Cyflawni'r canfasio blynyddol – Cymru
Cynhyrchwyd y canllawiau canlynol i gefnogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol (ERO) wrth gynllunio ar gyfer y canfasio blynyddol a'i gyflawni.
Datblygwyd y canllawiau mewn ymgynghoriad agos â chydweithwyr ar draws y gymuned etholiadol, gan gynnwys Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, Cymdeithas Gweinyddwyr Etholiadol (AEA), Cymdeithas Aseswyr yr Alban (SAA), Gweithgor Cofrestru Etholiadau a Refferenda (ERRWG) a Gweithgor Ymarferwyr Etholiadol Cymru (WEPWG).
Mae'n adlewyrchu rhwymedigaethau cyfreithiol y Swyddog Cofrestru Etholiadol, a beth rydym ni, yr AEA, yr SAA a'r ERRWG yn credu y dylai Swyddogion Cofrestru Etholiadol ddisgwyl gan eu staff wrth baratoi ar gyfer a darparu’r canfas.
Mae'r canllawiau wedi'u cyfeirio at y Swyddogion Cofrestru Etholiadol a'r dyletswyddau y maent yn eu cyflawni. Gan y gall y dyletswyddau hyn, yn ymarferol, gael eu cyflawni gan ddirprwyon a/neu staff penodedig, byddwn yn defnyddio'r term 'chi' drwy gydol y canllaw hwn i olygu'r Swyddog Cofrestru Etholiadol a phwy bynnag sy'n cyflawni swyddogaethau'r Swyddog ar eu rhan.
Safonau Perfformiad
Yn ogystal â'n rôl yn darparu cyngor a chanllawiau, rydym yn gosod safonau ac yn monitro perfformiad Swyddogion Cofrestru Etholiadol trwy ein fframwaith safonau perfformiad.
Mae ein canllawiau i'ch cefnogi i gyflawni eich swyddogaethau yn cynnwys yr hyn y disgwyliwn y bydd angen i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ei gael ar waith a'r hyn y byddem yn disgwyl ei weld ar gyfer canlyniadau allweddol y safonau sydd i'w cyflawni. Dylech fod yn ymwybodol o'r fframwaith hwn wrth gynllunio a chyflawni eich swyddogaethau cofrestru.
I gael rhagor o wybodaeth am y fframwaith, gweler ein canllawiau safonau perfformiad ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol.
Sut i ddefnyddio’r canllawiau hyn
Trwy gydol y canllaw hwn rydym yn defnyddio 'rhaid' i gyfeirio at ofyniad cyfreithiol penodol a 'gall / dylai' ar gyfer arfer argymelledig.
Cynhyrchwyd y canllawiau yn seiliedig ar, a dylid ei ddarllen yn unol â'r gofynion a nodir yn adran 9D o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac yn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001.
Mae'r ôl-nodiadau yn y canllaw hwn yn cyfeirio at y darpariaethau perthnasol sydd wedi'u diwygio gan Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasio Blynyddol) (Diwygio) 2019 a Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasio Blynyddol) (Diwygio) (Cymru) 2020.
Er mwyn eich helpu i ddefnyddio'r canllaw hwn rydym wedi cynhyrchu dogfen Holi ac Ateb a ddylai ateb unrhyw ymholiadau cychwynnol sydd gennych.
Diweddariadau i'n canllawiau
Dyddiad y diweddariad | Disgrifiad o’r newid |
---|---|
Chwefror 2023 2023 | Diweddariadau i’r gofyniad Rhoi gwybod i etholwyr dienw sydd â Dogfennau Etholwr Dienw am ddogfen newydd |
Mehefin 2023 | Dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais a phennu cais wedi’u diweddaru ar gyfer Cyhoeddi'r gofrestr ddiwygiedig yn dilyn y canfas blynyddol |
Datblygu cynlluniau ar gyfer y canfasiad blynyddol
Datblygu cynlluniau ar gyfer y canfasiad blynyddol
Mae'r adran hon yn cynnwys canllawiau ar sut i ddatblygu eich cynlluniau ar gyfer y canfasiad blynyddol. Mae'n cwmpasu gwaith cynllunio prosiect a rheoli risg, yn ogystal ag ystyried y ffordd o gyflawni prosesau penodol.
Beth yw'r canfasiad blynyddol?
Mae'r canfasiad blynyddol yn gofyn i chi gysylltu â phob cyfeiriad preswyl yn eich ardal er mwyn helpu i gadarnhau a yw'r wybodaeth sydd gennych ar y gofrestr etholiadol ar hyn o bryd yn gyflawn ac yn gywir.
Mae fframwaith cyfreithiol sy'n nodi gofynion statudol y canfasiad blynyddol. O fewn y fframwaith hwn bydd angen i chi, fel Swyddog Cofrestru Etholiadol, wneud nifer o benderfyniadau, a fydd yn eich helpu i nodi'r dull mwyaf priodol o ymdrin â'r canfasiad yn eich ardal bob blwyddyn.
Cynnal y canfasiad blynyddol: beth yw fy nyletswyddau fel Swyddog Cofrestru Etholiadol?
Cynnal y canfasiad blynyddol: beth yw fy nyletswyddau fel Swyddog Cofrestru Etholiadol?
Mae rhan o'ch dyletswyddau statudol fel Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cynnwys cynnal canfasiad blynyddol. Fel rhan o hyn, rhaid i chi:
- ddatgelu data i'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol fel rhan o ymarfer paru data cenedlaethol a elwir yn gam paru data cenedlaethol1 (ac, yn ogystal â hynny, mae gennych ddisgresiwn i gynnal ymarfer paru data lleol hefyd)
- ystyried canlyniadau ymarferion paru data cenedlaethol wrth wneud penderfyniad yngylch neilltuo eiddo i lwybrau canfasio
- cynnal y camau statudol gofynnol ar gyfer eiddo a neilltuwyd i bob llwybr canfasio
- darparu hyfforddiant, lle y bo angen, i staff a fydd yn cynnal y canfasiad ar eich rhan
- cyhoeddi'r fersiwn ddiwygiedig o'r gofrestr erbyn 1 Rhagfyr (ac eithrio pan gynhelir etholiad rhwng 1 Gorffennaf a 1 Rhagfyr, pan ellir gohirio cyhoeddi'r gofrestr hyd at 1 Chwefror y flwyddyn ganlynol)2
- darparu gwybodaeth ystadegol am eich cofrestr ddiwygiedig i'r Ysgrifennydd Gwladol fel sy'n ofynnol, er enghraifft nifer yr etholwyr seneddol a lleol rydych wedi'u cofrestru yn ôl etholaeth.3
Fel Swyddog Cofrestru Etholiadol, rydych hefyd yn rheolydd data ac mae gennych gyfrifoldeb statudol o dan ddeddfwriaeth diogelu data i sicrhau y caiff data personol eu cadw'n ddiogel. Gallai unrhyw achos o dorri deddfwriaeth o'r fath fod yn drosedd a gallai arwain at golli hyder yn y broses gofrestru etholiadol.
- 1. Rheoliad 32ZBB, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. 13(1)(a) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 44, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 3
Beth y dylid ei gynnwys yn fy nghynllun prosiect ar gyfer y canfasiad blynyddol?
Mae cynlluniau prosiect a chofrestrau risg yn hanfodol er mwyn helpu i sicrhau y caiff y canfasiad blynyddol ei gynnal yn llwyddiannus.
Rydym wedi datblygu cynllun cofrestru enghreifftiol a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
Er mwyn llywio'r rhain, bydd angen i chi wneud rhai penderfyniadau allweddol a fydd yn eich helpu i fapio sut y byddwch yn cynnal y broses ganfasio gyfan. Dylai'r rhain gynnwys:
- pryd y bydd eich canfasiad yn dechrau
- pryd a sut y byddwch yn nodi unrhyw eiddo rydych am ei ganfasio drwy Lwybr 3 – sef y llwybr eiddo diffiniedig, gan gynnwys sut y byddwch yn nodi'r unigolyn sy'n gyfrifol am yr eiddo hwnnw a phryd y byddwch yn cysylltu ag ef
- pryd rydych yn bwriadu cynnal y cam paru data cenedlaethol
- a ddylid cynnal ymarfer paru data lleol ac, os felly, pryd y byddwch yn gwneud hynny
- adolygu maint eich ardaloedd canfasio er mwyn sicrhau eu bod yn addas i gefnogi eich cynllun ar gyfer cynnal y canfasiad a gwneud gwaith dilynol
- sut a phryd y byddwch yn neilltuo eiddo i lwybrau canfasio
- pa fath o ddulliau cyfathrebu y byddwch yn eu defnyddio ar gyfer pob llwybr
- pa systemau ymateb y byddwch yn eu darparu ar gyfer y canfasiad a sut y byddwch yn sicrhau eu bod yn cael eu sefydlu ymlaen llaw
- yr amserlenni ar gyfer anfon eich gohebiaeth ganfasio ar gyfer pob llwybr
- sut y byddwch yn cysylltu ag unrhyw unigolion nad ydynt wedi ymateb (lle y bo angen)
- pryd, ac ar ba sail, y caiff canfaswyr eu recriwtio a'u talu
- pa drefniadau wrth gefn fydd eu hangen arnoch os cynhelir etholiad yn ystod eich canfasiad, gan gynnwys sut y byddwch yn ailgyfeirio adnoddau er mwyn targedu gweithgarwch cofrestru yn yr ardaloedd hynny lle mae'r etholiad yn cael ei gynnal.
- pryd a sut y byddwch yn cyhoeddi eich cofrestr ddiwygiedig
Ar ôl i chi lunio eich cynllun lefel uchel, gallwch ddechrau cynllunio manylion penodol y broses ganfasio.
Bydd angen i chi nodi'r gweithgareddau y bydd angen i chi eu cynnal er mwyn cyflawni eich cynllun lefel uchel a chofnodi'r rhain a'r amserlenni ar gyfer eu cyflawni. Caiff rhai o'r gweithgareddau allweddol y bydd angen i chi sicrhau yr ymdrinnir â nhw yn eich cynllun ar y tudalennau canlynol.
Paratoi ar gyfer paru data
Paratoi ar gyfer paru data
- paratoi eich cofrestr ar gyfer paru data, sicrhau ei bod mor gyfredol â phosibl er mwyn helpu i gynyddu nifer y parau llwyddiannus a ddychwelir fel rhan o'ch canlyniadau
- trefnu'r dyddiad ar gyfer eich ymarfer paru data cenedlaethol a chadarnhau pryd y caiff ei gynnal a phryd y caiff y canlyniadau eu cyhoeddi
- cadarnhau pa unigolion neu grwpiau o ddata a gaiff eu hepgor o'r ymarfer paru data (er enghraifft, etholwyr categori arbennig)
- paratoi ar gyfer unrhyw ymarfer paru data lleol, gan gynnwys nodi pa setiau data y byddwch yn eu defnyddio a phryd y byddwch yn cynnal yr ymarfer paru ar gyfer pob un o'r setiau hyn
- cadarnhau pryd a sut y byddwch yn dadansoddi holl ganlyniadau'r ymarfer paru data a phenderfynu i ba lwybrau canfasio y caiff aelwydydd eu neilltuo
- sicrhau bod eich cynlluniau yn hyblyg, pryd a sut y byddwch yn eu hadolygu os na fydd canlyniadau'r ymarfer paru data yn cyfateb i'r hyn roeddech wedi'i ddisgwyl
- paratoi llwybr archwilio o unrhyw gamau a gymerwyd ac unrhyw benderfyniadau a wnaed sy'n ymwneud â newid llwybr a neilltuwyd o'r naill lwybr i'r llall yn seiliedig ar ganlyniadau paru data
Staffio ac adnoddau
Staffio ac adnoddau
- cadarnhau eich tybiaethau o ran adnoddau a sicrhau y bydd digon o gyllid ar gael
- sicrhau bod staff cymorth o bob rhan o'r sefydliad ar gael, megis staff TG a staff rheng flaen/y ganolfan alwadau
- adolygu eich strwythur staffio er mwyn nodi a yw lefelau staffio presennol yn ddigonol o hyd
- datblygu amserlen hyfforddi staff, a ddylai gynnwys ystyriaethau o ran diogelu data, ar gyfer y mathau gwahanol o staff sy'n rhan o'r canfasiad
- sicrhau bod unrhyw ofynion storio yn ddigonol, ar gyfer ffurflenni wedi'u hargraffu a ffurflenni wedi'u sganio, ac nad ydych yn cadw data personol am gyfnod hwy nad sydd ei angen
- cadarnhau sut a phryd y byddwch yn hyrwyddo ac yn cyfleu negeseuon canfasio allweddol
- briffio eich timau cyfryngau a chyfathrebu ynghylch y negeseuon a'r dyddiadau allweddol a chadarnhau sut y byddwch yn defnyddio gwefan eich awdurdod lleol, datganiadau i'r wasg a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i annog pobl i ymateb
TG a chyflenwyr
TG a chyflenwyr
- adolygu unrhyw drefniadau sydd gennych â chyflenwr ac ystyried beth, os o gwbl, y gall fod angen ei ddiwygio; ac, os bydd angen, cysylltu â'ch tîm caffael er mwyn sicrhau bod unrhyw ymarfer caffael yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth
- ymgysylltu â'r argraffydd a ddewiswyd gennych er mwyn cytuno ar gontractau ysgrifenedig a chadarnhau amserlenni
- penderfynu ar unrhyw systemau ymateb awtomataidd y byddwch yn eu cynnig (er enghraifft, sianeli ymateb dros y ffôn ac ar-lein) a gwneud trefniadau ar eu cyfer
- amserlennu'r gwaith o brawfddarllen deunyddiau a nodi pryd y disgwylir i unrhyw ddata gael eu hanfon neu eu derbyn
- adolygu eich trefniadau o ran TG, gan gynnwys sicrhau bod eich sganwyr a chaledwedd arall yn gweithio'n iawn
Ystyriaethau o ran diogelu data
Ystyriaethau o ran diogelu data
- ymgysylltu â'ch Swyddog Diogelu Data ynghylch eich cynlluniau ar gyfer cynnal y canfasiad
- adolygu eich polisi cadw dogfennau ac unrhyw hysbysiadau preifatrwydd yn unol â deddfwriaeth diogelu data
- datblygu unrhyw gytundebau rhannu data angenrheidiol
- sicrhau bod contractau ysgrifenedig ar waith gyda chontractwyr neu gyflenwyr
Pa gynlluniau y dylwn eu rhoi ar waith er mwyn gwerthuso llwyddiant gweithgareddau canfasio?
Dylai eich cynllun prosiect hefyd nodi sut y byddwch yn monitro effeithiolrwydd y penderfyniadau a wnewch a'r gweithgareddau a gyflawnir gennych er mwyn eich galluogi i werthuso effaith yr hyn rydych yn ei wneud. Dylai hyn eich helpu i fireinio eich dull gweithredu ar gyfer y canfasiad presennol, lle y bo'n bosibl, a dylai hefyd lywio eich cynlluniau ar gyfer canfasiadau yn y dyfodol.
Bydd y safonau perfformiad ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol, a'r adnoddau a'r templedi sydd ar gael i'w cefnogi, yn eich helpu i ddeall effaith eich gweithgareddau, nodi ble y gellir gwneud gwelliannau ac adrodd ar eich perfformiad eich hun yn lleol.
Dylech ddefnyddio'r data a'r wybodaeth ansoddol a nodir yn y safonau i'ch helpu i ddeall effaith eich gweithgareddau er mwyn nodi'r hyn sy'n gweithio, yr hyn nad yw'n gweithio a ble y gellir gwneud gwelliannau. Mae'r fframwaith wedi'i gynllunio i gefnogi'r dadansoddiad hwn ac mae'n canolbwyntio ar y data a'r wybodaeth allweddol a fydd yn dangos yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn nad yw'n gweithio cystal.
Dylai'r safonau, a'r adnoddau a'r templedi ategol, hefyd eich helpu i ddangos yn lleol – p'un a yw hynny o fewn eich awdurdod lleol, i aelodau etholedig neu'n ehangach – sut y mae'r gweithgareddau rydych yn eu cynnal yn cyfrannu at y gwaith o ddarparu gwasanaeth cofrestru etholiadol effeithlon ac effeithiol ac, yn y pen draw, yn helpu i sicrhau bod pawb sy'n gymwys ac sydd am bleidleisio yn gallu gwneud hynny.
Sut y gallaf reoli risgiau i'r canfasiad blynyddol?
Wrth gynllunio ar gyfer eich canfasiad blynyddol a'i gynnal, bydd angen i chi ystyried y risgiau i'r canfasiad a sut y byddwch yn eu lliniaru, gan sicrhau bod y rhain yn cael eu cofnodi mewn cofrestr risg. Dylid adolygu'r gofrestr risg yn rheolaidd a dylech ei defnyddio i wneud y canlynol:
- cofnodi unrhyw risgiau a nodwyd, gan gynnwys difrifoldeb unrhyw risg gan nodi'r tebygolrwydd y bydd y risg yn digwydd ac effaith y risg pe bai'n digwydd
- monitro a dogfennu unrhyw newidiadau i'r risgiau hyn
- cofnodi camau gweithredu a nodwyd er mwyn lliniaru'r risgiau hyn
- monitro a chofnodi sut mae camau lliniaru yn cael eu cymryd
Rydym wedi datblygu templed ar gyfer cofrestr risg a allai fod yn ddefnyddiol i chi. Mae'r templed yn rhoi rhai risgiau enghreifftiol a chamau gweithredu a awgrymir ar gyfer lliniaru'r risgiau hynny.
Yn ogystal â'r risgiau a nodir yn y templed, dylech nodi unrhyw risgiau eraill, gan gynnwys y rhai sy'n benodol i'ch amgylchiadau lleol, a sut y byddech yn eu lliniaru.
Cynllunio canfasio eiddo Llwybr 3
Dylid nodi eiddo posibl yn Llwybr 3 ar gam cynllunio cynnar.
Mae'r adran hon yn cynnwys canllawiau ar sut i nodi eiddo Llwybr 3 a sut a phryd i nodi person cyfrifol ar gyfer pob eiddo, a chysylltu ag ef neu hi.
Beth yw eiddo Llwybr 3 a sut y gallaf eu nodi?
Llwybr 3 – y llwybr eiddo diffiniedig, mae'n cynnwys casglu'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer y canfasiad ar gyfer mathau penodol o eiddo gan berson cyfrifol, lle y gellir nodi un.
Gallai defnyddio Llwybr 3 fod yn ffordd fwy effeithiol ac effeithlon o gael ymatebion cywir a chyflawn ar gyfer eiddo â sawl preswylydd na chanfasio gan ddefnyddio llwybr amgen.
Dylid nodi eiddo y gellid ei ganfasio gan ddefnyddio Llwybr 3 a'r unigolion sy'n gyfrifol am yr eiddo hwnnw yn gynnar yn eich gwaith cynllunio ar gyfer y canfasiad blynyddol am y bydd hyn yn effeithio ar y broses o neilltuo eiddo i wahanol lwybrau.
Os na allwch nodi'r unigolyn sy'n gyfrifol am eiddo a chysylltu ag ef cyn penderfynu'n derfynol ar ba eiddo y byddwch yn ei neilltuo i lwybrau canfasio, ni fyddwch yn gallu mynd ati i ganfasio'r eiddo drwy Lwybr 3.
Pa eiddo y gellir ei ganfasio gan ddefnyddio Llwybr 3?
Diffinnir yr eiddo hwnnw y gellir ei ganfasio gan ddefnyddio Llwybr 3 (y llwybr eiddo diffiniedig) mewn deddfwriaeth fel:1
- Cartrefi gofal preswyl cofrestredig
- Tai amlfeddiannaeth
- Llety myfyrwyr: er enghraifft, neuadd breswyl myfyrwyr
- Hosteli
Er mwyn iddo gael ei ganfasio gan ddefnyddio Llwybr 3, mae'n rhaid i eiddo fod yn eiddo lle mae pobl nad ydynt, gyda'i gilydd, yn ffurfio un aelwyd, yn byw2
neu'n eiddo lle rydych wedi ceisio dosbarthu dogfen yn ystod y 18 mis blaenorol ond nad ydych wedi llwyddo i wneud hynny.3
At hynny, er mwyn neilltuo eiddo i Lwybr 3, mae'n rhaid i chi gredu eich bod yn fwy tebygol o gael ymateb gan ddefnyddio Llwybr 3 na thrwy lwybr canfasio amgen,4
ac mae'n rhaid i chi fod wedi gallu nodi unigolyn cyfrifol i ddarparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer y canfasiad.
Gallai cael gafael ar gofnodion awdurdodau lleol eraill neu adolygu gwybodaeth o'r canfasiad blaenorol eich helpu i nodi eiddo arall yn eich cronfa ddata a all fodloni'r meini prawf er mwyn iddo gael ei ganfasio gan ddefnyddio Llwybr 3.
Bydd angen i chi fod yn fodlon bod y meini prawf a nodir yn y ddeddfwriaeth yn cael eu bodloni ar gyfer unrhyw eiddo arall y dewiswch ei ganfasio o dan Lwybr 3.
Pa eiddo na ellir ei ganfasio gan ddefnyddio Llwybr 3?
Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu'n benodol na ellir defnyddio Llwybr 3 ar gyfer blociau cyffredin o fflatiau,5
y dylai fod yn bosibl eu canfasio'n effeithiol gan ddefnyddio Llwybr 1 neu Lwybr 2 fel y bo'n briodol yn seiliedig ar ganlyniadau'r ymarfer paru data.
At hynny, os bydd gwybodaeth sydd gennych yn dangos mai dim ond pobl o dan 18 oed sy'n meddiannu'r eiddo, ni allwch ddefnyddio Llwybr 3 i ganfasio'r eiddo: mewn achosion o'r fath, mae'n rhaid i chi ddefnyddio Llwybr 2 – sef y llwybr eiddo heb ei baru.6
Hefyd, nid yw eiddo lle mae'r holl unigolion cofrestredig yn gategori o etholwr y mae'n rhaid ei eithrio o'r cam paru data cenedlaethol, megis etholwyr dienw, yn gymwys i gael ei ganfasio gan ddefnyddio Llwybr 3.
- 1. Rheoliad 32ZBF(2), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 32ZBF(2)(f), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 32ZBF(2)(f), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 32ZBF(2)(f), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 32ZBF(3), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheoliad 32ZBA(6), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 6
Pwy yw'r unigolyn cyfrifol ar gyfer eiddo Llwybr 3 a pha wybodaeth y gall ei darparu?
Diffinnir unigolyn cyfrifol fel unrhyw un sy'n cadw gwybodaeth neu a all gael gafael arni yn gyfreithlon neu a all ddatgelu gwybodaeth yn gyfreithlon i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol mewn perthynas â phob unigolyn sy'n byw mewn eiddo ac sy'n gymwys i gael ei gofrestru.1
Bydd data a ddarperir gan yr unigolyn cyfrifol yn eich helpu i gadarnhau pwy sy'n byw mewn eiddo a phwy nad yw'n byw ynddo ond ni ellir eu defnyddio ar gyfer unrhyw fath o gofrestriad bloc: bydd yn rhaid i chi gynnal y gweithgaredd cofrestru priodol – megis dechrau'r broses ITR neu adolygu – yn seiliedig ar y data a roddir i chi.
Bydd angen i chi sicrhau bod y wybodaeth sydd gennych am unigolion cyfrifol ar gyfer eiddo Llwybr 3 yn cael ei hadolygu'r rheolaidd. Dylech sicrhau bod y wybodaeth yn gyfredol ac y caiff manylion unrhyw un nad yw'n gysylltiedig ag eiddo mwyach eu dileu.
- 1. Rheoliad 32ZBF(8), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Pryd a sut y dylwn gysylltu â'r unigolyn cyfrifol ar gyfer eiddo Llwybr 3?
Bydd angen i chi gysylltu â'r unigolion hynny a all fod yn addas i weithredu fel yr unigolyn cyfrifol ar gyfer eiddo Llwybr 3, yn eich barn chi. Dylech gysylltu'n gychwynnol â nhw cyn gynted â phosibl yng ngham cynllunio eich canfasiad; dim ond ar ôl i chi nodi a chadarnhau unigolyn cyfrifol ar gyfer eiddo y gallwch ei neilltuo i Lwybr 3.
Gan nad oes unrhyw ddulliau cysylltu rhagnodedig o dan Lwybr 3, bydd angen i chi ystyried y ffordd fwyaf priodol o gysylltu'n gychwynnol â'r unigolion hyn.
Diben cysylltu ar yr adeg hon yw:
- cadarnhau a all yr unigolyn a nodwyd weithredu fel yr unigolyn cyfrifol1
- esbonio rôl a chyfrifoldeb unigolyn cyfrifol
- cyfleu eich hawl statudol i ofyn i unigolyn cyfrifol ddarparu gwybodaeth am y preswylwyr mewn eiddo
- rhoi gwybod i'r unigolyn cyfrifol ei bod yn ofynnol iddo ymateb i'ch cais
- cadarnhau'r dulliau cyfathrebu a ddefnyddir yn y dyfodol
- nodi unrhyw unigolyn amgen fel unigolyn cyfrifol ar gyfer yr eiddo os na all yr unigolyn rydych wedi cysylltu ag ef gydymffurfio â'ch cais
Dylech sicrhau eich bod yn cofnodi'r camau a gymerwyd gennych i gysylltu â'r unigolion hyn a chadarnhau y gallant ddarparu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan y canfasiad i chi.
Bydd hefyd angen i chi ystyried y dull cyfathrebu gorau ar gyfer eiddo Llwybr 3, yn seiliedig ar y math o eiddo a'r wybodaeth gyswllt sydd gennych ar gyfer yr unigolyn cyfrifol.
Er y bydd angen i chi nodi'r unigolyn cyfrifol ar gyfer eiddo Llwybr 3 ar gam cynnar yn eich gwaith cynllunio a chysylltu'n gychwynnol ag ef, efallai y byddwch yn penderfynu canfasio eiddo gwahanol o dan Lwybr 3 ar adegau gwahanol. Er enghraifft, efallai y byddwch yn penderfynu gofyn i'r unigolyn cyfrifol ar gyfer llety myfyrwyr am y wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer y canfasiad ychydig cyn i'r tymor ddechrau, yn hytrach nag ar gam cynharach yn eich canfasiad.
- 1. Rheoliad 32ZBF(8), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
A oes angen cytundeb rhannu data ar gyfer eiddo Llwybr 3?
Bydd angen i chi benderfynu a oes angen cytundebau rhannu data ag unrhyw rai o'r unigolion cyfrifol ar gyfer eiddo Llwybr 3 rydych wedi'u nodi yn eich ardal.
Bydd y wybodaeth a gewch gan yr unigolyn cyfrifol yn cynnwys data personol, sy'n cael eu rhannu rhwng dau reolydd data. Er nad yw deddfwriaeth diogelu data yn ei gwneud yn ofynnol i gael cytundeb ysgrifenedig wrth rannu data rhwng rheolyddion data, mae'n arfer da llunio cytundeb rhannu data.
Bydd llunio cytundeb rhannu data â'r unigolyn cyfrifol yn dangos bod y ddau ohonoch yn gweithredu yn unol â deddfwriaeth diogelu data a bydd yn helpu i osgoi unrhyw oblygiadau o ran atebolrwydd o weld un parti fel rheolydd a'r llall fel prosesydd.
Mae ein canllawiau ar ddiogelu data ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau yn darparu gwybodaeth mewn perthynas â'ch rôl fel rheolydd data, yn ogystal â rhestr wirio i helpu i lywio cynnwys cytundebau rhannu data.
Cynllunio ar gyfer paru data
Mae paru data yn rhan annatod o'r canfasiad newydd a bydd angen i chi gynllunio sut a phryd y byddwch yn gwneud hyn.
Mae'r adran hon yn cynnwys canllawiau ar y pethau y bydd angen i chi eu hystyried wrth gynllunio ar gyfer ymarferion paru data cenedlaethol a lleol.
Beth mae angen i mi ei ystyried wrth gynllunio ar gyfer y cam paru data cenedlaethol?
Mae'r cam paru data cenedlaethol yn cynnwys gwirio gwybodaeth am etholwyr presennol ar eich cofrestr, yn erbyn data sydd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Mae pob eiddo yn dechrau drwy gael ei neilltuo'n ddiofyn i Lwybr 2 – sef y llwybr eiddo heb ei baru.
Bydd canlyniadau'r cam paru data cenedlaethol, ynghyd ag unrhyw ymarfer paru data lleol rydych wedi'i gynnal, yn eich helpu i benderfynu a yw'r eiddo yn gyffredinol wedi'i baru neu heb ei baru ac mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r wybodaeth hon i'ch helpu i neilltuo'r eiddo hwnnw i'r llwybr canfasio priodol.1
Ar ôl iddo gael ei neilltuo i'r llwybr canfasio priodol, gallwch benderfynu pa ddull cysylltu y byddwch yn ei ddefnyddio mewn perthynas â phob eiddo yn ystod y canfasiad.
- 1. Rheoliad 32ZBA(2), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Pa gamau y dylwn eu cymryd i baratoi fy nghofrestr ar gyfer y cam paru data cenedlaethol?
Er ei bod yn bwysig sicrhau bod gennych brosesau ar waith i gynnal eich cofrestr drwy gydol y flwyddyn, dylai gwneud gwaith ychwanegol i gynnal y gofrestr cyn y cam paru data cenedlaethol helpu i sicrhau bod y wybodaeth rydych yn ei darparu mor gywir a chyflawn â phosibl.
Dylai hyn helpu i sicrhau canlyniadau mwy cywir, a all, yn ei dro, eich helpu i sicrhau bod eich canfasiad mor effeithlon â phosibl a'i fod yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael i chi.
Dylai'r gwaith paratoi hwn gynnwys y camau canlynol:
Sicrhau bod unrhyw weithgaredd nas cyflawnwyd eto yn cael ei gyflawni
- Lle y bo'n bosibl, dylech gwblhau adolygiadau a phenderfynu ar unrhyw eitemau sydd angen eu dileu o ganlyniad i'r rhain cyn y cam paru data cenedlaethol.
- Dylech sicrhau bod unrhyw eitemau eraill sydd angen eu dileu yn cael eu nodi cyn y cam paru data cenedlaethol.
- Dylech roi sylw i unrhyw ymholiadau, eithriadau ac ardystiadau nad ymdriniwyd â nhw er mwyn sicrhau y gellir ychwanegu cynifer o etholwyr â phosibl at eich cofrestr.
- Dylech wirio unrhyw unigolion a ddelir yn eich system fel etholwyr posibl mewn eiddo yn erbyn cofnodion eraill, neu nodi unrhyw etholwyr posibl newydd y dylid eu hychwanegu at eiddo. Nid yw etholwyr posibl yn etholwyr cofrestredig ond, yn hytrach, maent yn unigolion sydd wedi'u cofnodi yn eich System Rheoli Etholiad, o ganlyniad i broses cloddio data leol neu ffurflen ganfasio a ddychwelwyd yn ôl pob tebyg, a all fod yn gymwys ond nad ydynt wedi cofrestru i bleidleisio yn y cyfeiriad eto. Mae'r wybodaeth hon yn ddefnyddiol am y gall awgrymu bod angen gwneud newidiadau i'r gofrestr ar gyfer yr eiddo hwnnw, am y gallai unigolion nad ydynt wedi gwneud cais llwyddiannus i gofrestru eto fod yn byw yno. Gall etholwyr posibl mewn cyfeiriad hefyd ddynodi bod angen cofnodi newidiadau ychwanegol ar gyfer yr unigolion hynny sydd wedi'u cofrestru yn yr eiddo ar hyn o bryd.
Sicrhau bod eich cronfa ddata eiddo yn gyfredol
- Dylech sicrhau bod gan bob cyfeiriad rif cyfeirnod eiddo unigryw (UPRN). Os nad oes, dylech gysylltu â thîm y Rhestr Tir ac Eiddo Lleol er mwyn sicrhau bod rhifau cyfeiriad eiddo unigryw wedi'u hatodi i bob eiddo.
- Dylech fwrw golwg dros unrhyw gofnodion sydd gennych a fydd yn eich helpu i nodi mathau penodol o eiddo ac, os yw'n bosibl, sicrhau bod y rhain yn cael eu hadlewyrchu yn eich system – er enghraifft, gall nodi bod eiddo yn gartref gofal, yn dŷ amlfeddiannaeth neu'n llety myfyrwyr effeithio ar y llwybr y gallwch ei ddewis i neilltuo'r eiddo iddo.
