Rydym wedi cyhoeddi amserlen nad yw'n cynnwys dyddiadau penodol ar gyfer etholiadau cyffredinol Senedd y DU ac is-etholiadau yn cynnwys y dyddiadau cau statudol fel y'u nodir yn y rheolau etholiadol y gellir eu defnyddio i'ch helpu gyda'ch gwaith cynllunio.
Amserlen nad yw'n cynnwys dyddiadau penodol ar gyfer etholiadau cyffredinol Senedd y DU
Amserlen nad yw'n cynnwys dyddiadau penodol ar gyfer is-etholiadau
Bydd amserlenni yn cynnwys dyddiadau penodol ar gael ar ein gwefan cyn unrhyw etholiad cyffredinol.
Dylech sicrhau bod gennych drefniadau wrth gefn ar waith i'ch galluogi i ymateb ac i gynnal etholiad effeithiol os caiff etholiad cyffredinol ei alw ar fyr rybudd neu os bydd is-etholiad yn codi. Pan gaiff etholiad ei alw bydd angen i chi adolygu eich cynlluniau a datblygu trefniadau ar gyfer amserlen a chyd-destun penodol yr etholiad.