72% o bobl ifanc yng Nghymru eisiau addysg fwy democrataidd yn yr ysgol 

Heddiw, mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi ymchwil ar agweddau pobl ifanc at bleidleisio ledled Cymru a'r DU. Canfu adroddiad Lleisiau Ifanc ar Ddemocratiaeth mai dim ond 14% o bobl ifanc yng Nghymru rhwng 11 a 25 oed oedd yn ymwybodol o etholiad y Senedd sydd ar ddod ar 7 Mai. Er gwaethaf y ffaith eu bod yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad hwn, mae’r sgôr isaf o ran parodrwydd i bleidleisio ar draws pedair gwlad y DU ymhlith pobl 16-17 oed yng Nghymru. 

Nododd ychydig dros hanner y bobl ifanc yng Nghymru ddiffyg hyder wrth bleidleisio, a dywedodd traean fod hyn oherwydd diffyg gwybodaeth am sut i bleidleisio. Mae canfyddiadau'n dangos diddordeb cryf gan bobl ifanc mewn dysgu mwy am ddemocratiaeth a chymryd rhan pan fyddant yn teimlo'n wybodus, gyda 72% yn dweud eu bod eisiau mwy o addysg ddemocrataidd yn yr ysgol. Fodd bynnag, dim ond 21% sydd wedi dysgu am wleidyddiaeth yn yr ysgol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sy'n sylweddol is na chyfartaledd y DU. Mae diddordeb rhieni a chefndir economaidd-gymdeithasol hefyd yn dylanwadu ar lefelau gwybodaeth a diddordeb ymhlith pobl ifanc. 

Mae'r ymchwil hefyd yn dangos pryder ymhlith pobl ifanc ynghylch y wybodaeth sydd ar gael iddynt ar hyn o bryd. Dywed 41% eu bod yn gweld gwybodaeth wleidyddol ffug o leiaf unwaith yr wythnos, ac mae 64% yn pryderu am ei heffaith. Canfu'r ymchwil fod pobl ifanc yn fwy tebygol o glywed am wleidyddiaeth o gyfryngau cymdeithasol nag yn yr ysgol neu'r coleg. 

Nod ‘Wythnos Croeso i Dy Bleidlais’ flynyddol y Comisiwn Etholiadol yw mynd i’r afael â’r heriau hyn. Rhwng 9 a 16 Mawrth, bydd ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid ledled Cymru yn cynnal gwersi, gweithgareddau a digwyddiadau i helpu pobl ifanc i ddeall sut y gallant gymryd rhan yn etholiad y Senedd ar 7 Mai.  

Thema ‘Wythnos Croeso i Dy Bleidlais’ 2026 yw Pam mae pleidleisio’n bwysig. I gefnogi’r fenter, mae’r Comisiwn Etholiadol wedi cynhyrchu adnoddau addysgol newydd mewn partneriaeth â’r Senedd, The Politics Project a Chomisiynydd Plant Cymru i helpu i wella dealltwriaeth pobl ifanc o bwysigrwydd pleidleisio a’r Senedd.  

Dywedodd Fatima Sheikh, 16 oed, aelod o Rwydwaith Llais Ieuenctid Cymru y Comisiwn Etholiadol: 

"Mae Wythnos Croeso i Dy Bleidlais yn gyfle anhygoel i leisiau pobl ifanc gael eu clywed ac i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Mae'n ein galluogi i ddysgu pethau newydd a chwrdd â chymysgedd o bobl â barn debyg a gwahanol, a all greu man croesawgar i gynnal trafodaeth.  

“Mae’r oedolion sy’n gwneud penderfyniadau ar ran pob un ohonom yn cael effaith enfawr ar ein bywydau bob dydd, felly mae’n bwysig iawn bod pobl ifanc yn deall sut mae democratiaeth yn gweithio a sut i gymryd rhan. Mae'n helpu i bontio'r bwlch rhwng dod yn gymwys i bleidleisio a theimlo'n barod i gymryd rhan mewn etholiadau mewn gwirionedd."  

Gall addysgwyr a phobl ifanc sydd am gymryd rhan yn ‘Wythnos Croeso i Dy Bleidlais’ gael mynediad at yr adnoddau am ddim o wefan y Comisiwn Etholiadol.  

Diwedd 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Ella Griffiths-Downing, Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu, ar 029 2034 6824 neu e-bostiwch [email protected].                  

Nodiadau i olygyddion 

  • Cafodd yr ymchwil ei chynnal gan BMG Research ar ran y Comisiwn Etholiadol gyda 2,501 o unigolion rhwng 11 a 25 oed yn y DU, gan gynnwys 417 o Gymru.
  • Gall pobl 14 a 15 oed yng Nghymru gofrestru i bleidleisio fel cyrhaeddwyr, sy'n golygu os ydynt yn troi'n 16 oed cyn neu ar ddiwrnod yr etholiad nesaf, byddant yn gallu pleidleisio.
  • Cofrestrwch i bleidleisio drwy ymweld â www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn etholiad y Senedd yw 11:59pm ddydd Llun 20 Ebrill. Bydd adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd yn cael ei oleu gyda'r dyddiad cau ar gyfer cofrestru nos Fercher 11 Mawrth a bydd gennym lefarwyr ar gael i'w cyfweld.
  • Mae Rhwydwaith Llais Ieuenctid Cymru yn cael ei hwyluso gan Plant yng Nghymru. Mae Plant yng Nghymru yn sefydliad di-bleidiol sy'n ymgyrchu dros Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yng Nghymru ac yn hwyluso’r gwaith o’i weithredu’n llawn.   
  • Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:
  • alluogi cynnal etholiadau a refferendwm teg, gan ganolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i’r afael â’r amgylchedd sy’n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
  • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
  • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i’n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
  • Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.