- Dylech gadarnhau a yw'r wybodaeth sydd gennych am eiddo gwag a di-rym yn gyfredol. Dylech nodi pa ffynonellau data lleol sydd ar gael i chi a fydd yn cynnwys y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud hyn a diweddaru eich cofnodion yn unol â hynny.
Sut y dylwn benderfynu pryd i gynnal y cam paru data cenedlaethol?
Bydd angen i'r cam paru data cenedlaethol gael ei gynnal cyn i chi ddechrau eich gweithgarwch canfasio. Bwriad y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yw y bydd y gwasanaeth ar agor o 1 Mehefin tan ddiwedd mis Awst, a bydd yn darparu adnodd archebu i'ch galluogi i nodi eich dewis ddyddiad ar gyfer eich ymarfer paru data. Os na fydd y dyddiad hwn ar gael, bydd angen i chi ddewis un arall.
Er mwyn eich helpu i benderfynu pryd rydych am gynnal y cam paru data cenedlaethol, dylech ystyried canllawiau gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ar yr amserlenni ar gyfer trefnu a chynnal y cam paru data cenedlaethol.
Er mwyn nodi'r dyddiad mwyaf priodol ar gyfer eich cam paru data cenedlaethol, bydd angen i chi fod wedi ystyried amseriadau ar gyfer gwneud eich gwaith paratoi ychwanegol ar y gofrestr am y dylai'r gwaith hwn gael ei wneud cyn i chi anfon eich data.
Gan y bydd angen i'r cam paru data cenedlaethol gael ei gynnal cyn i chi ddechrau eich canfasiad, bydd angen i chi hefyd ystyried pryd rydych am ddechrau eich canfasiad a sicrhau eich bod yn trefnu i'ch gweithgareddau canfasio gael eu cynnal ar ôl i'r cam paru data gael ei gwblhau.
Unwaith y bydd dyddiad eich cam paru data cenedlaethol wedi'i gadarnhau a'ch bod yn gwybod pa ddyddiad rydych yn gweithio tuag ato, bydd angen i chi ailystyried eich cynlluniau o ran y canfasiad er mwyn sicrhau eu bod yn ymarferol o hyd, gan wneud unrhyw addasiadau rydych yn nodi eu bod yn angenrheidiol. Gall hyn gynnwys diwygio'r dyddiadau rydych yn bwriadu dechrau anfon gohebiaeth ganfasio ar gyfer pob un o'r tri llwybr canfasio.
Beth mae angen i mi ei ystyried wrth gynllunio ar gyfer ymarfer paru data lleol?
Yn ogystal â chynnal y cam paru data cenedlaethol gorfodol, mae gennych ddisgresiwn i baru eich cofrestr etholiadol gyfan, neu ran ohoni, yn erbyn setiau data a ddelir yn lleol (megis data treth gyngor neu fudd-dal tai).1
Gall hyn ddigwydd cyn neu ar ôl y cam paru data cenedlaethol, neu cyn ac ar ôl y cam paru data cenedlaethol.
Bydd canlyniad y cam paru data cenedlaethol ynghyd ag unrhyw ymarfer paru data lleol a gynhaliwyd gennych yn dylanwadu ar y broses o neilltuo eiddo i lwybrau canfasio ac yn pennu pa fath o gontract y bydd angen i chi ei lunio mewn perthynas â phob eiddo yn ystod y canfasiad o ganlyniad i hynny.
Gweithio gydag adrannau eraill y cyngor
Gallai gweithio'n agos gydag adrannau eraill y cyngor eich helpu i weithio'n fwy effeithiol ac effeithlon gyda data lleol. Os gellir cytuno ag adrannau eraill ar ddull cyson o gasglu data, bydd yn haws defnyddio setiau data lluosog at eich dibenion eich hun.
Pan fyddwch yn cael setiau data lleol gan dimau neu adrannau eraill, dylech ymgynghori â chyflenwr eich System Rheoli Etholiad i gadarnhau sut y dylai'r data gael eu fformatio. Efallai y bydd angen cryn dipyn o amser ac adnoddau i baratoi'r data'n gywir cyn eu bod yn addas i'w mewngludo i'ch System Rheoli Etholiad.
Efallai y bydd gan adrannau eraill o'ch cyngor fwy o brofiad o drin data yn effeithiol. Dylech ystyried gweithio gyda'r adrannau hyn, a secondio cydweithwyr medrus os yw'n bosibl, i'ch helpu i sicrhau bod eich data lleol yn barod i'w lanlwytho i'ch System Rheoli Etholiad mewn modd amserol.
Pan fyddwch yn meithrin cydberthynas waith newydd ar gyfer rhannu data lleol, efallai y byddwch am drefnu sgwrs dros y ffôn neu gyfarfod wyneb yn wyneb yn gyntaf i drafod eich nodau a chytuno ar drefniadau gweithio. Ymhlith rhai o'r pwyntiau y gallai fod yn ddefnyddiol i chi eu trafod yn ystod eich cyswllt cychwynnol mae'r canlynol:
- amlinellu gofynion deddfwriaethol y canfasiad, a'ch hawliau i weld data
- esbonio'r buddiannau a allai ddeillio o wneud mwy o ddefnydd o waith paru data
- trafod lefel y cymorth y gellir ei gynnig i chi a'ch tîm
- cytuno ar ddull a rennir o weithio gyda data, drwy gytundeb rhannu data o bosibl
- pennu amserlen glir ar gyfer cydweithio
- cytuno ar sut y byddwch yn cysylltu yn y dyfodol
- cytuno ar ffordd o werthuso'r gwaith a wnaethoch gyda'ch gilydd ar ddiwedd y canfasiad
- ystyried a ddylid diweddaru unrhyw rai o hysbysebion preifatrwydd y cyngor neu'r gwasanaeth
Nid oes gennych hawl awtomatig i weld na defnyddio unrhyw wybodaeth gyswllt ychwanegol mewn cofnodion lleol ar wahân i enwau a chyfeiriadau. Ceir rhagor o wybodaeth am y broses o gasglu a rhannu manylion cyswllt eraill fel cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn yn ein canllawiau ar cynllunio ar gyfer gohebiaeth ganfasio.
Mae'n bosibl y bydd yn cymryd tipyn o amser ac ymdrech i ddechrau i feithrin partneriaethau a nodi cynlluniau ar gyfer rhannu a phrosesu data lleol, ond dylai fod llai o waith ynghlwm wrth hyn mewn blynyddoedd dilynol wrth i arferion gwaith a chydberthnasau gwaith gael eu sefydlu.
Wrth i bobl ymgyfarwyddo â'u rolau yn y broses, y data y mae angen iddynt eu darparu a'r hyn a ddisgwylir ganddynt, dylech weld canlyniadau gwell a phroses fwy effeithlon a syml.
- 1. Rheoliad 32ZBA(8), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Beth yw data lleol?
Data lleol yw unrhyw set o ddata a gesglir gan gorff arall, neu gan unrhyw awdurdod lleol, gan gynnwys eich awdurdod lleol eich hun.
Mae enghreifftiau o ddata lleol sydd ar gael i chi yn cynnwys:
- data treth gyngor
- data gofal cymdeithasol oedolion
- data biliau a thaliadau awdurdodau lleol
- data trwyddedau parcio
- data derbyniadau i ysgolion
- data bathodynnau glas
- cofnodion gwasanaethau cwsmeriaid
- data cyflogresi
- data cofrestrwyr
- data tai a rhent
- data tanysgrifiad i wasanaethau gwastraff gwyrdd/gardd
- data aelodaeth o gyfleusterau'r cyngor (er enghraifft, llyfrgelloedd neu gampfeydd)
Nid ystyrir bod ffynonellau gwybodaeth eraill, megis adnabod rhywun yn bersonol neu wybodaeth a roddir ar lafar, yn ffynonellau data lleol.
Eich pwerau i ofyn am ddata lleol
Fel Swyddog Cofrestru Etholiadol, mae gennych hawl gyfreithiol i weld setiau data lleol ac archwilio a chopïo cofnodion a gedwir ar ba ffurf bynnag gan:1
- y cyngor a'ch penododd
- unrhyw gofrestrydd genedigaethau, marwolaethau a phriodasau, gan gynnwys unrhyw uwcharolygydd
- unrhyw berson, gan gynnwys cwmni neu sefydliad, sy'n darparu gwasanaethau i'r cyngor, neu sydd â'r awdurdod i gyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r cyngor; mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n darparu gwasanaethau 'ar gontract' o dan unrhyw gytundeb cyllid
Nid oes unrhyw gyfyngiadau statudol na chyfyngiadau eraill, gan gynnwys deddfwriaeth diogelu data, y gellir eu defnyddio i wrthod rhoi gwybodaeth o'r fath i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol.2
Mae gennych hawl gyfreithiol hefyd i ofyn i unrhyw un arall roi gwybodaeth i chi er mwyn cynnal y gofrestr etholiadol.3
Gall Swyddogion Cofrestru Etholiadol weld data o'r fath yn unol â darpariaethau diogelu data gan fod sail gyfreithlon dros eu prosesu, sef cyflawni tasg gyhoeddus er budd y cyhoedd.
Os bydd unrhyw un yn methu â chydymffurfio â'ch cais ac yn gwrthod rhoi'r wybodaeth ofynnol y gofynnir amdani, gall fod yn briodol i chi dynnu ei sylw at y ffaith y bydd cosb droseddol, sef dirwy o hyd at £1,000, yn cael ei rhoi am fethu â darparu'r wybodaeth ofynnol.
Efallai yr hoffech hefyd drafod â'ch Swyddog Diogelu Data a fyddai Cytundeb Rhannu Data o bosibl yn hwyluso'r broses o gael gafael ar ddata lleol.
Mae ein canllawiau diogelu data ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau yn darparu arweiniad mewn perthynas â'ch rôl fel rheolwr data, a rhestr wirio i helpu llywio cynnwys cytundebau rhannu data.
- 1. Rheoliad 35 a 35A o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 2, paragraff 1(5) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 23, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 3
Sut y dylwn ddewis fy ffynonellau data lleol?
Dylai pob set ddata leol o leiaf gynnwys y canlynol:
- Enw cyntaf
- Cyfenw
- Cyfeiriad post
Gall setiau data sydd hefyd yn cynnwys y meysydd canlynol helpu i wella ansawdd canlyniadau'r ymarfer paru:
- Enw(au) canol
- Data rhifau cyfeirnod eiddo unigryw
- Dyddiad geni
- Enwau blaenorol
- Oedran data, er enghraifft pryd y cawsant eu creu neu eu diweddaru ddiwethaf
Nid oes rhaid i setiau data lleol gynnwys data ar gyfer yr holl eiddo ar eich cofrestr a gallent ganolbwyntio'n fwy ar fathau penodol o eiddo neu grwpiau penodol o unigolion.
Er enghraifft, gall fod gennych ddata gan adrannau gwasanaethau cymdeithasol neu addysg sydd ond yn cwmpasu, o bosibl, rai o'ch etholwyr, ond a all fod yn ddefnyddiol serch hynny.
Sut ydw i'n sicrhau bod ffynhonnell data o ansawdd uchel?
Dylech sicrhau mai dim ond ffynonellau data o ansawdd uchel rydych yn eu dewis. Mae set ddata o ansawdd uchel yn un lle mae'r wybodaeth a geir ynddi yn ddibynadwy, yn gyfredol ac yn gywir ac y gellir ymddiried ynddi. Mae gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol adnodd ar sut i asesu ansawdd data lleol sydd ar gael isod:
Dylech hefyd ystyried pa safonau data ac arferion da sydd i'w cael mewn perthynas â'r ffynonellau data lleol rydych am eu defnyddio ac a yw deiliad y data yn eu dilyn.
Er enghraifft, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi nodi canllawiau manwl ar arferion da ar gyfer prosesu a defnyddio data budd-dal y dreth gyngor a budd-dal tai, sy'n cynnwys canllawiau ar wirio tystiolaeth a ddarparwyd i awdurdodau lleol a sut i ymdrin â thwyll. Dylai Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer ardal sy'n darparu ei gwasanaethau budd-daliadau i'r safonau hyn allu bod yn hyderus wrth ddefnyddio data budd-daliadau ar gyfer paru data lleol.
Wrth benderfynu ar ansawdd ffynhonnell data lleol dylech ystyried pryd y cafodd ei diweddaru ddiwethaf ac a yw'r ffynhonnell data/ffynonellau data yn dibynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan unigolion heb unrhyw wiriadau gan yr awdurdod lleol i gadarnhau bod y wybodaeth yn gywir.
Er enghraifft, gall ceisiadau am aelodaeth o lyfrgell fod yn seiliedig yn gyfan gwbl ar wybodaeth a ddarparwyd gan ddefnyddwyr y gwasanaeth ac, felly, efallai y byddwch yn dod i'r casgliad nad yw data llyfrgelloedd yn addas ar gyfer ymarfer paru data lleol.
Yn ogystal â gallu bod yn hyderus bod y ffynhonnell data lleol o ansawdd uchel, mae angen i chi hefyd ystyried unrhyw oblygiadau o ran costau sy'n gysylltiedig â phrosesu data lleol ac, os oes unrhyw gostau, a ydynt yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael i chi.
Er enghraifft:
- A fydd angen i waith gael ei wneud â llaw gennych chi a'ch staff er mwyn sicrhau y gellir defnyddio'r data neu a fydd angen i chi gael cymorth ar gyfer yr ymarfer paru data gan dîm arall, megis gan yr Adran TG, er mwyn trin y ffeiliau?
- A all y ffeil data gael ei rheoli gan broses rannol awtomataidd drwy ei llwytho ar eich System Rheoli Etholiad neu system debyg?
- A fydd angen i chi brynu unrhyw feddalwedd neu drwyddedau newydd neu ychwanegol ar gyfer unrhyw feddalwedd sy'n bodoli eisoes?
Dylech brofi setiau data lleol newydd cyn i chi eu defnyddio. Dylech siarad â darparwr eich System Rheoli Etholiad am y ffordd y gall eich System Rheoli Etholiad eich helpu i wneud hyn yn ymarferol.
Dylech werthuso effeithiolrwydd eich setiau data lleol bob blwyddyn gan ddefnyddio'r sgoriau cywirdeb data a ddarparwyd gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol. Bydd y sgoriau hyn yn rhoi rhyw syniad o ba mor effeithiol y mae'r gwahanol ffynonellau data lleol wedi bod o ran paru etholwyr. Bydd hyn yn eich galluogi i wneud penderfyniadau mwy hyddysg ynghylch defnyddio setiau data lleol mewn canfasiadau yn y dyfodol.
Pryd y gallaf gynnal ymarfer paru data lleol a faint o amser y bydd yn ei gymryd?
Os ydych wedi penderfynu cynnal unrhyw fath o ymarfer paru data lleol, bydd angen i chi benderfynu pryd y caiff ei gynnal. Gall ymarfer paru data lleol fod yn ddefnyddiol pan gaiff ei gynnal naill ai cyn neu ar ôl y cam paru data cenedlaethol neu, yn wir, ar y ddau gam.
Gall eich penderfyniad ar amseriad unrhyw ymarfer paru data lleol ddibynnu ar y canlynol:
- pryd y gellir darparu'r data i chi a phryd rydych yn bwriadu eu defnyddio, er enghraifft mae'r data mwyaf diweddar ar fyfyrwyr yn debygol o fod ar gael ar ddechrau'r flwyddyn academaidd
- pa mor gyfredol yw'r data; data lleol fydd y data mwyaf cywir a defnyddiol ar gyfer ymarfer paru data os byddant wedi'u diweddaru'n ddiweddar
- maint y set ddata ac a ydych yn cynnal ymarfer paru cofrestr rannol neu lawn; gall hyn gael effaith ar faint o amser a fydd gennych i ddadansoddi'r canlyniadau cyn neilltuo eiddo i lwybrau canfasio
- ym mha fformat y cedwir y data ac a fydd angen eu prosesu cyn i chi allu eu defnyddio
Efallai y bydd cynnal ymarfer paru data lleol cyn y cam paru data cenedlaethol yn rhoi mwy o amser i chi ddadansoddi canlyniadau eich ymarfer paru data lleol.
Fel arall, gall gwirio data sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd yn lleol, megis data treth gyngor, ar ôl y cam paru data cenedlaethol ac mor agos ag sy'n ymarferol at yr adeg rydych yn gwneud eich penderfyniad ynghylch neilltuo eiddo i lwybrau canfasio wella ansawdd canlyniadau eich ymarfer paru data, gan eich galluogi i neilltuo mwy o eiddo i'r llwybr mwyaf priodol.
Gwirio gwybodaeth am eiddo gwag a di-rym fel rhan o ymarfer paru data lleol
Gallai ymarfer paru data lleol gynnwys gwirio'r wybodaeth sydd gennych am eiddo gwag neu ddi-rym. Os byddwch yn cymharu eiddo gwag a di-rym yn erbyn ffynonellau data lleol megis cofnodion y dreth gyngor, dylai eich cynllun adlewyrchu hyn a darparu ar gyfer pryd a sut y byddwch yn gwneud hynny.
Nid yw eiddo gwag a di-rym wedi'i eithrio rhag y canfasiad blynyddol ond mae wedi'i eithrio'n awtomatig rhag y cam paru data cenedlaethol. Y rheswm dros hyn yw nad oes unrhyw fanylion am etholwyr unigol y gellir eu paru â chofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Os na all eich ymarfer paru data lleol gadarnhau bod eiddo'n wag neu'n ddi-rym, bydd angen ei ganfasio gan ddefnyddio Llwybr 2 – sef y llwybr eiddo heb ei baru. Os na allwch gadarnhau bod eiddo yn dal i fod yn wag neu'n ddi-rym, gellir ei neilltuo i Lwybr 1 – sef y llwybr eiddo wedi'i baru.
Mae'n bwysig cofio, unwaith y bydd eiddo wedi'i neilltuo i lwybr, bydd yn rhaid i chi gymryd yr holl gamau angenrheidiol cyn cau'r cylch cysylltu. Ni allwch ddefnyddio data lleol i gau cylch cysylltu.
A oes angen cytundebau rhannu data pan fyddaf yn defnyddio data lleol?
Os byddwch yn gofyn am gael archwilio data a/neu wneud copïau ohonynt, ni all deiliad y data ddefnyddio cyfyngiad statudol na chyfyngiad arall, gan gynnwys deddfwriaeth diogelu data, er mwyn gwrthod datgelu data i chi.1
P'un a ydych yn cynnal ymarfer paru data lleol eich hun neu'n rhoi ymarfer paru data lleol ar gontract allanol, bydd y wybodaeth a gewch yn cynnwys data personol sy'n cael eu rhannu rhwng dau reolydd data.
Er nad yw deddfwriaeth diogelu data'r DU yn ei gwneud yn ofynnol i gael cytundeb ysgrifenedig wrth rannu data rhwng rheolyddion data, mae'n arfer da llunio cytundeb rhannu data.
Mae cytundebau o'r fath yn dangos bod pob parti yn gweithredu yn unol â deddfwriaeth diogelu data a bydd yn helpu i osgoi unrhyw oblygiadau o ran atebolrwydd o weld un parti fel rheolydd a'r llall fel prosesydd.
A oes angen cytundeb rhannu data arnaf wrth ddefnyddio data a ddelir gan awdurdod lleol?
Os ydych yn cael gwybodaeth gan eich cyngor eich hun i
- ganfod enwau a chyfeiriadau pobl nad ydynt wedi'u cofrestru ond y mae ganddynt yr hawl i gael eu cofrestru, neu
- nodi'r bobl hynny sydd wedi'u cofrestru ond nad oes ganddynt yr hawl i gael eu cofrestru
dylai cytundeb ysgrifenedig rhyngoch chi a'r cyngor sy'n rheoleiddio'r gwaith o brosesu'r wybodaeth fod ar waith a dylai'r cytundeb hwn gynnwys manylion am drosglwyddo, storio a dinistrio data a threfniadau diogelwch.
Mae ein canllawiau diogelu data ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau yn darparu arweiniad mewn perthynas â'ch rôl fel rheolwr data, a rhestr wirio i helpu llywio cynnwys cytundebau rhannu data.
- 1. Rheoliad 23, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Cynllunio ar gyfer gohebiaeth ganfasio
Bydd angen i chi gynllunio eich gohebiaeth ganfasio'n ofalus.
Mae'r adran hon yn cynnwys canllawiau ar y pethau y bydd angen i chi eu hystyried wrth gynllunio ar gyfer eich gohebiaeth ganfasio ac o ran y dulliau ymateb a fydd ar gael i etholwyr.
Beth mae angen i mi ei ystyried wrth gynllunio fy ngohebiaeth ganfasio?
Cyn cynllunio'r sianeli y byddwch yn eu defnyddio ar gyfer gohebiaeth ganfasio, bydd angen i chi ddarllen y canllawiau ar gyfer pob un o'r llwybrau canfasio, sef Llwybr 1, Llwybr 2 a Llwybr 3, er mwyn sicrhau eich bod yn deall y mathau o ohebiaeth a'r gofynion o ran cysylltu ar gyfer pob llwybr.
Fel rhan o'ch gwaith cynllunio, bydd angen i chi benderfynu pa sianeli cyfathrebu y byddwch yn eu defnyddio ar gyfer pob cam cysylltu ar gyfer pob un o'r llwybrau. Amlinellir rhai o'r prif ystyriaeth ar gyfer pob dull cyfathrebu ar y tudalennau canlynol.
Dylech hefyd ystyried bod deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i chi ymgymryd â gweithgarwch dilynol o fewn cyfnod rhesymol o amser. Nid yw cyfnod rhesymol o amser wedi'i ddiffinio mewn deddfwriaeth. Yn ein barn ni, ni ddylai hyn fod yn hwy na 28 diwrnod a gall fod yn fyrrach mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft, os ydych yn nesáu at gwblhau'r canfasiad neu lle mae etholiad ar fin cael ei gynnal.
Sut y gallaf gasglu cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn?
Sut y gallaf gasglu cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn?
Gallwch gasglu cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn yn uniongyrchol gan ddeiliaid cartrefi ac etholwyr, ac efallai y gallwch gael gafael arnynt drwy edrych ar gofnodion lleol.
Dylech edrych am gyfleoedd i gasglu cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn drwy ohebiaeth ganfasio a gohebiaeth etholiadol arall drwy gydol y flwyddyn, fel ffurflenni cofrestru pleidleiswyr a cheisiadau am bleidleisiau absennol.
Dylech gasglu cynifer o gyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn â phosibl yn ystod y canfasiad, ochr yn ochr â'ch gweithredoedd eraill wrth brosesu ymatebion i'r canfasiad.
Pryd bynnag y byddwch yn casglu cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn gan etholwyr, dylech sicrhau eu bod yn gwybod mai eu dewis nhw yw darparu'r wybodaeth honno, a dylech nodi sut y byddwch yn prosesu ac yn defnyddio'r wybodaeth yn eich datganiad preifatrwydd.
A allaf gasglu cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn o gofnodion lleol eraill?
Mae gennych hawl gyfreithiol i archwilio a gwneud copïau o gofnodion lleol fel cofnodion Treth Gyngor a chofnodion gwasanaethau cwsmeriaid, at ddibenion cyflawni eich dyletswyddau cofrestru.1
Caniateir yn benodol i gynghorau perthnasol ddatgelu gwybodaeth mewn cofnodion lleol i'ch galluogi i ganfod enwau a chyfeiriadau pobl nad ydynt wedi'u cofrestru ond y mae ganddynt yr hawl i gael eu cofrestru.2
Rydym wedi llunio canllawiau pellach ar y cofnodion y gallwch eu harchwilio at ddibenion nodi etholwyr newydd, gan gynnwys yr hyn y gallwch ddefnyddio'r wybodaeth ar ei gyfer, a chyngor ynghylch a oes angen cytundebau rhannu data rhwng y cyngor a'r Swyddog Cofrestru Etholiadol.
Fodd bynnag, nid oes gennych hawl awtomatig i weld na defnyddio unrhyw wybodaeth gyswllt ychwanegol mewn cofnodion lleol ar wahân i enwau a chyfeiriadau. I weld a defnyddio gwybodaeth gyswllt ychwanegol, fel cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn o gofnodion lleol, bydd angen y canlynol arnoch:
- cytundeb rhannu data rhwng y cyngor a'r Swyddog Cofrestru Etholiadol, a
- rhaid bod y cyngor wedi hysbysu unigolion, drwy ei hysbysiad preifatrwydd, am y posibilrwydd y caiff gwybodaeth o'r fath ei rhannu
Felly, bydd angen i chi ymgysylltu ag adrannau perthnasol o'r cyngor, a chynnal trafodaethau adeiladol â nhw a'ch swyddog diogelu data, er mwyn ennill cefnogaeth i'ch dull o ddefnyddio e-ohebiaeth. Gallai hyn fod yn rhan o drafodaethau ehangach ynglŷn â chael gafael ar ddata lleol i gyflawni eich dyletswyddau cofrestru fel paru data lleol.
Dylech weithio gydag adrannau'r cyngor a'r swyddog diogelu data i lunio cytundebau rhannu data a nodi hysbysiadau preifatrwydd y bydd angen eu diweddaru er mwyn sicrhau, pan gaiff manylion cyswllt fel cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn eu casglu, y rhoddir y caniatâd angenrheidiol i'r manylion hyn gael eu datgelu i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol.
Mae ein canllawiau diogelu data ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau yn rhoi rhagor o wybodaeth am ystyriaethau diogelu data.
Beth os bydd y cyngor yn defnyddio mynegai cofnodion cwsmeriaid?
Mae rhai cynghorau wedi mabwysiadu mynegai cofnodion cwsmeriaid neu ddinasyddion, er mwyn cadw cofnodion cwsmeriaid mewn un gronfa ddata ganolog. Caiff cofnodion o'r fath eu casglu drwy amrywiaeth o wybodaeth gyswllt am gwsmeriaid ac maent yn debygol o fod yn gyfredol ac yn gywir.
Gan fod y data mewn cronfeydd data o'r fath yn cael eu casglu o ffynonellau ar draws y cyngor, mae'n debygol y bydd cytundebau rhannu data a hysbysiadau preifatrwydd eisoes ar waith ar gyfer cynnal y mynegai cofnodion cwsmeriaid ac efallai mai dim ond mân newidiadau y bydd angen eu gwneud er mwyn caniatáu i'r manylion cyswllt ychwanegol gael eu datgelu i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol. Dylech gysylltu â'ch Swyddog Diogelu Data i ddeall yr hyn y gall fod angen i chi ei wneud yn lleol.
Cadarnhau bod y wybodaeth a gesglir gennych yn gywir
Er mwyn sicrhau bod llai o negeseuon e-bost neu negeseuon testun sydd heb eu dosbarthu oherwydd bod y rhifau ffôn neu'r cyfeiriadau e-bost yn anghywir, dylech gynnal profion ansawdd ar y wybodaeth gyswllt a gasglwyd gennych. Gallech allgludo'r data i daenlen i'ch helpu gyda hyn, neu weld a all eich System Rheoli Etholiad lunio adroddiadau a allai helpu i nodi anghysondebau yn eich data.
Dylech gadarnhau nad oes unrhyw wallau amlwg fel camsillafu enwau parth mewn cyfeiriadau e-bost, defnydd anghywir o atalnodi neu ofodau mewn cyfeiriadau e-bost, a rhifau ar goll mewn rhifau ffôn. Yna gallech groesgyfeirio delweddau wedi'u sganio neu geisiadau papur i wirio a chywiro unrhyw fanylion cyswllt sy'n cynnwys gwallau.
Drwy sicrhau bod y manylion cyswllt a ddelir gennych yn gyfredol ac yn gywir, bydd mwy o negeseuon yn cael eu dosbarthu'n gywir. Bydd llai o faich gweinyddol hefyd wrth ddelio â negeseuon e-bost a wrthodir wrth gael eu prosesu. I gael rhagor o wybodaeth am reoli negeseuon a wrthodir, ewch i ymatebion i e-ohebiaeth Llwybr 1.
- 1. Rheoliad 35, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 35A, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
Defnyddio gohebiaeth electronig
Defnyddio gohebiaeth electronig
Os byddwch yn penderfynu defnyddio e-ohebiaeth, bydd angen i chi nodi'r camau sydd angen eu cymryd er mwyn ei sefydlu ac adlewyrchu'r rhain yn eich cynlluniau.
Bydd angen i chi benderfynu a ddylid rheoli e-ohebiaeth yn fewnol neu drwy ddarparwr allanol, ac efallai y byddwch yn penderfynu defnyddio dulliau gwahanol ar gyfer mathau gwahanol o e-ohebiaeth.
Er enghraifft, efallai y byddwch yn dewis anfon negeseuon e-bost eich hun a rhoi'r gwaith o anfon negeseuon SMS ar gontract allanol i ddarparwr allanol. Mae'n rhaid i unrhyw un a fydd yn prosesu data personol i'w defnyddio gydag unrhyw sianeli e-ohebiaeth gydymffurfio â gofynion deddfwriaeth diogelu data.
Bydd angen i chi lunio templedi o ohebiaeth ymlaen llaw os byddwch yn defnyddio negeseuon e-bost, negeseuon SMS neu ohebiaeth electronig ysgrifenedig arall.
Mae ein canllawiau ar gyfer Llwybr 1 a Llwybr 2 yn cynnwys manylion am y wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys a'i chasglu mewn e-ohebiaeth ac rydym wedi llunio templedi o negeseuon e-bost a all fod yn sail i'ch e-ohebiaeth.
Bydd hefyd angen i chi sicrhau bod gennych y systemau ar waith i olrhain e-ohebiaeth a monitro'r broses o'i hanfon er mwyn sicrhau bod gennych lwybr archwilio o bob ymgais i gysylltu ag eiddo ac etholwyr drwy gydol y canfasiad.
Bydd monitro llwyddiant ymdrechion i gysylltu gan ddefnyddio dulliau gwahanol yn eich helpu i werthuso eu heffeithiolrwydd a mireinio eich dull gweithredu fel sydd ei angen ar gyfer canfasiadau yn y dyfodol. Bydd y data a nodir yn y safonau perfformiad ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol hefyd yn eich helpu i ddeall effaith eich gweithgareddau a ble y gellir gwneud gwelliannau.
Sicrhau bod y cyhoedd yn hyderus yn defnyddio e-ohebiaeth
Sicrhau bod y cyhoedd yn hyderus yn defnyddio e-ohebiaeth
Mae'n bwysig bod y rheini sy'n derbyn eich e-ohebiaeth yn ymddiried ynddi ac yn hyderus ei bod yn ddilys, er mwyn sicrhau eu bod yn talu sylw at y wybodaeth a ddarperir ac yn ymateb ac yn cymryd y camau angenrheidiol fel y bo angen.
Efallai na fydd rhai preswylwyr yn gyfarwydd â chael e-ohebiaeth gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol neu'r cyngor, felly dylech feddwl am sut y gallwch eu paratoi ar gyfer derbyn gohebiaeth o'r fath, er enghraifft drwy ddatganiadau i'r wasg a negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol. Rydym wedi cynhyrchu adnoddau canfasio i'ch helpu i ymgysylltu â'r cyhoedd, gan gynnwys templedi cyfryngau cymdeithasol y gellir eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth yn y cyfnod cyn y canfasiad ac yn ystod y canfasiad ei hun. Dylech hefyd weithio gyda'r tîm cyfathrebu yn eich cyngor i godi ymwybyddiaeth am y canfasiad.
Yn ogystal â defnyddio e-ohebiaeth yn ystod y canfasiad, gallech ystyried manteision defnyddio e-ohebiaeth i gysylltu ag etholwyr y tu allan i'r cyfnod canfasio, er enghraifft yn ystod y cyfnod cyn etholiad.
Er mwyn helpu i gynyddu hyder bod negeseuon e-bost yn swyddogol, dylech sicrhau bod derbynyddion yn gwybod mai negeseuon e-bost wrthych chi ydynt, drwy gynnwys enw eich cyngor yn y llinell pwnc a'ch logo yng nghorff y testun. Os byddwch yn defnyddio blwch allan cyffredinol i anfon negeseuon e-bost, gallech hefyd bersonoli'r neges drwy gynnwys enw deiliad y cartref yn y cyfarchiad.
