Guidance for Returning Officers administering a Greater London Authority (GLA) election

| Argraffu'r canllawiau llawn

Amserlen ar gyfer pleidleisio absennol

Mae'n rhaid i chi anfon pleidleisiau post at etholwyr cyn gynted ag y bo'n ymarferol1 . Yn ymarferol, mae hyn yn golygu unrhyw bryd ar ôl i'r manylion i'w hargraffu ar y papurau pleidleisio gael eu cadarnhau, h.y. ar ôl y dyddiad cau ar gyfer tynnu enw yn ôl, sef 4pm ar y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu. 

Bydd anfon pleidleisiau post yn gynnar yn cynyddu'r amser fydd ar gael i etholwyr – yn enwedig pleidleiswyr sydd dramor neu yn y lluoedd – dderbyn, cwblhau a dychwelyd eu pleidleisiau post. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau: Anfon a dosbarthu pleidleisiau post

Dim ond at rywun sydd wedi cael ei ychwanegu at y gofrestr etholiadol ac sydd wedi gwneud cais llwyddiannus am bleidlais bost y gallwch anfon pleidlais bost. Mae'n ofynnol i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gyhoeddi dau hysbysiad newid etholiad interim cyn cyhoeddi'r hysbysiad newid etholiad terfynol ar y pumed diwrnod gwaith cyn y bleidlais.2  Mae hyn yn cefnogi'r broses o ddosbarthu pleidleisiau post ar gam cynnar yn yr amserlen i'r etholwyr hynny sydd wedi gwneud cais i gofrestru a gwneud cais am bleidlais bost yn agos at y dyddiad cau ar gyfer cofrestru. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol: hysbysiadau newid etholiad.

Os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, dylech gysylltu ag ef er mwyn cael y rhestr o bleidleiswyr post a'r rhestr o bleidleiswyr sy'n pleidleisio drwy ddirprwy cyn gynted â phosibl ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad newid etholiad interim cyntaf er mwyn cynnwys yr etholwyr hwnnw pan gaiff y pleidleisiau post cyntaf eu dosbarthu. Rhaid i'r hysbysiad hwn gael ei gyhoeddi ar yr un diwrnod â'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.3

Bydd hefyd angen i chi gysylltu â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol i gael unrhyw ddiweddariadau dilynol pan fydd yr ail hysbysiad newid etholiad interim a'r hysbysiad newid etholiad terfynol wedi'u cyhoeddi. 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hysbysiadau newid interim yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban . 
 
Mae ein hamserlen etholiadol enghreifftiol ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU a'r amserlen ar gyfer is-etholiadau hefyd yn cynnwys y dyddiadau cyhoeddi perthnasol ar gyfer yr hysbysiadau hyn. 

Amserlen Etholiad Cyffredinol Senedd y DU

Amserlen is-etholiad Senedd y DU

Etholaethau trawsffiniol

Os ydych, fel Swyddog Canlyniadau (Dros Dro), yn gyfrifol am etholaeth sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol, dylech weithio gyda'r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol yn yr awdurdod arall/awdurdodau eraill er mwyn cael y data sydd eu hangen arnoch. Os bydd angen cyfnewid data yn electronig, dylech sicrhau bod y broses yn cael ei phrofi cyn y dyddiad trosglwyddo cyntaf. 

Amserlen ar gyfer pleidleisio absennol

Dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais absennol a cheisiadau am newidiadau i drefniadau presennol

Y dyddiad cau i etholwyr gyflwyno ceisiadau newydd am bleidlais bost a phleidlais ddirprwy drwy'r post yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio. Hwn yw'r dyddiad cau ar gyfer y canlynol hefyd:

  • canslo pleidleisiau post presennol
  • i etholwyr wneud newidiadau (h.y. newid y cyfeiriad dosbarthu) i unrhyw drefniadau pleidleisio absennol presennol (h.y. pleidlais bost, pleidlais drwy ddirprwy a phleidlais ddirprwy drwy'r post) 

Fodd bynnag, os yw etholwr yn bleidleisiwr post ar hyn o bryd sydd eisoes wedi dychwelyd ei bapur pleidleisio drwy'r post, ni all wneud unrhyw newidiadau wedi hynny, hyd yn oed os yw cyn 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.1  

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau newydd am bleidlais drwy ddirprwy (nid pleidlais ddirprwy drwy'r post), heb gynnwys ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng, yw 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.2   

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng yw 5pm ar y diwrnod pleidleisio3 . Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau: pleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng.
Mae'r tabl hwn yn crynhoi'r dyddiadau cau er mwyn gallu cyfeirio ato'n hawdd:

Cais

Dyddiad cau

Cyflwyno ceisiadau newydd am bleidlais bost a phleidlais ddirprwy drwy'r post 5pm, 11 diwrnod waith cyn y diwrnod pleidleisio
Canslo pleidleisiau post presennol 5pm, 11 diwrnod waith cyn y diwrnod pleidleisio
Gwneud newidiadau i drefniadau pleidleisio absennol presennol 5pm, 11 diwrnod waith cyn y diwrnod pleidleisio
Ceisiadau newydd am bleidlais drwy ddirprwy (nid pleidlais ddirprwy drwy’r post) 5pm, 6 diwrnod waith cyn y diwrnod pleidleisio
Ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng 5pm, ar y diwrnod pleidleisio

Bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn rhoi'r rhestrau terfynol o bleidleiswyr absennol i chi, h.y. y rhestr o bleidleiswyr post, y rhestr o ddirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post a'r rhestr dirprwyon, ar ôl i'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fynd heibio. 

Efallai na fydd y rhestrau terfynol o bleidleiswyr absennol ar gael tan ar ôl y dyddiad cau ar gyfer pennu cofrestriad, sef chwe diwrnod gwaith cyn y bleidlais. Y rheswm dros hyn yw, lle caiff cais cofrestru sydd wedi'i gwblhau ei wneud erbyn y dyddiad cau, ond na ellir cadarnhau pwy sy'n gwneud cais yn erbyn cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau neu drwy baru data lleol, mae gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol tan y dyddiad cau ar gyfer pennu ceisiadau i gael y dystiolaeth ofynnol gan yr ymgeisydd o dan y broses eithriadau a gwneud penderfyniad. 

Os bydd yr ymgeisydd hefyd wedi gwneud cais am bleidlais absennol erbyn y dyddiad cau perthnasol ar gyfer pleidlais absennol, ni ellir rhoi'r bleidlais absennol nes i'r cais cofrestru gael ei bennu'n gadarnhaol a bod y cais yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Medi 2024