Guidance for Returning Officers administering a Greater London Authority (GLA) election
Cynllunio wrth gefn
Dylai eich cynllun prosiect gynnwys cynlluniau wrth gefn a threfniadau parhad busnes er mwyn galluogi pob elfen o'r broses o gynnal yr etholiad i barhau os ceir problemau neu ymyriadau annisgwyl. Mae'n bwysig parhau i adolygu eich cynlluniau wrth gefn, eu hailystyried a'u diwygio yn rheolaidd yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad. Wrth wneud hynny, dylech ystyried llwyddiant a phriodoldeb parhaus unrhyw fesurau sy'n bodoli eisoes, nodi unrhyw welliannau ac amlygu unrhyw fylchau.
Dylech hefyd ddatblygu a chynnal cynlluniau wrth gefn parhaus ar wahân er mwyn helpu i gynnal unrhyw etholiadau ac is-etholiadau annisgwyl a all ddigwydd.
Dylai eich cynlluniau wrth gefn gynnwys trefniadau ar gyfer y meysydd risg allweddol sy'n gysylltiedig â chynnal yr etholiad, gan gynnwys y canlynol:
-
Contractwyr
-
Dylech sicrhau bod gan unrhyw gyflenwyr y byddwch yn eu defnyddio – fel darparwr eich System Rheoli Etholiad ac unrhyw ddarparwyr argraffu allanol – eu cynlluniau parhad busnes manwl eu hunain ar waith. Dylech hefyd fodloni'ch hun bod eu trefniadau wrth gefn yn ddigonol i'ch galluogi i gyflawni eich dyletswyddau os bydd unrhyw achosion o darfu ar y gwasanaeth wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau cytundebol. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar Reoli'r broses gaffael ar gyfer gwaith o dan gontractau allanol.
-
-
Lleoliadau
-
Dylech baratoi rhestr o leoliadau amgen sydd ar gael ar fyr rybudd ar gyfer pob cam o'r broses etholiadau a rhoi gwybodaeth i staff am y trefniadau wrth gefn ar gyfer defnyddio'r lleoliadau hyn a allai effeithio ar eu rôl. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau Nodi ac archebu lleoliadau addas a Newidiadau munud olaf i orsafoedd pleidleisio
-
-
Staffio
-
Dylech nodi atebion i'ch galluogi i ymateb i brinder staff sydyn. Dylech gydgysylltu â'ch adran Adnoddau Dynol a all ddefnyddio ei harbenigedd i'ch helpu i gynllunio. Mae'n bosibl y bydd rheolwyr adrannol eraill yn eich awdurdod lleol, neu mewn awdurdodau cyfagos y mae cytundebau dwyochrog ar waith rhyngoch chi a nhw, hefyd yn gallu cynnig cymorth ychwanegol wrth reoli unrhyw ofynion ar gyfer staff dros dro ar gyfer rhannau penodol o'r broses etholiadol. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar Neilltuo adnoddau staff digonol a darparu hyfforddiant a Staffio hyblyg
-
-
TG
-
Mae TG hefyd yn rhan allweddol o lawer o'r prosesau sydd eu hangen i gynnal yr etholiad. Dylech gydgysylltu â'ch gwasanaethau TG er mwyn sicrhau bod gennych adnoddau a mesurau wrth gefn digonol ar waith i chi allu cyflawni eich swyddogaethau os bydd methiant TG. Gallai hyn gynnwys:
- gwella unrhyw fesurau sy'n caniatáu galluoedd gweithio o bell
- sicrhau bod cymorth TG penodedig ar gael yn ystod cyfnod yr etholiad
- storio rhai ffeiliau a dogfennau penodol yn lleol er mwyn gallu cael gafael arnynt yn haws
- dod o hyd i unrhyw gyfarpar sbâr neu amgen y gellid ei ddefnyddio os bydd angen e.e. argraffwyr, gliniaduron, llwybryddion
-
Dylid hefyd ystyried risgiau diogelwch fel rhan o'ch trefniadau wrth gefn, gan nodi sut y byddwch yn parhau i gynnal yr etholiad os bydd achos o ddwyn, gweithgarwch twyllodrus, seiberfygythiad neu unrhyw risg diogelwch arall fel y nodir yn eich cofrestr risg. Dylech gydgysylltu â'r heddlu ac arbenigwyr parhad busnes o'ch cyngor i nodi risgiau a rhoi mesurau parhad priodol ar waith.
Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi llunio'r canllawiau hyn i'ch helpu i asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig â TG a seiberfygythiadau.