Canllaw cryno - Dogfennau nad ydynt ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio
Nid yw'r ddogfennaeth ganlynol ar gael i'r cyhoedd ei harchwilio, ac eithrio drwy orchymyn llys:
papurau pleidleisio
rhestrau rhifau cyfatebol wedi'u cwblhau
tystysgrifau cyflogaeth y rhai ar ddyletswydd ar y diwrnod pleidleisio
Ni ellir gweld y dogfennau hyn oni bai bod Uchel Lys neu lys sirol yng Nghymru a Lloegr, neu Lys y Sesiwn neu Siryf yn yr Alban, yn fodlon ar sail tystiolaeth ar lw bod angen y mynediad hwnnw am un o'r rhesymau canlynol:
er mwyn cychwyn neu erlyn achos am drosedd yn ymwneud â phapurau pleidleisio
at ddibenion deiseb etholiadol
Gall Tŷ'r Cyffredin neu lys etholiadol orchymyn mynediad hefyd.
Nid oes rhaid i'r ceisiadau gael eu gwneud mewn llys agored: gallant gael eu gwneud gan farnwr o'r llys perthnasol mewn llys agored neu fel arall.
Papurau enwebu
Dim ond pobl benodol a all archwilio papurau enwebu nes bod y terfyn amser ar gyfer gwrthwynebiadau wedi mynd heibio, fel y disgrifir yn ein canllawiau ar Bresenoldeb wrth gyflwyno papurau enwebu.
Ni chaiff neb arall archwilio papurau enwebu ar unrhyw adeg. Dim ond i'r rheini sydd â phŵer cyfreithiol i gael dogfennau y gellir cyflenwi papurau enwebu a dim ond y bobl hyn sydd â'r hawl i'w gweld. Gall hyn gynnwys swyddog yr heddlu sy'n defnyddio unrhyw bwerau a all fod ganddo i feddiannu dogfennau, neu orchymyn llys.
Ac eithrio'r ffurflen cyfeiriad cartref, dylech storio'r papurau enwebu'n ddiogel am flwyddyn ar ôl yr etholiad oherwydd y terfyn amser ar gyfer erlyn yn achos deiseb etholiadol. Os bydd achosion cyfreithiol o'r fath yn digwydd neu'n debygol o ddigwydd, dylech gadw'r papurau enwebu nes bod y llys wedi cwblhau ei waith.
Ffurflenni cyfeiriad cartref
Rhaid i chi storio ffurflenni cyfeiriad cartref yn ddiogel am gyfnod o 21 diwrnod calendr ar ôl i chi ddychwelyd y gwrit a rhaid iddynt gael eu dinistrio drwy ddulliau diogel y diwrnod gwaith nesaf ar ôl y cyfnod 21 diwrnod hwnnw.
Os cyflwynir deiseb etholiadol yn ymwneud â'r etholiad o fewn y 21 diwrnod calendr, rhaid i'r ffurflenni cyfeiriad cartref gael eu cadw'n ddiogel nes bod gweithrediadau'r ddeiseb yn cael eu cwblhau (gan gynnwys unrhyw apêl sy'n deillio o'r gweithrediadau hynny). Yna rhaid i chi eu dinistrio'n ddiogel y diwrnod gwaith nesaf ar ôl i'r gweithrediadau neu'r apêl ddod i ben.