Annog pleidleiswyr ifanc Cymru i gofrestru cyn ei bod hi’n rhy hwyr

Dim ond pum diwrnod sydd ar ôl i bleidleiswyr sydd am gymryd rhan yn yr etholiad cyffredinol gofrestru i bleidleisio cyn y dyddiad cau, sef 23:59, ddydd Mawrth 18 Mehefin.

Ochr yn ochr â rhentwyr preifat a phobl sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar, pobl ifanc sydd leiaf tebygol o fod wedi’u cofrestru’n gywir i bleidleisio. Yn ôl ymchwil a gynhaliwyd gan y Comisiwn Etholiadol yn 2022, nid yw 1 o bob 5 person rhwng 18 a 34 oed yng Nghymru ar y gofrestr, o gymharu â dim ond 3% o’r rhai dros 65 oed.

Mae’r Comisiwn yn gweithio mewn partneriaeth ag elusen Plant yng Nghymru i gefnogi pobl ifanc ledled Cymru i ddeall y broses ddemocrataidd a theimlo’n fwy hyderus i gymryd rhan yn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau 4 Gorffennaf.

Mae gwirfoddolwyr o raglen Cymru Ifanc wedi creu cynnwys cyfryngau cymdeithasol ar yr hyn sy’n digwydd yn yr orsaf bleidleisio a sut i gofrestru a bwrw eich pleidlais, gyda’r nod o wneud y broses yn llai brawychus ar gyfer eu cyfoedion.

Ffilmiodd Kai Collins, 18 oed, fideo byr ar ei brofiad o bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau mis Mai eleni. 

Meddai Kai:
“Mae hi mor bwysig pleidleisio oherwydd mae gwleidyddiaeth nid yn unig yn effeithio ar fy mywyd i, o gludiant ysgol i’r polisi amddiffyn, ond ar bawb arall hefyd.”

Ar ôl clywed am brofiad Kai, ychwanegodd Emily Ruck, 23 oed:
“Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n lleisio’ch barn ac mae pleidleisio yn rhan hanfodol o hynny, felly cofrestrwch i bleidleisio, gwiriwch eich ID, ac ewch i bleidleisio ar 4 Gorffennaf.”

Meddai Rhydian Thomas, Pennaeth Comisiwn Etholiadol Cymru:
“Rydyn ni’n gwybod bod pobl ifanc yn llai tebygol o fod wedi cofrestru i bleidleisio, a bod llawer yn teimlo wedi ymddieithrio o wleidyddiaeth a’r system ddemocrataidd. Os gallwn ni gipio diddordeb a dychymyg pleidleiswyr ifanc yn gynnar, mae siawns uwch y byddan nhw’n dod yn bleidleiswyr brwd a gweithgar gydol eu hoes.

"Mae etholiad cyffredinol yn gyfle pwysig i bobl ifanc fynegi eu barn, a chofrestru yw’r cam cyntaf i’r blwch pleidleisio. Mae’n gyflym ac yn syml gwneud cais ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio, a gyda dyddiau’n unig tan y dyddiad cau, mae amser yn brin.”

Bydd angen i’r rhai sy’n pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ddangos ID ffotograffig hefyd. Mae’r Comisiwn yn galw ar bleidleiswyr i wirio nawr bod ganddyn nhw ID derbyniol cyn yr etholiadau. Gall y rhai sydd heb ID cymwys wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr am ddim ar-lein yn www.gov.uk/ceisio-am-lun-id-tystysgrif-awdurdod-pleidleiswyr

Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Ella Downing, Uwch Ymgynghorydd Cyfathrebu, ar 029 2034 6824, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu [email protected].
 

Nodiadau i olygyddion

  • Y dyddiad cau yng ngwledydd Prydain ar gyfer:
    o    Cofrestru i bleidleisio yw hanner nos, nos Fawrth 18 Mehefin
    o    Gwneud cais am bleidlais bost yw 5pm ddydd Mercher, 19 Mehefin
    o    Gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm ddydd Mercher, 26 Mehefin
    o    Gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yw 5pm ddydd Mercher, 26 Mehefin 
  • Gall pleidleiswyr wneud cais i gofrestru i bleidleisio, am bleidlais absennol, neu Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr ar wefan gov.uk 
  • Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn ar y diwrnod pleidleisio, ac yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig neu’n ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad i gofrestru.
  • Mae rhestr o’r mathau o ID ffotograffig derbyniol ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Gall y rhai sydd heb ID cymwys wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr, gan ddefnyddio’r un wybodaeth sydd ei hangen i gofrestru i bleidleisio, ynghyd â ffotograff. 
  • Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig. Rydyn ni’n gweithio er mwyn hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb drwy’r canlynol:
  • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i’r afael â’r newidiadau yn yr amgylchedd i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
  • rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a delio ag achosion o dorri rheolau
  • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i’n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
  • Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae’n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y Deyrnas Unedig a Senedd yr Alban.
  • Plant yng Nghymru yw’r corff ymbarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru. Plant yng Nghymru yw Partner Llais Ieuenctid presennol y Comisiwn yng Nghymru.