Dylech hysbysu'r derbynnydd eich bod yn cysylltu ag ef am fod gennych ei wybodaeth ar gronfa ddata eich cofrestr etholiadol fel y gall fod yn hyderus bod ei ddata wedi'u defnyddio mewn modd cyfreithlon. Hyd yn oed os byddwch yn annog preswylwyr i ymateb drwy ddull wedi'i awtomeiddio, dylech gynnwys manylion cyswllt penodedig ar gyfer ymholiadau, yn ogystal â dolen i'ch gwefan sy'n nodi manylion eich hysbysiad preifatrwydd a sut y gall derbynyddion optio allan o gael unrhyw e-ohebiaeth bellach, er mwyn hyrwyddo hyder yng nghyfreithlondeb yr ohebiaeth a bodloni'r holl ofynion diogelu data.
Rydym wedi llunio e-ohebiaeth ganfasio enghreifftiol i'ch helpu wrth gysylltu â deiliaid cartrefi drwy e-bost. Gellir defnyddio'r neges e-bost enghreifftiol ar gyfer gohebiaeth Llwybr 1 neu Lwybr 2. Nid yw'r e-bost enghreifftiol yn rhagnodedig. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn ei ddefnyddio am ei fod wedi cael ei brofi gyda'r cyhoedd.
Ceir rhagor o ganllawiau ar yr hyn y dylid ei gynnwys yn eich e-ohebiaeth yn pa wybodaeth ddylai e-ohebiaeth ei chynnwys?
Rheoli negeseuon ac ymatebion
Rheoli negeseuon ac ymatebion
Fel y nodwyd yn defnyddio gohebiaeth electronig, bydd angen i chi sicrhau bod adnoddau a system ar waith ar gyfer anfon e-ohebiaeth ac ar gyfer olrhain a monitro ymatebion.
Os byddwch yn rheoli hyn yn fewnol, bydd angen i chi gysylltu â'ch adran TG i drafod pa gymorth y gall ei roi i chi. Gallai hyn gynnwys:
- trefnu blwch post cyffredinol sy'n ddigon mawr i ddelio â nifer amcangyfrifedig yr ymatebion sy'n debygol yn seiliedig ar flynyddoedd blaenorol a/neu nifer y negeseuon e-bost rydych yn bwriadu eu hanfon fel rhan o'ch canfasiad
- yr amserlenni arfaethedig ar gyfer anfon eich e-ohebiaeth, er mwyn sicrhau y gellir cael help ychwanegol gan y ddesg gymorth os bydd angen
- unrhyw gyfleoedd ychwanegol i wirio eich data cyn anfon eich gohebiaeth
- p'un a ddylid anfon negeseuon mewn sypiau hawdd eu trin
- cyngor ar sut i wneud yn siŵr na chaiff e-ohebiaeth ei thrin fel ‘sbam’ neu ‘bost sothach’
- sut i olrhain a monitro ymatebion, gan gynnwys rheoli negeseuon e-bost a wrthodir (ceir canllawiau ar brosesu negeseuon e-bost a wrthodir yn ymatebion i e-ohebiaeth Llwybr 1.)
Defnyddio darparwyr allanol a llwyfannau negeseuon
Gallech benderfynu defnyddio darparwr allanol neu lwyfannau negeseuon i anfon e-ohebiaeth i breswylwyr, yn ystod y cyfnod canfasio a'r tu allan iddo. Gall hyn gynnwys rhoi'r manylion cyswllt a ddelir gennych am breswylwyr i ddarparwr a fydd yn anfon y negeseuon ar eich rhan. Bydd angen i chi fod yn fodlon bod y darparwr yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data wrth brosesu data. Gall rhai llwyfannau negeseuon, fel gwasanaeth ‘Notify’ Llywodraeth y DU, gael eu hintegreiddio â'ch System Rheoli Etholiad, a fyddai'n eich galluogi i fonitro ymatebion drwy eich meddalwedd bresennol.
Mae'r astudiaeth achos ganlynol yn disgrifio sut y defnyddiwyd y llwyfan hwn yn Tower Hamlets:
Cysylltu ag etholwyr dros y ffôn
Cysylltu ag etholwyr dros y ffôn
Os byddwch yn cysylltu ag etholwyr dros y ffôn, bydd angen i chi benderfynu a ddylid rheoli'r galwadau hyn yn fewnol neu drwy ddarparwr allanol. Bydd hefyd angen i chi lunio ymlaen llaw y sgriptiau y bydd eich staff neu'ch darparwyr allanol yn eu defnyddio ar gyfer eu sgyrsiau. Rydym wedi darparu templed o sgript i'w ddefnyddio gan staff sy'n cysylltu ag etholwyr dros y ffôn.
Gall hefyd fod yn ddefnyddiol darparu rhestr o Gwestiynau Cyffredin ac ymatebion a awgrymir ar gyfer yr aelodau o'ch staff sy'n delio â galwadau, sy'n seiliedig ar eich dull o gynnal y canfasiad yn eich ardal.
Bydd hefyd angen i chi sicrhau bod gennych y systemau ar waith i olrhain galwadau ffôn a monitro'r ffordd y maent yn cael eu gwneud er mwyn sicrhau bod gennych lwybr archwilio o bob ymgais i gysylltu ag eiddo ac etholwyr drwy gydol y canfasiad. Bydd monitro llwyddiant pob ymgais i gysylltu gan ddefnyddio dulliau cysylltu gwahanol yn eich helpu i werthuso eu heffeithiolrwydd a mireinio eich dull gweithredu yn ôl yr angen ar gyfer canfasiadau yn y dyfodol.
Defnyddio gohebiaeth wedi'i hargraffu
Defnyddio gohebiaeth wedi'i hargraffu
Bydd angen i chi benderfynu a ddylid defnyddio argraffydd mewnol neu allanol i argraffu eich gohebiaeth ganfasio. Pwy bynnag a ddefnyddir gennych, dylech fod yn fodlon y bydd yn gallu ymdopi â chymlethdod a maint y deunydd wedi'i argraffu sydd i'w gynhyrchu.
Dylech sicrhau bod egwyddorion diogelu data yn cael eu bodloni mewn unrhyw ymarfer tendro ar gyfer contract, a dogfennu eich proses gwneud penderfyniadau. Pryd bynnag y defnyddiwch brosesydd, mae deddfwriaeth diogelu data yn gosod rhwymedigaeth gyfreithiol i ffurfioli'r gydberthynas waith ag ef.
P'un a ydych yn defnyddio argraffydd mewnol neu allanol, mae'n rhaid i chi gael cytundeb neu gontract ysgrifenedig ar waith. Bydd yn helpu i sicrhau y caiff gofynion diogelu data eu bodloni, gan gynnwys y gofynion sy'n ymwneud â phenodi prosesydd.
Yn dilyn y cam paru data cenedlaethol, ac unrhyw ymarfer paru data lleol, byddwch wedi neilltuo pob un o'ch eiddo i'r llwybrau canfasio priodol, wedi gwneud penderfyniadau ynghylch pa sianeli cyfathrebu rydych yn bwriadu eu defnyddio ar gyfer gohebiaeth ganfasio ar bob cam a sut y byddwch yn rheoli'r ffordd y caiff ei dosbarthu.
Wedyn, byddwch mewn sefyllfa i gadarnhau â chyflenwr eich deunydd print, nifer yr eitemau o ohebiaeth ganfasio wedi'i hargraffu sydd eu hangen arnoch.
Bydd angen i chi gytuno ar amserlen gynhyrchu fanwl â chyflenwr eich gohebiaeth ganfasio wedi'i hargraffu a ddylai gynnwys y canlynol:
- Amserlenni ar gyfer prawfddarllen gohebiaeth ganfasio
- Nifer yr eitemau o ohebiaeth ganfasio wedi'i hargraffu ar gyfer pob llwybr
- Terfynau amser yr argraffydd ar gyfer anfon data
- Y dyddiadau y bydd yr argraffydd yn danfon gohebiaeth ganfasio atoch (pan fydd gohebiaeth ganfasio yn cael ei danfon yn ôl atoch yn barod i'w hanfon ymlaen)
- Trefnu dyddiadau danfon o'r argraffydd i'r Post Brenhinol, gwasanaethau dosbarthu eraill neu'ch swyddfeydd at ddiben dosbarthu gohebiaeth â llaw
- Amseriad cynhyrchu ac anfon unrhyw ohebiaeth ddilynol lle y bo angen
Rydym wedi llunio templedi ar gyfer pob un o'r mathau gwahanol o ohebiaeth ganfasio wedi'i hargraffu, y mae'n ofynnol i chi ddefnyddio rhai ohonynt. Cewch ragor o wybodaeth am y templedi ar gyfer gohebiaeth a sut i'w defnyddio yn ein canllawiau ar ffurflenni a llythyrau.
Ar ôl i chi gymeradwyo'r templedi o'r proflenni, dylech anfon data prawf er mwyn sicrhau bod meysydd data yn ymddangos yn gywir. Mae ein canllawiau diogelu data ar gyfer Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn pwysleisio pa mor bwysig yw sicrhau bod gennych broses gwirio proflenni gadarn ar waith wrth weithio gyda phrosesydd er mwyn nodi unrhyw wallau ac osgoi achosion o dorri diogelwch data cyn iddynt ddigwydd.
Os ydych yn bwriadu defnyddio'r Post Brenhinol neu wasanaethau dosbarthu eraill, dylech ystyried yr opsiynau dosbarthu y maent yn eu cynnig ac unrhyw ostyngiadau yn seiliedig ar y mathau o ohebiaeth wedi'i hargraffu a faint o eitemau o ohebiaeth rydych yn bwriadu eu hanfon er mwyn penderfynu pa opsiwn a fydd yn diwallu eich anghenion orau.
Sut y dylwn benderfynu pa ddulliau ymateb y byddaf yn eu cynnig i etholwyr yn ystod y canfasiad
Bydd angen i chi benderfynu pa ddulliau ymateb y byddwch yn eu cynnig i etholwyr. Gall y rhain amrywio ar gyfer y gwahanol lwybrau canfasio a'r gwahanol gamau cysylltu o fewn llwybrau, a dylid eu hystyried ochr yn ochr â'r dulliau cysylltu allan rydych yn bwriadu eu defnyddio.
Mae sianeli ymateb posibl yn cynnwys:
- Gwefan
- Cyfeiriad e-bost
- SMS
- Post
- Rhif
- Yn bersonol
Dylech sicrhau bod eich dulliau ymateb dewisol wedi'u cynllunio i fodloni disgwyliadau etholwyr a'u galluogi i ymateb mor hawdd â phosibl lle y bo angen. Er enghraifft, os byddwch yn cysylltu â rhai etholwyr drwy e-bost, mae'n bosibl y byddant yn disgwyl gallu ymateb ar-lein, megis drwy neges-ebost ddychwelyd, yn hytrach na thrwy sianel wahanol.
Gallech hefyd ystyried demograffeg eich ardal leol er mwyn helpu i lywio eich penderfyniadau. Er enghraifft, os gwyddoch fod gennych boblogaeth uchel o bobl hŷn, ardaloedd â mynediad cyfyngedig i'r rhyngrwyd neu ardaloedd â lefelau uchel o amddifadedd economaidd-gymdeithasol, bydd angen i chi ystyried pa ddulliau ymateb a fyddai fwyaf priodol i ddiwallu anghenion eich etholwyr.
Os penderfynwch ddefnyddio gwasanaethau ymateb awtomataidd – a fyddai, fel arfer, yn cynnwys defnyddio codau diogelwch i fewngofnodi i wefan neu ymateb gan ddefnyddio gwasanaeth ymateb ffôn neu SMS awtomataidd – bydd angen i chi benderfynu a ddylid rheoli hyn yn fewnol neu roi'r gwaith ar gontract i gyflenwr allanol.
Os ydych yn defnyddio cyflenwr allanol, bydd angen i chi sicrhau y bydd yn gallu bodloni eich gofynion cyn cytuno ar y broses ar gyfer sefydlu'r gwasanaeth, cwblhau contractau ac adlewyrchu eich penderfyniadau yn eich cynlluniau canfasio. Mae'n rhaid i unrhyw un a fydd yn prosesu data personol i'w defnyddio gyda gwasanaethau ymateb gydymffurfio â gofynion deddfwriaeth diogelu data.
Cynllunio adnoddau staff i gynnal y canfasiad blynyddol
Fel rhan o'ch cynlluniau bydd angen i chi feddwl am y staff sydd eu hangen arnoch i gynnal y canfasiad.
Mae'r adran hon yn cynnwys canllawiau ar sut i nodi pa staff fydd eu hangen arnoch a chynllunio i gynnal unrhyw hyfforddiant sydd ei angen.
Sut ydw i'n cynllunio fy ngofynion staffio ar gyfer y canfasiad?
Mae gan y cyngor sydd wedi'ch penodi'n Swyddog Cofrestru Etholiadol rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu'r staff sydd eu hangen arnoch i gyflawni eich dyletswyddau statudol.1
Bydd y penderfyniadau rydych wedi'u gwneud ynghylch eich dull o gynnal y canfasiad yn effeithio ar nifer y staff y gall fod eu hangen arnoch. Bydd angen i chi ystyried sut y byddwch yn darparu adnoddau ar gyfer y canlynol:
Rheoli'r ymarfer paru data lleol
Os byddwch yn cynnal ymarfer paru data lleol, mae'n bosibl y bydd graddau ac amseriad yr ymarfer hwn yn effeithio ar faint o amser staff y bydd ei angen arnoch. Bydd hefyd angen i chi ystyried unrhyw waith ychwanegol sydd angen ei wneud i drosi'r data i fformat y gellir ei ddefnyddio at ddibenion paru data.
Dadansoddi canlyniadau'r ymarfer paru data
Os byddwch yn cynnal ymarfer paru data lleol, dylech ystyried yr adnoddau staff sydd eu hangen i wneud penderfyniadau lle mae canlyniadau ymarferion paru data cenedlaethol a lleol yn groes i'w gilydd. Bydd hefyd angen i chi ystyried yr amser staff sydd ei angen ar gyfer y cam neilltuo eiddo.
Ymdrin â chwestiynau gan y cyhoedd am y broses ganfasio
Nodwch y lefelau staffio sydd eu hangen drwy ystyried amseriadau eich gweithgarwch canfasio ar gyfer pob un o'r gwahanol lwybrau a nodi'r cyfnodau ymateb brig tebygol. Bydd eich penderfyniad ynghylch a gaiff yr ymholiadau hyn eu rheoli gan ganolfan gyswllt neu'r tîm gwasanaethau etholiadol hefyd yn effeithio ar faint o staff sydd eu hangen.
Prosesu ymatebion
Bydd angen i chi ystyried y staff sydd eu hangen i reoli sawl sianel ymateb, ymdrin ag unrhyw ymatebion croes ac ymgymryd ag unrhyw weithgarwch cofrestru ychwanegol sydd ei angen, er enghraifft anfon gwahoddiadau i gofrestru (ITRs), cynnal adolygiadau a dileu eitemau.
Dosbarthu gohebiaeth â llaw (os byddwch yn gwneud hynny)
Os byddwch yn dosbarthu gohebiaeth ganfasio â llaw, bydd angen i chi ystyried daearyddiaeth a maint yr ardaloedd canfasio. Gall ardaloedd canfasio amrywio o ran maint er mwyn sicrhau'r cyfraddau ymateb uchaf posibl i'r canfasiad, gan eich galluogi i ystyried daearyddiaeth a demograffeg amrywiol gwahanol rannau o'ch ardal gofrestru. Er enghraifft, efallai y byddwch am neilltuo llai o eiddo dros ardaloedd daearyddol mwy o faint, megis lleoliadau gwledig. Bydd yr adnoddau staff sydd ar gael hefyd yn effeithio ar faint ardaloedd canfasio, po fwyaf o staff sydd gennych, y lleiaf fydd eich ardaloedd canfasio, o bosibl.
Efallai y byddwch am adolygu eich ardaloedd canfasio ar ôl i chi neilltuo eiddo i lwybrau canfasio er mwyn sicrhau bod gan ganfaswyr ddigon o amser i gysylltu â'r holl eiddo/unigolion nad ydynt wedi ymateb yn seiliedig ar nifer yr eiddo Llwybr 2 yn yr ardal honno.
Bydd hefyd angen i chi ystyried y nifer debygol o eitemau o ohebiaeth ganfasio rydych yn bwriadu eu dosbarthu â llaw. Er enghraifft, a fyddwch yn dosbarthu rhai o'r eitemau o ohebiaeth ganfasio neu bob un ohonynt â llaw ac ar ba gam ar gyfer pob llwybr?
Bydd hefyd angen i chi ystyried yr effaith ar y gofynion o ran adnoddau staff os byddwch yn cyfuno dosbarthu gohebiaeth â llaw ag ymweliad â'r eiddo.
Cyswllt personol dros y ffôn neu drwy ymweld ag eiddo
Bydd y penderfyniadau rydych wedi'u gwneud ynghylch sut y byddwch yn bodloni'r gofynion o ran cyswllt personol ar gyfer eiddo Llwybr 2 yn effeithio ar faint ardaloedd canfasio a'r adnoddau staff y bydd eu hangen arnoch er mwyn sicrhau bod eich gweithgarwch canfasio personol mor effeithiol â phosibl.
Er enghraifft:
- bydd y cam yn y canfasiad pan wneir cyswllt personol yn effeithio ar nifer yr eiddo y bydd angen cysylltu â nhw. Po fwyaf o eiddo y bydd angen cysylltu'n bersonol â nhw, y lleiaf fydd yr ardal ganfasio, o bosibl
- bydd nifer y staff sy'n ceisio gwneud cyswllt personol drwy ymweld ag eiddo neu dros y ffôn yn effeithio ar faint yr ardal ganfasio
- os gwneir cyswllt personol dros y ffôn a fydd hynny yn cael ei wneud gan eich tîm gwasanaethau etholiadol neu ganolfan gyswllt
- gall maint yr ardal ganfasio ddibynnu ar sawl ymgais y byddwch yn ei wneud i gysylltu'n bersonol ag eiddo. Po fwyaf o weithiau rydych yn bwriadu ceisio cysylltu, y lleiaf fydd yr ardal ganfasio, o bosibl
- os byddwch yn cyfuno unrhyw waith dilynol ar wahoddiadau i gofrestru ar gyfer unigolion mewn eiddo ag unrhyw ymgais i wneud cyswllt personol, mae'n bosibl y byddwch yn gallu pennu ardal ganfasio lai o faint
Bydd hefyd angen i chi adolygu eich cronfa ddata bresennol o staff canfasio. Dylech adolygu perfformiad canfaswyr sydd wedi gweithio ar eich canfasiad o'r blaen ac ni ddylid defnyddio unrhyw rai nad oedd eu perfformiad yn y gorffennol yn foddhaol eto. Wedyn, dylech gysylltu â'r rhai rydych am eu gwahodd i weithio ar y canfasiad eto gan gofio ei bod yn bosibl na fydd canfaswyr presennol neu brofiadol ar gael ac y bydd angen i chi gynnal ymarfer recriwtio er mwyn nodi a dewis canfaswyr newydd.
Os bydd angen i chi recriwtio staff i weithio ar unrhyw ran o'r broses o gynnal y canfasiad, bydd angen i chi ystyried faint o amser sydd ei angen i recriwtio a chynllunio yn unol â hynny. Dylech gysylltu â'ch cyswllt yn yr Adran Adnoddau Dynol er mwyn sicrhau ei fod yn ymwybodol o'ch gofynion ac y gall roi'r cymorth angenrheidiol i chi. Bydd hefyd angen i chi sicrhau bod eich cynlluniau recriwtio yn cael eu hadlewyrchu'n llawn yn eich cynllun canfasio
- 1. Adran 52(4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Pa hyfforddiant y mae angen i mi ei ddarparu i staff sy'n gweithio ar y canfasiad?
Mae eich dyletswydd i gynnal y cofrestrau o etholwyr yn cynnwys darparu hyfforddiant i'r holl staff rydych wedi'u penodi i helpu i gynnal y canfasiad.1
Dylech adolygu anghenion hyfforddi staff parhaol a staff dros dro, gan gynnwys canfaswyr. Mae'n bwysig bod pob aelod o staff yn deall ei rôl benodol ac unrhyw rwymedigaethau statudol sy'n gysylltiedig â'r gwaith a wna. Yn ogystal â hyfforddiant ar y gofynion deddfwriaethol a'r cyfrifoldebau sy'n berthnasol i'w rôl, mae'n bwysig bod y staff yn cael hyfforddiant ar sicrhau mynediad cyfartal, trin data a gofal cwsmeriaid da.
Er mwyn ymgorffori egwyddorion diogelu data yn eich gwaith a dangos eich bod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth, bydd angen i chi sicrhau bod pob aelod o'r staff, gan gynnwys canfaswyr, yn cael hyfforddiant ar drin data personol. Dylech drafod unrhyw hyfforddiant diogelu data gyda'ch Swyddog Diogelu Data.
Bydd hefyd angen darparu hyfforddiant priodol i'r holl staff rheng flaen er mwyn adlewyrchu'r ffaith y gellir cynnwys pobl ifanc 14-15 oed ar y gofrestr llywodraeth leol fel cyrhaeddwyr. Er enghraifft, bydd angen i staff gael hyfforddiant a chanllawiau at sut i drin a storio data personol pobl ifanc 14-15 oed. Dylai eich systemau gael eu sefydllu mewn ffordd sy'n sicrhau mai dim ond at y dibenion cyfyngedig a nodir mewn deddfwriaeth y defnyddir data pobl ifanc 14-15 oed.2
Os byddwch yn nodi bod angen hyfforddiant, bydd angen i chi wneud trefniadau ar gyfer ei ddarparu ac adlewyrchu hyn yn eich cynlluniau canfasio.
Mae'n bosibl y bydd gennych strwythurau ar gyfer cynnal sesiynau hyfforddi a deunyddiau ar gyfer eu cyfllliniauwyno eisoes, y gallwch eu hadolygu a'u mireinio er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn briodol.
Os oes gennych bersonél hyfforddi yn eich cyngor, efallai y byddant yn gallu eich helpu gyda'r broses hon.
Pa hyfforddiant sydd ei angen ar staff sy'n ymdrin ag ymholiadau ynglŷn â'r canfasiad?
Bydd angen i chi nodi sut y byddwch yn cefnogi staff sy'n delio'n uniongyrchol â'r cyhoedd dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, p'un a ydynt yn y swyddfa, yn gwneud ymweliadau personol neu'n gweithio mewn unrhyw ganolfannau cyswllt neu ganolfannau rheoli galwadau.
Bydd angen i staff ddeall y gwahaniaethau rhwng y gwahanol ddulliau canfasio a gallu gwneud y canlynol:
- cynnig cyngor ar b'un a oes angen ymateb ai peidio
- annog ymateb llwyddiannus i'r ohebiaeth ganfasio fel sy'n ofynnol wrth siarad â rhywun dros y ffôn
- rhoi cyngor ar gofrestru i bleidleisio, yr opsiynau sydd ar gael i wneud cais i gofrestru a, lle y bo'n briodol, helpu gyda'r broses gofrestru
- defnyddio gwybodaeth i ymdrin ag amgylchiadau unigol person
- gallu nodi cwestiynau ansafonol a'u cyfeirio at staff sydd â gwybodaeth fanylach am gofrestru yn ôl yr angen
Er mwyn cefnogi staff rheng flaen rydym wedi llunio dogfen cwestiynau cyffredin sy'n ymdrin ag amrywiaeth o ymholiadau a all godi ynglŷn â chofrestru etholiadol.
Gallwch addasu'r ddogfen hon er mwyn adlewyrchu eich dull lleol o gynnal y canfasiad.
Cynllunio hyfforddiant i ganfaswyr
Bydd angen i chi sicrhau bod eich canfaswyr wedi'u hyfforddi i wneud y gwaith y maent wedi cael eu penodi i'w wneud. Efallai y bydd angen i chi ddarparu gwahanol fathau o sesiynau hyfforddi yn dibynnu ar sut rydych yn bwriadu eu defnyddio. Er enghraifft, efallai y bydd yr hyfforddiant sydd ei angen ar y rhai sy'n cynnal ymweliadau o dŷ i dŷ yn wahanol i'r hyfforddiant sydd ei angen ar ganfaswyr sy'n cysylltu ag unigolion dros y ffôn.
Mae'n rhaid i bob canfasiwr gael hyfforddiant diogelu data priodol a chael hyfforddiant ar sut i gadw unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir gan etholwyr yn ddiogel.
Ceir rhagor o wybodaeth am recriwtio a hyfforddi canfaswyr yn ein Rhestr wirio ar gyfer recriwtio a hyfforddi canfaswyr.
Ceir adnoddau i helpu i reoli a briffio canfaswyr ar ein gwefan.
- 1. Adran 9A o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 24 o Ddeddf y Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 ↩ Back to content at footnote 2
Beth mae angen i mi ei ystyried wrth gynllunio ar gyfer cyhoeddi'r gofrestr ddiwygiedig yn dilyn y canfasiad?
Wrth gynllunio amserlen eich canfasiad, bydd angen i chi ystyried y gofyniad i gyhoeddi eich cofrestr ddiwygiedig erbyn 1 Rhagfyr, oni fydd etholiad wedi'i gynnal yn ystod y canfasiad pan allwch ohirio ei chyhoeddi tan 1 Chwefror.1
Drwy gyhoeddi'r gofrestr ar 1 Rhagfyr byddwch yn rhoi cymaint o amser â phosibl i geisiadau i gofrestru gael eu derbyn mewn da bryd fel y gellir penderfynu arnynt a'u cynnwys ar y gofrestr ddiwygiedig.
Os bydd 1 Rhagfyr ar benwythnos yn hytrach na diwrnod gwaith, efallai y bydd materion ymarferol penodol y bydd angen i chi ymdrin â nhw er mwyn sicrhau eich bod yn gallu cyhoeddi o hyd. Er enghraifft, fel rhan o'ch gwaith cynllunio byddai angen i chi ystyried y gofynion posibl o ran adnoddau sy'n gysylltiedig â gweithio ar benwythnos, megis agor adeiladau swyddfeydd, trefniadau staffio ac argaeledd cymorth TG os bydd ei angen.
Dylech gofio na fydd angen cwblhau pob rhan o'ch gweithgarwch canfasio erbyn 1 Rhagfyr, ni waeth pryd y byddwch yn cyhoeddi eich cofrestr ddiwygiedig; gallwch ymgymryd ag unrhyw gamau sy'n weddill fel rhan o'ch gweithgarwch cofrestru etholiadol drwy gydol y flwyddyn.
Os byddwch yn penderfynu cyhoeddi ar ddyddiad ym mis Tachwedd yn lle ar 1 Rhagfyr, am ba reswm bynnag, bydd angen i chi ystyried yr effaith y bydd y terfynau amser cynharach ar gyfer derbyn ceisiadau mewn da bryd er mwyn penderfynu arnynt a'u cynnwys ar y gofrestr ddiwygiedig, yn ei chael ar eich cynlluniau o ran y canfasiad. Mae cyhoeddi'r gofrestr ddiwygiedig ym mis Tachwedd yn golygu na fyddai rhai unigolion sy'n gwneud cais llwyddiannus i gofrestru o ddiwedd mis Hydref ymlaen, yn cael eu hychwanegu at y gofrestr tan hysbysiad newid mis Ionawr, oni chânt eu hychwanegu gan unrhyw hysbysiad newid etholiad.
- 1. Adran 13(1) ac (1A) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Paru data ar gyfer y canfasiad blynyddol
Paru data ar gyfer y canfasiad blynyddol
Mae'r rhan hon o'r canllawiau yn sôn am yr hyn sydd angen i chi ei wybod am y cam paru data cenedlaethol gan gynnwys beth ydyw, pa data mae angen i chi eu cynnwys a'u hepgor, sut a phryd i anfon eich data a sut i brosesu'r canlyniadau a phennu eiddo ar gyfer llwybrau canfasio
Beth yw'r cam paru data cenedlaethol?
Beth yw'r cam paru data cenedlaethol?
Bob blwyddyn, cyn cynnal y canfasiad blynyddol, rhaid i chi ddatgelu data i Weinidog Adran Lefelu i Fyny, Tai a Chymunedau fel rhan o ymarfer paru data cenedlaethol a elwir yn gam paru data cenedlaethol.1
Mae'r cam paru data cenedlaethol yn cynnwys gwirio gwybodaeth am etholwyr presennol ar eich cofrestr - eu henw, cyfeiriad gan gynnwys yr UPRN lle mae'n gymwys a, lle y bo'n hysbys, ddyddiad geni, yn erbyn data sydd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Diben yr ymarfer yw eich helpu i nodi eiddo lle gall y preswylwyr fod wedi newid. Yna dylai'r wybodaeth hon gael ei defnyddio i bennu'r llwybr y byddwch yn ei ddilyn i ganfasio pob eiddo.
- 1. Rheoliad 32ZBB, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Pa ddata y mae angen i mi eu hanfon?
Pa ddata y mae angen i mi eu hanfon?
Rhaid i'r data rydych yn eu hanfon ar gyfer y cam paru data cenedlaethol mewn perthynas â phawb sy'n 16 oed neu drosodd sy'n ymddangos ar gofrestrau seneddol a llywodraeth leol gynnwys y canlynol:1
- yr enw llawn yn cynnwys unrhyw enw(au) canol neu blaenlythrennau a all fod gennych
- y dyddiad geni (lle bo ar gael)
- y cyfeiriad llawn, gan gynnwys cod post
- Rhif Cyfeirnod Eiddo Unigryw (UPRN) (lle bo ar gael)
- unrhyw wybodaeth arall sydd gennych am gofnod person ar y gofrestr, os bydd y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn nodi gwybodaeth o'r fath yn ysgrifenedig (er enghraifft, cyfenw blaenorol). Gall y wybodaeth ychwanegol hon wella'r tebygolrwydd o baru data oherwydd gall y wybodaeth sydd gennych ddangos bod cysylltiad rhwng y data a gedwir yn genedlaethol a'ch data chi.
Ni chaiff pobl ifanc 14 a 15 oed eu cynnwys yn y cam paru data cenedlaethol am nad yw DWP yn cadw eu manylion.
- 1. Rheoliad 32ZBB(9), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Pwy na fydd wedi'i gynnwys yn y cam paru data cenedlaethol?
Pwy na fydd wedi'i gynnwys yn y cam paru data cenedlaethol?
Rhaid i rai mathau penodol o etholwyr gael eu gadael allan o'r cam paru data cenedlaethol. Dyma nhw:1
- pobl ifanc 14 a 15 oed
- pob etholwr categori arbennig
Hefyd, ni ddylech gynnwys yr etholwyr na'r eiddo canlynol yn y cam paru data cenedlaethol:
- Etholwyr a bennwyd – unigolion y mae eu cais wedi'i bennu ac a ychwanegir at y gofrestr erbyn yr hysbysiad o newid nesaf. Dim ond newydd gael eu hychwanegu at y gofrestr fydd yr etholwyr hyn felly ystyrir eu bod wedi'u paru fel mater o drefn.
- Hepgoriadau a bennwyd – unigolion rydych wedi pennu na allant gael eu cofrestru mwyach ac a gaiff eu tynnu o'r gofrestr erbyn yr hysbysiad o newid nesaf.
- Eiddo gwag neu segur – gan nad oes unrhyw etholwyr wedi'u cofrestru yn yr eiddo hyn, nid oes unrhyw unigolion i'w paru â data DWP fel rhan o'r cam paru data cenedlaethol
Etholwyr categori arbennig
Ni ddylai'r etholwyr categori arbennig canlynol gael eu cynnwys yn y cam paru data cenedlaethol, am nad ydynt wedi'u cynnwys yn y canfasiad blynyddol:2
- etholwyr o dramor, h.y. dinasyddion Prydeinig sy'n byw y tu allan i'r DU
- Pleidleiswyr o'r Lluoedd Arfog (a phriod neu bartner sifil a'r rhai o dan 18 oed sy'n byw gyda'u rhiant neu warcheidwad a bod eu rhiant neu warcheidwad yn aelod o Luoedd Arfog EM)
- Gweision y Goron ac aelodau o staff y British Council (a phriod neu bartner sifil a'r rhai o dan 18 oed sy'n byw gyda'u rhiant neu warcheidwad, a bod eu rhiant neu warcheidwad yn un o weision y Goron neu'n un o aelodau o staff y British Council, ac y byddent yn byw yng Nghymru os na fyddai eu rhiant neu warcheidwad yn byw dramor)
- etholwyr sydd wedi datgan cysylltiad lleol, gan gynnwys pobl sy'n byw yn y DU nad oes ganddynt gyfeiriad parhaol na sefydlog
- etholwyr sydd wedi cofrestru'n ddienw, h.y. y rhai sydd wedi cofrestru'n ddienw oherwydd y byddent yn poeni am eu diogelwch petai eu henw yn ymddangos ar y gofrestr
- cleifion mewn ysbytai iechyd meddwl sydd yno'n ddigon hir i'w hystyried yn breswylwyr
- carcharorion ar remand mewn sefydliad cosbi sydd yno'n ddigon hir i'w hystyried yn breswylwyr
- 1. Rheoliad 32ZBB(8), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 32ZBB(8), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
A ddylai ychwanegiadau diweddar gael eu gadael allan o'r cam paru data cenedlaethol?
