Mae ein swyddfa wedi'i dylunio i greu gwagle deniadol, cydweithredol a phroffesiynol. Mae wedi'i addasu i gefnogi'r ffyrdd o weithio sy'n gweddu ein pobl orau.
Mae yna ardaloedd ymneilltuo sydd wedi'u sefydlu ar gyfer gweithio fel grŵp, a mannau tawel sy'n caniatáu i'n pobl ganolbwyntio. Mae ein hystafelloedd cyfarfod wedi’u haddasu ar gyfer gweithio hyblyg. Gall pawb ymuno â chyfarfodydd yn rhwydd, naill ai o gartref neu o'n swyddfeydd eraill.
Ein timau
Mae tîm yr Alban yn gyfrifol am:
etholiadau Senedd yr Alban, etholiadau lleol ac etholiadau Senedd y DU
gweithio gydag aelodau etholedig a swyddogion Senedd yr Alban, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU
gweithio gyda chynghorau lleol a sefydliadau sector cyhoeddus a chymdeithas sifil perthnasol yn yr Alban
delio gydag ymholiadau a cheisiadau am gyngor gan y cyhoedd a sefydliadau perthnasol ar faterion etholiadol
darparu gwybodaeth ymwybyddiaeth y cyhoedd ac yn gweithio gyda sefydliadau partner yn yr Alban i hyrwyddo cofrestru pleidleiswyr
darparu cyngor a chanllawiau i swyddogion cofrestru etholiadol, swyddogion canlyniadau ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau i sicrhau bod etholiadau’n cael eu cynnal yn dda
cyfrannu arbenigedd datganoledig i brosiectau ledled y DU
Sut i ddod o hyd i ni
Rydym wedi ein lleoli yn City Chambers, High Street, Edinburgh, EH1 1YJ
Mae gweithio mewn swyddfa ddatganoledig yn y Comisiwn wedi fy ngalluogi i gael golwg gyflawn ar bob rhan o’n prosesau democrataidd a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu cymryd rhan yn ein democratiaeth. Fel rhiant sy'n gweithio, mae'r trefniadau gweithio hyblyg y mae'r Comisiwn yn eu darparu wedi fy ngalluogi i fanteisio ar gyfleoedd i ddatblygu fy ngyrfa tra'n dal i allu bod yn hyblyg o amgylch anghenion newidiol fy nheulu.