Guidance for Returning Officers administering a Greater London Authority (GLA) election

| Argraffu'r canllawiau llawn

Pleidleisio drwy ddirprwy

Bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn rhoi rhestr i chi o'r holl etholwyr sydd, erbyn 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio, wedi penodi dirprwy i bleidleisio ar eu rhan. Rhaid i chi roi'r rhannau perthnasol o'r rhestr hon o ddirprwyon i Swyddogion Llywyddu.1  

Bydd rhestr ar wahân yn cynnwys manylion dirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post Rhaid nodi ‘A’ yn erbyn enw'r etholwr ar gofrestr yr orsaf bleidleisio oherwydd os bydd etholwr wedi penodi dirprwy a bod ei ddirprwy wedi gwneud cais i bleidleisio drwy'r post, ni all bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio mwyach.2  

Etholaethau trawsffiniol

Os ydych, fel Swyddog Canlyniadau (Dros Dro), yn gyfrifol am etholaeth sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol, dylech gysylltu â'r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol yn yr awdurdod lleol arall/awdurdodau lleol eraill i gael y rhestr o'r holl etholwyr ar gyfer y rhannau perthnasol o'r etholaeth sydd, erbyn 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio, wedi penodi dirprwy i bleidleisio ar eu rhan.

Pleidleisio drwy ddirprwy

Cyfyngiadau ar bleidleisio drwy ddirprwy

Ni all unigolyn gael mwy nag un dirprwy sydd wedi'i benodi ar unrhyw adeg.1

Ni all unigolyn bleidleisio fel dirprwy yn yr un etholiad Senedd y DU mewn unrhyw etholaeth benodol ar ran mwy na dau etholwr nad ydynt yn perthyn yn agos.2   

Gall unigolyn hefyd weithredu fel dirprwy ar gyfer unrhyw nifer o'r perthnasau agos canlynol: priod, partner sifil, rhiant, tad-cu neu fam-gu, brawd, chwaer, plentyn neu ŵyr neu wyres.

Byddai dirprwy yn cyflawni trosedd pe bai'n pleidleisio ar ran mwy na dau etholwr nad ydynt yn perthyn yn agos yn yr etholiad.3  

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Chwefror 2024