A ddylai ychwanegiadau diweddar gael eu gadael allan o'r cam paru data cenedlaethol?
Cewch benderfynu a ddylid hepgor rhai o'ch ychwanegiadau diweddar, os nad pob un, o'r cam paru data cenedlaethol.1
Ychwanegiadau diweddar yw etholwyr sydd wedi gwneud cais llwyddiannus i'w cofrestru ac sydd wedi cael eu hychwanegu at y gofrestr etholwyr o fewn y 90 diwrnod diwethaf.
Penderfynu ar eich trothwy ychwanegiadau diweddar
Cyn i'r cam paru data cenedlaethol ddechrau, dylech benderfynu ar drothwy ychwanegiadau diweddar at y gofrestr i'w cynnwys yn y cam paru data cenedlaethol.2
Pan gaiff data eu lanlwytho ar gyfer y cam paru data cenedlaethol, ni chaiff unrhyw ychwanegiadau diweddar at y gofrestr cyn y dyddiad trothwy a bennwyd gennych eu cynnwys yn y cam paru data, a nodir yn awtomatig eu bod wedi'u paru o fewn ein System Rheoli Etholiad.
- Os byddwch yn pennu trothwy o 0 diwrnod, caiff pob ychwanegiad diweddar ei gynnwys yn y cam paru data cenedlaethol.
- Os byddwch yn pennu trothwy o 90 diwrnod, ni chaiff ychwanegiadau diweddar a wnaed o fewn y 90 diwrnod diwethaf eu cynnwys yn y cam paru data cenedlaethol, a nodir yn awtomatig eu bod wedi'u paru yn eich System Rheoli Etholiad.
- Os byddwch yn pennu trothwy sydd rhwng 0 a 90 diwrnod, ni chaiff ychwanegiadau diweddar at y gofrestr o fewn eich terfyn amser eu cynnwys yn y cam paru data cenedlaethol. Er enghraifft, os byddwch yn pennu trothwy o 45 diwrnod, ni chaiff ychwanegiadau diweddar at y gofrestr o fewn y 45 diwrnod diwethaf eu cynnwys yn y cam paru data cenedlaethol, a nodir yn awtomatig eu bod wedi'u paru yn eich System Rheoli Etholiad.
Gallai eich penderfyniad i gynnwys neu hepgor ychwanegiadau diweddar o ran y cam paru data cenedlaethol effeithio ar y canlyniadau paru data. Yn ei dro, gall hyn ddylanwadu ar y llwybr canfasio y byddwch yn ei ddewis ar gyfer pob eiddo.
Efallai y bydd y cwestiynau isod yn eich helpu i benderfynu a ddylid hepgor rhai o'ch ychwanegiadau diweddar, os nad pob un, o'r cam paru data cenedlaethol.
Cwestiynau | Effaith ar eich penderfyniad |
---|---|
Pa mor sefydlog yw'ch etholaeth? Oes cryn fynd a dod o fewn eich ardal etholiadol? | Os oes cryn fynd a dod yn eich ardal, mae mwy o risg y gall rhywun wneud cais llwyddiannus i gofrestru i bleidleisio, ond yna symud eto mewn fawr ddim amser. Os felly, gallech ystyried pennu trothwy is a all helpu i nodi newidiadau'n well mewn ardaloedd lle mae etholwyr yn symud yn amlach. |
Ydych chi wedi edrych ar setiau data lleol i gadarnhau nad oes unrhyw newidiadau eraill yn gymwys i wybodaeth sydd gennych am eiddo lle nodwyd ychwanegiadau diweddar? | Os ydych wedi cynnal gwiriadau fel rhan o'r gwaith o gynnal y gofrestr drwy gydol y flwyddyn, gallech ystyried pennu trothwy uwch. Gallech fod yn fwy tebygol o fod wedi nodi a rheoli newidiadau diweddar, ac felly efallai y bydd eich data lleol yn fwy cyfredol na chofnodion DWP. |
Oes gennych chi brosesau ar waith i nodi etholwyr yn rheolaidd ac yna dynnu enwau etholwyr sydd eisoes wedi'u cofrestru o eiddo os ydynt wedi symud allan? | Os felly, gallech ystyried pennu trothwy uwch, oherwydd rydych yn fwy tebygol o fod wedi gwneud newidiadau diweddar ac felly efallai y bydd eich data lleol yn fwy cyfredol na chofnodion DWP. |
A fu'n rhaid i chi brosesu cyfran uchel o newidiadau yn ystod canfasiadau blaenorol? | Os felly, gallech ystyried pennu trothwy is gan fod eich profiad diweddar yn awgrymu eich bod yn llai tebygol o fod wedi nodi'r holl newidiadau gofynnol y tu allan i'r cyfnod canfasio. |
Mae taflen gymorth isod Adran y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn darparu rhagor o wybodaeth ac arweiniad i'ch helpu i bennu eich trothwy.
Dylech adolygu effaith y trothwy rydych yn ei bennu ar ôl pob canfasiad er mwyn nodi ei effeithiolrwydd, a sicrhau bod unrhyw wersi a ddysgwyd yn bwydo i mewn i gynllunio canfasiadau dilynol.
- 1. Rheoliad 32ZBB(7)(a), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 32ZBB(7)(a), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
Pryd mae angen i mi anfon fy nata?
Pryd mae angen i mi anfon fy nata?
Wrth gynllunio ar gyfer y canfasiad, dylech eisoes fod wedi ystyried pryd rydych am gynnal y cam paru data cenedlaethol.
Caiff y broses paru data ei rheoli gan Adran y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol bydd yn digwydd fesul cam oherwydd yr holl gofnodion y mae angen eu prosesu.
Mae Adran y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi nodi y bydd adnodd ar gael i chi ei ddefnyddio i drefnu dyddiad lanlwytho data. Nodwch fod uchafswm nifer o gofnodion y gellir eu prosesu bob dydd, felly os bydd yr uchafswm hwnnw wedi'i gyrraedd ar ddyddiad penodol, ni fydd modd i chi gadw'r dyddiad hwnnw drwy'r adnodd.
Pan fyddwch wedi trefnu dyddiad drwy'r adnodd, byddwch yn cael e-bost gan Adran y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol cadarnhau eich bod wedi cadw eich dyddiad yn llwyddiannus.
Bydd Adran y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn rhoi cyfarwyddiadau i chi ar bryd i lanlwytho eich cofrestr i DWP drwy eich System Rheoli Etholiad. Bydd cyflenwr eich system yn rhoi cyfarwyddiadau i chi ar sut i lanlwytho eich data.
Pan fyddwch wedi cadarnhau'r dyddiad ar gyfer lanlwytho eich data, byddwch yn gallu cadarnhau gweddill eich cynlluniau ar gyfer cynnal y canfasiad, gan gynnwys trafod â'ch cyflenwyr argraffu.
Defnyddio canlyniadau paru data cenedlaethol a lleol
Defnyddio canlyniadau paru data cenedlaethol a lleol
Gallwch ddilyn cam paru data lleol cyn y cam paru data cenedlaethol, ar ôl i chi gael canlyniadau'r cam paru data cenedlaethol, neu'r ddau.
Mae cynllunio ar gyfer paru data yn cynnwys canllawiau ar sut i nodi a defnyddio data lleol.
Beth gaiff ei gynnwys yn y canlyniadau paru data cenedlaethol?
Beth gaiff ei gynnwys yn y canlyniadau paru data cenedlaethol?
Dylech gael eich canlyniadau o fewn 5 diwrnod gwaith i gyflwyno'r data.
Byddwch yn cael eich canlyniadau drwy eich System Rheoli Etholiad. Bydd cyflenwr eich system yn rhoi cyfarwyddiadau i chi ar sut y bydd hyn yn gweithio.
Bydd pob etholwr yr anfonir ei ddata i'w paru'n genedlaethol yn cael canlyniad paru neu ddim paru. Ni fydd y canlyniadau yn cynnwys y rheswm dros fethu â pharu. Yna bydd eich System Rheoli Etholiad yn crynhoi'r rhain yn ganlyniad ar gyfer pob eiddo.
Beth ydw i'n ei wneud â chanlyniadau paru data?
Beth ydw i'n ei wneud â chanlyniadau paru data?
Bydd y canlyniadau paru data yn eich helpu i benderfynu a yw'r eiddo yn gyffredinol wedi'i baru neu heb ei baru ac mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r wybodaeth hon i'ch helpu i neilltuo'r eiddo hwnnw i'r llwybr canfasio priodol.1
- Eiddo a berir - Ystyrir bod eiddo wedi'i baru pan fydd canlyniad paru ar gyfer pob etholwr mewn eiddo, drwy ddata cenedlaethol a/neu leol. Gellir hefyd ystyried bod eiddo wedi'i baru lle byddwch wedi gwneud gwaith paru data lleol ac wedi cadarnhau bod yr eiddo yn wag.
- Eiddo nas perir - Ystyrir nad yw eiddo wedi'i baru lle na allwch baru rhai o'r etholwyr neu bob un o'r etholwyr mewn cartref drwy ymarfer paru data lleol a/neu genedlaethol.
Gall canlyniadau paru data cenedlaethol a lleol fod yn berthnasol wrth bennu'r llwybr canfasio priodol. Er enghraifft, gallech:
- Dderbyn canlyniad paru o ymarfer paru data cenedlaethol neu leol
- Anwybyddu canlyniad paru o ymarfer paru data cenedlaethol lle rydych yn fodlon bod gwybodaeth paru data leol yn fwy cywir - efallai y byddwch o'r farn bod eich ffynhonnell data lleol yn cynnwys gwybodaeth fwy cyfredol
- Anwybyddu canlyniad o ymarfer paru data lleol os credwch fod yr ymarfer paru data cenedlaethol yn fwy cywir
Pa gamau y gallaf eu cymryd pan na fydd unigolyn wedi'i baru?
Ni allwch anwybyddu'r canlyniadau lle bydd data cenedlaethol a lleol yn dangos bod o leiaf un etholwr yn yr eiddo heb ei baru.
Fodd bynnag, gallech ystyried defnyddio ffynonellau data lleol eraill rydych yn ymddiried ynddynt i fod yn gywir er mwyn ceisio paru'r etholwr cyn dyrannu'r eiddo hwnnw.
Os gallwch baru unigolyn gan ddefnyddio ffynonellau data lleol eraill, gallwch wedyn fodloni'ch hun fod yr eiddo cyfan wedi'i baru a gallech ei ganfasio drwy Lwybr 1 - y llwybr eiddo wedi'i baru.
Os na fydd data lleol ychwanegol ar gael, neu os na lwyddir i baru'r etholwr gan ddefnyddio data lleol ychwanegol, dylech ganfasio'r eiddo drwy Lwybr 2 – y llwybr eiddo heb ei baru - oherwydd ni allwch fodloni'ch hun nad oes unrhyw newidiadau i'w nodi ar gyfer yr eiddo hwnnw.
- 1. Rheoliad 32ZBA(2), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Beth arall y gallaf ei ystyried er mwyn fy helpu i benderfynu sut i ddyrannu eiddo i lwybrau canfasio?
Beth arall y gallaf ei ystyried er mwyn fy helpu i benderfynu sut i ddyrannu eiddo i lwybrau canfasio?
Dylech ystyried a oes gennych unrhyw wybodaeth arall, naill ai'n ysgrifenedig neu'n electronig,1 y gallech ei gwirio ar ôl i'r canlyniadau paru data ddod i law i'ch helpu i benderfynu ar y llwybr i'w ddefnyddio ar gyfer pob eiddo.
Etholwyr posibl sydd ar eich System Rheoli Etholiad:
Beth yw'r wybodaeth hon a pham ei bod hi'n ddefnyddiol? | Nid yw etholwyr posibl yn etholwyr cofrestredig ond, yn hytrach, maent yn unigolion sydd wedi'u cofnodi yn eich System Rheoli Etholiad, o ganlyniad i broses cloddio data leol neu ffurflen ganfasio a ddychwelwyd yn ôl pob tebyg, a all fod yn gymwys ond nad ydynt wedi cofrestru i bleidleisio yn y cyfeiriad eto. Mae'r wybodaeth hon yn ddefnyddiol am y gall awgrymu bod angen gwneud newidiadau i'r gofrestr ar gyfer yr eiddo hwnnw, am y gallai unigolion nad ydynt wedi gwneud cais llwyddiannus i gofrestru eto fod yn byw yno. Gall etholwyr posibl mewn cyfeiriad hefyd ddynodi bod angen cofnodi newidiadau ychwanegol ar gyfer yr unigolion hynny sydd wedi'u cofrestru yn yr eiddo ar hyn o bryd. |
---|---|
Pa gamau y gallwn i eu cymryd? | Edrychwch ar ddata lleol er mwyn ceisio cadarnhau a yw'r unigolion hyn i'w gweld yn byw yn yr eiddo o hyd. |
Pa effaith y gallai'r wybodaeth hon ei chael ar fy mhenderfyniadau? | Os bydd data lleol yn dangos bod unigolyn yn dal i fyw yn y cyfeiriad o bosibl ond nad yw wedi'i gofrestru, y ffordd fwyaf priodol fyddai canfasio'r eiddo drwy Lwybr 2 – y llwybr eiddo heb ei baru. Os bydd data lleol yn cadarnhau nad yw unigolyn yn byw yn y cyfeiriad mwyach, gall ei enw gael ei dynnu fel etholwr posibl o'r System Rheoli Etholiad a gallai'r eiddo gael ei ganfasio drwy Lwybr 1 – y llwybr eiddo wedi'i baru os bydd pob unigolyn arall mewn eiddo wedi'i baru. |
Gwybodaeth oddi wrth SCE arall:
Beth yw'r wybodaeth hon a pham ei bod hi'n ddefnyddiol? | Gall fod gan SCEau eraill wybodaeth am unigolion sydd wedi symud i mewn i'ch ardal neu allan ohoni. |
---|---|
Pa gamau y gallwn i eu cymryd? | Edrychwch ar unrhyw wybodaeth y mae SCE arall yn ei hanfon atoch am unrhyw newidiadau posibl ychwanegol i eiddo. Os cewch wybod nad yw etholwr yn byw mewn cyfeiriad mwyach, dylech fynd ati i'w ddileu. |
Pa effaith y gallai'r wybodaeth hon ei chael ar fy mhenderfyniadau? | Os bydd gwybodaeth gan SCE arall yn dangos bod newidiadau i eiddo, dylech ystyried canfasio'r eiddo gan ddefnyddio Llwybr 2 – y llwybr eiddo heb ei baru. |
Ffynonellau eraill data'r cyngor:
Beth yw'r wybodaeth hon a pham ei bod hi'n ddefnyddiol? | Gallai data o adrannau eraill yn yr awdurdod eich helpu i nodi etholwyr posibl ychwanegol neu newidiadau eraill i eiddo. |
---|---|
Pa gamau y gallwn i eu cymryd? | Edrychwch ar yr holl ddata sydd wrth law ar gyfer y cyngor am wybodaeth am unrhyw etholwyr posibl ychwanegol neu newidiadau eraill i eiddo. |
Pa effaith y gallai'r wybodaeth hon ei chael ar fy mhenderfyniadau? | Os bydd data adrannau eraill y cyngor yn dangos bod etholwyr posibl ychwanegol neu newidiadau eraill i eiddo, dylech ystyried canfasio'r eiddo gan ddefnyddio Llwybr 2 – y llwybr eiddo heb ei baru. |
Bydd angen i chi ystyried sut i ddangos tystiolaeth o'ch penderfyniadau a'u dogfennu os bydd gwybodaeth o ffynhonnell arall, heblaw canlyniadau paru data, yn arwain at benderfyniad i newid eiddo o un llwybr i'r llall.
- 1. Rheoliad 32ZBA(8), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Processing information in connection with data matching
Prosesu gwybodaeth mewn cysylltiad â pharu data
Mae'r rhan hon o'r canllawiau yn ystyried materion diogelu data wrth baru data.
Mae rhai cyfyngiadau penodol yn gymwys i wybodaeth a roddir i Weinidog Adran y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol at ddiben yr ymarfer paru data cenedlaethol a chael gafael ar y canlyniadau o'r cam paru data cenedlaethol.
Ni ddylech ddatgelu unrhyw wybodaeth o'r cam paru data cenedlaethol am unigolyn1
i unrhyw un heblaw lle mae'n gyfrifol am benderfynu ar y llwybr canfasio mwyaf priodol neu at ddibenion unrhyw achosion sifil neu droseddol.
Fodd bynnag, mae deddfwriaeth diogelu data yn galluogi unigolion i ofyn am y wybodaeth sydd gennych amdanynt. I gael rhagor o wybodaeth am geisiadau am fynediad at ddata gan y testun, gan gynnwys sut maent yn gysylltiedig â'r cam paru data cenedlaethol, gweler ein canllawiau – Beth ddylwn i ei wneud os gofynnir i mi ddatgelu gwybodaeth o'r cam paru data cenedlaethol?
Os byddwch chi, neu unrhyw un a awdurdodwyd i weithredu ar eich rhan, yn datgelu data o'r cam paru data cenedlaethol am unrhyw reswm arall gallech chi (a nhw) gael dedfryd o garchar, dirwy neu'r ddwy.
- 1. Rheoliad 32ZBC, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Beth ddylwn i ei wneud os gofynnir i mi ddatgelu gwybodaeth o'r cam paru data cenedlaethol?
Beth ddylwn i ei wneud os gofynnir i mi ddatgelu gwybodaeth o'r cam paru data cenedlaethol?
Os cewch gais am y data o'r cam paru data cenedlaethol at ddiben unrhyw achos sifil neu droseddol, gallwch ddarparu'r data mewn amgylchiadau penodol, ond dylech gael eich cyngor cyfreithiol eich hun cyn gwneud hynny. Er mwyn i chi barhau i gydymffurfio â rheolau diogelu data, dylech gadw cofnodion o bob unigolyn a sefydliad a roddir gydag unrhyw ddata er mwyn dangos eich bod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac egwyddorion prosesu data personol, a'ch bod yn sicrhau bod y data yn cael eu prosesu mewn ffordd gyfreithlon, deg a thryloyw.
Ceisiadau am fynediad at ddata gan y testun
Mae deddfwriaeth datgelu data yn pennu y gall unigolyn wneud cais am fynediad at ddata gan y testun i weld gwybodaeth bersonol a gedwir amdano, a gallai hyn gynnwys person yn gofyn a gafodd ei baru yn ystod y canfasiad blynyddol.
Os cewch gais o'r fath, rhaid i chi gadarnhau pwy yw'r sawl sy'n gofyn cyn darparu'r data. Rhaid i wybodaeth y mae testun y data yn gofyn amdani gael ei rhoi yn ddi-oed ac yn bendant o fewn mis (er y gall hyn fod yn ddeufis o dan rai amodau).
Ceir gwybodaeth fanwl yn ein canllawiau - Ceisiadau gwrthrych am wybodaeth
A oes unrhyw ystyriaethau eraill o ran diogelu data?
A oes unrhyw ystyriaethau eraill o ran diogelu data?
Wrth brosesu gwybodaeth mewn cysylltiad â'r cam paru data cenedlaethol, rhaid i chi fodloni unrhyw ofynion a osodwyd gan Weinidog y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.1
Gall Adran y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ddarparu rhagor o ganllawiau ar unrhyw ofynion o'r fath.2
Hefyd, rhaid i unrhyw ddata a gaiff eu defnyddio neu eu prosesu mewn cysylltiad â'r cam paru data cenedlaethol gael eu storio'n ddiogel a'u prosesu yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Dylech hefyd sicrhau bod eich hysbysiadau preifatrwydd ac amserlenni cadw data yn adlewyrchu prosesu data ar gyfer y cam paru data cenedlaethol a lleol.
Mae ein canllawiau diogelu data ar gyfer Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol isod yn rhoi arweiniad mewn perthynas â hysbysiadau preifatrwydd, ynghyd â chyngor ar eich rôl fel rheolydd data a rhestr wirio er mwyn helpu i lywio cynnwys cytundebau rhannu data.
- 1. Rheoliad 32 ZBC(3) a (4) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 32ZBC(3) a (5), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
Allocating properties to canvass routes
Dyrannu eiddo i lwybrau canfasio
Pan fyddwch wedi derbyn a dadansoddi canlyniadau eich ymarferion paru data cenedlaethol a lleol (os y'u cynhelir), ac ystyried unrhyw wybodaeth berthnasol arall sydd gennych, bydd angen i chi ddyrannu eiddo i lwybrau canfasio penodol.
Mae'r adnodd isod yn rhoi disgrifiad o'r tri llwybr canfasio a'r meini prawf sy'n pennu pryd mae angen defnyddio llwybr, a phryd y gall SCE ddewis p'un ai i ddefnyddio llwybr penodol ai peidio.
Pan fyddwch yn penderfynu dyrannu eiddo i llwybr yn seiliedig ar ganlyniadau un set o ddata yn hytrach na set arall, dylech allu egluro eich proses gwneud penderfyniadau a chadw llwybr archwilio o'ch penderfyniadau.
Mae'n bwysig nodi, er y byddwch yn gallu ystyried canlyniadau paru data lefel eiddo unigol wrth ddyrannu eiddo i lwybrau, na fyddwch yn gwneud hyn o reidrwydd yn ymarferol. Dylech allu cymhwyso'r meini prawf dyrannu yn ehangach fel bod eiddo sydd â'r un canlyniadau paru data yn cael eu rheoli yn yr un ffordd ac yn cael eu neilltuo i'r llwybrau priodol i gyd gyda'i gilydd.
Llwybr 1 – y llwybr eiddo wedi'u paru
Llwybr 1 – y llwybr eiddo wedi'u paru
Pan fyddwch wedi cwblhau eich proses paru data ac wedi neilltuo eiddo i lwybrau canfasio, gallwch ddechrau cyflwyno eich cynllun canfasio.
Mae'r adran hon yn cwmpasu Llwybr 1 ac yn cynnwys canllawiau ar bryd y gallwch ddefnyddio Llwybr 1, pa ohebiaeth ganfasio y gallwch ei defnyddio ar gyfer y llwybr hwn, a sut i brosesu ymatebion.
Beth yw Llwybr 1 a phryd y gallaf ei ddefnyddio?
Beth yw Llwybr 1 a phryd y gallaf ei ddefnyddio?
Llwybr 1 yw'r llwybr eiddo wedi'u paru Gellir ei ddefnyddio i anfon gohebiaeth ganfasio i eiddo lle rydych wedi eich bodloni nad oes angen gwneud unrhyw newidiadau yn seiliedig ar ganlyniadau'r broses paru data genedlaethol ac unrhyw broses paru data leol.
Ceir dolen i'r trosolwg gweledol o Lwybr 1 isod:
Gellir canfasio eiddo gan ddefnyddio Llwybr 1 dan yr amgylchiadau canlynol:1
- Rydych wedi eich bodloni nad oes angen gwneud unrhyw newidiadau yn yr eiddo hwnnw ac nid oes gennych unrhyw reswm dros gredu bod angen ychwanegu unrhyw etholwyr ychwanegol
- Rydych wedi cynnal proses paru data leol i gadarnhau statws yr eiddo fel un gwag neu ddi-rym.
- 1. Rheoliad 32ZBA(4) a Rheoliad 32ZBE(1) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Pa ohebiaeth y dylid ei defnyddio ar gyfer eiddo Llwybr 1?
Pa ohebiaeth y dylid ei defnyddio ar gyfer eiddo Llwybr 1?
Mae gohebiaeth Llwybr 1 yn rhoi cyfle i ddeiliaid pob eiddo eich hysbysu am unrhyw newid neu wybodaeth anghywir sydd gennych ar y gofrestr etholiadol ar gyfer y cyfeiriad hwnnw.
Mae'n rhaid i chi ddosbarthu gohebiaeth i bob eiddo Llwybr 1. Mae dau opsiwn ar gael i chi ar gyfer yr ohebiaeth gyntaf:1
- E-ohebiaeth:2
- Gellir ei hanfon drwy unrhyw sianel electronig
- Os defnyddir yr opsiwn hwn, rhaid ei hanfon at bob etholwr cofrestredig 16 oed neu hŷn y mae gennych fanylion cyswllt electronig perthnasol ar ei gyfer ar yr aelwyd3
- Mae angen ymateb, hyd yn oed os nad oes angen gwneud unrhyw newid ar gyfer yr eiddo4
- Mae angen cymryd camau dilynol os na cheir ymateb o fewn cyfnod rhesymol o amser5
(h.y. os na cheir ymateb i'r e-ohebiaeth wreiddiol nac i unrhyw nodyn atgoffa gan o leiaf un person ar yr aelwyd, rhaid anfon Gohebiaeth Ganfasio A)
- Ynghylch Gohebiaeth Ganfasio A (CCA):6
- Mae'n ohebiaeth bapur ragnodedig
- Gellir ei dosbarthu â llaw neu ei hanfon drwy'r post
- Rhaid iddi gael ei hanfon os nad ydych wedi gallu defnyddio e-ohebiaeth, neu'n dewis peidio â gwneud hynny
- Rhaid iddi gael ei hanfon os na cheir ymateb i e-ohebiaeth gan unigolyn yn yr eiddo o fewn cyfnod rhesymol7
- Nid oes angen ymateb, oni bai bod angen gwneud newidiadau ar gyfer yr eiddo
- Nid oes angen unrhyw cymryd camau dilynol oni bai eich bod yn ymwybodol bod angen cymryd camau pellach mewn perthynas â newidiadau ar gyfer yr eiddo hwnnw neu fod gennych reswm dros gredu hynny
Mae'n drosedd i unrhyw unigolyn fethu â'ch hysbysu am newid, neu roi gwybodaeth anwir mewn ymateb i ohebiaeth Llwybr 1.8
- 1. Rheoliad 32ZBE(3) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 32ZBE(3)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 32ZBE(3)(b) o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) (Cymru) 2020 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 32ZBE(4) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 32ZBE(5)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheoliad 32ZBE(3)(a) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Rheoliad 32ZBE(5)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Rheoliadau 32ZBC(4) a 32ZBG(4)(e)(i) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 8
Beth yw e-ohebiaeth a phryd y gallaf ei defnyddio?
Beth yw e-ohebiaeth a phryd y gallaf ei defnyddio?
Gallai e-ohebiaeth fod yn e-bost, neges destun SMS neu fath arall o ohebiaeth electronig neu ddigidol, fel gohebiaeth drwy gyfrifon mewnol a ddefnyddir i gyfathrebu ag etholwyr am wasanaethau awdurdodau lleol eraill. Mae angen ymateb i e-ohebiaeth, hyd yn oed oes nad oes angen rhoi gwybod am unrhyw newidiadau.
Er bod yn rhaid i'r e-ohebiaeth a anfonwch hysbysu'r derbynnydd bod angen iddo ymateb, dim ond gan un derbynnydd e-ohebiaeth o fewn aelwyd y bydd angen i chi gael ymateb er mwyn bodloni'r gofyniad ymateb ar gyfer yr eiddo hwnnw.
Mae e-ohebiaeth yn rhoi cyfle i chi annog ymateb o eiddo er mwyn diweddaru'r wybodaeth sydd gennych ar y gofrestr drwy sianel amgen i'r post. Gallai hyn arwain at arbedion adnoddau.
Er mwyn defnyddio e-ohebiaeth, rhaid i chi gael y manylion cyswllt perthnasol ar gyfer o leiaf un o'r etholwyr sy'n 16 oed neu hŷn sydd wedi'u cofrestru ar yr aelwyd.1
Gallwch barhau i ddefnyddio e-ohebiaeth os mai dim ond manylion cyswllt rhai o'r etholwyr cofrestredig mewn eiddo sydd gennych ond nid pob un ohonynt, er bod yn rhaid i chi anfon e-ohebiaeth at bob etholwr dros 16 oed y mae gennych fanylion cyswllt ar ei gyfer.2
Defnyddio cymysgedd o ddulliau e-gyfathrebu
Os byddwch yn dymuno, gallwch ddefnyddio mathau gwahanol o e-ohebiaeth ar gyfer eiddo gwahanol: er enghraifft, gallech ddewis anfon cymysgedd o e-byst a negeseuon testun neu fath arall o e-ohebiaeth i eiddo gwahanol yn dibynnu ar y data cyswllt sydd gennych.
Gallwch hefyd anfon cymysgedd o e-ohebiaeth o fewn aelwyd. Fodd bynnag, nid oes gofyniad i ddefnyddio mwy nag un math o e-ohebiaeth er mwyn cysylltu ag eiddo felly, er enghraifft, os bydd gennych gyfeiriadau e-bost ar gyfer rhai unigolion a rhifau ffôn symudol ar gyfer eraill, gallech benderfynu defnyddio cyswllt e-bost yn unig, ac os felly dim ond at yr unigolion hynny sydd â chyfeiriadau e-bost y byddai angen i chi anfon yr e-ohebiaeth.
Dewis pa fathau o ddull(iau) e-gyfathrebu i'w defnyddio
Wrth benderfynu pa e-ohebiaeth i'w defnyddio, os o gwbl, dylech ystyried y canlynol:
- a oes gennych y wybodaeth angenrheidiol i ddefnyddio'r dull cyswllt rydych yn ei ystyried, neu a allwch gael a defnyddio gwybodaeth gyswllt o unrhyw ffynhonnell arall yn unol ag ystyriaethau diogelu data.
- nifer yr unigolion y mae gennych y wybodaeth angenrheidiol ar eu cyfer
- pa mor hyderus ydych chi bod y data cyswllt sydd gennych yn gywir ac wedi'u diweddaru
- y gallu a'r adnoddau sydd gan eich awdurdod lleol i anfon e-byst/negeseuon SMS mewn swmp
- a ddylech anfon e-ohebiaeth mewn sypiau er mwyn helpu i reoli'r llwyth gwaith a grëwyd gan nifer mawr o ymatebion
- sut y byddwch yn prosesu ymatebion a geir drwy sianeli gohebiaeth gwahanol, yn cynnwys ymholiadau gan etholwyr
- pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod unrhyw sianeli gohebiaeth a ddefnyddir gennych ac unrhyw gamau a gymerir yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data
- sut y byddwch yn sicrhau y bydd etholwyr yn gwybod bod e-ohebiaeth a anfonir gennych yn ddilys, fel y gallant ymateb yn hyderus yn unol â hynny
Ni allwch ddefnyddio e-ohebiaeth ar gyfer unrhyw eiddo gwag a di-rym gan nad ydynt yn cynnwys unrhyw etholwyr cofrestredig y gallwch gysylltu â nhw yn electronig.
- 1. Rheoliad 32ZBE(3)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 32ZBE(3)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
Pa wybodaeth ddylai e-ohebiaeth ei chynnwys?
Pa wybodaeth ddylai e-ohebiaeth ei chynnwys?
Ni ragnodir dyluniad e-ohebiaeth. Fodd bynnag, rydym wedi darparu e-ohebiaeth enghreifftiol, a gwybodaeth arall yn ein canllawiau ar ffurflenni a llythyrau.
Rhaid i unrhyw e-ohebiaeth ei gwneud yn ofynnol i'r derbynnydd wneud y canlynol:1
- cadarnhau a yw'r wybodaeth ar gyfer pob etholwr yn gyflawn a chywir.
- rhoi manylion unrhyw etholwr cymwys arall nad yw wedi'i restru ar yr ohebiaeth. Mae'r manylion hyn yn cynnwys ei enw, cenedligrwydd a chofnod a yw rhywun yn 76 oed neu’n hŷn a dyddiad geni unrhyw unigolyn 14 neu 15 oed2
Rhaid i'ch e-ohebiaeth hysbysu'r derbynnydd ei bod yn ofynnol iddo ymateb a dylai wneud y canlynol hefyd:
- rhoi dyddiad cau ar gyfer ymateb i'r derbynnydd
- cynnwys gwybodaeth am y sianeli ymateb sydd ar gael iddo a chyfarwyddiadau ar sut i'w defnyddio
- Cynnwys dolen i wefan gofrestru'r Llywodraeth (gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio)
- hysbysu'r derbynnydd ynghylch sut y cawsoch ei fanylion cyswllt a rhoi'r cyfle iddo optio allan o gael rhagor o e-ohebiaeth
- 1. Rheoliad 32ZBE(4) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 32ZBE(4A)(b)(c) o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
Beth yw ymateb llwyddiannus i e-ohebiaeth?
