Mae angen gwelliannau brys i sicrhau tryloywder i bleidleiswyr yn yr oes ddigidol, meddai'r Comisiwn Etholiadol
Dyfarniadau allweddol ar gyfer mwy o dryloywder i bleidleiswyr
Mae angen gwneud gwelliannau ar fyrder er mwyn sicrhau tryloywder i bleidleiswyr yn yr oes ddigidol, yn ôl y Comisiwn Etholiadol
Mae'n rhaid i lywodraethau a seneddau'r DU a chwmnïau cyfryngau cymdeithasol weithredu ar fyrder i wella tryloywder o ran targedu pleidleiswyr ar-lein, yn ôl adroddiad newydd gan y Comisiwn Etholiadol.
Mae'r argymhellion allweddol a wneir yn "Ymgyrchu digidol: cynyddu tryloywder i bleidleiswyr" yn cynnwys y canlynol:
- Dylai llywodraethau'r DU fynd ati ar fyrder i newid y gyfraith er mwyn ei gwneud yn ofynnol i ddeunydd ar-lein a gyhoeddir gan bleidiau, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr gynnwys argraffnod sy'n nodi pwy grëodd y deunydd hwnnw.
- Dylai llywodraethau'r DU ddiwygio'r categorïau a nodir ar y ffurflen gwariant er mwyn ei gwneud yn ofynnol i ymgyrchwyr ddarparu gwybodaeth fanwl am y ffordd y mae arian wedi'i wario ar ymgyrchoedd digidol.
- Dylai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol sicrhau bod pob hysbyseb ar gyfer etholiad neu refferendwm yn y DU sy'n ymddangos ar eu llwyfannau yn nodi enw'r ffynhonnell yn glir, a chyflawni eu cynigion i greu cronfeydd data ar-lein o hysbysebion gwleidyddol.
- Dylid rhoi mwy o bwerau ymchwiliol i'r Comisiwn Etholiadol gael gafael ar wybodaeth a gosod cosbau llymach.
Mae'r adroddiad yn deillio o'r defnydd cynyddol o ddulliau cyfathrebu ar-lein a digidol sy'n targedu pleidleiswyr, yn ogystal â phryderon ynghylch honiadau diweddar o wybodaeth anghywir, camddefnyddio data personol ac ymyrraeth o dramor. Mae cyfrifoldebau'r Comisiwn yn cynnwys gwneud argymhellion ynghylch sut y gellid moderneiddio cyfraith etholiadol er mwyn adlewyrchu newidiadau mewn technegau ymgyrchu. Mae'r pecyn o argymhellion a gyhoeddwyd heddiw yn ganlyniad ystod o ymchwiliadau a gynhaliwyd gan y Comisiwn.
Dywedodd Syr John Holmes, Cadeirydd y Comisiwn Etholiadol:
Mae'n rhaid i lywodraethau'r DU weithredu ar fyrder er mwyn sicrhau bod yr adnoddau a ddefnyddir i reoleiddio gweithgarwch ymgyrchu gwleidyddol ar-lein yn parhau i fod yn addas at y diben mewn oes ddigidol. Bydd gweithredu ein pecyn o argymhellion clir ac ystyrlon yn cynyddu tryloywder ynghylch pwy sy'n ceisio dylanwadu ar bleidleiswyr ar-lein, a'r arian a gaiff ei wario ar y gweithgarwch hwn mewn etholiadau a refferenda yn y DU.
Cwmnïau cyfryngau cymdeithasol
Mae'r Comisiwn wedi croesawu ymrwymiad cwmnïau cyfryngau cymdeithasol i sicrhau bod gweithgarwch ymgyrchu gwleidyddol yn dryloyw ac wedi galw arnynt i gyflawni eu cynigion i greu cronfeydd data ar-lein o hysbysebion gwleidyddol mewn pryd ar gyfer etholiadau'r DU yn 2019 a 2020.
Mewn ymgais pellach i atal ymgyrchoedd rhag cael eu hariannu o'r tu allan i'r DU, mae'r Comisiwn hefyd wedi galw ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol i roi rheolaethau newydd ar waith i gadarnhau bod gan bobl neu sefydliadau sydd am dalu i ddangos hysbysebion gwleidyddol am etholiadau a refferenda yn y DU hawl gyfreithiol i wneud hynny.
Ychwanegodd Syr John Holmes:
Rydym yn cydnabod na all yr un corff unigol fynd i'r afael â'r holl faterion a godir ym maes ymgyrchu digidol. Mae'n rhaid i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol chwarae eu rhan yn y gwaith o drawsnewid tryloywder hysbysebion gwleidyddol digidol, gan gynnwys sicrhau bod gan y rheini sy'n ceisio targedu pleidleiswyr ar-lein hawl gyfreithiol i wneud hynny. Os nad yw'r camau gwirfoddol a gymerir gan gwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn ddigonol, dylai llywodraethau'r DU ystyried eu rheoleiddio'n uniongyrchol.
Mwy o dryloywder a phwerau
Mae'r Comisiwn Etholiadol yn galw am bwerau pellach a fydd yn ei alluogi i orfodi cyfraith etholiadol yn yr oes ddigidol. Mae'n gofyn am gynnydd sylweddol i'r ddirwy uchaf y gall ei rhoi i'r rheini sy'n torri'r rheolau (£20,000 ar hyn o bryd), ac am bwerau cryfach i gael gafael ar wybodaeth mewn amser real, gan gynnwys y tu allan i ymchwiliad penodol.
Mae'r adroddiad yn nodi meysydd y dylai'r Comisiwn ac eraill eu hystyried ymhellach. Mae'n galw am ailystyried sut y gellir rhoi gwybodaeth am wariant ymgyrchu i bleidleiswyr yn gyflymach ar ôl ymgyrch, neu yn ystod ymgyrch. Ar hyn o bryd, mae gan ymgyrchwyr rhwng tri a chwe mis i gyflwyno eu ffurflenni gwariant, yn dibynnu ar faint maent yn ei wario.
Mae'r Comisiwn Etholiadol hefyd yn argymell y dylid cynnal gwiriadau newydd er mwyn sicrhau nad yw arian o dramor yn cael ei ddefnyddio i ddylanwadu ar etholiadau a refferenda yn y DU, er enghraifft ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau ddangos eu bod wedi gwneud digon o arian yn y DU i ariannu'r rhoddion a wneir ganddynt.
Yn ogystal â'r adroddiad, mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi gwaith ymchwil newydd heddiw sy'n ystyried agweddau pleidleiswyr tuag at ymgyrchu digidol. Mae'r ymchwil hon yn tynnu sylw at y pryder a'r dryswch ymhlith pleidleiswyr a'r awydd i fynd i'r afael â'r mater.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa wasg y Comisiwn Etholiadol:
- 020 7271 0704 (tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414)
- press@electoralcommission.org.uk
Lawrlwythwch adroddiad "Ymgyrchu digidol: cynyddu tryloywder i bleidleiswyr"
Lawrlwythwch adroddiad "Political Regulation and Digital Campaigning: A Public Perspective".
Nodiadau ychwanegol
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Mae'n gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau uniondeb drwy wneud y canlynol:
- galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth a dadlau o'u plaid, gyda'r nod o wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n atebol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
- Mae "Political Regulation and Digital Campaigning: A Public Perspective" yn adroddiad ar ganfyddiadau ymchwil ansoddol gan GfK UK ar ran y Comisiwn Etholiadol.