Etholiadau lleol yng Nghymru
Rhannu'r dudalen hon:
Canllawiau ac adnoddau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau sy'n gweinyddu etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru
Mae'r canllawiau ar y dudalen hon yn cael eu diweddaru i’n fformat ar y we. Bydd y canllawiau wedi'u diweddaru yn cynnwys y diwygiadau deddfwriaethol sydd eu hangen ar gyfer y gyfres nesaf o etholiadau sydd wedi’u trefnu yn 2027. Bydd cynlluniau ar gyfer cyhoeddi'r canllawiau wedi'u diweddaru yn cael eu cyfleu drwy’r Bwletin Gweinyddiaeth Etholiadol.
Cysylltwch â'n tîm Cymru drwy [email protected] os oes angen unrhyw gymorth arnoch.
Dylech barhau i gyfeirio at y canllawiau cyhoeddedig hyn ar gyfer unrhyw isetholiadau a gynhelir cyn 6 Mai 2027.
Rhan A
Rôl a chyfrifoldebau Swyddog Canlyniadau
Mae’r rhan hon yn cynnwys:
- Sut i ddefnyddio'r cyfarwyddyd hwn
- Rôl, cyfrifoldebau, sgiliau a gwybodaeth y Swyddog Canlyniadau
- Ein safonau perfformio ar gyfer Swyddogion Canlyniadau
Rhan B
Cynllunio a threfnu
Mae’r rhan hon yn cynnwys:
- Cynllunio (yn cynnwys adnabod a hyfforddi staff, dewis a bwcio lleoliadau a rheoli contractwyr a chyflenwyr)
- Sut i gynnal hygrededd yr etholiad
- Codi ymwybyddiaeth
- Mynediad i weithrediadau gan arsyllwyr etholiadol a chynrychiolwyr y Comisiwn
Rhan C
Gweinyddu'r etholiad
Mae’r rhan hon yn cynnwys:
- Y cyfnod enwebu (yn cynnwys mynediad i'r gofrestr gan ymgeiswyr, cyfyngiadau gwariant a'r broses enwebu)
- Cynhyrchu hysbysiadau, cardiau pleidleisio a phapurau pleidleisio
- Pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio
Rhan D
Pleidleisio absennol
Mae’r rhan hon yn cynnwys:
- Yr amserlen bleidleisio absennol
- Pleidleisio drwy ddirprwy
- Paratoadau ar gyfer prosesau pleidleisio absennol a chynhyrchu deunydd swyddfa
- Gweithdrefnau ar gyfer anfon, derbyn ac agor pleidleisiau post
Rhan E
Dilysu a chyfrif y pleidleisiau
Mae’r rhan hon yn cynnwys:
- Yr egwyddorion ar gyfer proses ddilysu a chyfrif effeithiol
- Paratoadau ar gyfer y cyfrif
- Rheoli'r dilysu a'r cyfrif
- Gweithdrefnau dilysu a chyfrif
Rhan F
Ar ôl cyhoeddi'r canlyniadau
Mae’r rhan hon yn cynnwys:
- Storio a chael gwared â dogfennau
- Gweithgareddau ôl-etholiad
- Herio'r canlyniad
- Arolygu gweithdrefnau etholiadol