Beth yw ymateb llwyddiannus i e-ohebiaeth?
Rhaid i chi gael ymateb i e-ohebiaeth gan o leiaf un etholwr ar aelwyd o fewn cyfnod rhesymol o amser, hyd yn oed pan na fydd unrhyw newidiadau i'r wybodaeth ar gyfer yr eiddo hwnnw.1
Gellir diffinio ymateb llwyddiannus i e-ohebiaeth fel un sydd naill ai:2
- yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth yn gyflawn a chywir
- yn rhoi gwybodaeth newydd am bwy sy'n byw yn yr eiddo
- yn rhoi gwybodaeth newydd am newidiadau sydd angen eu gwneud i fanylion etholwr
- yn rhoi gwybodaeth newydd sy'n dangos nad yw etholwr presennol yn byw yn yr eiddo mwyach
neu'n rhoi unrhyw gyfuniad o'r uchod.
Dim ond gan un etholwr y gwnaethoch gysylltu ag ef drwy e-ohebiaeth y mae angen i chi gael ymateb llwyddiannus i fod yn fodlon eich bod wedi cael ymateb ar gyfer yr eiddo hwnnw.3
Gwneud ymholiadau ychwanegol
Gallwch wneud ymholiadau ychwanegol os cewch ymateb sy'n dangos y gall newid fod wedi digwydd yn yr eiddo ond nad yw'n cynnwys digon o wybodaeth i roi ymateb llwyddiannus fel uchod.
Ar ôl gwneud ymholiadau ychwanegol, os byddwch yn llwyddo i gael y wybodaeth angenrheidiol i roi ymateb llwyddiannus, gallwch gau'r llwybr a chymryd unrhyw gamau ychwanegol sy'n ofynnol, er enghraifft, dechrau'r broses ITR ar gyfer preswylwyr newydd yn yr eiddo.
Os na fyddwch yn llwyddo i gael y wybodaeth angenrheidiol i roi ymateb llwyddiannus, rhaid i chi drosglwyddo'r eiddo i Lwybr 2 – y llwybr eiddo heb ei baru, am na allwch fodloni eich hun nad oes unrhyw newid i'r eiddo. Er enghraifft, gall ymateb awgrymu bod darpar etholwyr newydd yn yr eiddo ond efallai na fyddant wedi rhoi eu henwau. Os na fyddwch yn llwyddo i gael enwau'r darpar etholwyr newydd ar ôl gwneud ymholiadau ychwanegol, byddai angen i chi symud yr eiddo i Lwybr 2.
Pa gamau i'w cymryd os na cheir ymateb
Lle na cheir ymateb o fewn cyfnod rhesymol o amser, rhaid i chi anfon CCA i'r eiddo.4
Fodd bynnag, gallwch ddewis anfon e-ohebiaeth atgoffa cyn anfon y CCA.
Er na chaiff cyfnod rhesymol o amser ei ddiffinio mewn deddfwriaeth, yn ein barn ni, ni ddylai hyn fod yn hwy na 28 diwrnod a gall fod yn fyrrach mewn rhai amgylchiadau (er enghraifft, lle rydych yn nesáu at gwblhau'r canfasiad neu lle mae etholiad ar fin cael ei gynnal).
- 1. Rheoliad 32ZBE(4) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 32ZBE(4) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 32ZBE(5)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 32ZBE(5)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 4
Ymatebion i e-ohebiaeth Llwybr 1
Ymatebion i e-ohebiaeth Llwybr 1
Os byddwch yn penderfynu defnyddio e-ohebiaeth chi fydd i benderfynu pa ddull(iau) ymateb fydd fwyaf addas ar gyfer eich ardal.
Er enghraifft, gallech benderfynu gyfeirio yn eich e-ohebiaeth at wasanaeth ymateb awtomataidd ar-lein, drwy neges SMS neu dros y ffôn sy'n casglu'r wybodaeth ofynnol. Gallech hefyd alluogi ymatebion i gael eu rhoi yn bersonol, drwy e-bost neu dros y ffôn, naill ai i ganolfan galwadau neu'n uniongyrchol i'ch tîm.
Rheoli newidiadau i eiddo
Os cewch wybodaeth mewn ymateb i e-ohebiaeth Llwybr 1 yn dweud wrthych am newidiadau, dylech gymryd camau i brosesu'r wybodaeth yn yr ymateb fel sydd ei angen.
Beth os ceir mwy nag un ymateb?
Bydd angen i chi sicrhau y gallwch nodi pan fydd mwy nag un unigolyn mewn eiddo wedi ymateb i e-ohebiaeth a'ch bod yn deall pa gamau y byddwch yn eu cymryd os bydd unrhyw wybodaeth wahanol yn yr ymatebion.
Er enghraifft, os byddwch yn cael ymateb gan un etholwr yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth yn gywir a'ch bod yn cael ymateb gan un arall yn nodi bod angen tynnu enw rhywun oddi ar y gofrestr yn yr eiddo, bydd angen i chi wneud ymholiadau pellach er mwyn cadarnhau manylion yr eiddo. Os ydych o'r farn y gall fod angen gwneud newidiadau i'r eiddo ond na allwch gadarnhau digon o wybodaeth i'ch galluogi i gynnal adolygiad neu brosesau ITR, rhaid i chi drosglwyddo'r eiddo hwnnw i Lwybr 2.
Beth y dylwn ei wneud gydag e-byst wedi'u gwrthod?
E-bost wedi'i wrthod yw pan fydd heb gael ei ddosbarthu a bod yr anfonwr yn cael hysbysiad yn nodi hynny. Mae dau fath o e-bost wedi'i wrthod:
- gwrthodiad meddal – lle caiff y dosbarthiad ei oedi wrth i weinydd yr e-bost roi sawl cynnig arall ar ei ddosbarthu dros gyfnod o oriau neu ddiwrnodau a dim ond pan fydd y cyfnod hwn yn mynd heibio'n aflwyddiannus yr ystyrir bod yr e-bost heb gael ei ddosbarthu
- gwrthodiad caled – lle yr ystyrir bod y cyfeiriad heb dderbyn yr e-bost yn barhaol
Lle ceir gwrthodiad caled, dylech ddileu'r cyfeiriad e-bost o'ch cronfa ddata ac anfon CCA i'r eiddo os na fydd gennych unrhyw opsiynau e-ohebiaeth eraill ar gyfer yr unigolion yn yr eiddo.
Lle ceir gwrthodiad meddal, fel arfer bydd angen i chi aros i weld a fydd gwrthodiad caled yn digwydd am fod y neges wedi methu â chael ei dosbarthu ar ôl sawl ymgais.
Dylech gael proses ar waith i'ch galluogi i adnabod achosion o e-byst wedi'u gwrthod a chymryd camau priodol. Rydym wedi creu'r tabl isod sy'n nodi rhai o'r rhesymau cyffredin dros wrthodiadau a'r camau y gallech fod am eu cymryd lle bydd hyn yn digwydd.
Rheswm dros wrthod e-bost | Cam i'w gymryd |
---|---|
Y derbynnydd wedi blocio'r e-bost (gwrthodiad caled) | Nid oes dim y gallwch ei wneud fel anfonwr i atal hyn. Dylech ddileu'r cyfeiriad e-bost o'ch cronfa ddata ac anfon CCA i'r eiddo os na fydd gennych unrhyw opsiynau e-ohebiaeth eraill ar gyfer unrhyw unigolion yn yr eiddo |
Mae'r cyfeiriad e-bost yn annilys – er enghraifft, mae'r cyfeiriad anghywir wedi'i ddarparu neu mae wedi'i drawsosod yn anghywir (gwrthodiad caled) | Dylech sicrhau bod ffynhonnell eich data e-byst yn gywir. Os yw'r cyfeiriad wedi'i drawsosod yn anghywir, cywirwch y gwall ac ail-anfonwch yr e-ohebiaeth. Os nad yw'r cyfeiriad wedi'i drawsosod yn anghywir, dylech ddileu'r cyfeiriad e-bost o'ch cronfa ddata ac anfon CCA i'r eiddo os na fydd gennych unrhyw opsiynau e-ohebiaeth eraill ar gyfer unrhyw unigolion yn yr eiddo. |
Mae'r gweinydd wedi blocio'r e-bost – er enghraifft, mae'r e-bost yn y fformat anghywir, mae'n rhy fawr neu mae wedi'i adnabod fel sbam (gwrthodiad caled) | Cyn anfon, dylech fwrw golwg gofalus dros eich e-ohebiaeth, yn cynnwys gyda'ch tîm TG, a nodi unrhyw resymau posibl pam y gallai'r e-bost fod wedi'i flocio - fel graffeg fawr, ffotograffau neu frandio corfforaethol arall. Dylai mewnflwch/gweinydd y derbynnydd allu derbyn maint y brandio corfforaethol y mae angen ei gynnwys fel ffordd o ddangos bod yr e-ohebiaeth yn ddilys |
Nid yw gweinydd y derbynnydd ar gael (gwrthodiad meddal) | Nid oes dim y gallwch ei wneud fel anfonwr i atal hyn. Bydd hyn yn troi'n wrthodiad caled os na fydd y gweinydd y derbynnydd yn cymryd unrhyw gamau. |
Mae mewnflwch y derbynnydd yn llawn (gwrthodiad meddal) | Nid oes dim y gallwch ei wneud fel anfonwr i atal hyn. Bydd hyn yn troi'n wrthodiad caled os na fydd perchennog y mewnflwch yn cymryd unrhyw gamau. |
Mae'r ymatebydd wedi sefydlu gwasanaeth ymateb awtomataidd (gwrthodiad meddal) | Nid oes dim y gallwch ei wneud fel anfonwr i atal hyn. Mae'n bosibl y bydd yr e-bost wedi'i ddosbarthu o hyd ond dylech ddarllen cynnwys yr ymateb awtomataidd a phenderfynu a oes angen cymryd camau pellach. Er enghraifft, efallai bod yr unigolyn wedi gadael gweithle. Yn yr achos hwn, gallech drin yr ymateb awtomataidd fel gwrthodiad caled. |
Os byddwch yn cael gwrthodiadau caled ac nad oes unrhyw ddull electronig arall o gysylltu â'r unigolion mewn eiddo, dylech barhau â phroses Llwybr 1 drwy anfon CCA i'r eiddo.1
Nid oes gofyniad i ail-neilltuo'r eiddo i Lwybr 2 oni bai eich bod yn credu y gallai fod angen gwneud newidiadau yn yr eiddo.
Bydd angen i chi gymryd camau i sicrhau bod unrhyw gyfeiriadau e-bost a arweiniodd at wrthodiad caled yn cael eu dileu o'ch cronfa ddata er mwyn sicrhau cywirdeb y wybodaeth gyswllt sydd gennych ar gyfer canfasiadau yn y dyfodol.
- 1. Rheoliad 32ZBE(5) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Pa wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yng Ngohebiaeth Ganfasio A (CCA) a phryd y gallaf ei defnyddio?
Pa wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yng Ngohebiaeth Ganfasio A (CCA) a phryd y gallaf ei defnyddio?
Gohebiaeth bapur yw gohebiaeth ganfasio A a ddefnyddir ar gyfer cysylltu ag eiddo wedi'u paru fel rhan o ganfasiad Llwybr 1. Mae'n rhoi manylion yr unigolion sydd wedi'u cofrestru yn y cyfeiriad ar hyn o bryd i'r ymatebwyr ac yn eu hannog i ymateb os bydd angen gwneud newidiadau.
Mae fformat y CCA wedi'i ragnodi1
a rhaid i chi hefyd gynnwys gwybodaeth benodol am bob unigolyn sydd wedi'i gofrestru yn y cyfeiriad ar hyn o bryd.
Rhaid i chi ailargraffu:2
- Enw llawn a chenedligrwydd pob etholwr cofrestredig, yn cynnwys cyrhaeddwyr a'r unigolion hynny y mae eu ceisiadau wedi'u pennu yn ddiweddar ac a gaiff eu hychwanegu i'r gofrestr erbyn yr hysbysiad o newid cyn i'r CCA gael ei hanfon.
- os yw'n ymarferol, p'un a yw bob unigolyn sydd wedi'i restru ar y ffurflen yn 76 oed neu’n hŷn.
Rhaid i'r CCA hefyd gynnwys:
- unrhyw wybodaeth am y ffordd y gall preswylwyr ymateb os bydd unrhyw wybodaeth yn anghywir neu'n anghyflawn3
- datganiad yn nodi, lle caiff ymateb ei roi am fod unrhyw wybodaeth yn anghyflawn neu'n anghywir, y bydd yn ofynnol i'r ymatebydd ddatgan bod y wybodaeth a ddarperir ganddo yn wir4
- datganiad ar y ffordd y caiff y data eu defnyddio a'u prosesu5
Ni ddylai'r CCA gynnwys:6
- Manylion unrhyw etholwyr Categori Arbennig
- manylion unrhyw unigolyn rydych yn ymwybodol ohono ond nad yw wedi llwyddo i gofrestru i bleidleisio eto, hyd yn oed os ydych yn credu y gall fod yn breswylydd ac yn gymwys i gofrestru
Ceir rhagor o arweiniad i'ch helpu i lunio'r CCA yn ein canllawiau ar ffurflenni a llythyrau.
Rhaid anfon CCA dan yr amgylchiadau canlynol:7
- Rydych eisoes wedi anfon e-ohebiaeth ar gyfer eiddo Llwybr 1 ac nid ydych wedi cael ymateb llwyddiannus gan o leiaf un unigolyn yn yr eiddo yr anfonwyd e-oheiaeth ato o fewn cyfnod rhesymol o amser
- nid ydych wedi gallu anfon e-ohebiaeth at o leiaf un unigolyn mewn eiddo
- Rydych wedi penderfynu peidio â defnyddio e-ohebiaeth ar gyfer eiddo Llwybr 1
Nid oes unrhyw ofyniad i gael ymateb i CCA.
- 1. Rheoliad 32ZBG(1)(a) a (4) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 32ZBE(6) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 32ZBG(4)(e) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 32ZBG(4)(e)(i) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 32ZBG(4)(c) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheoliad 32ZBG(6)(a)(i) a (ii) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Rheoliad 32ZBE(5) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 7
Ymatebion i Ohebiaeth Ganfasio A (CCA)
Ymatebion i Ohebiaeth Ganfasio A (CCA)
Er bod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i aelwydydd roi gwybod i chi os bydd unrhyw wybodaeth a geir yn y CCA yn anghywir neu'n anghyflawn,1 nid yw'n ofynnol i chi gymryd camau dilynol mewn achosion o beidio ag ymateb i CCA. Fodd bynnag, dylech gymryd camau dilynol mewn perthynas ag unrhyw CCA a gaiff ei dychwelyd gan y Post Brenhinol am na chafodd ei dosbarthu neu a gafodd ei dychwelyd at yr anfonwr.
Pa ddulliau ymateb sydd ar gael ar gyfer CCA?
Chi sydd i benderfynu pa ddulliau ymateb y byddwch yn eu cynnig i unigolion eu defnyddio pan fydd angen iddynt eich hysbysu am newidiadau mewn eiddo ar ôl cael CCA.
Rhaid i chi argraffu manylion eich dulliau ymateb dewisol ymlaen llaw ar y CCA.2
Y mathau o ddulliau ymateb y gallwch fod am eu cynnig yw:
- Dros y ffôn naill ai â chanolfan galwadau neu'n uniongyrchol i'ch tîm
- Dros y we
- Drwy neges destun
- Drwy e-bost
- Yn bersonol
- Drwy'r post (noder – nid oes gofyniad cyfreithiol i gynnwys amlen ymateb ragdaledig gyda CCA, gan adlewyrchu na fwriedir i'r ffurflen ei hun gael ei dychwelyd)
Wrth benderfynu pa ddulliau ymateb i'w cynnig, bydd angen i chi ystyried y canlynol:
- Os dychwelir ymateb drwy'r post sy'n dynodi newidiadau i eiddo, sut y byddwch yn sicrhau eich bod yn fodlon bod y wybodaeth a roddir yn gywir i'ch galluogi i brosesu'r newidiadau?
- Demograffeg eich ardal ganfasio – er enghraifft os gwyddoch fod gennych boblogaeth uchel o bobl hŷn, ardaloedd â mynediad cyfyngedig i'r rhyngrwyd neu lefelau uchel o amddifadedd economaidd-gymdeithasol, bydd angen i chi ystyried pa ddulliau ymateb a fyddai fwyaf priodol i ddiwallu anghenion eich etholwyr.
- A fydd y dulliau ymateb y byddwch yn eu cynnig yn galluogi unigolion i roi manylion am unrhyw newidiadau i chi mewn ffordd hygyrch.
- A fydd y dulliau ymateb y byddwch yn eu cynnig hefyd yn annog darpar etholwyr newydd i gofrestru drwy'r gofrestr i bleidleisio ar-lein
- Sut y byddwch yn rheoli'r gwaith o brosesu ymatebion drwy sianeli gwahanol – er enghraifft os ydych yn ystyried defnyddio sianel nad ydych wedi ei defnyddio o'r blaen, bydd angen i chi sicrhau bod gennych y prosesau cywir ar waith i reoli ymatebion drwy'r sianel hon, gan gynnwys ystyried sut y bydd yn rhyngweithio â'ch System Rheoli Etholiad. Dylech hefyd ystyried unrhyw oblygiadau ychwanegol o ran adnoddau os byddwch yn defnyddio dulliau ymateb gwahanol.
Sut y dylwn brosesu ymateb i CCA?
Pan fydd rhywun yn ymateb i CCA, boed hynny er mwyn cywiro gwybodaeth anghywir neu er mwyn ychwanegu gwybodaeth sydd ar goll, bydd angen i chi sicrhau bod ei ymateb yn cynnwys yr holl wybodaeth sy'n ofynnol arnoch i brosesu'r ymateb. Er enghraifft, a yw'r ymateb wedi rhoi digon o wybodaeth i allu dechrau'r ITR neu'r broses adolygu? Gallwch wneud ymholiadau ychwanegol os nad yw'r ymateb yn cynnwys digon o wybodaeth i gau Llwybr 1.
Ar ôl gwneud ymholiadau ychwanegol, os na allwch gael y wybodaeth angenrheidiol i roi ymateb llwyddiannus, gallwch gau Llwybr 1 a pharhau â'r ITR neu'r broses adolygu fel sy'n briodol ar gyfer yr eiddo.
Os na fyddwch yn llwyddo i gael y wybodaeth angenrheidiol i roi ymateb llwyddiannus, rhaid i chi drosglwyddo'r eiddo i Lwybr 2 – y llwybr eiddo heb ei baru, am na allwch fodloni eich hun nad oes unrhyw newid i'r eiddo. Er enghraifft, gall ymateb awgrymu bod darpar etholwyr newydd yn yr eiddo ond efallai na fyddant wedi rhoi eu henwau. Os na fyddwch yn llwyddo i gael enwau'r darpar etholwyr newydd ar ôl gwneud ymholiadau ychwanegol, byddai angen i chi symud yr eiddo i Lwybr 2.
Ceir rhagor o wybodaeth am Lwybr 2 yn ein canllawiau ar gyfer Llwybr 2 – y llwybr eiddo heb ei baru.
- 1. Rheoliad 32ZBE(3) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 32ZBG(4)(e) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
Llwybr 2 – y llwybr eiddo heb ei baru
Llwybr 2 – y llwybr eiddo heb ei baru
Pan fyddwch wedi cwblhau eich proses paru data ac wedi neilltuo eiddo i lwybrau canfasio, gallwch ddechrau cyflwyno eich cynllun canfasio.
Mae'r adran hon yn cwmpasu Llwybr 2 ac yn cynnwys canllawiau ar bryd y gallwch ddefnyddio Llwybr 2, rheolau cyswllt Llwybr 2, pa ohebiaeth ganfasio y gallwch ei defnyddio, a sut i brosesu ymatebion.
Beth yw Llwybr 2 a phryd y gallaf ei ddefnyddio?
Beth yw Llwybr 2 a phryd y gallaf ei ddefnyddio?
Llwybr 2 yw'r llwybr eiddo heb ei baru Mae pob eiddo'n cael ei neilltuo i Lwybr 2 i ddechrau, ac yna gallwch ddefnyddio Llwybr 2 ar gyfer unrhyw eiddo unrhyw bryd.
Er mwyn gallu canfasio eiddo gan ddefnyddio Llwybr 1 neu Lwybr 3 yn lle hynny, rhaid bodloni meini prawf penodol.
Sut y gellir diffinio'r mathau gwahanol o gyswllt ar gyfer Llwybr 2?
Mae'r mathau gwahanol o gyswllt ar gyfer Llwybr 2 wedi'u diffinio isod:
- Cyswllt â'r eiddo – lle y caiff y Ffurflen Ganfasio ragnodedig neu Ohebiaeth Ganfasio B (CCB) ei hanfon i'r eiddo, neu lle yr ymwelir â'r cyfeiriad. Rhaid i'ch ymgais gyntaf i gysylltu fod â'r eiddo.
- Cyswllt unigol – lle y caiff cyswllt ei wneud gan ddefnyddio'r manylion cyswllt sydd gennych ar gyfer unigolyn sydd wedi'i baru drwy1 waith paru data cenedlaethol a/neu leol. Gallech gyfathrebu dros y ffôn, drwy e-bost, neges SMS, neu drwy fath arall o ohebiaeth electronig (fel drwy gyfrifon cwsmeriaid mewnol).
- Cyswllt personol – lle y ceisir cysylltu naill ai â'r aelwyd neu ag unigolion sydd wedi'u cofrestru yn y cyfeiriad sydd wedi'u paru, naill ai drwy ymweld â'r eiddo neu drwy alwad ffôn.
Beth yw'r rheolau o ran cysylltu ar gyfer Llwybr 2?
Er mwyn bodloni gofynion Llwybr canfasio 2, mae nifer o reolau o ran cysylltu y bydd angen i chi eu dilyn:
- Rhaid i chi wneud o leiaf dair ymgais i gysylltu â'r eiddo a/neu unigolion yn yr eiddo hwnnw oni bai eich bod wedi cael ymateb2
- Rhaid i o leiaf ddwy ymgais i gysylltu fod â'r eiddo, nid ag unigolyn
- Rhaid i o leiaf un ymgais i gysylltu fod drwy'r Ffurflen Ganfasio ragnodedig
- Rhaid i'r ymgais gyntaf i gysylltu fod drwy gyfathrebu â'r eiddo (h.y. Ffurflen Ganfasio, Gohebiaeth Ganfasio B (CCB) neu ymweliad â'r eiddo, yn hytrach na chyfathrebu ag unigolyn
- Rhaid i o leiaf un ymgais i gysylltu fod drwy gyswllt personol (h.y. ymweliad neu alwad ffôn)
Os na fodlonir unrhyw un o'r meini prawf uchod yn ystod eich tair ymgais gyntaf i gysylltu, rhaid i chi geisio cysylltu eto er mwyn bodloni unrhyw ofynion sy'n weddill a chwblhau proses Llwybr 2.
Gan ddefnyddio eich gwybodaeth leol a'ch profiad, gallwch benderfynu defnyddio dulliau cyfathrebu gwahanol ar gyfer eiddo gwahanol ar gamau cyswllt gwahanol Llwybr 2. Dylech gysylltu â chyflenwr eich System Rheoli Etholiad er mwyn pennu sut y caiff y newid hwn ei reoli yn ymarferol
Gallwch hefyd benderfynu anfon deunydd cyfathrebu penodol ar adegau gwahanol, yn dibynnu ar sut rydych yn dymuno rheoli eich adnoddau.
Mae Adran y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi llunio tabl sy'n nodi'r ffyrdd posibl y gellid defnyddio mathau gwahanol o gyswllt er mwyn sicrhau y caiff gofynion Llwybr 2 eu bodloni.
- 1. 32ZBD(4)(b)ac(c) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 32ZBD(1) a (2) a (3) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
Beth yw'r opsiynau posibl ar gyfer yr ymgais gyntaf i gysylltu?
Beth yw'r opsiynau posibl ar gyfer yr ymgais gyntaf i gysylltu?
Rhaid i'r ymgais gyntaf i gysylltu fod ag eiddo, nid ag unigolyn.1
Dyma'r opsiynau posibl ar gyfer cysylltu ag eiddo:2
- Gohebiaeth Ganfasio B (CCB)
- Ffurflen Ganfasio
- Ymweliad â'r eiddo (h.y. curo ar y drws)
Beth yw Gohebiaeth Ganfasio B?
Er nad yw'r ddeddfwriaeth yn rhoi manylion am yr hyn y mae'n rhaid i'r CCB3
ei gynnwys yn yr un modd ag ar gyfer y CCA ragnodedig (a ddefnyddir ar gyfer eiddo Llwybr 1) a'r Ffurflen Ganfasio, mae'n ei gwneud yn ofynnol i chi ddefnyddio'r fersiwn a luniwyd gan y Comisiwn Etholiadol.
Gohebiaeth Ganfasio B:
- Ffurflen bapur
- Gellir ei defnyddio yn lle'r Ffurflen Ganfasio (er ei bod yn ofynnol i un o'r tair ymgais i gysylltu sy'n ofynnol i gwblhau Llwybr 2 os na cheir ymateb fod ar ffurf Ffurflen Ganfasio)
- Nid oes angen cynnwys amlen ymateb ragdaledig
- Mae'n annog ymateb drwy sianeli eraill yn lle'r post – naill ai ar-lein neu drwy wasanaeth ymateb dros y ffôn
- Mae'n gofyn am ymateb hyd yn oes os nad oes angen gwneud unrhyw newidiadau ar gyfer yr eiddo
- Mae'n gofyn am gamau dilynol os na cheir ymateb o fewn cyfnod rhesymol o amser
Beth yw Ffurflen Ganfasio?
Mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i chi ddefnyddio'r Ffurflen Ganfasio a luniwyd gan y Comisiwn Etholiadol.4
Y Ffurflen Ganfasio:
- Ffurflen bapur
- Rhaid cynnwys amlen ymateb ragdaledig5
- Rhaid iddi gael ei dosbarthu i eiddo rywbryd yn ystod proses gysylltu Llwybr 2, oni bai eich bod eisoes wedi cael ymateb gan yr eiddo
- Mae'n annog etholwyr i ymateb gyda manylion diweddaraf y preswylwyr yn yr eiddo
- Mae'n gofyn am ymateb hyd yn oes os nad oes angen gwneud unrhyw newidiadau ar gyfer yr eiddo
- Mae'n gofyn am gamau dilynol os na cheir ymateb o fewn cyfnod rhesymol o amser
Ceir rhagor o arweiniad i'ch helpu i lunio'r CCA yn ein canllawiau ar ffurflenni a llythyrau
- 1. Rheoliad 32ZBD(1) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 32ZBD(1) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. 32ZBD(1)(a) a (10) a 32ZBG(1)(a)(iii) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 32ZBG(1) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 32ZBD(9)(b) o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 5
Beth yw ymweliad ag eiddo?
Beth yw ymweliad ag eiddo?
Mae ymweliad ag eiddo yn golygu:
- Ymweliad lle mae'r canfasiwr yn ceisio casglu'r wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer y Ffurflen Ganfasio neu'r CCB yn bersonol gan breswylydd yr eiddo
- Ymweliad lle nad oes angen ymateb ar garreg y drws, neu lle nad oes angen i rywun ateb y drws
- Dosbarthu naill ai CCB neu Ffurflen Ganfasio yn bersonol os na cheir ymateb ar garreg y drws, a fyddai'n bodloni'r gofynion o ran cyswllt personol a chyswllt ag eiddo Llwybr Canfasio 2 ar yr un pryd
Sut y dylwn wneud yr ymgais gyntaf i gysylltu?
Sut y dylwn wneud yr ymgais gyntaf i gysylltu?
Bydd angen i chi benderfynu sut y byddwch yn gwneud yr ymgais gyntaf i gysylltu. Dyma rai cwestiynau i chi eu hystyried:
- A fyddwch yn anfon gohebiaeth bapur ac, os felly, pa fath?
- Gall CCB annog unigolion i ddefnyddio'r sianeli ymateb eraill sydd gennych ar waith. Gall cynnydd yn y defnydd o'r sianeli hyn arbed costau a lleihau'r adnoddau sydd eu hangen arnoch i brosesu ymatebion. Dylid hefyd ystyried demograffeg eich etholwyr a pha mor debygol y maent o allu defnyddio'r sianeli ymateb gwahanol.
- Mae'n bosibl y bydd etholwyr yn gyfarwydd â Ffurflen Ganfasio ragnodedig, a all annog unigolion i ymateb i'r ymgais gyntaf i gysylltu. Cofiwch os na chewch ymateb i'r ymgais gyntaf i gysylltu, os byddwch wedi anfon Ffurflen Ganfasio fel rhan o'r ymgais honno, ni fydd angen i chi anfon Ffurflen Ganfasio arall fel rhan o unrhyw ymgais ddilynol i gysylltu.
- Sut y byddwch yn dosbarthu'r ohebiaeth bapur – yn bersonol neu drwy'r post?
- Bydd angen i chi ystyried y gofynion o ran costau ac adnoddau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu a dosbarthu pob opsiwn.
- Os byddwch yn ei dosbarthu'n bersonol, a fyddwch yn cyfuno hynny ag ymweliad personol?
- Os byddwch yn dosbarthu gohebiaeth ganfasio yn bersonol, gallech geisio ymweld â'r eiddo yn bersonol (curo ar y drws) gyntaf. Bydd yr ymgais hon i wneud cyswllt personol ag unigolyn yn yr eiddo yn bodloni gofyniad Llwybr 2 mewn perthynas â gwneud o leiaf un ymgais i wneud cyswllt personol. Os na fydd ateb yn yr eiddo, gallech wedyn ddosbarthu'r ohebiaeth ganfasio.
- Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn nodi, yn recriwtio ac yn hyfforddi digon o ganfaswyr ar gyfer lledaeniad daearyddol a nifer yr eiddo y mae angen dosbarthu gohebiaeth ganfasio Llwybr 2 iddynt).
Pa sianeli ymateb y gellir eu defnyddio ar gyfer Llwybr 2?
Pa sianeli ymateb y gellir eu defnyddio ar gyfer Llwybr 2?
Y tu hwnt i'r gofyniad i gynnwys amlen ymateb ragdaledig gyda Ffurflen Ganfasio, mater i chi fydd penderfynu pa sianeli ymateb i'w cynnig ar gyfer ymateb i ohebiaeth ganfasio, boed yn Ffurflen Ganfasio neu'n CCB. Bydd angen i chi adlewyrchu'r opsiynau posibl ar gyfer ymateb yn eich gohebiaeth ganfasio ar bob cam o broses Llwybr 2.
Gall y math o ddull ymateb y gallwch fod am ei gynnig gynnwys:
- Galwad ffôn (naill ai â chanolfan galwadau neu'n uniongyrchol â'ch tîm)
- Ar-lein drwy system rheoli ymateb ar-lein awtomataidd
- Neges destun SMS
- E-bost (naill ai i wasanaeth ymateb a reolir neu'n uniongyrchol i’ch tîm)
- Yn bersonol
- Drwy'r post (noder – nid oes gofyniad cyfreithiol i gynnwys amlen ymateb ragdaledig gyda CCB, gan adlewyrchu na fwriedir i'r llythyr ei hun gael ei ddychwelyd drwy'r post)
Pan fyddwch yn penderfynu pa sianeli ymateb i'w cynnwys, bydd angen i chi ystyried y canlynol:
- Os dychwelir ymateb drwy'r post sy'n dynodi newidiadau i eiddo, sut y byddwch yn sicrhau eich bod yn fodlon bod y wybodaeth a roddir yn gywir i'ch galluogi i brosesu'r newidiadau?
- Demograffeg eich ardal ganfasio – er enghraifft os gwyddoch fod gennych boblogaeth uchel o bobl hŷn, ardaloedd â mynediad cyfyngedig i'r rhyngrwyd neu lefelau uchel o amddifadedd economaidd-gymdeithasol, bydd angen i chi ystyried pa ddulliau ymateb a fyddai'n fwyaf priodol i ddiwallu'r anghenion hyn.
