob math o becyn wedi'i selio a dderbynnir:
Pecynnau wedi'u selio a dderbynnir
Cam gweithredu i'w gymryd
Cyfrifon papurau pleidleisio
Ewch â'r cyfrifon papurau pleidleisio i'r staff sy'n delio â'r broses o ddilysu blychau pleidleisio i'w nodi ar y datganiad ynglŷn â chanlyniad y broses ddilysu
Papurau pleidleisio a ddifethwyd a phapurau pleidleisio heb eu defnyddio
Cadwch nhw dan sêl a'u rhoi mewn man penodol a diogel drwy gydol y prosesau dilysu a chyfrif
Pleidleisiau post a roddir i staff yr orsaf bleidleisio
Bydd angen i chi ymgymryd â'r sesiwn agor amlenni pleidleisiau post olaf ar gyfer pleidleisiau post a gyflwynwyd mewn gorsafoedd pleidleisio
Gallwch wneud hyn naill ai yn y lleoliad dilysu neu mewn safle arall. Y naill ffordd neu'r llall, rhaid bod gennych ddull o gofnodi nifer y pleidleisiau post a dderbyniwyd
Yn unol â'ch polisi cadw dogfennau, dylech sicrhau'r canlynol:
bod y deunyddiau y mae'n rhaid i chi eu cadw dan sêl wedi'u gosod mewn man penodol a diogel drwy gydol y prosesau dilysu a chyfrif
bod unrhyw ddata personol yn cael eu dinistrio ar yr adeg briodol