Mae adran hon yn cwmpasu sut mae prosesu ymatebion i’r canfasiad. Dylai’ch cynlluniau cofrestru fynd i’r afael â sut byddwch yn ymdrin â phob math o ymateb i’r canfasiad ac unrhyw weithgarwch dilynol y bydd angen i chi ymgymryd ag ef.
Bydd ymatebion i gyfathrebiadau canfasio yn perthyn i’r categorïau eang canlynol:
mae’r holl wybodaeth yn gyflawn ac yn gywir
mae’n darparu gwybodaeth newydd ynghylch pwy sy’n byw yn yr eiddo
mae’n darparu gwybodaeth newydd ynghylch newidiadau angenrheidiol i fanylion etholwr
mae’n darparu gwybodaeth newydd sy’n nodi nad yw etholwr cyfredol yn byw yn y cyfeiriad bellach
cyfuniad o’r uchod
mae’n cynnwys gwybodaeth i’r perwyl nad oes unrhyw breswylwyr yn yr eiddo sy’n gymwys i gofrestru