- A fydd y dulliau ymateb y byddwch yn eu cynnig yn galluogi unigolion i roi manylion am unrhyw newidiadau i chi mewn ffordd hygyrch
- A fydd y dulliau ymateb y byddwch yn eu cynnig hefyd yn annog darpar etholwyr newydd i gofrestru drwy'r gofrestr i bleidleisio ar-lein
- Sut y byddwch yn rheoli'r gwaith o brosesu ymatebion drwy sianeli gwahanol – er enghraifft os ydych yn ystyried defnyddio sianel nad ydych wedi ei defnyddio o'r blaen, bydd angen i chi sicrhau bod gennych y prosesau cywir ar waith i reoli ymatebion drwy'r sianel hon, gan gynnwys ystyried sut y bydd pob sianel yn rhyngweithio â'ch System Rheoli Etholiad. Dylech hefyd ystyried unrhyw oblygiadau ychwanegol o ran adnoddau os byddwch yn defnyddio dulliau ymateb gwahanol.
Os na chewch ymateb i ohebiaeth Llwybr 2, hyd yn oed os nad oes unrhyw newidiadau i'w cofnodi, rhaid i chi geisio cysylltu eto hyd nes y byddwch wedi bodloni'r meini prawf gofynnol o ran cysylltu.1
- 1. Rheoliad 32ZBD(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Beth yw'r opsiynau o ran cyfathrebu ar gyfer yr ail ymgais i gysylltu?
Beth yw'r opsiynau o ran cyfathrebu ar gyfer yr ail ymgais i gysylltu?
Os na chewch ymateb llwyddiannus o fewn cyfnod rhesymol o amser ar ôl y cyswllt cyntaf, rhaid i chi wneud ail ymgais i gysylltu.1
Er na chaiff cyfnod rhesymol o amser ei ddiffinio mewn deddfwriaeth, yn ein barn ni, ni ddylai hyn fod yn hwy na 28 diwrnod a gall fod yn fyrrach mewn rhai amgylchiadau (er enghraifft os ydych yn nesáu at gwblhau'r canfasiad neu lle mae etholiad ar fin cael ei gynnal).
Gallwch ddewis naill ai:
- cysylltu ag eiddo (h.y. drwy Ffurflen Ganfasio, CCB, ymweliad â'r eiddo), neu
- gysylltu ag unigolyn (h.y. drwy e-bost neu neges destun SMS, dros y ffôn neu drwy unrhyw fath arall o ohebiaeth electronig), os oes gennych fanylion cyswllt ar gyfer unrhyw unigolyn/unigolion a barwyd (16 oed neu hŷn) yn yr eiddo
Bwriedir i ohebiaeth electronig (e-ohebiaeth) annog unigolion i ymateb drwy sianeli eraill heblaw drwy'r post.
Rhaid i'ch e-ohebiaeth hysbysu'r derbynnydd ei bod yn ofynnol iddo ymateb a dylai wneud y canlynol hefyd:
- Rhoi dyddiad cau ar gyfer ymateb i'r derbynnydd
- Cynnwys gwybodaeth am y sianeli ymateb sydd ar gael iddo a chyfarwyddiadau ar sut i'w defnyddio
- Cynnwys dolen i wefan gofrestru'r Llywodraeth (gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio)
- Hysbysu'r derbynnydd ynghylch sut y cawsoch ei fanylion cyswllt a rhoi'r cyfle iddo optio allan o gael rhagor o e-ohebiaeth
Er bod yn rhaid i'r e-ohebiaeth a anfonwch hysbysu'r derbynnydd fod angen iddo ymateb, dim ond gan un derbynnydd e-ohebiaeth mewn aelwyd y bydd angen i chi gael ymateb er mwyn bodloni'r gofyniad ymateb ar gyfer yr eiddo hwnnw ac atal yr angen am gamau dilynol. Cewch ragor o wybodaeth am e-ohebiaeth yn y canllawiau ar ffurflenni a llythyrau.
- 1. Rheoliad 32ZBD (2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Sut y dylwn wneud yr ail ymgais i gysylltu?
Sut y dylwn wneud yr ail ymgais i gysylltu?
Bydd angen i chi benderfynu sut i wneud yr ail ymgais i gysylltu â phob eiddo nad yw wedi rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen i roi ymateb llwyddiannus i'r ymgais gyntaf i gysylltu.
Dyma rai cwestiynau i chi eu hystyried:
- A fyddwch yn rhoi cynnig arall ar gysylltu â'r eiddo gan ddefnyddio gohebiaeth ganfasio bapur? Os felly, pa un?
- Os gwnaethoch ddefnyddio CCB ar gyfer yr ymgais gyntaf i gysylltu, gallech benderfynu defnyddio Ffurflen Ganfasio ar gyfer yr ail ymgais er mwyn bodloni'r gofyniad o ran proses Llwybr 2 y dylid anfon Ffurflen Ganfasio fel un o'r tair ymgais ofynnol i gysylltu os na cheir ymateb. Gallech hefyd ystyried cyfuno dosbarthu gohebiaeth bapur â chyswllt personol â'r eiddo.
- A fyddwch yn penderfynu cysylltu ag unigolyn?
- Sut y byddwch yn prosesu ymatebion a geir drwy ddulliau cyfathrebu gwahanol, yn cynnwys ymholiadau gan etholwyr?
Bydd angen i chi gymryd camau i sicrhau bod unrhyw sianeli cyfathrebu y byddwch yn eu defnyddio yn ddiogel a bod unrhyw gamau y byddwch yn eu cymryd yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data, er mwyn sicrhau y bydd yr etholwyr yn gwybod bod yr ohebiaeth gyfathrebu unigol y byddwch yn ei hanfon yn ddilys, ac y gallant fod yn hyderus wrth ymateb iddi briodol
Pan fyddwch yn penderfynu cysylltu ag unigolyn fel rhan o Lwybr 2, rhaid i chi geisio cysylltu â phob unigolyn a barwyd yn yr eiddo y mae gennych wybodaeth gyswllt ar ei gyfer.1
Gallwch anfon cymysgedd o e-ohebiaeth
Gallwch ddewis anfon cymysgedd o e-ohebiaeth o fewn aelwyd. Fodd bynnag, nid oes gofyniad i ddefnyddio mwy nag un math o e-ohebiaeth er mwyn cysylltu ag eiddo felly, er enghraifft, os bydd gennych gyfeiriadau e-bost ar gyfer rhai unigolion a rhifau ffôn symudol ar gyfer rhai eraill, gallech benderfynu defnyddio cyswllt e-bost yn unig, ac os felly dim ond at yr unigolion hynny sydd â chyfeiriadau e-bost y byddai angen i chi anfon yr e-ohebiaeth.
Fodd bynnag, os bydd y wybodaeth gyswllt ar gyfer un etholwr a barwyd yr un peth a'r wybodaeth gyswllt ar gyfer unigolyn arall yn yr un eiddo, a'ch bod eisoes wedi ceisio cysylltu gan ddefnyddio'r wybodaeth honno, er enghraifft oes bydd mwy nag un deiliad wedi darparu'r un rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost, ni fydd angen i chi wneud mwy nag un ymgais i gysylltu gan ddefnyddio'r un manylion.
Os byddwch yn penderfynu ceisio cysylltu ag unigolion dros y ffôn, mae'n bwysig eich bod yn cadw trywydd archwilio clir o'r ymgais honno, er enghraifft dyddiad ac amser yr alwad, manylion yr unigolyn y gwnaethoch siarad ag ef, a'r manylion (os o gwbl) a gadarnhawyd neu a roddwyd.
Gall unrhyw un yn yr eiddo ddarparu'r ymateb: gall unrhyw unigolyn, gan gynnwys y rhai hynny na chawsant eu paru, ateb yr alwad a rhoi ymateb.
- 1. Rheoliad 32ZBD(4)(b) ac (c) a 32ZBD(8)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Sut y dylwn wneud y drydedd ymgais i gysylltu?
Sut y dylwn wneud y drydedd ymgais i gysylltu?
Rhaid i chi wneud o leiaf dair ymgais i gysylltu os na chewch ymateb.1
Er mwyn gallu cau proses Llwybr 2 ar ôl tair ymgais i gysylltu, bydd angen i chi sicrhau bod y dull cysylltu y byddwch yn ei ddewis ar gyfer y cam hwn yn eich galluogi i gydymffurfio â'r rheolau o ran cysylltu ar gyfer Llwybr 2.
Wrth benderfynu pa opsiynau cysylltu i'w defnyddio ar gyfer y drydedd ymgais i gysylltu, dylech ofyn y ddau gwestiwn canlynol:
- A ydych eisoes wedi ceisio cysylltu'n bersonol ag unigolyn mewn eiddo – naill ai dros y ffôn neu drwy ymweld â'r eiddo?
- A ydych eisoes wedi anfon Ffurflen Ganfasio ragnodedig fel rhan o'r cam cysylltu blaenorol? Mae'n bwysig cofio nad yw anfon CCB yn bodloni'r gofyniad hwn.
Os mai 'do' yw'r ateb i'r ddau gwestiwn, gallwch ddewis unrhyw un o'r dulliau cysylltu ag eiddo neu unigolyn sydd ar gael i chi (fel y'u hamlinellir yn y cam cysylltu cyntaf a'r ail gam cysylltu).
Os mai 'na' yw'r ateb i'r naill gwestiwn neu'r llall, a'ch bod yn dymuno cwblhau cylch Llwybr 2 drwy'r nifer gofynnol o gynigion i gysylltu, dylech fodloni pa ofynion bynnag sy'n weddill fel rhan o'r ymgais hwn i gysylltu.
Os byddwch yn dewis dull cysylltu ar gyfer eich trydedd ymgais na fyddai'n eich galluogi i fodloni'r gofynion sylfaenol o ran cysylltu, bydd angen i chi geisio cysylltu eto nes y byddwch wedi bodloni'r gofynion sylfaenol o ran cysylltu neu wedi cael ymateb.
- 1. Rheoliad 32ZBD (3) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Ymatebion Llwybr 2
Ymatebion Llwybr 2
Os na chewch ymateb i ohebiaeth Llwybr 2, hyd yn oed os nad oes unrhyw newidiadau i'w cofnodi, rhaid i chi geisio cysylltu eto hyd nes y byddwch wedi bodloni'r meini prawf gofynnol o ran cysylltu.1
Bydd angen i chi gadarnhau bod unrhyw ymateb a gewch yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn prosesu'r ymateb. Er enghraifft, a oes gennych ddigon o wybodaeth i ddechrau'r Gwahoddiad i Gofrestru (ITR) neu broses adolygu?
Dim ond gan un unigolyn y mae angen i chi gael ymateb er mwyn bod yn fodlon eich bod wedi cael ymateb ar gyfer yr eiddo hwnnw.
Os byddwch yn cael ymateb sy'n cadarnhau bod yr holl wybodaeth sydd gennych ar gyfer eiddo yn gyflawn ac yn gywir, gallwch gau Llwybr 2 ar gyfer yr eiddo hwnnw pan fyddwch wedi prosesu'r ymateb.
Rheoli ymatebion anghyflawn neu sy'n gwrthdaro
Os byddwch yn cael ymateb sy'n dangos y gallai fod rhywbeth wedi newid yn yr eiddo, bydd angen i chi gadarnhau bod yr ymateb yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i'w brosesu'n llawn. Gallwch wneud ymholiadau ychwanegol os na fydd yr ymateb yn cynnwys digon o wybodaeth i gau Llwybr 2. Er enghraifft, os byddwch wedi cael enw llawn darpar etholwr newydd ond nid ei genedligrwydd, gallech wneud ymholiadau ychwanegol cyn anfon ITR ato.
Ar ôl gwneud ymholiadau ychwanegol, os byddwch yn llwyddo i gael y wybodaeth sydd ei hangen i roi ymateb llwyddiannus, gallwch gau Llwybr 2 a pharhau â'r ITR neu'r broses adolygu fel sy'n briodol ar gyfer yr eiddo.
Os byddwch yn cael gwybodaeth wahanol gan eiddo bydd angen i chi benderfynu pa gamau i'w cymryd. Er enghraifft, os byddwch yn cael ymateb gan un etholwr yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth yn gywir a'ch bod yn cael ymateb gan un arall yn nodi bod angen tynnu enw rhywun oddi ar y gofrestr yn yr eiddo, bydd angen i chi wneud ymholiadau pellach er mwyn cadarnhau manylion yr eiddo.
Fodd bynnag, os byddwch wedi cael gwybodaeth i awgrymu y gallai fod rhywbeth wedi newid yn yr eiddo, ond na allwch gael y wybodaeth sydd ei hangen i roi ymateb llwyddiannus drwy'r nifer gofynnol o gynigion i gysylltu fel rhan o Lwybr 2, dylech barhau i geisio cysylltu er mwyn cael y wybodaeth goll sydd ei hangen i roi ymateb llwyddiannus.
Rheoli newidiadau i eiddo
Pan fyddwch yn cael ymateb i ohebiaeth Llwybr 2 sy'n dynodi y gall rhywbeth fod wedi newid yn yr eiddo, bydd angen i chi gadarnhau bod yr ymateb yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i'w brosesu'n llawn ac yna dylech gymryd camau i brosesu'r wybodaeth yn yr ymateb fel sydd ei angen.
- 1. Rheoliad 32ZBD(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Llwybr 3 – y llwybr eiddo wedi'i baru
Llwybr 3 – y llwybr eiddo wedi'i baru
Fel rhan o'ch gwaith o gynllunio ar gyfer y canfasiad, dylech eisoes fod wedi cwblhau ymarfer i nodi eiddo Llwybr 3 ar gyfer eich ardal ac wedi gwneud cyswllt cychwynnol â'r unigolyn cyfrifol ar gyfer pob un.
Mae'r adran hon yn rhoi canllawiau ar ba ohebiaeth y gallwch ei defnyddio ar gyfer y llwybr hwn a sut i brosesu ymatebion ar gyfer yr eiddo hynny rydych wedi'u neilltuo i Lwybr 3.
Beth yw Llwybr 3 a phryd y gallaf ei ddefnyddio?
Beth yw Llwybr 3 a phryd y gallaf ei ddefnyddio?
Mae Llwybr 3, sef y llwybr eiddo diffiniedig, yn eich galluogi i gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer y canfasiad ar gyfer mathau penodol o eiddo gan unigolyn cyfrifol, lle y gellir nodi un.
Rhaid i eiddo Llwybr 3 fodloni meini prawf penodol a nodir yn y gyfraith. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y mathau o eiddo y gellir eu hystyried ar gyfer canfasio drwy Lwybr 3, ynghyd ag esboniad o bwy y gellir ei ystyried yn unigolyn cyfrifol, yma – pa fathau o eiddo yw eiddo Llwybr 3 a sut y gallaf eu nodi?
Mae'n bosibl y byddwch yn penderfynu defnyddio Llwybr 3 ar gyfer mathau penodol o eiddo os credwch eich bod yn fwy tebygol o gael ymateb gan unigolyn cyfrifol1
yn hytrach nag unigolyn sy'n byw yn yr eiddo.
Fodd bynnag, cyn dechrau proses Llwybr 3, os bydd canlyniad y gwaith paru data ar gyfer unrhyw eiddo yn dangos bod unigolion sy'n byw yn yr eiddo wedi'u paru a'ch bod yn fodlon nad oes unrhyw newidiadau i'w cofnodi ar gyfer yr eiddo hwnnw, gallech benderfynu ei bod yn fwy priodol canfasio'r eiddo hwn drwy Lwybr 1 – y llwybr eiddo wedi'i baru.
Ni ellir defnyddio Llwybr 3 os bydd canlyniadau'r gwaith paru data neu wybodaeth arall sydd gennych yn dangos mai dim ond unigolion dan 18 oed sydd wedi'u cofrestru yn yr eiddo.2
- 1. Rheoliadau 32ZBA(3) a (5) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliadau 32ZBA(6) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
Meithrin cydberthnasau cadarnhaol â phersonau cyfrifol
Meithrin cydberthnasau cadarnhaol â phersonau cyfrifol
Mae'n bwysig eich bod yn meithrin ac yn cynnal cydberthnasau cadarnhaol â phersonau cyfrifol er mwyn sicrhau bod eich gweithgarwch canfasio Llwybr 3 yn llwyddiannus.
Dylech ystyried beth yw'r ffordd orau o gysylltu â phersonau cyfrifol yn eich ardal er mwyn sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth, yn deall y wybodaeth honno ac yn gweithredu arni mewn ffordd amserol. Er enghraifft, efallai y gallech gysylltu â'ch cyswllt yn anffurfiol dros y ffôn ar ddechrau eich canfasiad Llwybr 3 er mwyn tynnu ei sylw at y ffaith bod cais ffurfiol am wybodaeth ar y ffordd.
Dylech fod yn barod i gynnig ymweliadau personol ag eiddo Llwybr 3 yn gynnar yn y broses ganfasio os byddwch yn ystyried mai cyfathrebu wyneb yn wyneb yw'r ffordd orau o ddelio â phryderon neu gwestiynau. Mewn rhai achosion, efallai mai hon fydd y ffordd orau o ymgysylltu â phersonau cyfrifol a chasglu'r wybodaeth ofynnol.
Pennu amserlenni
Dylech ofyn i'r wybodaeth gael ei darparu o fewn cyfnod rhesymol o amser.1
Wrth bennu terfynau amser ar gyfer darparu'r wybodaeth ofynnol, dylech sicrhau eu bod yn realistig ac yn gyraeddadwy, a dylech ddeall yr amodau gwahanol y mae eich personau cyfrifol yn gweithredu oddi tanynt. Er enghraifft, efallai na fydd prifysgolion yn gallu darparu gwybodaeth am fyfyrwyr nes dechrau'r tymor.
Unwaith y byddwch wedi cytuno ar derfyn amser ar gyfer ymatebion, dylech nodi sut y byddwch yn anfon negeseuon atgoffa neu'n mynd ati i gynnal ymweliadau dilynol fel y bo angen, er mwyn helpu i reoli disgwyliadau.
Problemau o ran darparu gwybodaeth
Efallai y bydd gan rai personau cyfrifol, er enghraifft staff cartrefi gofal, bryderon am ddarparu gwybodaeth am breswylwyr nad oes ganddynt y galluedd meddyliol o bosibl i bleidleisio. Bydd sicrhau eich bod yn cysylltu â nhw mewn ffordd glir a chynhwysfawr yn helpu i roi'r hyder fydd ei angen arnynt i weithio gyda chi yn effeithiol.
Dylech dynnu sylw at y ffaith mai diben y canfasiad blynyddol, yn syml, yw casglu gwybodaeth am y rhai sy'n byw yn yr eiddo er mwyn nodi pwy y dylid ei wahodd i gofrestru, a nodi pobl nad ydynt yn byw yno mwyach.
Gallwch gyfeirio at y canllawiau a luniwyd gennym ar sut i helpu preswylwyr cartrefi gofal i gofrestru.
Weithiau, efallai y bydd gan bersonau cyfrifol bryderon ynghylch darparu'r wybodaeth ofynnol am fod ganddynt amheuon ynghylch rhannu data personol. Yn yr achosion hyn, dylech eu hatgoffa o'ch hawl i ofyn am wybodaeth a rhoi sicrwydd iddynt na fyddant yn mynd yn groes i ddeddfwriaeth diogelu data wrth ddarparu'r wybodaeth ofynnol.
- 1. Rheoliad 32ZBF(7), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Hawl i ofyn am wybodaeth
Hawl i ofyn am wybodaeth
Fel Swyddog Cofrestru Etholiadol, mae gennych ddyletswydd i gynnal cofrestr gywir a chyflawn. Mae cyfraith y DU yn caniatáu i chi ofyn i unrhyw un ddarparu gwybodaeth sy'n ofynnol at ddibenion cyflawni eich dyletswyddau cofrestru.1
Yn benodol, mae Rheoliad 23 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 20012
yn nodi'r canlynol: A registration officer may require any person to give information required for the purposes of that officer's duties in maintaining registers of electors.
Nodir y wybodaeth ofynnol ar gyfer canfasiad Llwybr 3 yn beth y dylai gohebiaeth Llwybr 3 ei gynnwys.
Yn unol ag egwyddorion diogelu data, mae gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol hawl i gasglu'r wybodaeth ofynnol gan fod sail gyfreithiol dros ei phrosesu; cyflawni tasg gyhoeddus er budd y cyhoedd, fel y'i darperir ar ei gyfer mewn cyfraith etholiadol.
Os gofynnir am unrhyw wybodaeth ddewisol ychwanegol, er enghraifft cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn, gellir rhannu'r wybodaeth honno os oes cytundeb rhannu data ar waith rhyngoch chi a'r person neu'r sefydliad cyfrifol, a'i fod wedi hysbysu unigolion y gallai'r cyfryw wybodaeth gael ei rhannu drwy ei hysbysiad preifatrwydd.
Mae ein canllawiau diogelu data ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau yn rhoi arweiniad pellach ar gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data.
Mae cosb droseddol ar ffurf dirwy o hyd at £1,000 am fethu darparu'r wybodaeth ofynnol.3
- 1. Paragraff 1(2), Atodlen 2, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 23 (1), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001; Rheoliad 23 (1), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 23 (3), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001; Rheoliad 23 (3), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 3
Pa ohebiaeth y dylid ei defnyddio ar gyfer eiddo Llwybr 3?
Pa ohebiaeth y dylid ei defnyddio ar gyfer eiddo Llwybr 3?
Wrth ganfasio unrhyw eiddo drwy Lwybr 3, rhaid i chi gyfathrebu â'r unigolyn cyfrifol a nodwyd gennych ar gyfer yr eiddo hwnnw fel rhan o'ch gwaith cynllunio.
Nid oes dull cyfathrebu penodol wedi'i nodi ar gyfer Llwybr 3 felly mae gennych yr hyblygrwydd i benderfynu beth yw'r ffordd orau o gyfathrebu â'r unigolyn cyfrifol ar gyfer pob eiddo Llwybr 3 yn eich ardal.
Gallwch gysylltu â'r unigolyn cyfrifol ar gyfer eiddo Llwybr 3 drwy unrhyw ddull sy'n briodol yn eich barn chi, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:1
- Anfon gohebiaeth bapur – nid oes ffurflen ragnodedig i'w defnyddio ar gyfer Llwybr 3, ond gallai'r ohebiaeth ganfasio ragnodedig fod yn dempled defnyddiol ar gyfer y wybodaeth y mae angen i chi ei chasglu
- Gohebiaeth electronig – gallai hyn gynnwys anfon e-bost os oes gennych gyfeiriad e-bost ar gyfer yr unigolyn cyfrifol
- Ymweld â'r eiddo Llwybr 3 neu swyddfa'r unigolyn cyfrifol
- Dros y ffôn – gallech benderfynu cysylltu â'r unigolyn cyfrifol dros y ffôn os oes gennych rif cyswllt ar ei gyfer
Pa ddull bynnag y byddwch yn ei ddewis i gyfathrebu â'r unigolyn cyfrifol ym mhob eiddo Llwybr 3, dylech sicrhau eich bod yn cadw trywydd archwilio clir o'r cyswllt y byddwch yn ei wneud.
Dylech o leiaf gofnodi'r camau a gymerwyd gennych i gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer y canfasiad gan yr unigolyn cyfrifol, er enghraifft drwy gofnodi enw'r unigolyn y cysylltwyd ag ef, dyddiad ac amser y cyswllt hwnnw, a manylion unrhyw ymateb a gafwyd gan y person cyfrifol.
- 1. Rheoliad 32ZBF(6) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Beth y dylai gohebiaeth Llwybr 3 ei gynnwys?
Beth y dylai gohebiaeth Llwybr 3 ei gynnwys?
Fel rhan o'ch gwaith o gynllunio ar gyfer canfasio eiddo Llwybr 3, dylech eisoes fod wedi ystyried pryd a sut i gysylltu â pherson cyfrifol am y tro cyntaf mewn perthynas ag eiddo Llwybr 3.
Ar ôl y cyswllt cychwynnol hwn, bydd angen i chi gysylltu â'r unigolyn eto i ofyn am y wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer y canfasiad ac, o bosibl, i'w atgoffa. Dylech sicrhau bod unrhyw weithgarwch dilynol yn mynd rhagddo er mwyn rhoi amser i chi symud eiddo i ganfasiad Llwybr 2 os bydd angen.
Rhaid i bob gohebiaeth ofyn i'r unigolyn cyfrifol roi'r wybodaeth ganlynol am bob unigolyn 14 oed neu hŷn sy'n byw yn yr eiddo ac yn gymwys i gofrestru i bleidleisio:1
- Enw llawn
- Cenedligrwydd
- Dyddiad geni
- A yw'r unigolyn hwnnw'n 76 oed neu hŷn
Dylech hefyd ofyn am fanylion cyswllt (rhif ffôn a/neu gyfeiriad e-bost) ar gyfer pob preswylydd cymwys at ddibenion cysylltu yn y dyfodol, ond dylech nodi'n glir mewn unrhyw ohebiaeth nad yw’r wybodaeth hon yn ofynnol.
Dylech hefyd ystyried sut i gyfleu unrhyw wybodaeth berthnasol am ddiogelu data, fel datganiad preifatrwydd yn nodi sut y byddwch yn prosesu'r wybodaeth ac at ba ddiben y caiff ei defnyddio. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar Gynllunio ar gyfer gohebiaeth canfasiad.
Beth arall y dylwn ei ystyried wrth gysylltu â pherson cyfrifol?
P'un a fyddwch yn cysylltu â'r person cyfrifol drwy e-bost, dros y ffôn, drwy lythyr neu'n ymweld â nhw'n bersonol, dylech sicrhau bod eich gohebiaeth yn glir ac yn gyflawn.
Nid oes ffurflen ragnodedig i'w defnyddio ar gyfer Llwybr 3, ond gallai'r Ffurflen Ganfasio ragnodedig fod yn ddefnyddiol fel templed ar gyfer y wybodaeth y mae angen i chi ei chasglu, a gellid ei hanfon at y person cyfrifol gyda llythyr eglurhaol. Gellir sganio a mewnbynnu gwybodaeth a dderbynnir fel hyn fel y gwneir wrth brosesu ffurflenni eraill.
Rydym wedi cynhyrchu adnodd i'ch helpu gyda negeseuon allweddol ar gyfer gohebiaeth Llwybr 3.
Gallech hefyd ystyried a fyddai casglu'r wybodaeth mewn fformat arall, er enghraifft ar daenlen, yn caniatáu i'r data gael eu mewngludo'n uniongyrchol i'ch System Rheoli Etholiad. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol iawn wrth ofyn am wybodaeth gan brifysgolion, er enghraifft, lle mae angen casglu swm mawr o wybodaeth.
Yn yr un modd â'ch cyswllt cychwynnol, dylech sicrhau eich bod yn cofnodi'r camau a gymerwyd gennych i gysylltu a gofyn am y wybodaeth. Ceir rhagor o ganllawiau ar sut i ohebu ag eiddo Llwybr 3 yn pa ohebiaeth y dylid ei defnyddio ar gyfer eiddo Llwybr 3.
- 1. Rheoliad 32ZBF(5A) o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Ymatebion Llwybr 3
Ymatebion Llwybr 3
Bydd angen i chi gadarnhau bod unrhyw ymateb a gewch yn cynnwys y wybodaeth sydd ei hangen am bob unigolyn 16 oed neu hŷn sy'n byw yn yr eiddo ac yn gymwys i gofrestru.1
Os byddwch yn fodlon eich bod wedi cael ymateb gan unigolyn cyfrifol eiddo sy'n cynnwys y wybodaeth sydd ei hangen arnoch, dylid cau proses Llwybr 3.
Pan fyddwch yn cael ymateb sy'n dynodi y gall rhywbeth fod wedi newid yn yr eiddo, bydd angen i chi gadarnhau bod yr ymateb yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i'w brosesu'n llawn a dylech gymryd camau i brosesu'r wybodaeth yn yr ymateb fel sydd ei angen.
A ddylwn anfon negeseuon atgoffa i eiddo Llwybr 3?
Os byddwch wedi gofyn am y wybodaeth ofynnol gan unigolyn cyfrifol ar gyfer eiddo Llwybr 3 ac na fyddwch wedi cael ymateb eto, gallwch ei atgoffa i ymateb os byddwch yn dymuno gwneud hynny.
Gallech wneud hyn drwy ddull cyfathrebu gwahanol, neu gallech ddefnyddio'r un dull cyfathrebu ag y gwnaethoch ei ddefnyddio ar gyfer eich cyswllt cyntaf. Pa ddull bynnag y byddwch yn ei ddewis, dylech gofnodi'r camau a gymerwyd i atgoffa'r unigolyn cyfrifol i ymateb, er enghraifft drwy gofnodi'r dyddiad a'r amser a'r dull cyfathrebu a ddefnyddiwyd.
Mater i chi fydd penderfynu pryd i anfon unrhyw negeseuon atgoffa. Os byddwch yn penderfynu peidio ag anfon neges atgoffa neu os na fydd neges atgoffa wedi arwain at gael y wybodaeth gan yr unigolyn cyfrifol o fewn cyfnod rhesymol, rhaid trosglwyddo'r eiddo i Lwybr 2 a chynnal canfasiad Llwybr 2 llawn o'r eiddo hwnnw.2
- 1. Rheoliad 32ZBF(5) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 32ZBF(7) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
Cadw mewn cysylltiad rheolaidd â phersonau cyfrifol
Cadw mewn cysylltiad rheolaidd â phersonau cyfrifol
Dylech gysylltu'n rheolaidd â phersonau cyfrifol yn ystod y canfasiad a thu hwnt fel rhan o'ch gwaith i gynnal y gofrestr.
Monitro hynt canfasiad Llwybr 3
Dylech gadw mewn cysylltiad rheolaidd â phersonau cyfrifol yn ystod y canfasiad er mwyn sicrhau eu bod yn darparu'r wybodaeth ofynnol, helpu gydag unrhyw ymholiadau y gall fod ganddynt, ac osgoi unrhyw oedi wrth gymryd y camau dilynol angenrheidiol. Dylech ystyried sut y byddwch yn monitro hynt proses Llwybr 3 fel rhan o'ch gwaith o gynllunio ar gyfer y canfasiad blynyddol.
Pan fyddwch yn cysylltu â phersonau cyfrifol, dylech bennu amserlenni ar gyfer derbyn y wybodaeth ofynnol. Dylech roi proses ar waith i sicrhau bod y wybodaeth wedi dod i law erbyn y terfyn amser a nodwyd gennych. Dylai eich System Rheoli Etholiad allu eich helpu gyda hyn, a gall dyddiaduron, calendrau electronig neu adnoddau cynllunio prosiect fod yn ddefnyddiol hefyd.
Dylech fonitro ymatebion gan eiddo Llwybr 3 yn ystod y canfasiad er mwyn nodi pa eiddo:
- rydych wedi derbyn y wybodaeth ofynnol ganddo, er mwyn i chi allu cau proses Llwybr 3
- rydych wedi derbyn rhywfaint o'r wybodaeth ofynnol ganddo, er mwyn i chi ofyn am ragor o wybodaeth
- nad ydych wedi derbyn unrhyw wybodaeth ganddo o fewn cyfnod rhesymol o amser, er mwyn i chi anfon neges atgoffa neu gynnal ymweliad personol
- y gall fod angen i chi ei drosglwyddo i ganfasiad Llwybr 2
Ceir rhagor o ganllawiau ar ddelio â ffurflenni canfasiad yn ymatebion Llwybr 3.
Cadw mewn cysylltiad â phersonau cyfrifol y tu allan i'r canfasiad
Mae'n bwysig cadw mewn cysylltiad â phersonau cyfrifol drwy gydol y flwyddyn fel rhan o'ch gweithgarwch i gynnal y gofrestr y tu allan i'r cyfnod canfasio.
Yn ogystal â sicrhau bod y manylion cyswllt sydd gennych ar gyfer y person cyfrifol ym mhob eiddo Llwybr 3 yn gywir cyn y canfasiad nesaf, dylech hefyd ofyn iddo roi diweddariadau ar breswylwyr sydd wedi symud i mewn neu allan yn ystod y flwyddyn. Gallech ofyn am y wybodaeth hon yn fisol, er enghraifft, neu yn ystod y cyfnod cyn digwyddiad etholiadol. Byddai hyn yn ddefnyddiol iawn ar gyfer eiddo lle mae nifer o newidiadau yn debygol o fod wedi digwydd y tu allan i'r cyfnod canfasio oherwydd natur yr eiddo, fel cartref gofal neu lety i fyfyrwyr. Bydd cadw mewn cysylltiad hefyd yn helpu i feithrin cydberthynas hirdymor â phersonau cyfrifol ac yn helpu i sicrhau bod y wybodaeth sydd ei hangen arnoch fel rhan o'r canfasiad yn cael ei darparu mor ddidrafferth â phosibl.
