Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i'r Comisiwn Etholiadol fonitro cydymffurfiaeth â'r rheolau ar gyfer gwariant a rhoddion ymgeiswyr mewn etholiadau.
Mae deddfwriaeth yn gosod terfynau ar wariant ymgeiswyr ac yn pennu terfynau amser penodol ar gyfer cyflwyno gwybodaeth am wariant. Rhaid i bob asiant etholiad gyflwyno ffurflen gwariant ymgeisydd i chi, ynghyd ag anfonebau a derbynebau perthnasol, o fewn 35 diwrnod calendr i ddatgan canlyniad yr etholiad (oni fydd diwrnod olaf y cyfnod ar benwythnos neu ŵyl y banc, ac os felly bydd y diwrnod olaf yn symud i'r diwrnod gwaith nesaf).1
Mae hyn yn golygu os gwnaethoch ddatgan canlyniad ddydd Gwener 6 Mai, er enghraifft, y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r ffurflen gwariant fyddai dydd Gwener, 10 Mehefin.
Rhaid cyflwyno ffurflen wariant hyd yn oed os bydd yr etholiad yn ddiwrthwynebiad.2
Mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i asiantiaid etholiad ac ymgeiswyr gyflwyno datganiadau ar wahân yn cadarnhau bod ffurflen gwariant etholiad yr ymgeisydd yn gyflawn ac yn gywir. Rhaid i ddatganiad yr asiant etholiad gael ei anfon ar y cyd â'r ffurflen gwariant lawn. Rhaid i ddatganiad yr ymgeisydd gael ei gyflwyno o fewn saith diwrnod gwaith ar ôl i'r asiant etholiad gyflwyno'r ffurflen gwariant lawn.
Fodd bynnag, os yw'r ymgeisydd allan o'r DU pan gyflwynir y ffurflen i chi, rhaid iddo wneud y datganiad o fewn 14 diwrnod calendr i ddychwelyd i'r DU (oni fydd diwrnod olaf y cyfnod ar benwythnos neu ŵyl y banc, ac os felly bydd y diwrnod olaf yn symud i'r diwrnod gwaith nesaf).
Er mwyn cadw trywydd archwilio clir, dylech sicrhau bod y dyddiad yn cael ei stampio ar unrhyw ddogfennaeth sy'n ymwneud â ffurflen gwariant ymgeisydd, gan gynnwys datganiad yr asiant etholiad, pan gânt eu derbyn.