Guidance for Returning Officers administering a Greater London Authority (GLA) election

| Argraffu'r canllawiau llawn

Cyhoeddi hysbysiad o benodiad asiant etholiad

Rhaid i chi gyhoeddi hysbysiad sy'n nodi enw a chyfeiriad yr asiant etholiad cyn gynted â phosibl ar ôl i chi gael gwybod am ei benodiad. Dylech hefyd gynnwys enw llawn yr ymgeisydd ar yr hysbysiad, a gallech ychwanegu unrhyw enw a ddefnyddir yn gyffredin mewn cromfachau, er mwyn bod yn gyflawn. Rhaid i'r hysbysiad gael ei ddiweddaru os dirymir penodiad asiant, neu os bydd asiant yn marw, a rhaid nodi manylion yr asiant newydd ar y fersiwn ddiwygiedig.1

Dylai eich hysbysiad preifatrwydd nodi'n glir ei bod yn ofynnol i chi, o dan ddeddfwriaeth etholiadol, gyhoeddi enw a chyfeiriad asiant etholiad yn yr hysbysiad o asiantiaid etholiad. Mae gan yr hysbysiad ddiben penodol, h.y. nodi pwy fydd asiant etholiad ymgeisydd, felly unwaith y bydd yr etholiad drosodd, a bod y cyfle i gwestiynu'r etholiad hwnnw wedi darfod, ni fydd ganddo unrhyw ddiben pellach mwyach. Felly, dylech naill ai ddileu'r hysbysiad, neu ddileu'r data personol sydd ynddo, pan fydd dyddiad cau deiseb yr etholiad wedi mynd heibio.

Mae ein canllawiau diogelu data yn ymdrin â gofynion hysbysiad preifatrwydd ac ystyriaethau ar gyfer cadw dogfennau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Ionawr 2025