Cyflawni'r canfasio blynyddol – Cymru
Pa gam gweithredu dylech ei gymryd pan fyddwch yn derbyn ymateb llwyddiannus i’r canfasiad?
Pa gam gweithredu dylech ei gymryd pan fyddwch yn derbyn ymateb llwyddiannus i’r canfasiad?
| Mae’r ymateb i’r canfasiad yn dangos bod yr holl wybodaeth yn gyflawn ac yn gywir | Dylech gofnodi bod ymateb wedi dderbyn, er mwyn atal llythyrau atgoffa rhag cael eu hanfon, a chau’r Llwybr canfasio ar gyfer yr eiddo. |
|---|---|
| Mae’r ymateb i’r canfasiad yn darparu gwybodaeth newydd sy’n nodi nad yw etholwr cyfredol yn byw yn y cyfeiriad bellach | Rhaid i chi beidio â dileu’r etholwr oddi ar y gofrestr yn awtomatig. Yn hytrach, rhaid i chi naill ai gael ail ffynhonnell dystiolaeth neu gynnal adolygiad cofrestru cyn i chi allu tynnu’r etholwr. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau - dileu etholwr oddi ar y gofrestr |
| Mae’r ymateb i’r canfasiad yn dangos bod etholwr cyfredol wedi marw | Cewch ddileu’r etholwr oddi ar y gofrestr yn awtomatig os yw ymateb yn dangos bod etholwr wedi marw, ac rydych yn fodlon bod y wybodaeth yn gywir. |
| Mae’r ymateb i’r canfasiad yn nodi bod preswylwr/wyr newydd yn yr eiddo | Rhaid i chi wahodd darpar etholwyr cymwys i gofrestru o fewn 28 diwrnod i dderbyn yr hysbysiad oni bai eu bod wedi gwneud cais i gofrestru yn y cyfamser. Nid oes angen i chi wybod enw llawn neu gysáct darpar etholwyr er mwyn rhoi gwahoddiad cofrestru iddynt. Rhaid i chi, fodd bynnag, feddu ar ddigon o wybodaeth ynghylch eu henw i allu eu hadnabod fel unigolyn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau - gwahodd unigolion i gofrestru i bleidleisio |
| Mae’r ymateb i’r canfasiad yn dangos bod enw etholwr wedi newid | Dylech anfon ffurflen newid enw i’r etholwr. Lle bo etholwr wedi newid ei enw, rhaid iddo gwblhau ffurflen newid enw a darparu tystiolaeth ategol o’r newid er mwyn i’r gofrestr etholiadol gael ei diweddaru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau - prosesu newid i enw etholwr |
| Mae’r ymateb i’r canfasiad yn dangos bod cenedligrwydd etholwr wedi newid | Dylech anfon gwahoddiad cofrestru i’r etholwyr y mae eu cenedligrwydd wedi newid. Rhaid i etholwyr a oedd wedi eu cofrestru ar y gofrestr etholwyr llywodraeth leol yn unig wneud cais newydd os dônt yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd Gweriniaeth Iwerddon, neu ddinesydd gwlad arall yn y Gymanwlad, fel y gallant gael eu hychwanegu at gofrestr etholwyr Seneddol y DU. Bydd rhaid i’r cais newydd fynd trwy’r prosesau ymgeisio, dilysu a phennu eto. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau - prosesu newid i genedligrwydd etholwr |
| Mae’r ymateb i’r canfasiad yn dangos newid i’r dangosydd 76 oed neu drosodd | Dylech ychwanegu marciwr perthnasol at y gofrestr ar gyfer unrhyw unigolyn lle bo ymateb i gyfathrebiad canfasio yn dangos eu bod yn 76 oed neu drosodd (ai peidio) |
| Ymateb i’r canfas yn nodi newid i ddewis etholwr o ran y gofrestr (olygedig) agored | Pan fydd yr ymateb i’r canfas yn nodi’n glir bod person am optio allan o’r gofrestr agored (er enghraifft, os mai dim ond un etholwr sy’n preswylio yn y cyfeiriad ac mae wedi nodi ei fod am gael ei dynnu oddi ar y gofrestr agored), dylech drin yr ymateb i’r canfas fel hysbysiad o dan Erthygl 21 o’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a diwygio’i ddewis o ran y gofrestr agored yn unol â’i gais.
|