Beth sydd angen i mi ei ystyried wrth storio cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn?

Pan fydd ymateb i ohebiaeth ganfasio yn cynnwys cyfeiriadau e-bost a/neu rifau ffôn unigolion, dylech sicrhau bod y rhain yn cael eu cofnodi, yn unol â gofynion deddfwriaeth diogelu data, ac mai dim ond at ddiben ei chasglu y defnyddir y wybodaeth hon.  

Os bydd gennych gofnodion o gyfeiriadau e-bost neu rifau ffôn eisoes, pan fyddwch yn defnyddio'r wybodaeth honno nesaf, dylech sicrhau bod testun y data yn ymwybodol o sut y byddwch yn parhau i brosesu'r data hon drwy:

  • egluro hawl testun y data i wrthwynebu prosesu pellach 
  • darparu dolen i'ch hysbysiad preifatrwydd 
  • cynnwys opsiwn dadtanysgrifio 

Ceir rhagor o wybodaeth am ddarparu opsiwn dadtanysgrifio yn ein canllawiau diogelu data ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Mehefin 2024