Mae ein swyddfa wedi'i dylunio i greu gwagle deniadol, cydweithredol a phroffesiynol. Mae wedi'i addasu i gefnogi'r ffyrdd o weithio sy'n gweddu ein pobl orau.
Mae yna ardaloedd ymneilltuo sydd wedi'u sefydlu ar gyfer gweithio fel grŵp, a mannau tawel sy'n caniatáu i'n pobl ganolbwyntio. Mae ein hystafelloedd cyfarfod wedi’u haddasu ar gyfer gweithio hyblyg. Gall pawb ymuno â chyfarfodydd yn rhwydd, naill ai o gartref neu o'n swyddfeydd eraill.
Ein timau
Mae tîm Gogledd Iwerddon yn gyfrifol am:
goruchwylio’r broses etholiadol ar gyfer etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon, etholiadau Senedd y DU ac etholiadau cynghorau lleol
gweithio gydag aelodau etholedig a swyddogion Cynulliad Gogledd Iwerddon
gweithio gyda Swyddfa Gogledd Iwerddon, Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon, awdurdodau lleol, a chyrff perthnasol y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol yng Ngogledd Iwerddon
delio gydag ymholiadau a cheisiadau am gyngor gan y cyhoedd a sefydliadau perthnasol ar faterion etholiadol
rheoli’r Cynllun Arsyllwyr Etholiadol Achrededig ledled y DU
darparu gwybodaeth ymwybyddiaeth y cyhoedd ac yn gweithio gyda sefydliadau partner yng Ngogledd Iwerddon i hyrwyddo cofrestru pleidleiswyr
darparu cyngor a chanllawiau i weinyddwyr etholiadol, ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau i sicrhau bod etholiadau’n cael eu cynnal yn dda
cynghori cydweithwyr y Comisiwn ar faterion etholiadol sy’n benodol i Ogledd Iwerddon
Sut i ddod o hyd i ni
Rydym wedi ein lleoli yng nghanol dinas Belfast: The Boat, 49 Queen's Square, Belfast, BT1 3FG.