Mae ein canllawiau ar ymgysylltu â'r cyhoedd a chynllunio'r broses gofrestru yn cynnwys rhagor o gyngor ar gynllunio ar gyfer cofrestru y tu allan i'r cyfnod canfasio, gan gynnwys pa gofnodion y gallwch eu harchwilio drwy gydol y flwyddyn er mwyn nodi darpar etholwyr newydd.
Mae'r adran cynnal y gofrestr drwy gydol y flwyddyn yn cynnwys canllawiau ychwanegol ar weithgarwch cofrestru y tu allan i'r cyfnod canfasio, er enghraifft anfon ffurflenni ymholiadau cofrestru neu ohebiaeth ganfasio ddewisol.
Prosesu ymatebion i’r canfasiad
Mae adran hon yn cwmpasu sut mae prosesu ymatebion i’r canfasiad. Dylai’ch cynlluniau cofrestru fynd i’r afael â sut byddwch yn ymdrin â phob math o ymateb i’r canfasiad ac unrhyw weithgarwch dilynol y bydd angen i chi ymgymryd ag ef.
Bydd ymatebion i gyfathrebiadau canfasio yn perthyn i’r categorïau eang canlynol:
- mae’r holl wybodaeth yn gyflawn ac yn gywir
- mae’n darparu gwybodaeth newydd ynghylch pwy sy’n byw yn yr eiddo
- mae’n darparu gwybodaeth newydd ynghylch newidiadau angenrheidiol i fanylion etholwr
- mae’n darparu gwybodaeth newydd sy’n nodi nad yw etholwr cyfredol yn byw yn y cyfeiriad bellach
- cyfuniad o’r uchod
- mae’n cynnwys gwybodaeth i’r perwyl nad oes unrhyw breswylwyr yn yr eiddo sy’n gymwys i gofrestru
Pa gam gweithredu dylech ei gymryd pan fyddwch yn derbyn ymateb llwyddiannus i’r canfasiad?
Pa gam gweithredu dylech ei gymryd pan fyddwch yn derbyn ymateb llwyddiannus i’r canfasiad?
Mae’r ymateb i’r canfasiad yn dangos bod yr holl wybodaeth yn gyflawn ac yn gywir | Dylech gofnodi bod ymateb wedi dderbyn, er mwyn atal llythyrau atgoffa rhag cael eu hanfon, a chau’r Llwybr canfasio ar gyfer yr eiddo. |
---|---|
Mae’r ymateb i’r canfasiad yn darparu gwybodaeth newydd sy’n nodi nad yw etholwr cyfredol yn byw yn y cyfeiriad bellach | Rhaid i chi beidio â dileu’r etholwr oddi ar y gofrestr yn awtomatig. Yn hytrach, rhaid i chi naill ai gael ail ffynhonnell dystiolaeth neu gynnal adolygiad cofrestru cyn i chi allu tynnu’r etholwr. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau - dileu etholwr oddi ar y gofrestr |
Mae’r ymateb i’r canfasiad yn dangos bod etholwr cyfredol wedi marw | Cewch ddileu’r etholwr oddi ar y gofrestr yn awtomatig os yw ymateb yn dangos bod etholwr wedi marw, ac rydych yn fodlon bod y wybodaeth yn gywir. |
Mae’r ymateb i’r canfasiad yn nodi bod preswylwr/wyr newydd yn yr eiddo | Rhaid i chi wahodd darpar etholwyr cymwys i gofrestru o fewn 28 diwrnod i dderbyn yr hysbysiad oni bai eu bod wedi gwneud cais i gofrestru yn y cyfamser. Nid oes angen i chi wybod enw llawn neu gysáct darpar etholwyr er mwyn rhoi gwahoddiad cofrestru iddynt. Rhaid i chi, fodd bynnag, feddu ar ddigon o wybodaeth ynghylch eu henw i allu eu hadnabod fel unigolyn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau - gwahodd unigolion i gofrestru i bleidleisio |
Mae’r ymateb i’r canfasiad yn dangos bod enw etholwr wedi newid | Dylech anfon ffurflen newid enw i’r etholwr. Lle bo etholwr wedi newid ei enw, rhaid iddo gwblhau ffurflen newid enw a darparu tystiolaeth ategol o’r newid er mwyn i’r gofrestr etholiadol gael ei diweddaru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau - prosesu newid i enw etholwr |
Mae’r ymateb i’r canfasiad yn dangos bod cenedligrwydd etholwr wedi newid | Dylech anfon gwahoddiad cofrestru i’r etholwyr y mae eu cenedligrwydd wedi newid. Rhaid i etholwyr a oedd wedi eu cofrestru ar y gofrestr etholwyr llywodraeth leol yn unig wneud cais newydd os dônt yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd Gweriniaeth Iwerddon, neu ddinesydd gwlad arall yn y Gymanwlad, fel y gallant gael eu hychwanegu at gofrestr etholwyr Seneddol y DU. Bydd rhaid i’r cais newydd fynd trwy’r prosesau ymgeisio, dilysu a phennu eto. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau - prosesu newid i genedligrwydd etholwr |
Mae’r ymateb i’r canfasiad yn dangos newid i’r dangosydd 76 oed neu drosodd | Dylech ychwanegu marciwr perthnasol at y gofrestr ar gyfer unrhyw unigolyn lle bo ymateb i gyfathrebiad canfasio yn dangos eu bod yn 76 oed neu drosodd (ai peidio) |
Ymateb i’r canfas yn nodi newid i ddewis etholwr o ran y gofrestr (olygedig) agored | Pan fydd yr ymateb i’r canfas yn nodi’n glir bod person am optio allan o’r gofrestr agored (er enghraifft, os mai dim ond un etholwr sy’n preswylio yn y cyfeiriad ac mae wedi nodi ei fod am gael ei dynnu oddi ar y gofrestr agored), dylech drin yr ymateb i’r canfas fel hysbysiad o dan Erthygl 21 o’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a diwygio’i ddewis o ran y gofrestr agored yn unol â’i gais.
|
Beth yw’r cosbau am beidio ag ymateb i gyfathrebiad canfasio, neu ddarparu gwybodaeth gamarweiniol?
Beth yw’r cosbau am beidio ag ymateb i gyfathrebiad canfasio, neu ddarparu gwybodaeth gamarweiniol?
Ac eithrio Cyfathrebiad Canfasio A, rhaid i berson sydd wedi derbyn cyfathrebiad canfasio ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani i’r ERO, ond nid yw’n ofynnol i’r ffurflen ei hunan gael ei dychwelyd.1
Mae dirwy droseddol hyd at uchafswm o £1,000 am fethu â darparu’r wybodaeth ofynnol i’r ERO.2
Y gosb am ddarparu gwybodaeth gamarweiniol i ERO yw hyd at chwe mis yn y carchar neu ddirwy ddiderfyn.3
- 1. Rheoliad 23(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 23(3) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 13D(6) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
Etholiadau yn ystod y canfasiad blynyddol
Etholiadau yn ystod y canfasiad blynyddol
Mae’r adran hon yn cwmpasu’r meysydd y bydd angen i chi eu hystyried, a’r penderfyniadau y bydd rhaid i chi eu gwneud mewn perthynas â chyflawni’r canfasiad a rheoli’r gweinyddu etholiadol ar gyfer y bleidlais, os cynhelir etholiad yn ystod y cyfnod canfasio.
Beth bydd angen i mi ei ystyried os cynhelir etholiad yn ystod y canfasiad blynyddol?
Beth bydd angen i mi ei ystyried os cynhelir etholiad yn ystod y canfasiad blynyddol?
Gallai etholiad yn ystod y cyfnod canfasio gwtogi’r amser sydd gennych ar gyfer gweithgareddau dilynol o ran cyfathrebiadau canfasio a gwahoddiadau i gofrestru.
Dylai eich cynllun canfasio a chofrestr risgiau gynnwys manylion o ran sut byddwch yn ailgyfeirio adnoddau i dargedu cofrestru mewn unrhyw ardaloedd lle bydd etholiad yn cael ei gynnal.
Os cynhelir unrhyw un o’r etholiadau a restrir isod, gan gynnwys etholiadau cyffredinol neu isetholiadau, rhwng 1 Gorffennaf a 1 Rhagfyr, bydd angen i chi wneud penderfyniad p’un a ddylid gohirio cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig ac os felly, am ba mor hir.
Yn yr amgylchiadau canlynol, gellir gohirio cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig hyd nes 1 Chwefror y flwyddyn ganlynol.
- Etholiadau Senedd y DU
- Etholiadau’r Senedd
- Llywodraeth leol - etholiadau cynghorau sir a chynghorau bwrdeistrefi sirol
- Llywodraeth leol - etholiadau cynghorau cymunedol
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Gall effaith unrhyw etholiad ddibynnu ar ba gam o’r canfasiad rydych arno, a faint o ddosbarthiadau etholiadol sy’n cael eu heffeithio gan yr etholiad.
Bydd angen i chi fod yn fodlon bod gennych ddigon o amser i gymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau bod eich cofrestrau mor gywir a chyflawn â phosib adeg eu cyhoeddi.
Wrth ymgyrraedd at eich penderfyniad, dylech ystyried yr effaith y gallai gohirio cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig ei chael ar y broses ganfasio.
Er enghraifft, pan fo cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig wedi ei ohirio, gall canfasio personol ddigwydd yn hwyrach yn y flwyddyn, lle gallai llai o oriau golau dydd effeithio ar barodrwydd y canfaswyr i gnocio ar ddrysau, a pharodrwydd y rhai nad ydynt wedi ymateb i agor eu drysau. Gall tywydd garw hefyd effeithio ar ganfasiad hwyrach, a gall cyfraddau ymateb leihau dros gyfnod y Nadolig.
Lle byddoch yn penderfynu gohirio dyddiad cyhoeddi oherwydd etholiad, dylech gymryd camau i sicrhau bod pleidiau gwleidyddol a chynrychiolwyr etholedig lleol yn ymwybodol o’r newid i ddyddiad cyhoeddi’r gofrestr mor gynnar â phosib.
Megis yr amlinellir yn y canllawiau ar hysbysiadau newid misol yn ystod y cyfnod canfasio, nid yw’n ofynnol cyhoeddi hysbysiad newid misol yn ystod y mis y byddwch yn cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig, neu yn ystod y ddau fis cyn y diwrnod hwnnw, ond gallwch wneud felly os dymunwch.
O’r herwydd, os gohirir cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig hyd nes, er enghraifft, 1 Chwefror, byddwch yn cyhoeddi hysbysiad newid misol ym mis Hydref a mis Tachwedd; nid yw’n ofynnol i chi gyhoeddi un ym mis Rhagfyr neu fis Ionawr, ond gallwch wneud felly os dymunwch.
Sut gallaf dargedu etholwyr newydd os cynhelir etholiad yn ystod y canfasiad?
Sut gallaf dargedu etholwyr newydd os cynhelir etholiad yn ystod y canfasiad?
Os cynhelir etholiad yn ystod y canfasiad, eich blaenoriaeth fydd unrhyw etholwyr newydd posib a ganfuwyd sydd heb gofrestru eto.
Dylech ystyried sut orau i ddefnyddio’ch adnoddau i dargedu’r unigolion hyn a mynd ar ôl ymatebion i unrhyw gyfathrebiadau canfasio Llwybr 2 neu 3, fe y gall cynifer o etholwyr cymwys â phosib gael eu cofrestru mewn pryd ar gyfer yr etholiad.
Dylai eich cynllun fynd i’r afael â phethau megis:
- beth bydd rhaid i ganfaswyr ei wneud yn wahanol
- sut bydd staff canfasio yn cael eu hysbysu ynghylch etholiad, a sut y rhoir cyfarwyddiadau adolygedig iddynt
- beth byddwch yn ei wneud i gynyddu ymatebion yn yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio er mwyn lleihau difreinio posib
- sut byddwch yn canfod a blaenoriaethu prosesu’r cyfathrebiadau canfasio a’r gwahoddiadau cofrestru ar gyfer yr ardaloedd yr effeithir arnynt
- sut bydd y canfasiad yn ailgychwyn wedi’r etholiad
- pryd byddwch yn cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig, a pha ffactorau a fydd yn cael eu hystyried wrth wneud y penderfyniad
- sut byddwch yn cyfathrebu penderfyniadau i bleidiau gwleidyddol a chynrychiolwyr etholedig lleol, ac unigolion a grwpiau eraill a fyddai â diddordeb
Bydd argraffu dosbarthiadau etholiadol ar gyfathrebiadau canfasio a gwahoddiadau cofrestru yn eich galluogi i ganfod y ffurflenni hyn yn gyflym a’u blaenoriaethu lle bo etholiad yn digwydd mewn un rhan yn unig o’r ardal gofrestru.
Gallwch gynnwys gwybodaeth arall sy’n ymwneud â chofrestru yn yr un amlen â gwahoddiad i gofrestru, megis gwybodaeth am y dyddiad cau i gofrestru ar gyfer yr etholiad ar ddod.
Os bydd yr etholiad yn effeithio ar yr ardal gofrestru gyfan, bydd yn arbennig o bwysig bod eich adnoddau’n cael eu targedu at gynyddu nifer yr etholwyr cymwys sy’n cofrestru mewn pryd i gymryd rhan yn yr etholiad.
Dylid gwneud pob ymdrech i gyflawni pob ymweliad ymhell cyn y dyddiad cau cofrestru, ond, yng ngoleuni’r cyfyngiadau o ran amser, a chan ddibynnu ar amseru’r etholiad, nid fydd hyn bob tro’n bosib.
Dylech ddefnyddio cofnodion data lleol a’ch gwybodaeth am eich ardal leol i ganfod unrhyw etholwyr newydd, ac unrhyw eiddo lle gallai fod wedi bod newidiadau. Gallai’r rhain wedyn gael eu blaenoriaethu o ran ymweliadau personol.
Gallech hefyd ystyried diwygio eich dull ar gyfer gweithgareddau dilynol mewn perthynas ag eiddo Llwybr 2 neu Lwybr 3 sydd heb ymateb yn yr ardal sy’n cael ei heffeithio gan yr etholiad. Er enghraifft, gallech ddewis anfon negeseuon atgoffa electronig ychwanegol neu wneud cyswllt personol trwy’r ffôn yn hytrach nag ymweliad wyneb i wyneb, lle bo hynny’n bosib.
Yn ôl y gyfraith, rhaid i'r awdurdod lleol a wnaeth eich penodi yn ERO ddarparu'r adnoddau sydd eu hangen arnoch i gyflawni eich swyddogaethau statudol.
Defnyddiwch y cyfryngau lleol ac ymarferion ymwybyddiaeth gyhoeddus i roi gwybod i drigolion sut gallant gofrestru i bleidleisio mewn pryd i gael eu cynnwys ar y gofrestr a ddefnyddir yn yr etholiad.
Os bydd etholiad sy’n cwmpasu’r DU gyfan yn ystod y canfasiad, bydd yn bwysig i chi gysylltu’r negeseuon lleol ag unrhyw weithgarwch cyfathrebu gan y Comisiwn er mwyn cynyddu eu heffaith.
Lle bo’r etholiad yn croesi ffiniau cynghorau lleol, dylech gysylltu â’r ERO(s) yn y cynghorau eraill i sicrhau dull cyson a negeseuon cyson ar draws yr ardal etholiadol.
Sut gallaf ddefnyddio fy nghanfaswyr i dargedu etholwyr newydd os cynhelir etholiad yn ystod y canfasiad?
Dylai’ch cynlluniau fod yn ddigon hyblyg i’ch galluogi i ail-gyfeirio adnoddau staff i sicrhau y cesglir cynifer o ymatebion â phosib a’u dychwelyd i’r swyddfeydd cofrestru etholiadol yn yr ardaloedd perthnasol mewn pryd i gael eu prosesu a’u pennu ar gyfer yr hysbysiad newid etholiad terfynol.
O’r hyn lleiaf, dylai canfaswyr sy’n gweithio yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt gan yr etholiad ddychwelyd unrhyw ffurflenni cofrestru pleidleiswyr y maent wedi eu casglu mor fuan â phosib ac erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau cofrestru ar gyfer yr etholiad hwnnw.
Dylech ddarparu manylion yn y cyfarwyddiadau i ganfaswyr ynghylch pa mor aml y dylai ffurflenni gael eu dychwelyd i’r swyddfa gofrestru os bydd etholiad.
Ystyrir bod ffurflenni cais cofrestru a gasglwyd gan ganfaswyr erbyn y dyddiad cau cofrestru wedi bodloni’r dyddiad cau cofrestru hyd yn oed os nad ydynt yn cyrraedd swyddfa’r Swyddog Cofrestru Etholiadol tan ar ôl y dyddiad cau. Rhaid i ganfasio beidio dim ond yn yr ardaloedd sy’n cael eu heffeithio gan yr etholiad.
Dylai canfaswyr yn yr ardaloedd etholiadol yr effeithir arnynt gan yr etholiad annog trigolion sydd heb gofrestru i wneud felly ar-lein (neu drwy’r ffôn os ydych yn cynnig y gwasanaeth hwn), ac amlygu’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau cofrestru. Gallent fod â ffurflenni cofrestru gwag i etholwyr posib eu llenwi lle nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd.
I sicrhau taw dim ond ffurflenni a dderbyniwyd cyn y dyddiad cau cofrestru sy’n cael eu prosesu, dylai canfaswyr gael eu cyfarwyddo i ddod ag ymweliadau personol i ben erbyn diwedd y deuddegfed diwrnod cyn y bleidlais.
Pa gofrestr dylwn ei defnyddio ar gyfer etholiad sy’n digwydd yn ystod y canfasiad?
Pa gofrestr dylwn ei defnyddio ar gyfer etholiad sy’n digwydd yn ystod y canfasiad?
Y gofrestr i’w defnyddio ar gyfer etholiad sy’n digwydd yn ystod y canfasiad fydd y gofrestr ddiwygiedig a gyhoeddwyd ar 1 Rhagfyr y flwyddyn flaenorol, a’i diwygio trwy hysbysiadau newid etholiad misol dilynol.
Mewn ardal lle bo etholiad yn digwydd, dylech gyhoeddi dau hysbysiad newid etholiad misol dros dro cyn cyhoeddi’r hysbysiad newid etholiad terfynol ar y pumed diwrnod gwaith cyn y bleidlais.1
Rhaid i danysgrifwyr i enwebiad ymgeisydd ymddangos fel etholwyr ar y gofrestr sydd mewn grym ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad newid etholiad ar gyfer yr etholiad sy’n digwydd.
- 1. Adran 13AB a 13B RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig
Cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig
Mae’r adran hon yn cwmpasu rheoli yn ymarferol gyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig wedi’r canfasiad, gan gynnwys amseru, cynnwys, a diwyg y gofrestr, a chanllawiau o ran cyrchu a chyfenwi’r gofrestr wedi ei chyhoeddi.
Pryd dylwn gyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig wedi’r canfasiad blynyddol?
Pryd dylwn gyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig wedi’r canfasiad blynyddol?
Oni bai bod etholiad yn ystod y canfasiad, dylech gyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig erbyn 1 Rhagfyr.1
Nid yw dyddiau gwŷl yn gymwysedig at y gofyniad i gyhoeddi erbyn 1 Rhagfyr, sy’n golygu y gallwch gyhoeddi’r gofrestr ar ddydd Sadwrn, dydd Sul, neu ŵyl banc, os dymunwch. Mae hefyd gennych y dewis i gyhoeddi cyn y dyddiad hwn; fodd bynnag, bydd gwneud felly yn effeithio ar y dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau cofrestru.
Bydd cyhoeddi ar 1 Rhagfyr yn helpu i sicrhau bod y gofrestr ddiwygiedig mor gywir a chyflawn ag y gallai fod, gan gynyddu’r cyfleoedd i etholwyr posib gael eu cynnwys.
Byddai cyhoeddi ym mis Tachwedd yn golygu na fyddai’r gofrestr ddiwygiedig yn cynnwys unrhyw etholwyr newydd a wnaeth gais i gofrestru ar ôl 23 Hydref, ac na fyddai’n cynnwys unrhyw ddiwygiadau neu ddileadau a bennwyd ar ôl 31 Hydref.
Tra bo’r broses gofrestru yn parhau trwy’r flwyddyn, mae cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig yn debygol o fod yn garreg filltir allweddol. Pryd bynnag y penderfynwch gyhoeddi, dylech allu egluro'r rhesymau dros eich penderfyniad. Gweler y tabl isod.
Dyddiadau cau ymgeisio a phennu ceisiadau sy’n gymwys at gyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig
Digwyddiad | Dyddiadau os cyhoeddir y gofrestr ddiwygiedig ar 1 Rhagfyr | Dyddiadau os cyhoeddir y gofrestr ym mis Tachwedd |
---|---|---|
Dyddiad olaf i dderbyn ceisiadau newydd i gofrestru | 22 Tachwedd 2024 | 23 Hydref 2024 (6 diwrnod gwaith cyn y dyddiad cau ar gyfer penderfynu) |
Dyddiad cau ar gyfer penderfynu | 30 Tachwedd 2024* | 31 Hydref 2024 (diwrnod gwaith olaf y mis cyn y mis y cyhoeddir y gofrestr ddiwygiedig) |
Dyddiad ar gyfer derbyn a phennu ceisiadau di-enw | 30 Tachwedd 2024 | 31 Hydref 2024 (diwrnod gwaith olaf y mis cyn y mis y cyhoeddir y gofrestr ddiwygiedig) |
Dyddiad ar gyfer diwygio a thynnu cofnodion | 30 Tachwedd 2024 | 31 Hydref 2024 (diwrnod gwaith olaf y mis cyn y mis y cyhoeddir y gofrestr ddiwygiedig) |
Cyhoeddi | Erbyn 1 Rhagfyr 2024 | Unrhyw ddyddiad yn ystod mis Tachwedd |
*gan fod Tachwedd 30 yn ddiwrnod nad ydych yn gweithio, gallech ddefnyddio Tachwedd 29 fel y dyddiad cau ar gyfer penderfynu am amseriad cyhoeddi'r gofrestr ddiwygiedig ar Ragfyr 1.
Digwyddiad | Dyddiadau os cyhoeddir y gofrestr ddiwygiedig ar 1 Chwefror |
---|---|
Dyddiad olaf i dderbyn ceisiadau newydd i gofrestru | 24 Ionawr 2025 (6 diwrnod gwaith cyn y dyddiad cau ar gyfer penderfynu) |
Dyddiad cau ar gyfer penderfynu | 31 Ionawr 2025 |
Dyddiad ar gyfer derbyn a phennu ceisiadau di-enw | 31 Ionawr 2025 |
Dyddiad ar gyfer diwygio a thynnu cofnodion | 31 Ionawr 2025 |
Cyhoeddi | 1 Chwefror 2025 |
Hysbysiadau newid misol
Rhaid i ddiweddariadau i’r gofrestr gael eu cyhoeddi ar ddiwrnod gwaith cyntaf pob mis; fodd bynnag, nid yw’n ofynnol i chi gyhoeddi hysbysiad newid misol yr un mis y byddwch yn cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig, neu yn ystod y ddau fis cyn y diwrnod hwnnw, ond gallwch wneud felly, os dymunwch chi. Os cyhoeddir y gofrestr ym mis Tachwedd, rhaid i chi gyhoeddi hysbysiad newid misol ym mis Medi, mis Hydref, a mis Tachwedd. Os caiff ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr, rhaid i chi gyhoeddi hysbysiad newid misol ym mis Hydref, mis Tachwedd, a mis Rhagfyr.
Os ydych yn penderfynu cyhoeddi'r cofrestr ar 1 Tachwedd 2025, nid yw'n ofynnol i chi gyhoeddi hysbysiad newid misol yn Rhagfyr, Ionawr neu Chwefror.
- 1. Adran 13(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Beth mae’r gofrestr ddiwygiedig yn ei chynnwys pan gaiff ei chyhoeddi
Beth mae’r gofrestr ddiwygiedig yn ei chynnwys pan gaiff ei chyhoeddi
Y gofrestr lawn
Rhaid i chi gyhoeddi cofrestr etholwyr lawn, wedi ei chyfuno, mor bell ag y bo’n bosib, yn un gofrestr a gyfer pob math o etholiad, gan gynnwys y marcwyr etholfraint priodol.
Nid yw fformat y gofrestr wedi ei ragnodi, ond rhaid iddi gynnwys enw, cyfeiriad a rhif etholwr pob pleidleisiwr cymwys y mae ei gais i gofrestru wedi ei bennu gan y dyddiad cau perthnasol, gan gynnwys cyrhaeddwyr, ac eithrio categorïau penodol o etholwyr a manylion unrhyw berson dan 16 oed.1
Cyrhaeddwr yw rhywun nad yw’n ddigon hen eto i bleidleisio, ond a fydd yn cyrraedd yr oedran pleidleisio gofynnol ar gyfer rhai mathau o bleidleisiau cyn pen deuddeg mis wedi 1 Rhagfyr ar ôl y dyddiad perthnasol.
Bydd y gofrestr llywodraeth leol ar gyfer y Senedd yn cynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed fel etholwyr llawn.2
Yn ychwanegol at hynny, mae hawl gan bobl 15 oed a rhai pobl 14 oed gael eu cynnwys ar y gofrestr llywodraeth leol ar gyfer y Senedd fel 'cyrhaeddwyr'.
Bydd angen i'r gofrestr gyfun amlygu'r dyddiad y bydd y rheiny a gynhwysir arni yn ddigon hen i bleidleisio mewn gwahanol etholiadau er mwyn dangos yn glir pryd byddant yn gymwys i bleidleisio.3
Dylai eich cofrestr ddiwygiedig gynnwys pob ychwanegiad at y gofrestr, a phob diwygiad iddi, a bennwyd gennych erbyn y dyddiad cau perthnasol.4
Dim ond pan fydd cais wedi ei wneud a’i bennu’n llwyddiannus y gall unigolyn gael ei ychwanegu at y gofrestr. Ni ellir trin gwybodaeth a ddarparwyd mewn ymateb i gyfathrebiad canfasio ac unrhyw enwau a ganfuwyd trwy wirio cofnodion lleol fel cais i gofrestru, na’u hychwanegu at y gofrestr.
Dylech sicrhau hefyd eich bod yn gweithredu unrhyw ddileadau rydych wedi eu pennu ers cyhoeddi’r hysbysiad newid diwethaf yn y gofrestr ddiwygiedig.
Y gofrestr olygedig
Bydd enw a chyfeiriad etholwr yn cael eu cynnwys ar y gofrestr olygedig oni bai eu bod yn gofyn iddynt gael eu tynnu.
Rhaid i chi gyhoeddi cofrestr olygedig wedi ei hadolygu sy’n gopi union o’r gofrestr lawn, ond sy’n eithrio’r rheiny sydd wedi dewis peidio â chynnwys eu manylion, a rhaid iddi ymddangos yr un pryd ag y byddwch yn cyhoeddi’r gofrestr lawn.5
Caiff unrhyw berson o dan 16 oed ei eithrio’n awtomatig o’r gofrestr olygedig.
Yn ogystal â hynny, rhaid i chi barhau i gyhoeddi’r gofrestr olygedig ar ddiwrnod gwaith cyntaf pob mis. Mae’r ddyletswydd hon yn gymwys trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys yn ystod y cyfnod canfasio, a bydd rhaid i unrhyw geisiadau gan etholwyr cyfredol i newid eu statws o ran ymeithrio gael eu corffori.
Fodd bynnag, os byddwch yn penderfynu peidio â chyhoeddi hysbysiadau newid yn y ddau fis cyn cyhoeddi’r gofrestr lawn wedi’r canfasiad blynyddol, rhaid i unrhyw gofrestr fisol olygedig wedi ei hadolygu beidio â thynnu fanylion unrhyw etholwyr nad ydynt eisoes yn etholwyr cyfredol a gynhwysir ar y gofrestr lawn neu unrhyw hysbysiad newid.6
Mae'n ofynnol i chi gyhoeddi fersiwn ddiweddar gwbl integredig o'r gofrestr olygedig yn hytrach na hysbysiad sy'n amlinellu'r newidiadau. Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi argraffu cofrestr olygedig lawn bob mis, dim ond os ydych yn cynhyrchu un ar gyfer rhywun sydd wedi gofyn amdani.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar brosesu newid i ddewis etholwr parthed y gofrestr olygedig (agored).
Rhaid peidio â chynnwys unrhyw wybodaeth am y rheiny o dan 16 oed ar unrhyw fersiwn o'r gofrestr a gyhoeddir, neu a fydd ar gael fel arall, gan gynnwys y gofrestr olygedig, ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn.
Disgrifio’r gofrestr lawn a golygedig
Mae’r termau ‘cofrestr lawn’ a ‘chofrestr olygedig’ yn dermau technegol a ddefnyddir mewn deddfwriaeth. Defnyddir y termau ‘cofrestr etholiadol’ a ‘chofrestr agored’ i egluro’r gofrestr lawn a’r gofrestr olygedig i aelodau’r cyhoedd, fel ei bod yn haws iddynt ddeall pwrpas pob cofrestr a sut cânt eu defnyddio. Mewn amgylchiadau penodol lle’r ydym yn crybwyll y gofrestr olygedig yn y canllawiau yn y cyd-destun hwn, rydym yn cyfeirio at y gofrestr olygedig fel y ‘gofrestr agored’. Fel arall, defnyddiwn y term ‘cofrestr olygedig’.
Y rhestr etholwyr tramor
Rhaid i chi gadw rhestr neu restri ar wahân o etholwyr tramor.8
Rhaid i chi gyhoeddi hon a sicrhau ei bod ar gael i’w harchwilio a’i chyflenwi pan fyddwch yn cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig.9
Rhaid i’r rhestr gael ei llunio yn nhrefn yr wyddor yn ôl cyfenw ym mhob etholaeth neu ran o etholaeth yn eich ardal.10
Rhaid iddi nodi’r cyfeiriad cymwys a’r cyfeiriad llawn tu allan i’r DU ar gyfer pob etholwr tramor.
- 1. Adran 9(2) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 10 Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 9(5A) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 13(2) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 93(1) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheoliad 93(2) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 6
- 8. Rheoliad 45(1) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Rheoliad 45(3) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Rheoliad 45(2) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 10
Diwyg y gofrestr ddiwygiedig
Diwyg y gofrestr ddiwygiedig
Wrth lunio diwyg y gofrestr, rhaid i chi wneud y canlynol:
- rhannu’r gofrestr yn ddosbarthiadau etholiadol
- rhoi set unigryw o lythrennau i bob dosbarth etholiadol1
- rhoi rhif i bob etholwr2
Dylai’r rhifau etholwyr gael eu dosrannu yn ddilyniannol ym mhob rhan o’r gofrestr. Adwaenir llythrennau a rhif y dosbarth etholiadol gyda’i gilydd fel y rhif etholwr.
Rydym wedi creu canllaw ar wahân ar gyfer ymgymryd ag adolygiadau o ddosbarthiadau etholiadol, mannau pleidleisio, a gorsafoedd pleidleisio.
Rhaid i gofnodion yn y gofrestr ar gyfer pob etholwr arferol gael eu trefnu yn ôl stryd, a gallent ond cael eu trefnu yn nhrefn yr wyddor yn ôl enw, neu gyfuniad o’r ddau lle nad yw’n rhesymol ymarferol eu rhestr yn ôl stryd.3
Marcwyr etholfraint
Gall rhai etholwyr ond pleidleisio mewn rhai mathau o etholiadau, a rhaid i’w henwau gael eu rhagddodi â llythrennau arbennig yn y gofrestr:4
Llythyren | Etholwr |
---|---|
F | etholwr tramor sydd ond â hawl pleidleisio yn etholiadau Senedd y DU a Senedd Ewrop. |
G | dinesydd aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd (ac eithrio gwledydd y Gymanwlad neu Weriniaeth Iwerddon) sydd ond â hawl pleidleisio yn etholiadau'r Senedd ac mewn etholiadau llywodraeth leol. |
B | etholwr sydd naill ai yn:
sydd ond â hawl pleidleisio yn etholiadau'r Senedd, mewn etholiadau llywodraeth leol ac mewn etholiadau Comisynwyr yr Heddlu a Throseddu. |
L | Arglwydd sy’n gymwys i bleidleisio yn Nhŷ’r Arglwyddi, ac sydd â hawl pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. |
M | gwladolyn tramor cymwys (ac eithrio dinasyddion y Gymanwlad, Gweriniaeth Iwerddon, neu’r Undeb Ewropeaidd), sydd â hawl pleidleisio yn etholiad Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol. |
Cyrhaeddwyr
Adnabyddir rhai etholwyr a ychwanegir at y gofrestr fel cyrhaeddwyr. Mae’r etholwyr hyn yn unigolion sydd heb gyrraedd yr oedran pleidleisio eto, ond a fydd yn gwneud felly cyn cyhoeddiad disgwyliedig nesaf y gofrestr lawn ar gyfer rhai pleidleisiau. Mae hawl gan bobl 15 oed a rhai sy'n 14 oed gael eu cynnwys ar y gofrestr llywodraeth leol fel cyrhaeddwyr. Rhoddir dyddiad wrth enwau’r etholwyr hyn i ddangos y byddant wedi cyrraedd yr oedran pleidleisio.
