Ble y gallaf gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar ddeddfwriaeth diogelu data?

Ble y gallaf gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar ddeddfwriaeth diogelu data?

Cewch ganllawiau ar ddiogelu data ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth neu, os bydd gennych unrhyw gwestiynau penodol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn uniongyrchol.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth Cymru
2il Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Ffôn: 029 2067 8400
E-bost: [email protected]

Mae'r Gymdeithas Llywodraeth Leol/ SOCITM hefyd wedi llunio canllawiau i awdurdodau lleol ar drin data (er y dylid nodi bod y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn rheolydd data ar wahân i'r awdurdod lleol). Mae'n argymell y dylech ystyried y ffactorau canlynol wrth ddatblygu eich dull o drin data:

  • Polisi: dylai polisïau cynhwysfawr (gan gynnwys parhad busnes, gweithio gartref a gweithio symudol) ffurfio'r weithdrefn llywodraethu gwybodaeth. Dylai'r polisïau gael eu monitro a'u harchwilio er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol
  • Pobl: gan gynnwys ymwybyddiaeth a hyfforddiant staff, mynediad defnyddwyr a systemau ar gyfer rheoli risgiau o ran gwybodaeth
  • Lleoedd: gan gynnwys asesiadau risg, diogelwch adeiladau a safleoedd, gwaredu gwybodaeth a defnyddio cyfryngau symudol
  • Prosesau: gan gynnwys pwy a all weld data, diogelwch systemau, trosglwyddo data a phrosesau data cyflenwyr a chontractwyr 
  • Gweithdrefnau: gan gynnwys cofnodi risgiau, gweithdrefnau archwilio a pholisïau a gweithdrefnau wedi'u dogfennu 
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Chwefror 2021