Etholwyr eraill
Mae angen adran ar ôl yr etholwyr arferol mewn unrhyw ddosbarth etholiadol wedi ei marcio ‘etholwyr eraill’ sy’n cynnwys unrhyw gategorïau arbennig o etholwyr nad ydynt wedi eu rhestru ym mhrif gorff y gofrestr. Rhaid eu rhestru yn ôl cyfenw yn nhrefn yr wyddor, heb gyfeiriad, wedi eu dilyn gan unrhyw etholwyr sydd wedi eu cofrestru’n ddi-enw.5
Mae ein canllawiau ar etholwyr categorïau arbennig yn nodi mewn manylder sut dylid cynnwys etholwyr categorïau arbennig ar y gofrestr.
Rydym wedi creu adnodd sy’n dangos enghraifft o sut dylid fformatio’r gofrestr.
- 1. Rheoliadau 38 a 39 RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 9(3) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliadau 41(1) a (2) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 42 RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 41(3) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 5
Gweithgarwch cyfathrebu yn dilyn cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig
Gweithgarwch cyfathrebu yn dilyn cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig
Gallai cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig ysgogi ymholiadau wedi eu hanelu atoch chi, y dylech fod yn barod i ymateb iddynt.
Dylech gysylltu â thîm cyfryngau neu gyfathrebu eich awdurdod lleol, os nad ydych wedi gwneud felly yn barod, i sicrhau eich bod yn gallu ymateb yn gyflym i unrhyw straeon lleol a allai godi, yn enwedig os oes gweithgarwch cyfryngau parthed unrhyw broblemau cofrestru etholiadol yn eich ardal.
Dylech ystyried cyhoeddi datganiad i’r wasg sy’n nodi cyfanswm nifer y bobl sydd wedi cofrestru yn eich ardal, gan amlygu’r gwaith rydych wedi ei wneud, ac unrhyw waith ychwanegol rydych wedi ei gynllunio i gofrestru pobl.
Dylech nodi bod dal i fod amser i gofrestru mewn pryd ar gyfer yr etholiadau trefnedig nesaf, gan ddefnyddio hyn fel cyfle i alw ar unrhyw un yn eich ardal sydd heb eto gofrestru i wneud hynny.
O ystyried ffocws parhaus y cyfryngau ar gyfraddau cofrestru myfyrwyr a chyrhaeddwyr, efallai y bydd hi'n ddefnyddiol i chi amlygu'r gwaith yr ydych yn ei wneud gydag ysgolion, colegau, prifysgolion neu unrhyw grwpiau gwirfoddol perthnasol i annog cofrestru.
Gall eich tîm cyfryngau gael rhagor o gyngor trwy gysylltu â swyddfa cyfryngau'r Comisiwn Etholiadol trwy ffonio 020 7271 0704, neu e-bostio [email protected].
Pa ddata y bydd angen i mi ei gasglu a’i rannu yn dilyn y canfasiad blynyddol?
Pa ddata y bydd angen i mi ei gasglu a’i rannu yn dilyn y canfasiad blynyddol?
Gallai Adran y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ofyn am wybodaeth rheoli bob blwyddyn wedi’r canfasiad blynyddol; gall y wybodaeth ofynnol hefyd newid o flwyddyn i flwyddy; fodd bynnag, dylai eich EMS allu cynhyrchu adroddiadau i gefnogi’r ceisiadau hyn.
Casglu Data Canfasio’r Comisiwn Etholiadol
Bob blwyddyn, bydd y Comisiwn Etholiadol yn gofyn am ddata yn dilyn cyhoeddi’r gofrestr flynyddol. Bydd y data sydd i’w ddarparu wedi ei gynnwys mewn adroddiadau a fydd yn cael eu cynhyrchu yn llawn trwy eich system EMS. Bydd Tîm Ymchwil y Comisiwn yn gweithio gyda’ch darparwr EMS i nodi’r adroddiadau cyn casglu’r data, a dylai eich darparwr EMS roi gwybod i chi sut mae cynhyrchu’r adroddiad cywir yn y system.
Unwaith y byddwch wedi cynhyrchu’r adroddiad yn eich system EMS ac adolygu’r data, cyflwynwch ef i [email protected] cyn gynted â phosib ar ôl cyhoeddi’r gofrestr flynyddol ddiwygiedig. Caiff dyddiadau cau cyflwyno a gwybodaeth bellach eu cyfathrebu trwy fwletin Gweinyddu Etholiadol.
Safonau perfformiad
Er ein bod ni’n dal yn bwriadu casglu data gan bob ERO i’n helpu i ddeall cyflwr y cofrestrau etholiadol ar draws Prydain Fawr, nid ydym yn cynnig bod EROs yn coladu’r holl wybodaeth a restrir yn y safonau a’i hanfon atom yn rheolaidd. Dylai EROs fod yn defnyddio’r data a’r wybodaeth ansoddol a osodwyd allan yn y safonau i’w helpu i ddeall effaith eu gweithgareddau fel y gallant ganfod beth sy’n gweithio a beth nad yw’n gweithio, a lle y gellir gwneud gwelliannau. Mae’r fframwaith wedi ei ddylunio i gynorthwyo’r dadansoddi hwn a pheri i EROs ganolbwyntio ar y data a’r wybodaeth allweddol a fydd yn dangos beth sy’n gweithio’n dda a beth nad yw’n gweithio cystal.
RPF 29
Bob blwyddyn, bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dosbarthu ffurflen RPF29 i EROs, y mae’n ofynnol i chi ei chyflenwi i’r Ysgrifennydd Gwladol gan nodi gwybodaeth ragnodedig arbennig sy’n ymwneud â’r gofrestr ddiwygiedig.1
Mae’n ofynnol i chi gyflwyno’r wybodaeth hon mor fuan â phosib ar ôl cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig.2
- 1. Rheoliad 44 RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 44(1) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 2
Pwy all dderbyn y gofrestr?
Pwy all dderbyn y gofrestr?
Mae mynediad at y gofrestr etholiadol lawn, a’i chyfenwad, yn gyfyngedig i’r rheiny a ragnodir mewn deddfwriaeth.
Mae arnoch ddyletswydd i gyflenwi copïau o’r gofrestr etholwyr am ddim i amryw sefydliadau ac unigolion, ac mae deddfwriaeth yn gosod cyfyngiadau o ran sut mae gwneud hyn. Mewn rhai achosion, rhaid i gofrestrau gael eu cyflenwi wrth iddynt gael eu cyhoeddi, ac mewn achosion eraill, dim ond ar gais y cânt eu cyflenwi.
Mae amseru derbyn y gofrestr yn arbennig o bwysig i rai derbynwyr. Er enghraifft, mae angen y gofrestr ar bleidiau gwleidyddol i fodloni eu rhwymedigaethau statudol mewn perthynas â gwirio rhoddion, yn ogystal â’i defnyddio at ddibenion ymgyrchu. Mae’n bwysig bod y gofrestr yn cael ei chyflenwi’n gyflym, a dylech felly gyflenwi’r gofrestr i unrhyw un sydd â hawl ei derbyn pan gaiff ei chyhoeddi mor fuan â phosib, ac o fewn 5 diwrnod gwaith.
Dylech sicrhau bod pob person/sefydliad sy’n derbyn y gofrestr, p’un ai pan gaiff ei chyhoeddi, trwy ei phrynu, neu ar gais, yn ymwybodol o’r canlynol:
- bod rhaid iddynt ddefnyddio’r gofrestr at y diben(ion) a nodir yn y Rheoliadau yn unig
- unwaith y bydd y diben y cyflenwyd y gofrestr ar ei gyfer wedi dod i ben, rhaid iddynt ddileu’r gofrestr mewn modd diogel
- eu bod yn deall y gosb ar gyfer camddefnyddio’r gofrestr
Ni ddylech roi unrhyw gyngor mewn ymateb i gwestiynau ynghylch p’un a yw defnydd arfaethedig derbynnydd o’r gofrestr yn cydymffurfio â’r gyfraith. Cyfrifoldeb y derbynnydd yw ei fodloni ei hun bod ei ddefnydd o’r gofrestr yn cydymffurfio â’r hyn y mae’r gyfraith yn ei nodi. Os nad ydynt yn sicr, dylent siarad â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) neu geisio eu cyngor cyfreithiol eu hunain.
Rydym wedi creu dalenni eglurhaol sy’n nodi sut y ceir defnyddio’r gofrestr a’r gosb ar gyfer ei chamddefnyddio, sut mae ei gwerthu a’i chyflenwi ar gais, a sut mae archwilio’r gofrestr etholiadol.
Rydym hefyd wedi creu rhestr o bobl sydd â hawl derbyn y gofrestr etholiadol.
Mae yna wahanol ddarpariaethau a gymhwysir mewn perthynas â’r gofrestr olygedig a’r gofrestr wedi’i marcio.
I ddangos eich bod yn cydymffurfio ag egwyddorion prosesu data personol, a sicrhau y caiff ei brosesu’n gyfreithiol, mewn modd teg a thryloyw, dylech gadw cofnod o bod person a sefydliad sy’n derbyn y gofrestr gennych.
Rydym wedi creu canllawiau manwl pellach ynghylch cyrchu a chyflenwi’r gofrestr trwy gydol y flwyddyn.
Data sy’n ymwneud â’r rheiny o dan 16 oed
Data sy’n ymwneud â’r rheiny o dan 16 oed
Dim ond EROs a’u staff a gaiff gyrchu neu ddefnyddio data y rheiny o dan 16 oed. Ni ddylai unrhyw fersiwn o’r gofrestr neu unrhyw restrau pleidleisio absennol a gyhoeddir, neu a fyddai ar gael fel arall, gynnwys y data hwnnw.
Fodd bynnag, gellir datgelu’r data yn yr amgylchiadau canlynol:1
- i’r unigolyn ei hunan (gan gynnwys datgelu’r data i ddangos eu bod yn rhoddwr a ganiateir) neu i berson a benodwyd ganddynt yn ddirprwy i bleidleisio ar eu rhan
- at ddibenion ymchwiliad troseddol neu drafodion troseddol mewn perthynas â chofrestru etholwyr neu gynnal etholiadau
- mewn cyfathrebiad a anfonir at unigolyn neu aelwyd ar gyfer y canfasiad blynyddol, ond rhaid peidio â rhag-argraffu’r dyddiad geni
- i EROs a Swyddogion Canlyniadau yng nghyswllt cofrestru etholwyr neu gynnal etholiadau
Yr unig eithriad yw hwn: cyn etholiad Senedd Cymru, gellir datgelu gwybodaeth am y rheiny o dan 16 oed a fydd yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad (hynny yw, a fydd yn cyrraedd 16 oed ar neu cyn y diwrnod pleidleisio) ar y gofrestr etholiadol, y rhestr pleidleiswyr post, rhestr dirprwyon, a’r rhestr dirprwyon post at ddibenion etholiadol, a hwythau wedi eu cyflenwi i’r canlynol:2
- ymgeiswyr yn etholiad Senedd Cymru at ddibenion etholiadol neu er mwyn cydymffurfio â’r rheolau parthed rhoddion gwleidyddol
- y Swyddog Canlyniadau at ddibenion etholiadau Senedd Cymru
- y Comisiwn Etholiadol. Yn yr achos hwn, caiff y Comisiwn ond defnyddio’r wybodaeth hon mewn perthynas â’i swyddogaethau mewn perthynas â rheoli rhoddion a chyhoeddi gwybodaeth at swyddogaethau penodol, gan gynnwys y rheiny sy’n ymwneud â rhoddwyr, ond nid yw’r olaf yn caniatáu cyhoeddi enwau a chyfeiriadau y rheiny o dan 16 oed.
Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir cyn etholiad beidio â chynnwys unrhyw beth a fyddai’n galluogi adnabod pleidleiswyr o dan 16 oed.
Ni chaiff unigolion na chyrff eraill dderbyn unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r rheiny o dan 16 oed.
- 1. Adran 25, Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 25(5) Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 ↩ Back to content at footnote 2
Notifying anonymous electors about replacement Anonymous Elector's Documents
The elector number of an anonymous elector may change when you republish the electoral register following the conclusion of the annual canvass.
If an anonymous elector’s electoral number has changed and they have an Anonymous Elector’s Document, you must notify them that their electoral number has changed, that their Anonymous Elector's Document is no longer valid and that you will issue them with a new Anonymous Elector's Document.
For more information see our guidance on Replacement of an Anonymous Elector's Document where the elector number has changed.
Etholiadau sy’n digwydd yn syth wedi’r canfasiad
Etholiadau sy’n digwydd yn syth wedi’r canfasiad
Mae’r adran hon yn cwmpasu ystyriaethau ar gyfer etholiad a gynhelir ym mis Rhagfyr yn dilyn casgliad y canfasiad a chyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig. Mae’n cynnwys canllawiau ynghylch pa gofrestr y dylech ei defnyddio ar gyfer etholiad ym mis Rhagfyr, a sut bydd hyn yn effeithio ar ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol, a chynhyrchu’r cardiau pleidleisio.
Pa gofrestr y dylwn ei defnyddio ar gyfer etholiad ym mis Rhagfyr yn dilyn cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig?
Pa gofrestr y dylwn ei defnyddio ar gyfer etholiad ym mis Rhagfyr yn dilyn cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig?
Nid oes darpariaeth ar gyfer gohirio cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig o ganlyniad i etholiad a fydd yn digwydd ar ôl 1 Rhagfyr.
Mae’r gofrestr ddiwygiedig yn weithredol ar gyfer pob etholiad ar unwaith ar ôl ei chyhoeddi; mae hyn yn wahanol i hysbysiad newid, sydd ond yn weithredol mewn etholiad os caiff ei gyhoeddi ar neu cyn y pumed diwrnod gwaith cyn y bleidlais.
Unwaith y byddwch wedi cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig, bydd yn cael ei defnyddio at ddibenion etholiadol ar gyfer unrhyw etholiad sydd â diwrnod pleidleisio ar, neu cyn, y diwrnod pleidleisio, er ei bod yn ofynnol i chi gyhoeddi dau hysbysiad etholiad dros dro a hysbysiad newid terfynol ar y pumed diwrnod gwaith cyn y bleidlais.1
Seilir enwebiadau ymgeiswyr ar y gofrestr a fydd mewn grym ar y dyddiad olaf ar gyfer cyhoeddi’r hysbysiad etholiad.
- 1. Adrannau 13AB ac 13B RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Beth bydd rhaid i mi ei ystyried ar gyfer etholiad ym mis Rhagfyr?
Ar gyfer unrhyw etholiad a gynhelir ym mis Rhagfyr, bydd yr hysbysiad etholiad yn cael ei gyhoeddi cyn y dyddiad cau ar gyfer cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig.
Yr effaith ar ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol
Seilir enwebiadau ymgeiswyr ar y gofrestr a fydd mewn grym ar y dyddiad olaf ar gyfer cyhoeddi’r hysbysiad etholiad. Os byddwch wedi cyhoeddi eich cofrestr ddiwygiedig erbyn y dyddiad olaf ar gyfer cyhoeddi’r hysbysiad etholiad, dyma fydd y gofrestr y bydd ei hangen ar ymgeiswyr ac asiantiaid ar gyfer casglu tanysgrifwyr. Fel arall, dyma fydd yr hysbysiad newid olaf i gael ei gyhoeddi gennych.
Dylech sicrhau bod ymgeiswyr a’u hasiantiaid yn ymwybodol o ba gofrestr i’w defnyddio wrth gasglu tanysgrifwyr at ddiben cwblhau eu papurau enwebu.
Mae’n arbennig o bwysig bod ymgeiswyr a phleidiau sydd wedi gofyn am gopi o’r gofrestr ddiwygiedig a’r hysbysiadau newid etholiad yn eu derbyn mor fuan â phosib ar ôl eu cyhoeddi. Bydd hyn yn cynorthwyo ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol wrth ymgysylltu â phleidleiswyr ac ymgyrchu’n effeithlon lle bo cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig yn digwydd yn ystod cyfnod etholiad.
Cardiau pleidleisio
Mae’n rhaid i Swyddogion Canlyniadau (ROs) anfon cardiau pleidleisio at etholwyr sydd â hawl pleidleisio yn yr etholiad mor fuan ag y sy’n ymarferol ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad etholiad.
Gallech ddwyn hyn i ystyriaeth wrth benderfynu p’un a fyddwch yn cyhoeddi’r hysbysiadau newid misol yn ystod y cyfnod canfasio. Os ydych yn ERO ar gyfer ardal etholiadol sy’n croesi ffiniau awdurdodau lleol, dylech gysylltu â’r EROs eraill a’r ROs wrth ymgyrraedd at eich penderfyniad.
Gallai dewis cyhoeddi’r hysbysiadau ychwanegol hyn helpu i liniaru unrhyw broblemau ail-rifo o ganlyniad i gyhoeddi cofrestrau diwygiedig ar ôl i gardiau pleidleisio a phleidleisiau post gael eu dosbarthu.
Os dewiswch beidio â chyhoeddi’r hysbysiadau newidiadau misol yn ystod y cyfnod canfasio, bydd cardiau pleidleisio a anfonir cyn cyhoeddi’r hysbysiad etholiad dros dro yn seiliedig ar ddata na fyddai’n adlewyrchu unrhyw ychwanegiadau a dileadau a bennwyd yn ystod y cyfnod canfasio.
Yn yr amgylchiadau hynny, gellir dadlau taw’r adeg gynharaf yn ymarferol ar gyfer dosbarthu cardiau pleidleisio fyddai yn syth wedi cyhoeddi’r hysbysiad etholiad dros dro cyntaf, fel y gall y data a ddefnyddir adlewyrchu ychwanegiadau a dileadau a bennwyd yn ystod y cyfnod canfasio.
Os nad chi yw’r RO hefyd, dylech weithio gyda nhw i roi mecanweithiau ar waith i sicrhau bod cardiau pleidleisio yn cael eu hanfon at etholwyr mor fuan â phosib ar ôl i’r hysbysiad dros dro cyntaf gael ei gyhoeddi. Gweler ein canllawiau ar hysbysiadau newid etholiad a’r dyddiadau cau i geisiadau gael eu cynnwys ar yr hysbysiadau hyn.
Rhaid i ROs ei gwneud yn glir yn ystod hyfforddiant staff gorsafoedd pleidleisio y gall rhifau etholwyr ar y cardiau pleidleisio fod yn wahanol i’r rhifau a roddir i etholwyr pan gaiff y gofrestr ei hadolygu. Dylent egluro nad yw hyn yn effeithio ar hawl rhywun i bleidleisio, ac na ddylent gyfeirio at y rhif etholwr a argraffwyd ar y cerdyn pleidleisio wrth farcio’r gofrestr a chwblhau’r rhestr rhifau cyfatebol.
Yn hytrach, pan fydd yr etholwr yn cadarnhau ei enw a’i gyfeiriad, defnyddiwch y rhif fel y mae’n ymddangos yn erbyn manylion yr etholwr ar gofrestr yr orsaf bleidleisio ar gyfer cwblhau’r rhestr rhifau cyfatebol.
Rhaid briffio staff gorsafoedd pleidleisio fel eu bod yn gallu ymateb i unrhyw ymholiadau gan etholwyr a allai gwestiynu pam mae’r rhif a nodir a’i ysgrifennu ar y rhestr rhifau cyfatebol yn wahanol i’r un sydd wedi’i argraffu ar eu cerdyn pleidleisio.
What is the impact on a December election if the final election notice of alteration is published before the revised register?
What is the impact on a December election if the final election notice of alteration is published before the revised register?
In some cases an election in early December will require the final election notice of alteration to be published before the revised register.
Where this is the case the registration application deadline will be the deadline for applications for inclusion on the revised register. This is because the revised register has immediate effect and will apply to any poll on or after publication.
While the registration application deadline for inclusion on the final election notice of alteration will be twelve working days before the poll, where the revised register is published after the final election notice of alteration potential new electors will be able to submit a registration application until the deadline for inclusion on the revised register (six working days before the determination deadline).
Provided their application is determined by the determination deadline for the revised register (which is the working day before publication) they will be entitled to vote in the poll.
However, potential new electors wishing to vote by post will need to have applied to be registered by the postal vote application deadline which is 5pm eleven working days before the poll as they must state an address at which they are or have applied to be registered in their postal vote application.
Potential new electors who wish to vote by proxy will have the same registration application deadline as those voting in person. This is because the deadline for registration applications to be made in time to be included on the 1 December register will be before the ordinary proxy application deadline (5pm six working days before the poll).
These circumstances will present a number of administrative challenges for EROs and ROs. If you are not also the RO, you will need to liaise with them to:
- discuss any practical implications, including the timely transfer of data
- supply candidates and agents with copies of relevant electoral registers for nomination and campaigning purposes in a timely way
- make arrangements to supply the first interim notice of alteration and any subsequent updates to candidates and agents as soon as possible once published
- produce polling station registers after publication of the revised register
- make arrangements for registers to be printed and collated in a limited time - ROs will need to consider how to manage the preparation of ballot boxes to facilitate this
The specific challenges and solutions will vary depending on local circumstances. If you would like any further guidance or would like to discuss your particular situation, please contact your local Commission team.
Sut dylwn werthuso llwyddiant y canfasiad blynyddol?
Sut dylwn werthuso llwyddiant y canfasiad blynyddol?
Fel rhan o’ch cynllunio at gyflawni’r canfasiad, byddwch wedi pennu sut byddwch yn gwerthuso llwyddiant cyffredinol y canfasiad i lywio eich cynlluniau ar gyfer canfasiadau yn y dyfodol. Dros amser, dylai eich gwerthuso a’ch mireinio ar eich cynlluniau helpu i sicrhau bod eich prosesau canfasio yn gwneud y defnydd gorau ar adnoddau, a’u bod yn annog aelwydydd ac unigolion i gymryd y camau priodol, darparu’r gwasanaeth gorau i etholwyr, a lleihau eich baich gweinyddol.
Dylai eich gwerthuso ddefnyddio’r mesuriadau sydd ar gael i chi trwy eich system EMS. Bydd y safonau perfformiad ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol, a’r offerynnau a’r templedi sydd ar gael i’w cefnogi, yn eich cynorthwyo wrth ddeall ergyd eich gweithgareddau, helpu i ganfod lle gellir gwell, a’ch cefnogi i adrodd ar eich perfformiad eich hunan yn lleol.
Dylai EROs fod yn defnyddio’r data a’r wybodaeth ansoddol a nodir yn y safonau i’w helpu i ddeall effaith eu gweithgareddau, trwy gydol ac ar ddiwedd y canfasiad, fel y gallant ganfod beth sy’n gweithio, beth nad yw’n gweithio, a lle y gellir gwell. Mae’r fframwaith wedi ei ddylunio i gynorthwyo’r dadansoddi hwn a pheri i EROs ganolbwyntio ar y data a’r wybodaeth allweddol a fydd yn dangos beth sy’n gweithio’n dda, a lle y gellir gwell.
Beth yw'r ystyriaethau diogelu data i Swyddog Cofrestru Etholiadol?
Beth yw'r ystyriaethau diogelu data i Swyddog Cofrestru Etholiadol?
Rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ystyried materion diogelu data mewn sawl agwedd ar eu gwaith.
Mae ein canllawiau yn cwmpasu eich rôl fel rheolydd data, sut y dylech ddiogelu'r data personol sydd gennych, pa mor hir y dylech eu cadw, a ble y gallwch gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar ddeddfwriaeth diogelu data
Pwy sy'n rheolydd data?
Pwy sy'n rheolydd data?
Fel Swyddog Cofrestru Etholiadol, rydych yn ‘rheolydd data’ â dyletswydd statudol i brosesu data personol penodol er mwyn cynnal y gofrestr etholiadol. O dan ddeddfwriaeth diogelu data mae angen i chi allu dangos eich bod yn cydymffurfio ag egwyddorion prosesu data personol, gan sicrhau eu bod yn cael eu prosesu'n gyfreithlon, yn deg ac yn dryloyw.
Cyngor Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw bod angen i bob rheolydd data sicrhau ei fod wedi cofrestru â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau fod wedi cofrestru ar wahân i'w cyngor.
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, rhaid i awdurdod cyhoeddus benodi swyddog diogelu data i roi cyngor ar faterion diogelu data. Fel Swyddog Cofrestru Etholiadol neu Swyddog Canlyniadau, nid ydych wedi eich cynnwys yn y diffiniad o "awdurdod cyhoeddus" a geir yn Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac nid oes angen i chi benodi Swyddog Diogelu Data i gyflawni eich dyletswyddau. Fodd bynnag, rhaid bod gan eich cyngor penodi Swyddog Diogelu Data a dylech drafod arfer da ym maes diogelu data gyda'r unigolyn hwnnw.
Elfen allweddol o ddeddfwriaeth diogelu data yw'r ffocws cynyddol ar atebolrwydd a thryloywder wrth brosesu data personol. Rhaid i chi allu dangos eich bod yn cydymffurfio â'ch rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth diogelu data. Er mwyn gwneud hyn, y peth allweddol yw cadw cynlluniau a chofnodion ysgrifenedig er mwyn darparu llwybr archwilio.
Mae ein hadnodd ar ddeddfwriaeth diogelu data yn nodi sut y gallwch roi mesurau ar waith er mwyn bodloni'r gofyniad i ddangos cydymffurfiaeth a sicrhau bod diogelu data yn rhan annatod o bopeth a wnewch.
Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'ch cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth diogelu data. Yn benodol, dylech sicrhau'r canlynol:
- eich bod wedi'ch cofrestru â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolydd data
- bod gennych hysbysiadau preifatrwydd priodol ar waith
- eich bod yn cadw dogfennau yn unol â'ch polisi cadw dogfennau
- bod diogelu data yn rhan annatod o unrhyw gontractau lle y caiff data personol eu prosesu
- bod gennych ddogfen bolisi ar waith i brosesu categorïau arbennig o ddata personol
- eich bod yn cynnal cofnodion a chynlluniau er mwyn dangos eich bod yn prosesu data personol mewn ffordd gyfreithlon, deg a thryloyw
- eich bod yn tanlinellu'r mesurau diogelu sydd gennych ar waith er mwyn osgoi achosion o dorri amodau data personol yn eich cynlluniau a'ch cofrestr risg
Mae canllawiau ar ddangos cydymffurfiaeth â deddfwriaeth diogelu data wedi'u cynnwys yn ein canllawiau diogelu data ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau.
Sut y dylwn ddiogelu'r data personol sydd gennyf ac am faint o amser y dylwn eu cadw?
Sut y dylwn ddiogelu'r data personol sydd gennyf ac am faint o amser y dylwn eu cadw?
Bydd angen i chi gadarnhau bod mesurau diogelu priodol ar waith er mwyn diogelu data personol. Dylech adolygu eich prosesau gyda'ch swyddog diogelu data a'ch adrannau rheoli gwybodaeth/TG er mwyn helpu i nodi unrhyw risgiau i'r data sydd gennych, p'un a ydynt ar bapur neu'n cael eu storio'n electronig.
Mae angen i chi gynnal polisi cadw dogfennau, a fydd yn eich helpu i ddangos eich bod yn cydymffurfio ag egwyddorion prosesu data personol, gan sicrhau eu bod yn cael eu prosesu mewn ffordd gyfreithlon, deg a thryloyw.
Dylai eich polisi cadw dogfennau nodi'r canlynol ar gyfer pob dogfen a gewch ac a gedwir gennych:
- a yw'r ddogfen yn cynnwys data personol
- sail gyfreithlon casglu unrhyw ddata personol
- eich cyfnod cadw
- eich rhesymeg dros y cyfnod cadw (a allai ymwneud â gofyniad o dan ddeddfwriaeth etholiadol)
Mae ein canllawiau diogelu data ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau yn cynnwys arweiniad pellach ar gadw a storio dogfennau, gan gynnwys pa wybodaeth y dylai eich polisi cadw dogfennau ei chynnwys.
Byddwch yn casglu data personol gan drigolion megis dyddiad geni, cenedligrwydd a'u Rhif Yswiriant Gwladol. Bydd gan eich cyngor safonau a phrosesau corfforaethol ar gyfer trin data a diogelwch. Dylech geisio cyngor gan eich Swyddog Diogelu Data a'ch Adran TG ar sut i sicrhau eich bod yn parhau i drin data yn effeithiol. Byddant yn gallu eich helpu i nodi unrhyw risgiau i ddiogelwch eich data, boed hynny ar ffurflenni papur neu'n electronig ar eich systemau.
Bydd angen i chi sicrhau bod eich gweithdrefnau a'ch trefniadau storio yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data. Mae angen i arferion trin data da fod yn rhan o'ch prosesau busnes o ddydd i ddydd. Er enghraifft, bydd angen i chi adolygu sut rydych yn rheoli diogelwch data personol yn barhaus.
Beth sydd angen i mi ei ystyried wrth storio cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn?
Pan fydd ymateb i ohebiaeth ganfasio yn cynnwys cyfeiriadau e-bost a/neu rifau ffôn unigolion, dylech sicrhau bod y rhain yn cael eu cofnodi, yn unol â gofynion deddfwriaeth diogelu data, ac mai dim ond at ddiben ei chasglu y defnyddir y wybodaeth hon.
Os bydd gennych gofnodion o gyfeiriadau e-bost neu rifau ffôn eisoes, pan fyddwch yn defnyddio'r wybodaeth honno nesaf, dylech sicrhau bod testun y data yn ymwybodol o sut y byddwch yn parhau i brosesu'r data hon drwy:
- egluro hawl testun y data i wrthwynebu prosesu pellach
- darparu dolen i'ch hysbysiad preifatrwydd
- cynnwys opsiwn dadtanysgrifio
Ceir rhagor o wybodaeth am ddarparu opsiwn dadtanysgrifio yn ein canllawiau diogelu data ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau.
Ble y gallaf gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar ddeddfwriaeth diogelu data?
Ble y gallaf gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar ddeddfwriaeth diogelu data?
Cewch ganllawiau ar ddiogelu data ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth neu, os bydd gennych unrhyw gwestiynau penodol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn uniongyrchol.
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth Cymru
2il Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Ffôn: 029 2067 8400
E-bost: [email protected]
Mae'r Gymdeithas Llywodraeth Leol/ SOCITM hefyd wedi llunio canllawiau i awdurdodau lleol ar drin data (er y dylid nodi bod y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn rheolydd data ar wahân i'r awdurdod lleol). Mae'n argymell y dylech ystyried y ffactorau canlynol wrth ddatblygu eich dull o drin data:
- Polisi: dylai polisïau cynhwysfawr (gan gynnwys parhad busnes, gweithio gartref a gweithio symudol) ffurfio'r weithdrefn llywodraethu gwybodaeth. Dylai'r polisïau gael eu monitro a'u harchwilio er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol
- Pobl: gan gynnwys ymwybyddiaeth a hyfforddiant staff, mynediad defnyddwyr a systemau ar gyfer rheoli risgiau o ran gwybodaeth
- Lleoedd: gan gynnwys asesiadau risg, diogelwch adeiladau a safleoedd, gwaredu gwybodaeth a defnyddio cyfryngau symudol
- Prosesau: gan gynnwys pwy a all weld data, diogelwch systemau, trosglwyddo data a phrosesau data cyflenwyr a chontractwyr
- Gweithdrefnau: gan gynnwys cofnodi risgiau, gweithdrefnau archwilio a pholisïau a gweithdrefnau wedi'u dogfennu
Adnoddau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol
Canllawiau ar ffurflenni a llythyrau
Adnoddau'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol